Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
BARNAU
News
Cite
Share
BARNAU YR oedd Milton, y bardd Seisnig, am rai o'i flynyddoedd diweddaf yn hollol ddall. Y pryd liwnw yr oedd Iago II. yn wr ieuanc ac wedi clywed am enw Milton sychedai am ei weled. Un diwrnod aeth ato, ac yn mhlith pethau ereill gofynodd iddo, Ai nid ydych yn meddwl fod eich dallineb presennol yn farn arnoch am ysgrifenu yn erbyn y brenhin diweddar ? Atebodd Miiton, Os ydym i farnu gwg neu wen y Nefoedd oddiwrth amgylchiadau Rhagluniaetli, mor drom y rhaid fod y farn ar eich tad chwi; canys ni chollais i ond fy ngolwg, tra y collodd efe ei ben."
- MARMOR
News
Cite
Share
MARMOR GWNEIR marmor o chalk gan Ffrancwr. Dyfais ryfedd yw. Y mae Natur yn gwneyd marmor fel hyn gwthia dwfr ei hun trwy chalk, todda ef, ddarn ar ol darn, ac yna gwna ef yn risial, a dygir pwysau mynydd- oedd ar y grisial hwnw gan ei wneyd yn galed. Oddiwrth hyn, gwelir fod mocld gwneyd rhywbeth tebyg trwy foddion fferyllol. Yn gyntaf torir darn o chalk fel y torir brechdan, a rhoddir y darn mewn sylwedd dyfriollliwiedig, yr hwn a'i gwna o'r un lliw ag unrhyw farmor. At wneyd hyn, defnyddir yr un lliwiau yn hollol ag a ddefnyddir gan Natur ei hun. Yna rhoddir y darn chalk lliwiedig mewn sylwcdd arall, yr hwn a'i caleda ef ac a'i gwna yn hollol yr un fath a marmor.
Y GALON
News
Cite
Share
Y GALON Y GALON yw yr organ berffeithiaf yn y byd anifeilaidd, a'r hon nad ydyw byth yn ofni rhag ei dyledswydd. Deehreua ar ei gwaith yn y cyfiwr anadblygedig, ac a yn mlaen hyd y foment olaf o'i bywyd, heb eiliad o seib- iant, ddydd na nos. Weitliiau ceir hi yn myned yn mlaen yn ei gwaith am gan' mlynedd, lieb gymaint a pheidio curo un- waitli. Gyda phob curiad enfyn ddwy owns o waed drwy y corpli. Yn ol 75 o guriadau bob mynyd, pympir i mewn naw pwys o waed, ac anfonir ef allan yn yr un amser. Pob awr, cymerir i mewn 540 pwys o waed, a theflir ef allan pob dydd, 12,960 pwys pob blwyddyn, 4,730,400 pwys; pob can' mlynedd, 473,040,000 pwys o waed. Yn ddiau, gweithiwr iawn yw y galon, a hyny heb orphwys. Pe y gorphwysai am fynyd, darfyddai am ei pherchenog. Beth pe bnasai hi yn myned ar streic, ac yn dyweyd ei bod yn gorfod gweithio 24 awr y dydd
CLADDU CORPH DYN ARALL
News
Cite
Share
CLADDU CORPH DYN ARALL LLE bynag yr elai Huwco ap Heidden, meddwi a wnelai. Ofnai ei wraig yn ami y ceid ef wedi cyfarfod a'i farwolaeth mewn rhyw ddull adfydus iawn trwy feddwdod. Er mwyn ei gadw am ychydig rhag y ddiod feddwol, anfonwyd ef ymaith hefo llong. Tra ar y mor yr oedd yn sobr, wrth gwrs. Gan ei fod yn ddyn mor dda am wythnosau, credid yn sicr ei fod wedi meistroli yr awydd oedd wedi bod ynddo am y ddiod gadarn. Cyrhaeddwyd un o bortliladdoedd mawrion Lloegr yn y man. Cadwyd Ilygaid ar Huwco. Dyn ofnadwy oedd efe pan wedi meddwi Pan gafodd rhyw 5s o arian gan y capten ar ryw esgus neu gilydd, aeth ar ei spri yn gynddeiriog. Creodd gynhwrf yn yr heol- ydd. Daeth heddgeidwad ato i ofyn iddo fyned yn ei fla,en yn ddistaw. Tarawodd Huwco ef heb yngan gair wrtho. Gwnaeth yr hedclgeidwad arwydd am help. Dyma dri o swyddogion yno yn y fan. Maeddodd Huwco bob un ohonynt. Er nas gallai Saesneg, gallai daro yn Gymraeg yn iawn. Yr oedd fel arthes wyllt wedi colli ei clienawon. Llwyddwyd i roddi handcuffs am ei ddwylaw, a chymerwyd ef i'r carchar. Yr oedd yn llawn o driciau. Beth yclyw eich enw chwi," gofynai ceidwad y carchar. Peter Mac Cochlin," ebai Huwco. Tranoeth, dygwycl ef o flaen yr ynad eyflogedig. Cyfaddefodd ei fod yn euog. Anfonwyd ef am bythefnos o garchariad. Yn y cyfamser, ni wyddai criw y Hong ddim byd am Huwco. Edrychasant yn y newydd- iaduron er mwyn cael gweled ei enw os oedd mewn helbul, ond ni welwyd enw Huwco ap Heidden yn unman. Aethpwyd i holi yn y gwahanol orsafoedd heddgeidwadol a oedd Huwco yno, ond nid oedd yno neb o'r enw Yn mhen yr wythnos, darganfyddwyd corph dyn yn y dock lie yr oedd y llong. Gan na wyddai neb corph pwy ydoedd, a chan fod Huwco ar goll, aeth y capten ac creill i weled y corph. Credent yn sicr mai corph Huwco ydoedd. Ceisiwyd arch priodol iddo, ac anfonwyd at ei deulu i ddyweyd y ncwydd torcalonus. Aeth y perthynasau oil i wisgo dillad duon. Cladd- wyd y gweddillion yn barchus. Boreu y dydd Llun dilynol, dyma rhyw ddyn at y llong, ac yn gvvaeddi Margaret Ellen, 0 hoi! Edrychodd y capten o'i gwmpas, ac er ci fawr syndod, pwy welai ond Huwco, yn fyw ac yn iach Galwyd arno i'r Hong. Dywedodd y eapten wrtho en bod hwy wedi claddu rhywun yr wythnos flaenorol gan gredu mai corph Huwco ydoedd! Ond, capten anwyl, mae Huwco'n fyw. Dyma fi 1" Syndod a deyrnasai yn y caban ac yn y forecastle. Yr oedd Huwco eto yn fyw! Eglurodd efe sut y bu. Rhoddodd ffugenw rhag ofn i'w berthynasau wybod lie yr oedd efe. Anfonwyd at ei berthynasau, a thynasant ymaith eu dillad duon hyd ryw amser pellach!
OWN BAGH YN TROI YN GATHOD
News
Cite
Share
OWN BAGH YN TROI YN GATHOD Cymeriad gwreiddiol iawn oedd Bob Owen. Yr oedd yn ffyddlawn i'w feistr yn mliob- petli. Elai ar ei archiad i'r dwfr neu i'r tan. Ystyriai fod ei feistr yn fwy na gwr boneddig. Llawer o bethau digrif a ddigwyddodd yn hanes Bob a'i feistr. 0 bosibl y cawn ham- dden i roddi rhai ohonynt yn ngliolofnau Papur Pawb o bryd i bryd. Dechreuwn lieddyw liefo'r 'stori Bob Owen a'r Cwn Bach yn troi'u Gathod Bach." "Bob, y mae arnaf eisieu i ti fyn'd a'r ddau gi bach hyn i Sgweiar Nantymoron," ebai meistr Bob un diwrnod. 0'1' goreu, mistar bach, mi af." Ceisiodd Bob sach a man dyllau ynddi, a rhoddodd y ddau gi yn y sach. Yr oedd tua deng milldir i Nantymoron. Ar y flordd yr oedd tafarndy y Nodwydd Newydd. Byth ni byddai Bob yn pasio y dafarn hon heb alw ynddi. Galwodd yno y diwrnod dan sylw, ar ei ffordd i Nantymoron. Rhoddodd Bob y sach a'i cliynmvys ar lawr y gegin, tra yr elai yntau i'r bar i gael gwydriacl o gwrw. Digwyddodd fod yn y gegin ddau ddyn. Pan wclsanf y sach yn ysgwyd, edrychasant beth oedd y mater, Gwelsant mai dau gi bach oedd yno. Fflachiodd drychfeddwl digrifol ar draws meddwi un ohonynt—un o'r dynion, nid un o'r cwn—a dywedodd, Myn cebyst, Spink, beth pe buasai i ni dynu y cwn yma allan a rhoddi y ddwy gath fach acw i mewn yn eu lie?" "Campus," ebai Spink wrth Dicws. Aeth Spink i'r bar i ymgomio a Bob, tra y rhoddai Dicws y cathod yn y sach yn lie y cwn. Daeth Bob yno, cododd y sacli. rhoddodd hi ar ei gefn, ac ymaith ag ef. Yn mhen yr awr cyrliaeddodd Nantymoron. Os gwelwch yn dda, Mr Sgweiar, y mae mistar yn anfon dau gi bach o frid iawn i chi yn bresant," dywedai Bob wrth Sgweiar Nantymoron. Tiolcli yn mawr iddo fo, Robert." Yna agorodd Bob y sach. Llefocld Bob, "Byth o'r fan ma, un gwirion ydi mistar. Cwn dd'wedodd o, Mr Sgweiar, oedd o yn roi yn y sach, ond cathod sy' yma. Ac yr oedd mistar yn reit sobor hefyd, Mr Sgweiar." 11 Gwylltiodd Bob, paciodd y cathod yn y sach drachefn, a chychwynodd adrcf, Galwodd yn y dafarn drachefn, a gwnaeth yr un fath yn hollol ag y gwnaethai yn flaenorol. Gwelodd Dicws a Spink y sach a'r cathod. Aeth Spink i siarad a Bob yn y bar, tynodd Dicws y cathod allan a rhoddodd y cwn bach yn eu llc. Gyda ei fod wedi gorphen dyma Bob yno ac ymaith ag of. Wedi cyrhaedd adrcf dywedodd, Mistar, mistar, beth oeddach ch'i yn rlioi cathod bach i mi yn lie cwn bach i fyned i Mr Sgweiar ?" Cathod cathod Pwy roddodd gathod i ti ? Cwn bach o'r brid goreu rodclais i ti." Wel, myn cebyst i, cathod oedda nhw yn Nantymoron, mistar bach. Edrychwch chi 'ch hun. Dyna'r sach a'r cathod i ch'i ;l'd." Agorodd y meistr y sach, a thynodd uddi- yno ddau gi bach del. Yr oeddwn yn dyweyd mai cwn oedd yn y sach, a chwn sydd wedi dyfod allan," dywedai y meistr. 11 Wel, myn gafr, cathod oedda nhw yn Nantymoron, beth bynag ydyn' nhw yrwan, mistar anwyl. Ma' rhywun wedi witchio nhw neu il, myn cebyst i," ebai Bob.
HUNAN-HANES GWEITHIWR FFRENGIG
News
Cite
Share
bletli, ddwyn ychydig eiriau i'm cyfiawnhau, ac yna aethom at destyn eia hymweliad. Edrychodd y contractor dros y papyr ocddwn wedi ysgrifenu, gofynodd ychydig' o eglurhad, ac ymadawsom ond gyda fy mod i yn myned drwy y drws, galwodd fi yn ol. "Coiiwch am yr liyu wyf wedi bod yn ddyweyd wrthych, fy nghyfaill," ebai ef, gyda golwg serchus, ac yn lie bod yn eiddigeddus, ceisiwch feddiannu ychydig b uchelgais onest. Peidiwch treulioeich amser 11 i acliwyn ar y rhai sydd uwclilaw i chwi, ond gweithiwch i ddirwyn y rhaff i godi eich hun i fyny hofyd ac os gallaf fi eich cynnorth- wyo, nid oes eisieu i chwi ond siarad, a rhoddaf i chwi yr ysgaing gyntaf o lin yn fentliyg. C. Ibl.