Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

[No title]

News
Cite
Share

DYN CLAF A ydyw y dref hon yn lie da i bobl gleifton ddyfod i fyw ynddi ? Y TREFWR 0, ydyw, syr y mae yma y fynwent-oreu yn y wlacl, MRS NAGGER Mi fuaswn i yn leicio gweled rhywun faasai yn meddwl rhedeg i ffwrdd hefo ni. MR NAGGER Hyiiirli Mi f innau hcfyd ri £ rigfrJSk Boneddwr, wedi rhoddi dimai i gardotyn, a ofynodd iddo beth oedd am wneyd a hi. I- Wel, mae'n annodd iawn gwbod, syr," meddai ycardotyn, paunai prynubhvydd- dal ynto ei sincio hi yn y North-Western Railway Company." Y BARNWR Faint oedd gworth yr csgidiau a ladratawyd ? Y TYST Pan gefais i hwynt yn newydd yr oeddynt yn werth 5s. Trwsiwyd hwynt nam gwaith yn ol 2s y tro-dyna 10s. Ychwanegwch eu gwerth y tro cyntaf (5s), a chewch eu bod yn werth 15s. Pum swllt o bau oedd gan Wil Jones, Dowlais. yn herwydd ei oferedd, i'w gyfiwyno i'r wraig nos Sadwm. Bill bach," ebe hifchau, wrth feddwl am wynebu'i: siop, "beth yw hyn; NYL, i yn y byd ffor' mae rhanu nhw Perch w," ebe Bili, beth sa ti fel Mari drws nesa; mae geni hi bum punt o I b,-tii, a ffor' wyt ti'n meddwl mae hi'n myn'd i'w rhanu nhw ?" MRS GOLDBAG Boreu da. MRS STADINS Boreu da. lVIRs G.: Mae'n dda genyf eich gweled. MRS S.: Mae'n dda genyf eich gweled. MRS G. Diolch. Mae'n dda genyf fod yn dda genyeh. MRS S. Diolch. Mae'n dda genyf fod yn dda genyeh fy mod yn dda. IVhts G.: Mae'n dda genyf fod yn dda genych fy mod yn dda. MRS S.: Ta, ta. MRS G. Boreu da i chwi. Ta, ta. "0, Edwin, a fuost ti yn gweled fy nhad ?" Do; yr wyf newydd ddyfod o'r swyddfa y mynyd yma." Ydi o wedi rhoi ei gydsyniad ?" Wn i ddim yn iawn, y rnao mor anhawdd gwybod ei feddwl." Wel, be ddeudodd o ?" Ni ddywededd o 'run gair wrthyf fi. Mi ddeudais i wrtho fo, Syr, y mae arnaf eisieu priodi eich merch. A ydwyf i ddeall fy mod yn cael eich caniatad?' Yna fe drodd ataf, ac a edrychcdd arnaf am fynyd. Wedi hyny dechreuodd gochi yn ei wyneb, yna ymaflodd ynof, a iliaflocid fi dros gan- llaw'r grisiau i lawr bendramwnwgl, a chyn i mi gael amser i ofyn iddo drachefn, fe gauodd y drws yn glep, ac fe'i boltiodd o mor sydyn fel pe buasai rhyw oerfelgarwch wedi cymeryd meddiant olionol" GWELED. AROGLI. ARCHW AETHU. CLYWED. TFTMLO. Gwr yn araf wella (yn edrych dros bill y doctor) Y nefoedd drugarog, doctor, ydw i wedi bod mor sal a hyn ? Mae'n rhyfedd fy mod i 'n fyw." BANKS Yr wyf yn deall fod acw ferch. BINKS Oes, fachgen. Pryd y dowch chwi y ffordd acw i'w gwel'd hi ? BANKS: 0, yn mhen rhyw ddeunaw mlynedd EWYTHR A welwch chwi yr awyrgylcli acw ? NAI Gwelaf. EWYTHR: Buom i mor agos i'r fan acw fel nas gallwn roddi chwe cheiniog rhwng fy llaw a'r terfyn. NAI: 0, f'ewyrth, peidiwcli dweyd EWYTHR Digon gwir. Nid oedd genyf yr un i'w roddi. "Peidiwch ag aros yn y ffenestr yna, fy anwylyd," meddai ef. 'Does arnaf fi ddim ofn y mellt," meddai hi, 0, fy anwylyd I" meddai y gwr ieuanc, yn serchog, ychydig a wyddoch pa mor atdyniadol ydych." Ac wedi gwneyd yr apel olaf hwn, aeth y ddau ymaith gyda'u gilydd. mm Yr oedd Zabulon Dafydd wedi troi i mewn i weithdy'r crydd y dydd o'r blaen, tra yr oedd y gwlaw taranau yn ymdywallt, pan y sylwodd un o'r cwmni:— Dyma wlaw bendithfawr, onide ? daw hwn a phobpeth i fyny o'r ddaear." Na ddaw, gobeithio," meddai Zab yr ydw i wedi claddu tair o wragedd, a base yn ddrwg iawn gin i eu gwel'd nhw yn dwad i fyny." Yr oedd bachgen bychan eisieu myned i'r circus, ac yn plagio ei dad am docyn. "Llewelyn, byddai yn well genyf fi i ti fyned i'r ysgol, fy machgen i, a glynu wrth dy wers, a phwy a wyr na fyddi di yn aelod Seneddol ryw ddiwrnod," "Fy nhad," meddai Llewelyn, "y mae yma filoedd o fechgyn tebyg i mi yn myn'd i'r ysgol bob dydd, onid oes ?" Oes, fy machgen i." Wel, mi wertha i fy siawns o'r Senedd i unrhyw un ohonynt am dicet i fyn'd i'r circus Yr oedd Roli bach yn wael, a'i fodryb yn gofalu am ei addysg grefyddol, yr hon ni adawai i'r un cyfieusdra fyned heibio hob roddi iddo ryw gynghor da. Un diwrnod, torodd Roli allan yn sydyn, a dywedodd, 0, na bai genyf adenydd fel colomeii 1" Yr oedd y dywediad angylaidd hwn yn peri llawenydd mawr i'w ddwy chwaer, a( yn arwydd er gwell, a gofynasant iddo p beth a wnai a'r adenydd. "0," meddai Roli bach, "mi ehedwi fyny i'r awyr yn ddigon pell, ac mi g; fy modryb Lowri gyda mi, ac os wedi blino a methu myned yn 1 gollyngwn hi i lawr 1"