Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

GWYDDAI O'R GOREU

3 CYFRWYSDRA YR ARAB

" MEWN UNDEB Y MAE NERTH"

[No title]

Y CARWR GWRTHODEDIG

, PERYGLON DISYMWTH

YMROAD A DYFALBARHAD

PA LE YR OEDD Y DOCTORIAID?

GLYNU WRTH YR ADFEILlON

News
Cite
Share

GLYNU WRTH YR ADFEILlON MEWN pentref bychan yn sir Fynwy, y mae hen balasdy yn y fath gyflwr o adfeiliad nes yr ymddengys fel pe ar ymollwng yn chwil- friw. Y mae y preswylydd presennol yn hanner addoli meini yr hen adeilad. Un diwrnod, cwrddodd ag estron, yr hwn a wnaeth amryw ymholiadau yn nghylch y gymydogaeth, ac yn mhlith pethau ereill cyfeiriodd at yr hen balasdy :— Eiddo pwy yw y palasdy henafol yna?" Yr hen balasdy henafol yna, syr, ydyw y Wernddu. Oherwydd allan ohono ef y daeth Iarllod Penfro o'r llinach gyntefig, Arglwyddi Herbert Cherbury, Herbcrtiaid Coldbrook, Ramsey, a Cardiff, y Morganiaid a'r holl Boweliaid. Ac atolwg, pwy sydd yn byw ynddo yn awr?" myfi, syr." Yna, maddeuweh i mi, os nad oes arnocli eisieu cael eich claddu yn ei adfeilion, byddai yn well i chwithau hefyd ddyfod allan ohono."

YR HEN GYFRIF

RHEDEG I FFWRP^GYPAG ETIFEDDES