Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CYFUNDEB BRYCHEINIOG. -

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFUNDEB BRYCHEINIOG. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Nyffryn Crawnon, cylch Llangynidr, ar y dydd- iau Mawrth a Mercher, Mawrth igeg a'r 2ofed. Yr oedd yn bresenol yn y Gynadledd ddydd Mawrth, y Parchn Gomer Harris (Cadeirydd am y flwyddyn) D. A. Griffith, R James yr Athrawon T. Rees, M.A., a John Evans, B.A.; D. Miall Edwards, M.A., Josiah Davies, D E. Harries, E. T. Parry, a D. Lloyd hefyd y lleygwyr Mri Powell, Troed- yrhiw Morris, Caemadog Morgan, Caehendy a Richards, Dyffryn. Ar ol i'r Parch D. Miall Edwards arwaio mewn gweddi, ac ar ol darllen a chadarnhnu cofnodion y cvfarfod blaenorol, pasiwyd :— l. Fody cyfarfod nesaf yn ol y gylchres i'w gynal yn y Brechfa. (<z)|Pwnc y Gynadledd—' Athraw- iaeth Pechod,' y Parch D. Lloyd i bregethu. (b) Y Parch W. H. Price, Talgarth, i bregethu ar bwnc a roddir:iddo gan eglwys Brechfa (c) A'r Parch D. H. Jones, Trecastell, i ddarllen papyr yn y Gynadledd. 2. Fod cynllua ac adroddiad Pwyllgor Dir- west i'w roddi yn llawn yn nghofnodion y cyfarfod hwn. 3. Mewn perthynas i'r penderfyniad anfonasidgan Gyfundeb Meirion parth ystadegaeth, ni wnaed dim yn derfynol, er i'r peth gael ystyriaeth ddyladwy. 4. Dewiswyd y brodyr a ganlyn i gynrychioli y Cyfundeb ar bwyllgorau Cynghor yr Undeb Y Gronfa, Mr W. Jones, Talgarth. Dirwest, Parch Josiah Davies, Gdwern. Ysgol Sul, Parch D. Miall Edwards. M.A., Aberhouddu. YCaniedydd, y Parch Gomer Harris, Llangynidr. Llenyddiaeth, Parch David Lloyd, Cwmrhos. f 5. Materion ereill-(a) Pasiwyd penderfyniad yn rhoi mynegiad i'r teimlad o golled a hiraeth ar ol y Prifathraw Hybarch David Rowlands B.A. (Dewi Mon), a chydymdeimlad a Mrs Rowlands a'r teulu ac a. swyddogion a phwyllgor y Co'eg. Hefyd, pas- iwyd penderfyniad yn cydymdeimlo a'r Parch John Davies, Bethania, yneigystudd blin, a phenodwyd pwyllgor o bump i drefnu supplies ac estyn cy- northwy iddo ac eglwysi ei ofal yn ystod ei waeledd gan ddymuno iddo adferiad buan a llwyr. Aelodau y pwyllgor ydynt, yr athraw T. Rees, M. A., Parehn D. Miall Edwards, M A., a Gomer Harris; Mri David Jones, Talgarth, a David Morgan, draper, Aberhonddu. 6. Cyflwynwyd gan y Parch R. James gais Aber- gwesyn am fenthyg 40P o'r Gronfa tuag at gyfarfod y draul o tua 190P yr aeth yr eglwys dano wrth adnewyddu yr addoldy. Cyrneradwywyd y cais, ac arwyddwyd ef gan Gadeirydd ac Ysgrifenydd y Cyf- undeb. Hefyd, cymeradwywyd i wneyd cais at Bwyllgor y Gronfa am gyfran o'r arian yn rhodd i Abergwesyn, am yr ystyrid fod yr achos yn wir deilwng. 7. Galwyd sylw at drefniadau y Gymanfa sydd i'w chynal yn Nhroedrhiwdalar yn niwedd Mai, a hys- byswyd mai y pregethwyr o'r tu allan eleni ydynt y Parchn John Thomas. Merthyr, a W. J. Nicholson, Porthmadog. Yn cynrychi di Cyfundeb Brycheiniog y Parchn Josiah Davies, a'r athraw T. Rees, M.A.; yn cynrychioli Glanau-yr-Wy, y Parchn W. H. Price, a'r Athraw J. Evans, B.A. Papyr yn y Gynidledd ar Enwadgarwch gan y Parch D. Garro Jones, Llandrindod. Cadeirydd y Gynadledd, Mr D. Jones, Talgarth. 8. Yn ol adroddiad Trysorydd y Cyfundeb, mae yn agos i 40p wedi d'od i law o'r O'yfnndeb tuag at Drysorfa jubili Dr Griffith John—llai na naner y swm y dysgwylir ei sylweddoli. Cyfarwyddwyd yr ysgrifenydd i anfon gair at yr eglwysi sydd heb gyf- lawni hyd yn hyn. Terfynwyd trwy weddi gan yr Athraw T. Rees, M.A. Y MODDION CYHOEDDUS. Pregethwyd yn Llangynidr nos Fawrth gan yr athrawon John Evans, B.A., a T. Rees, M A Yr un adeg yn y Dyffryn dechreuwyd gan y Parch D. Lloyd, a phregethwyd gan y Parchn E. T. Parry, a D. A. Griffith. Dydd Mercher yn y Dyffryn, am 10.30, dechreuwyd g n y Parch D. Miall Edwards, a phregethwyd pregethau ar y pynciau gan y Parch Josiah Davies ar Berson Crist; a'r Parch R. James ar I Waith y Genadaeth. Dramor.' Am 2 30, dechreuwyd gan y Parch W. Llewelyn (B), a phreg- ethwyd gan y Parchn D. E. Harries a D. Lloyd. Am 6.30, pi-egetliwyd gan y Parchn D. Miall E lwards, M.A., a'r Athraw John Evans, B.A. Croesawyd gweinidogion a chynrychiolwyr yn Nhroedyrhiw gan Mr a Mrs Powell ar eu dyfodiad, a thalwyd diolch cynes iddynt. Dydd Mercher, yr oedd drysau amryw yn agored i groesawu pawb yn ddiwahaniaeth. Caed hin weddol, a chyuulliadaU da y prydnawn a'r hwyr. Hyderwn y gwna ymwel. iad y Cyfarfod Chwarterol a'r cylch les i'r ardal, ac y bydd y ffrwyth yn sirioli y Parch Gomer Harris ft phobl ei ofal. DAVID LLOYD, Ysg.

CYFUNDEB MEIRION.

CYFUNDEB LLEYN AC EIFIONYDD.