Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Rhuddlan.

News
Cite
Share

Rhuddlan. HANES YR HEN BOBL A'R HEN BETHAU YN RHYL. Y LYIII. BENOD.-J ohn Williams, y crydd Un o'r dynion mwyaf diddan o'r doBbarth cryddawl a ad waeuais vn ystod fy oes ydoedd ef. Dosbarth cocrus y byddid yn arfer cyfrif y cryddioD yr oes aetb heibio, yn enwedig felly Dnewn matterion eglwysig; yr oeddynt yn cael en cyfrif yn fwy darllensjar braidd nag unrbyw ddosbarth o grefft- wyr oddieifchr y teilwriaid, a tbrwy hyny 3-11 cael y blaen ac yn cael eu codi i lywodraeth ac i'r set tawr, ac i xarohogaoth yr eglwyei, Ond nid un felly oedd John Williams dyn gostyngedig, hawdd i'w drin, beth bynag ddipgynai i'w ran- un felly ydoedd ef bob amser, yn addfwyn a gostyngedig, yn cyflawni pob peth a ofynid iddo. Annibynwr selog oedd John Williams hefyd cof genyf i mi ofyn iddo ryw dro pwy oedd yn dyfod i bregethu yna yn nghyfarfodydd y Nadolig, a dyna fo yn ateb, yn ei ddull diniwed, Wir, welwcb cbwi, rhyw third class' sydd i fod yma eleni;" a braidd ar yr un gwynt yn dweyd, efallai y g-allwn gyfrif un 0 honyntya second class' hefyd." Un o'r dyfodiaid i'r Rlyl oedd John Williams, fel llawer eraill oedd yno. Dyn lied fychan, a thipyn 0 gloffni ynddo, oedd John Wlilia mq, os wyf yn cofio yn iawn. Yr oedd ef yn grydd da a tbaclns, ond er hyny ni chododd fawr uwch yn ei sefyllfa ar hyd ei oes na'r stol, fel llawer eraill a adwaenwn ond heb fod cystal crcfftwr ag ef. Yn mhlith llawer sydd yn fy nghof, mi nodaf un, a bwnw wedi dechre ei oes btfo ifarmwyr ond ryw sut mi dorodd ei goes, ac wedi byny 'doedd ef fawr 0 wasanaeth, druan, ar y ffaroi wed'yn, acbos mae yn gofyn dwy ooes go dda at wait'u ffarm. Mi feddyliodd y pi wyf- olion ei roi yn brentis 0 grydd, gan fod y grefft bono yn bawdd ei dysgu i un oedd wedi myned i oed. Fe ddywedodd rhywun nid oedd eisiau fawr 0 fenydd i ddysgu y gwaith, ac wedi ei dysgu unwaith mai yr un peth oedd ganddynt ar hyd eu hoes, sef gwneud bootchers (Wellington boots), bluchers, a watertights. Mi fydde yn arferiad gan lawer gael pydole yn troi am y blaen i'r watertights, a hyny er mwyn iddynt, pan aent i ymladd, i anafu eu gwerthwynebwyr. Fel y mae'r gore, mae yr hen aiferiad farbaraidd hono yn mhlith y pethau a fa erbyn byn. Wei, son yr oeddwn am y Hangc wedi cael crefft, ac wedi byny mi feddyliodd am gael gwraig a phe dase fo heb yr un goes mi fase yn cael gwraig, achos y mae bono yn hawdd i'w chael. Ond er fod y grefft 0 grydd yn hawdd i'w dysgu, i raddau, methiant fu hi hefo fo, er hyny. Ond ar ol iddo gael gwraig fe aeth i gadw cryddion a shop, a theDdio y marchnadoedd a'r ffeiriau ar hyd y wlad, fel y byddid yn arfer yn yr oes aeth heibio. Ond methiant a fu yn byoy eto, a gorfu iddynt droi at rhywbeth arall wed'yn. Er mor hawdd ydoedd y grefft i'w dysgu, nid pawb oedd yn medru gwneud hyny, mae'n amlwg; os oedd y syniad hwnw yn wir mai hawdd oedd gwneud yr un gwaith drosodd a throsodd, 'doedd dim rhyfedd fod y cryddion ag amser i feddwl am wahanol bethau pan wrth eu gwaith arferol, ac i fedru siarad a dadleu a pbawb am bobpeth- crefyddol a gwladol. Yr oeddwn yn adnabod dau bereon yn dda, ac i un 0 honynt diweyd ei fod wedi cael gwahoddiad i roi pregeth mewn lie yr oedd yno grydd a'i deulu yn arfer gwrando, ac yn mesur a phwyso pawb. Meddai, 'Wn i yn y byd beth gaf i yn destun.' Mae adnod neu ddwy yn Jlyfr Job,' meddai cyfaill wrtbo, 'a dyma fel y maent yn darllen, A dynDi di y Lefiathan allan a b;i»h V neu a rwymi di ei dafod ef a rhaff A osodi di fach yn ei drwyn ef ? neu a dylli di asgwrn ei en ef a mynawyd, ac yr wyf yn sicr y gallwcb chwi wneud defnydd o'r geiriau hyny i roi bach yn ffroen y crydd.' Nid wyf yn gwybod pa effaith a gafodd y weinidogaeth ar y gwr a'i dylwyth, ond byn a glywais, sef na cbafodd y pregethwr byth fynediad yno ond hyny. Mi adwaenwn i hen gymeriad 0 hen berson arall, yr hwn a wnaeth fyr waith ar grydd mewn man arall. Mae'r hanes fel hyn yr oedd person wedi cael ei wahodd i giniaw clwb, a chafodd rywbeth i fwyta nad oedd yn dygymod a'i gylla, ac aeth y gair allan ei fod wedi yfed yn drwm. Ond mi wyddai pawb nad oedd Hawer 0 ddiod feddwol gael mewn ciniaw [clwb byd yn nod yn yr oei hono beth bynag, yr oedd y gair wedi myned allan yn dew ac yn dene, fel y mae hanea coll dyn da yn ami, onide ? Yr oedd yr hanes oedd am dano ar byd a lied y plwyf, ac beblaw hyny, yn peri poen mawr iddo, ac yntau ar y pryd yn ddipuog hollol, ond er hynny yn cael cam. Nid oedd dim i wnead ond cael Festri i drin ei achos, ac yr oedd yn digwydd fod yna grydd yn un o'r Guardians y flwyddyn hono; fe benodwydd y diwrnod a'r awr i dd'od a'r achos yn mlaen. Mi feddyliodd y gwr oedd yn y brofedigaeth am anron at Ddoctor, yr hwn oedd gyfaill iddo-nid ryw quac doctor, cofier-ond doctor mewn duwin- yddiaetb, yr hwn oedd yn ddiarebol yn y wlad am drin materion o'r fath. Yr oedd dymuniad iddo ddyfod i'r munud, ac felly y daeth. Yr oedd yno nifer liosog wedi ymgynull ynghyd, a dyna hwy yn dechre sisial a'u gilydd, a'r Doctor yn bresenol yn eu plith, ac yntau heb fod yn byw yn y plwyf. Ond ni chododd vr un 0 honynt i ddryd gair, a dyna'r crydd ar ei draed o'r diwedd, ac yn ddefosiynol a chyda golwg duwiol iawn arDO. Dywedai fod achos pwysig wedi eu galw ynghyd, ac fod yn dda ganddo weled y Dr. A. J. yn eu plith, ac efallai y gallai ef roi cyngor iddynt. Ar hyn dyma'r Doctor ar ei draed, ac meddai, '0, ai eisiau cyngor sydd arnat?' Os gwelweh yn dda,' nceddai'r crydd, yn ostyngedig iawn. Wei,' meddai'r Doctor, pe ceid ti gyngor a wnai di y cyngor os roddaf un i ti ?' Dyna'r crydd yn ateb, Gwnaf, f-yr: Wei, do i olchi dy ddwylaw a ch wyueb rhag cywilydd i ti yn d'od i le fel hyn a'r diwyg ene sydd arnat,' achos yr oedd wedi dyfod oddiar ei 'stol, fel yr oedd yn gweithio. Ymaith ag ef yn y fan, fel ei wedi lladd defaid, ac fel un wedi ei daro a. rnndandod. ac wedi i'r gwr fYfled i'w le ei bun dyma'r Doctor yn gofyn beth oedd yr achos y daethant ynghyd, er eu bod yn gwybod yn dda. Wed'yu, dyna nn mewn gwell diwyg na'r crydd ar ei draed, ac yn dweyd yr banes oedd wedi bod ar led yn y plwyf ond wedi manylu a tbroi a tbrosi yr hanes, dyna fo yn dweyd yn awdurdodol, tra yn taro y bwrdd, nad oedd dim sail i'r chwedl, ac nad oedd yn credo yr un gair 0 honi. Ar ol i amryw 0 bonynt ddy- weyd gair i'r un cyfeiriad, dyna un yn awgrymu y buasai yn dda iddynt gael barn y Doctor ar yr achos. gan ei fod ef yn bresenol, a phawb yn cydweled. Dyna'r Doctor ar ei draed, a golwg dipyn yn ddireidus arno, gan ddeyd mai ar ddam- wain yr oedd ef yno, gan fod Mr James ac yntau yn gyfeillion, a'i fod wedi dyfo-i gydag ef i'r Festri. Dywedai wrthynt nad o. dd ganddo hawl yfreithlawn i fod yno, 0 ran hyny; ond gan eu bod am iddo ddeyd gair ar yr achlysur, ac os ydi Mr James yn cydweled a chwi, pob peth yn dda. Yr oedd pawb yn unllais am air gan y Doctor a dyna'r gair cyntaf a ddywedodd oedd ei fod wedi Twrando yn astud ar bob L-air a fu tan sylw, a'i fod o'r un farn a'r boneddwr a ddywedodd nad oedd yn credu gair o'r hanps, a dyma y gair a'r cyngor sydd genyf i roi i chwi ydi hyn, Fef claddu pobpeth; ond cofiwch, Did fel y byddwn ni yn claddu ein meirw—mewn diogel obaith am adgyf- odiad gwell; na, thai hi ddim felly. Claddwch bobpeth o'r natnr yma a'i wyneb i lawr, ac os aiff i grafu, yn ddyfnach, ddyfnach i lawr yr aiff ac os daw allan yn Awstralia ni wnaifI fawr 0 niwed I chwi yma. Dyma beth arall ddymunwn i chwi •goiio, sef fod cyfrifoldeb dirfawr ar bwy bynag a daeno'!d y fath chwedlau mae'r cyfryw yn ngored !i'r gyfraitb. Ond gan ein bod yn bobl refyddol, gadewch i ni ddangos byny trwy fadden i'n gilydd, ac felly yr wyf yn dymuno dweyd, yn ol pob peth a ddywedwyd yma fod Mr James yn ddieuog. Gair bach am y Doctor mewn cyfeiriad arall. Mi fydde ganddo yn ei dy ar dLrethol ddosbarth o ddynion ieuaingc yn cyfarfod at nosweithiau o'r wythnos i ddarllen y Beibl, ac i,IIw besbonio iddynt. Yr oedd gwabanol grefft- wyr yn y dosbaitli, a rhai heb grefft ond y gretIt fawr; yn eu plith yr oedd crydd a joiner. Un noson, dyma, y Dr. yn galw sylw y joiner at ryw fwrdd oedd ganddo, ac yn gofyn beth fyddai oreu i wneud iddo, a'r joiner yn 0 annibeii yn dweyd didIO. Dyma'r crydd yn ateb, '0. fel hyn y feaswo i yn gwneud.' Dyma ti,' meddai'r Dr., -I-ddyifil crydd ddim edrych ddim llwcb na'r esgid, wel di.' Yr ocdd yn Kbyl amryw 0 gryddion- yr oedd un 0 honynt yn bregethwr cynorthwyol beto'r Wesleyaid, un genedigol o Gronant, os da wyf yn cofio. Cof genyf am nn arall, a hwnw yn un meddw-fel y dywed rhywun, yn sobor 0 feddw.' Dyna ddigon am y crydd, os nad gormod, Gair am y teiliwr y tio nesaf.

RHYL GOLF CLUB. ---

Rhuddlan.

Flintshire Police Committee.

LATE NEWS.---

English Presbyterian Social.

Bethel C M. Chapel Concert.…

Advertising

Gwladfa Gymraeg yn Affrica.

..._----------- ---The New…

Advertising

Family Notices

Advertising