Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

--YR YSGOL SABBATHOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SABBATHOL. Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, D.D, TREFFYNON. ^OnpiiExiiAF 8fed.—Y Ddyledswydd o Faddeu. —Matthew xviii. 21-34. Y TESTYN EURAIDD. — A maddeu i ni ein dyledion, i'el y maddeuwn ninau i'n dyledwyr.' --Alatt. vi. 12. Y RHANAU I'W DARLLEN YN DDYDDIOL. Llun (Gorphenhaf 2il).-Matt. xviii. 21-35. Mawrth.—Gen. 1. 15-21. Mercher.—1 Sam. xxiv. 1-12. Iau.-Matt. v. 38-48. Gwener.—Marc xi. 20 26. Sadwrn.—Luc xvii. 1-5. Sabbath.—Col. iii. 8 18. RHAGAR WElNIOL. Y MAE y Wers ar faddeugarwch yn naturiol Yn canlyn y Wers ar ostyngeiddrwydd. Y mae ysbryd dialgar bob amser yn cael ei feithrin gan ysbryd hunangeisiol, Y mae y dyn uchel- Seisiol yn rhwym o gyfarfod amryw dros- eddau, dychymygol neu wirioneddol. Y mae Yll barod i weled y trosedd, ond yn hwyrfrydig j, faddeu y trosedd neu i'w anghofio. Y mae *}vy yn ei elfen pan yn llindagu ei ddyledwr. Gwaith anhawdd ydyw madden trosedd hyd Yn nod i'r dyn da. Ond dyma ydoedd nodwedd anllycaf gweinidogaeth yr Arglwydd lesn addeu pechod a rhoddi bywyd tragywyddol i bvvy bynag a gredai ynddo. Un o'r amodau ar ba rai y mae yr lesu yn madden i'r pechadur, ydyw fod y pechadur yn fodd]awn maddeu i'w elynion. Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad eich camwedd- au. chwithau.' Nid ydyw y maddeuant i'w lesur yn ol maint y trosedd. Y gorchymyn dy,v, nid maddeu troseddau bychain nen tawrion, ond madden. Nid ydyw i gael ei Jywodraethu gan rifyddiaeth, ond 'os pecha dy pa\vd yn dy erbyn, maddeu iddo.' Nid ydyw y troseddau y gofynir dyn i'w madden yn ddim Wrth en cymharu a'r peal-ioda-LL y mae yr lesu yn eu madden. Pan yn gofyn am faddeuant o'n dyledion, dylem fod yn sicr ein bod ninau wedi faddeu i'n dyledwyr. Os nad ydym yn fedd- 1anol ar ysbryd maddeugar, y mae yn an- "Illosibl i ni gael maddeuant gan Dduw. ESBONIADOL. Adnod 21.—' Yna, y daeth Pedr ato Ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha |y mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo ? ai ■"yd seitliwaith ?' Pa sawl gwaith y pecha fy r>trawd ? Y mae cwestiwn Pedr yn naturiol 0 diwrth yr hyn a ddywedasai yr lesu gyda SpKvg ar pa fodd i ymddwyn at y brawd cyf- eiHornus. Gwelai fod yn ofynol iddo faddeu, ond y ewestiwii ydoedd pa mor ami. Pa le ydoedd y terfyn i fod i'w ddyoddefgarwch. ..d.t hi id seitliwaith f Diau fod Pedr yn meddwl hun yn dra haelionus wrth nodi seithwaith. oedd y Rabbiniaid yn cyfyngu deddf madd- eUant i dair gwaith ar sail nad yw Duw yn son ain faddeli y pedwerydd trosedd yn Amos i. a Darllenwn yn llyfr Job (xxxiii. 29), 'Wele, nyn oil a wna Duw ddwywaith neu dair a dyn.' Adnod 22. — Yr lesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seitli- waith ond, Hyd 'ddengwaith a thri ugain seithwaith.' E yd ddengivaith a thriugain Seitliwaith. Dull tarawiadol i ddywedyd nad oedd terfyn i fod i'n maddeuant. Nid ydyw cariad i gael ei gyfyngu gan y multiplication tubie. Nid oes dcriyn ar faddeuant Daw, ac ni ^dylai fod terfyn ar faddeuant dyn tuag at ei Syd-ddyn. Noder y cyferbyniad rhwng yr ysbryd hwn o faddeugarwch a argymhellir a haledd Lamech (Gen. iv. 24). Yr oedd gofyn- lad Pedr ynddo ei hun yn gyfeiliornus. Ni buasai yn ei ofyn pe wedi ystyried pa mor ami a pha mor ddirfawr y maddeuant a gawsai ef 01 hun. Adnod 23.—' Am hyny y cyffelybir Teyrnas -Nefoedd i ryw frenin a fynai gael cyfrif gan ei Weision.' Cyf. Diw., 'Yr hwn a wnai gyfrif a'i Weision.' Am hyny. Am fod yr egwyddor o taddeuant yn gorwedd dan holl ymwneyd Duw a dyn. Y cyffelybir Teyrnas Nefoedd. Y mae damcgion Crist nid yn unig yn egluro egwyddor ond hefyd yn dysgu dyledswydd. I ryw frenin. Dyma'r ddameg gyntaf sydd yn gosod allan Dduw yn Ei gymeriad fel brenin. A fynai gael cyfrif. Nid yw y cyfeiriad at y dydd diweddaf yn unig, ond at bob amser. Gwel Luc xvi. 2. Yr oedd y brenin wedi rhoddi ymddiriedaeth i'w weision, ac y mae yn galw am gyfrif ganddynt. Y mae Duw yn gwneyd cyfrif a. dynion yn Ei ymddygiad tuagatynt, yn Ei rybuddion a'i alwadau. Adnod 24.—A phan ddechreu )dd gyfrif, fe a ddygwyd. ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau.' A phan ddechreuodd gyfrif. Yn mysg y rhai cyntaf a ddygwyd o'i flaen yr oedd un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau.' Gan mai pwysau, ac nid swm, yw talent, nis gellir dywedyd pa un ai talent o aur ai o arian a feddylir. Golygir swm aruthrol y swm mwyaf ellir ei nodi yn y Groeg mewn dau air. Swm nas gallai neb ei dalu. Cyfeiria Trench at fawredd y swm wrth ei gymharu a symiau ercill enwir yn yr Ysgrythyrau. Def- nyddiwyd naw talent ar hugain o aur i wneyd y babell. Gosododd brenin Assyria dreth o ddeg talent ar hugain ar Hezeciah. A phan oedd y wlad yn dlawd iawn ar ol marwolaeth Josiah, gosododd brenin yr Aifft dreth o un dalent o aur ami.' Enwir y swm i osod allan fawredd dyled dyn i Dduw a'r anmhosiblrwydd iddo byth ei thalu. Adnod 25.—' A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl ar a feddai, a thalu y ddyled.' A chan nad oedd ganddo ddim i dalu. Y mae dyn wedi myned yn ddinerth, ac yn hollol analluog i wneyd dim iawn am bechod. Gorchymynodd ei Arglwydd ei werthu ef. Yn ol cyfraith Moses, gwel Ex. xxii. 3; Lef.. xxv. 39 2 Bren. iv. 1. Y mae gwerthu yma yn arwyddocan dinystr tragywyddol oddi ger bron yr Arglwydd, ac oddiwrth ogoniant Ei gadernid Ef (2 Thes. i. 9). Y mae troseddwyr cyfraith Duw, a'r rhai a gamddefnyddiant Ei drugaredd, yn agored i gosbedigaeth ofnadwy, yr hon y maent mewn amryw ff yrdd yn offer- ynol i dynu, nid yn unig arnynt eu hunain, ond hefyd ar eu teuluoedd a'u pcrthynasau. Adnod 26. A'r gwas a syrthiodd i lawr, ac a'i -haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oil.' A',i, gwas a syrthiodd i lawr. Y mae wedi ei ddal gan ddychryn, a chyfaddefa ei fai. Arglwydd bydd ymarhous ivrthyf. Nid oedd ei addewid o dalu yn werth dim, ond cyd- nabydda ei ddyled ac ymdafla ar drugaredd ei l'eistr. Nid oes yma gyfaddeliad o fai ond effaith ofn sydd wedi ei ddarostwng, fel Saul, Ahab, a Ffelix. Nid oedd Avedi sylweddoli mawredd ei ddyled. Y mae yna elfen o hunan- gyfiawncleryn dyfod i'r golwg. Adnod 27. Ac arglwydd y gwas hwnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddyled.' A dosturiodd wrtho. Tosturi Duw ydyw fEynonell trugaredd i fyd euog. O ryfedd ras, dangoswyd trugaredd i'r gwas hwn er fod ei weddi yn anmherffaith a'i addewid i dalu yn ofer. Gofyn am fod yn ymarhous wrtho a wnaeth, ac addawsai dalu, ond cafodd faddeuant llavvn. Y mae y rhodd yn fwy na'r deisyfiad. Y mae y maddeuant yn rhad ac yn ddiamodol. Adnod 28.—' Ac wedi myned o'r gwas hwnw allan, efe a gafodd un o'i gydweision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddy- wedyd, Tal i mi yr hyn sydd ddyled us arnat.' Ac wedi myned o'r gwas hwnw allan. Wedi derbyn trugaredd ei hun y mae yn myned allan ac yn ymddwyn yn greulawn. Gall hyn ar- wyddocau anghof y pechadur o Dduw, a'i dru- garedd. Efe a gafodd un o'i gydweision, yr him oedd yn ei ddyled ef 0 gan1 ceiniog. Dean- rius. Cyfartal i saith a diraai o'n harian ni. Yr oedd can' ceiniog yn werth 3p 2s 6c. Nid ydyw trosedd dyn yn erbyn dyn yn ddim o'i gymliarn a throsedd dyn yn erbyn Duw. Ymafl- odd ynddcy ar a'u Uivdagcdd.Y itaeyn arfer trais, ac yn dangos y dideimladrwydd mwyaf. Y mae yn dangos ysbryd creulawn. Adnod 29. Yna y syrthiodd ei gydwas wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oil.' Yna y syrthiodd ei gydivas ivrth ei draed ef. Y mae y gwas yn ymddwyn yr un fath, ac yn defnyddio yr un geiriau ag oedd ef wedi eu defnyddio. Ond ni fynai wrandaw. Yr oedd wedi. ymgaledu. Adnod 30.—' Ac nis gwnai efe ond myned a'i fwrw ef yn ngharchar hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.' Ac nis gwnai. Dyma'r gwas oedd wedi derbyn maddeuant am ddeng mil o dalentau yn gwrthod bod yn ymarhous am ddyled o gan' ceiniog. Y mae llawer o rai a gymerant arnynt wybod am faddeuant, yn llawn o ysbryd ymddialgar tuag at y rhai a fyddo wedi troseddu yn eu herbyn. Adnod 31.—' A phan welodd ei gyd-weision y petluvu a wnelsid, bu ddrwg dros ben gan- dc-lynt ahwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasai.' A phan £ oelodd ei gyd-weision. Dygir y gweision i mewn er cadw cysondeb y ddameg. Yn yr ystyr ysbrydol nid oes angen am eu cyfryng- dod. Diau fob pob gwir Gristion yn galaru wrth weled ysbryd dialgar rhai, a dyoddef- iadau ereill, a naturiol ydyw iddynt fyned at orsedd gras i ymbil am ysbryd addas i'r gorthrymwr, a chynhaliaeth a gwaredigaeth i'r gorthrymedig. Adnod 32.—' Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled hono, am i ti ymbil a, mi.' Yna ei arglwydd, wedi ei aliv ef ato. Y mae euogrwydd dyn yn cynyddu i'r graddau y mae dyn yn gwrthod ac yn gwyr- droi trugareddau yr Arglwydd. Profodd ei hun yn ddrwg yn gystal ac anghyfiawn. Wedi derbyn trugaredd ei hun, y mae yn aros yn anrhugarog ei hunan. Adnod 33.—'Ac oni ddylesii; tithau drugar- hau wrth dy gyd-was, megys y trugarheais inau wrthyt ti ?' Ac oni ddylesit. Fe ddylai y rhai a brofasant drugaredd fod yn drugarog tuag at eu cydgreaduriaid. Dyma oedd tros- edd mawr y gwas hwn, am na ddangosasai dru- garedd wedi iddo dderbyn trugaredd. Adnod 34.—'A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i rlioddodd ef i'r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oil oedd ddyledus iddo.' I'r poenwyr. Ar- wydda y gair ceidwaid y carcliar. Hyd oni thalai. Hyny yw, dros byth. Ca aunuwioliou eu. rhoddi i fyny i ddychrynfeydd cydwybod. Adnod 35.—' Ac folly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonau bob un i'w frawd eu camweddau.' O'elt calonau. Dyma'r anhawsder mawr mewn maddeu. ¥ mae yn hawdd maddeu ar dafod a gair, ond rhaid maddeu mewn gweithred a gwirionedd cyn y byddo yn gymeradwy ger bron Dnw. GWERSI. 1. Y mae Duw o ran Ei natur yn drugarog. 1. Y mae deng mil o dalentau yn golygu dyled dyn i DdllW. 2. Y mae cyfiawnder yn liawlio taliad IlaNvii. Dyma ddywed cyiiawnder, 'Niddeuidi allan oddiyno (carchar), hyd oni thalech y ffyrling eithaf.' 3. Y mae angen mawr dyn yn galw am dos- turi Dwyfol. 4. Cyfarfydda Duw ddeisyfiad dyn am dru- garedd trwy faddeuant llawn a grasol. 'Canys pwy bynag a alwo ar enw yr Arglwydd, cad- wedig fydd.' 5. Oylai plant Duw fod yn debyg i'w Tad Nefol. II. Y mae dyn 0 ran ei natur yn anrhugarog. 1. Buasai iddo faddeu dyled o gan' ceiniog yn weithred rasol. 2. Ond yr oedd yr hyn a wnaeth i'w gydwas yn datguddio drygioni ei galon. 3. Yr oedd yr hyn a ddywedodd wrth ei gyd- was yn datguddio caledrwydd ei galon. 4. Nid ydyw angen mawr dyn yn deffro cyd ymdeimlad a -thosturi ei gyd-ddyn. III. Bydd i waith pob dyn gael ei brofi a'i ddatguddio. 1. Dylai gweision Duw efelychu Duw yn Ei gariad a'i dosturi (Eph. v. L) 2. CaifE dyn ei farnu yn ol ei weitliredoedd. 3. Penderfynir nodwedd gwaith dyn gan nodwedd ei galon neu ei fywyd. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Paham y gofynodd 'Pedr y gofyniad yn adnod 21 ? 2. Pa fodd y mae yr lesu yn ateb ? Beth ydyw ystyr yr atebiad ? 3. Beth ydoedd amcan yr Arglwydd lesu wrth lefaru dameg y gwas anrhugarog ? 4. Beth y mae y ddyled o ddeng mil o dal- entau yn ei olygu ? 5. Beth ydyw ystyr ymbil y gwas, a pha fodd yr ymddygodd ei arglwydd ato ?