Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

G. LAN A U 0 Y S Y N I.

News
Cite
Share

G. LAN A U 0 Y S Y N I. Swit cyfarfodydd y gauaf yn cael eu dirwyn i fyny glywir yn benaf ar hyd y Glanau y dyddiau hyn. Cafwyd mewn llawer o'r cymyd- ogaethau gyfarfodydd ffrwythlawn, ac felly mae sain hyfryd wrtli gasglu yr ysgubau at eu gilydd yn bresenol. Ceir newid gwaith. at yr haf. Aberdyfi.-Capel yn y rhenc flaenaf mewn prydferthwch adeiladwaith oddifewn ac oddi- allan yw capel yr Annibynwyr yma, ac addefir yn wastad fod hwn yn glod i ben a chalon, yn ogystal a llogeli, y diweddar Mr J. Hughes Jones, Y.H. Efe fu y prif symadydd i gael y capel hwn. Teimlir hiraeth mawr ar ol y fath flaenor ffyddlon. Mae gwagie ei scdd yn y capel yn lief am hyawdledd dwys- Derbyniodd ei weddw alarus lythyrau-nid yn unig cyd- ymdeimlad, ond yn cynwys gwerthfawrogiad arbenig o deilyngdod cymeriad ei diweddar briod—o lawer gwlad heblaw Cymru. Anfon- wyd amryw gan bersonau fuont pan yn blant yn derbyn o'i garedigrwydd mewn llawer dull a modd yn Aberdyfi, yn eglwysig-a masuachol, ond ydynt erbyn hyn wedi cyrhaedd isefyllfa- oedd parchus eu luinain, ac o hyd yn cydnabod mor ddyledus oeddynt iddo ef. Cyfansoddodd Mr Richard Davies, 20, Nanton-road, Liver pool, hen frodor o Abcrdyfi, yr englynion can- lynol o fawrhad i'w gymeviad. Yr oedd newydd ddarllen ysgrif 'J. T.' yn y Dysgedyda mewn porthynas i'w adgofion ef o Mr Jones, gan wneyd sylw arbenig o'r ffaith iddo gael ei gymeryd ymaith ar y dydd Nadolig. Byddwu ddiolchgar am le iddynt yma. Nadolig Crist fu'n dristwch—i Feirion O'i farw, chwi welwch, 0 ddu loes, boed hedd i'w lwch Y dyddan Ynad Heddwch. Wr hynod mewn moes a rhinwedd ydoedd, A didwyll ei fuchedd Cywir ei air, carai hedd,— Nwyfus, ond llawn tangnefedd.' Towyn. Cynaliodd Cynghrair yr Eglwysi Rhyddion eu cyfarfod chwarterol yma yr wyth- nos ddiweddaf, ac at y gyfeillach gyhoeddus undebol yn yr hwyr gwahoddwyd y Parch E. Evans, Llanegryn, yma i draethu cynwys papyr a ddarllenasai mewn pwyllgor o'r Cynghrair beth amser yn ol ar Y Pwys o feithrin chwaeth at Lenyddiaeth Bur.' Wedi clywed y papyr unwaith yr oedd awydd am iddo gael cyhoeddusrwydd mwy, ac felly caf- wyd. Yr oedd 61 llafur a barn addfed ar y papyr, yr hwn a gafodd ei draddodi gydag eneiniad a hyawdledd.—Dirwynwyd cyfarfod ydd gauaf y plant i fyny gyda chyfarfod dy- ddorol dros ben mewn adrodd, dadleu, achanu. Llywyddwyd gan Mr R. Price Morgan, a'r, Parch J. M. Williams. Mac clod mawr i Mr James Harries am y rhan a gymerocld efe mewn trefnu y cyfarfod, ac hefyd i'r boneddigesau icuaine, Rosa Davies, Anna Mason, A. L. Williams, Winnie Lewis, a E. A. Roberts. Tua haner y cyfarfod daeth Dr Lewys Lloyd yn mlaen i gyflwyno y gwobrlyfrau i'r plant am gasglu at y Genadaeth. Yr oedd 26 wedi casglu digon i enill y gwobrlyfr, ac un wedi enill gwobr arbenig. Gwneir ymdrech fawr yma i feithrin sel genadol yn y plant.—Yr organ. Mae yr organ a'r dynion i'w gosod i fyny wedi cyrhaedd yma. Mae y concern i gyd yn pwyso tuag wyth tunell. Edrychir gyda llonder at gymanfa ysgolion Mai, canys bydd yr organ mewn gwasanaeth y pryd hyny. Dysgwylir hefyd gael organ i-ecitat yn mis Ebrill. Abefgimohvyn a Llanflhangel. Mae ger fy mron yn awr Adroddiad Blynyddol y ddwy eglwys hyn. Mae yr adroddiadau blynyddol hyn yn llefaru yn uchel. Dy wodant fod yma eglwysi trefnus a byw, ac hefyd eu bod am fyw eto mewn trefn. Gwelir oddiwrth y Rhag lith sydd gan y Parch R. C. Evans, y gwein- idog, fod amgylcliiadau anffortunus y Chwarel wedi achosi cryn fylchau yn yr eglwys, ac hefyd fod angeu wedi gwneyd bylchau amlwg ynddi, ond yr anerchiad yn Ilawii 0 ffydd ac ymddiried yn Nuw yn eiberthynas a'r dyfodol. Mae yr eglwysi hyn yn cvfranu at bob achos braidd a ddaw ar eu gofyn ond y mae gan y ddwy swm mawr wrth gefn ar ddiwedd pob blwyddyn, a'r llynedd buont bob un mor gar- edig a rhoi anrheg o bum' punt i'w gweinidog, ac hefyd anrheg i flaenor y gan yn un o'r j eglwysi. Da genym gael ar ddeall fod y blaenor gweithgar a siriol, Mr Richard Ellis, wedi gwella mor dda ar ol y ddamwain yn y chwarel fisoedd lawer yn ol, nes y mae erbyn hyn yn cymeryd ei sedd a'i swydd yn y moddion eglwysig. 7 7

| HIRWAUN.

COLWYN.

MENYW 0 FERTHYR ETO.

[No title]

ADDYSG GYFREITHIOL YN NGHYMRU

BRYNAMAN.