Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DIRGELWGH DOLGYNFI

News
Cite
Share

DIRGELWGH DOLGYNFI neu Pwy oedd yr Etifedd ? PENNOD XVI. HARRI MEWN PENBLETH. N fuan wedi i Mr Robertson Jones, y stiwart bach, gyr- haedd adref o'r chwarel ar y diwrnod hwnw, ac wedi iddo gael vmborth a newic1 ei ddillad, gwelid ef yn cymeryd ei ffon-yr ocdd y gwlaw wedi cilio erbyn Ilyn- ac yn cyfeirio ei gamrau tua Dolgynfi. Cyrhaeddodd yno yn brydlon a cliafodd dderbyn- iad gan Harri i'w ystafell neillduol ef ei liun. Ymddygai Harri tuagato rywbeth yn debyg i fel yr ymddygai yntau at y gweithwyr-o ran ei ddull a thon fawreddog ei lais, dangosai i Mr Jones mai ef oedd y meistr, y perchenog, y gwr bynheddig, a thra yn caniatau i Mr Jones ddweyd ei chwedlau wrtho gyda'r rhyddid mwyaf, nid oedd am ganiatau iddo fvned yn rhy bell gydag ef-yr oedd am ei gadw i lawr yn ei Ie priodol fel gwas cyflog. Wedi dwad yma rydw hi liono, yu benaf syr, i ofyn eich barn chi am Undeb y Chwarelwyr yma," ebai Mr Jones, mewn ffordd o ragymadrodd. Pa bawl sydd genych i ofyn fy marn i ?" gofynai Harri yn lied sarug. "Vel, syr, dim hawl o gwbl, begio'cli pardwn, syr. Ond llyn, syr, byddaf yn cfechra cymryd gofal chwarel Dolgynfi ddydd Mercher wythnos i'r nesa—troad y mis yn y chwarel acw. Ac rydw i, fel chwitlia, syr, wedi clywed am benderfyniadau perchenog- ion chwareli i roi yr Undeb i lawr efo 11aw gadarn drwy gynnyg i'r chw'relwrs un ai'r fargen nc'r Undeb, a mae'n debyg y bydd hyny yn cymryd lie acw y gosodiad nesa. Felly mi garwn wbod beth 'naf fi efo gosod yn chwarel Dolgynfi yr wsnos hono." 11 Gosod, wrth gwrs. Nid wyf fi ar hyn o bryd, beth bynag, am ymyryd dim yn yr helynt. Mae arnaf eisieu i'r chwarel gael ei hagor yn iawn, a hyny gan gynted ag sydd modd. Beth yda'cli clii'n feddwl wnailf y chwarelwyr acw?" Credu rydw i, syr, mac rhoi i fewn wnan nhw bob un. Maent yn siarad yn ddewr yrwan, ond pan ddaw boreu y gosod mi gawn ni gwel'd nhw yn tori c'lona ac yn dewis bara a chdws yn lie llwgu. Ond y mae'r cwbl yn dibynu ar beth wnaiff y rhei cynta. Os eiff y stori drw'r chwarel boreu y gosod fod y criwia cynta yn ail gymeryd, mi dyr y lleill eu c'lona mor sicred a dim." Hwyrach wir. Ond deallwch, Mr Jones, nid yw o ddim gwahaniaeth genyf fi ar hyn o bryd beth wnaiff y dynigu sydd genyf tit Os na fedrwcli chi gael ganddynt wrthod yr Undeb heb wrthod gwaith iddynt, wel, gadewch iddynt gael eu hundeb—am dymhor. Daw y chwarel i well trefn toe, wedy'n mi gawn ninnau wel'd beth i'w wneyd efo nhw yr adeg hono. Ond yrwan, does arnaf ddim eisieu trwbl gyda nhw. Bydd yn ddigon liawdd chwynu yr Undeb- wyr allan yn mhen tipyn eto, heb achosi helynt na thwrw—eu taflu allan o un i un, wyddoch, fel y byddan ni yn cael rhai yn eu lie. Ond yr ydych yn deall yn iawn, onid ydych ?" 0, ydw, syr; trystiwch chi yna i. M1 ddaw yr Undebwyr fydd yn chwarel Dol- gynfi i g'ledi toe, pan ff eiaian nllw'r bargein- ion gore yn myn'd i'r dynion fydd yn sefyll yn driw i'w meistr. G oil wch fentro deyd, syr, pwy gaiff y cyfloga gora yn chwarel z, cl Dolgynfi a dydi hyny'n ddim ond y peth sy'n iawn, hefyd, achos dydw i ddim yn cydfyn'd a, rhoi y llefydd gora i gynhyrfwrs a rhai sy'n ffond o neyd drwg rhwng meistr a gweithiwr. Chaiff dim llawer o'r cy- nhwrfwrs yma eu magu yn chwarel Dol- gynfi, syr." O'r gore; wel, dyna ni yn deall ein gilydd yrwan, ynte, Mr Jones ? Yr ydw i mewn tipyn o frys, eisieu myn'd allan Begio'ch pardwn, syr, gan y bydda i yn dechra cym'ryd gofal chwarel Dolgynfi ddydd Mercher, wythnos i'r nesa, mi faswn yn leicio cael gwbod a fydd acw sploit ar adeg y briodas ?" Pa briodas ?" gofynai Harri, mewn tipyn o syndod. Canfu Mr Jones nad oedd Harri yn gwybod fod dydd priodas Pyrs a Maggie mor agos, ac felly teimlai yn falch o gael bod o wasanaeth i'w feistr newydd drwy fod y cyntaf i gario'r hanes iddo, ac meddai, "Priodas Mr Pyrs, eich brawd, syr, efo Miss Maggie Harris." Beth yr wythnos nesaf ?" la, syr." Pwy ddywedodd wrthycli ?" Tomos Huws, yr hen lane, fel y bydd y dynion yn 'i alw fo mae o yn gweithio yn mhonc Annwn, yn y chwarel acw." Safodd Harri yn fud am enyd—nid yn gymaint yn fud gan syndod, oblegid gwyddai y deuai y briodas cyn bo liir ond yr oedd ei deimladau yn bur gymysglyd pan glywodd ei bod mor agos. Yr oedd eiddigedd bron a'i ddyrysu, a daeth pangfa o gynddeiriog- rwydd drosto wrth feddwl fod Pyrs yn myn'd i feddiant o hapusrwydd nas gallai ef byth ei ddisgwyl. Ond graddol dawelodd o ran ei feddwl pan gofiodd fod ei anwyl gyfaill," Mr Wynn y twrnai, yn barod gyda'i brofion cyfreithiol erbyn diwrnod y briodas i chwalu dedwyddweh Pyrs am byth, a'i wahanu oddiwrth ei wraig ieuanc ar drothwy eu bywyd priodasol. Gan nad oedd Harri yn dyweyd dim. teimlodd Mr Jones ryddid i fyn'd yn rnlaen. gyda'i chwedlau. Mi fuo y dynion yn nghaban pone Annwn yn son am danocli chi, syr, ac am Mr Pyrs, eich brawd, heddyw." Beth oedd ganddynt i'w ddyweyd am danaf fi?" Dim neillduol am danocli chi, syr eich brawd fuo fwya dan sylw. 'Roedd yno lot ohonyn nhw yn adrodd rhw streuon yn nghylch eich brawd—eu bod nhw wedi 'j wel'd o mewn dau le gwahanol yr un amser tlrgiQu yn ddiweddar." Nid wyf yn deall mohonoch. Ei wel'd mewn dau le yr un amser ? Beth ydych yn feddwl ?" Wel, syr, mi ddwedodd rhai ohonyn nhw 'i fod o yn cysgu yn yr Hawk and Buckle, Caernarfon, wythnos i heno, ac ar yr un pryd gwelodd un arall o yn danfon Miss Maggie adre o Dolgynfi y noson hono. Wed'yn dywedodd rhai 'u bod nhw wodi 'i wel'd o yn helpu i ddiffodd tan yn ngliadlas Bryncoch y nos Wener cynt, ac yr oedd Morris, y gwas yma, newydd fod yn 'i ddanfon o at y tren y noson hono. A neithiwr mi gwelodd yr hen Ned Robins o ddwywaith mewn gwahanol lefydd, ac mi wadodd Mr Pyrs iddo ei weled y tro cynta. Barn rhai ydyw mai rhw arwydd' o ddrwg ydi peth fel hyn,ond wrth gwrs,dydw-i,ddini yn credu lol felly." Nid oedd Harri ychwaith am gredu lol felly," ond er y cwbl dangosai ei edrychiad ei fod wedi cael ei anesmwytho ryw gymaint o raddau gan chwedlau Mr Jones. Canodd gloch ar y bwrdd, ac wedi i un o'r morwyn- ion ddod i ateb, dywedodd wrthi am alw Morris, y certiwr, i fewn, ac ar yr un pryd. dymunodd nos dawch i Mr Jones, fel awgrym i hwnw fyn'd allan. Morris," meddai, wedi i hwnw ddod i'r ystafell, "welis di fy mrawd yn myn'd i liwrdd yn y tren nos Wener, wythnos i'r diweddaf ?" Do, syr." Mae rhywrai wedi 'i wel'd o yr un mynydau yn nghadlas Bryncoch." Do, mi gwelis i fo yn neidio o'r gadlas- i'r ffordd pan oeddwn yn dwad yn fy ol o'r stesion, ac mi ddychrynis yn ofnadwy wrth 'i wel'd o." Wyt ti'n siwr iddo fo fyn'd efo'r tren y noson hono ?" Yn reit siwr, syr, achos mi rosis ar y platfform i siarad efo fo nes 'roedd y tren yn symud i ffwrdd." O'r gore. Dyna'r cwbl oedd arnaf eisieu wybod. Dyro'r ceffyl yn y car bore foru am naw o'r gloch. Mae arnaf eisieu myn'd i Gaernarfon." "Beth yw hyn, tybed," ymholai Harri ynddo ei hun, ar ol cael ei adael yn unig yn yr ystafell. Wrth gwrs, yr oedd Harri yn ormod o ddyn y byd, ac yn rhy gall, i roddi cael ar chwedlau gwrachod am ddrychiol- aethau ac arwyddion cyn drygfyd a marwol- aeth, a phethau o'r fatli, ac ni ddaeth i'w feddwl am foment fod yr esboniad ar yr hyn oedd newydd glywed am ddrychiolaeth Pyrs i'w gael mewn unrhyw lfordd oncl ffordd naturiol. Nid y meddwl am ddrych- iolaeth oedd wedi peri cynhwrf yn ei fynwes -os rhaid dyweyd y gwir, yr oedd wedi cael ei gynhyrfu dipyn gan yr hanesion—ond ofni yr oedd i'w gynlluniau ef gyda golwg ar Pyrs gael eu dyrysu ar y foment olaf megis? ofn i rhywun neu rhywbeth ddod rhyngddo a'i amcanion, a hyny pan yr oedd ar fin eu cyrliaedd. Mewn gair, yr oedd mewn pen- bleth mewn perthynas i'r pwy oedd y dyn yma oedd mor debyg i Pyrs fel yr oedd y bobl a adwaenent Pyrs mor dda yn ei gam. gymeryd. Pwy oedd liwn ? Pwy ydoedd, Z, y tybed ? Carasai Harri yn fawr gael rhyw eglurliad ar hyn, a dyna beth wnaeth iddo benderfynu myned y boreu nesaf i Gaer- narfon i weled Mr Wynn, oblegid nis gallai "fefldwl am y iatlt eiftwfol ag