Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
29 articles on this Page
Advertising
1&51-Y DRYCH-1898 Scvyddisdttf Cciicdlscthoit GYBOEDDEDIG BOB DYDD IAU. yrl« yn Mla«n Maw '2.00 Witt* t Gymvu, tal yn mlaen Uaw yn ddieithriad 3.60 B FSB YSZADA U am Brisiau Bheaym ill. Anftmer am ein Telemit. ANFONER ARIAN mbwn POST OF flCTB OBDBB, REGIBTEBED LeTTKB, .J(Bt1 now DBAIV AB NEW YORK, TÃLÃDWT 1'8 PSBCHWfOO— THOMAS J. GRIFFITHS, PBTOB OFFICE* wica, II. Y. Ymenyn ar GornisiwiT. DAVID W. LEWIS A CO., jijff t§ l79 CHAMBERS ST., NEW YORK. iFbwng WaBbimgtoii a Greenwich sts.) ymeiiyu STewydfl. Mol wedi el lladd, &c., ar werti ar &omisiwE. Anfonlr arian mor fuan ajr"rtU,kWT- DR D H. ROBERTS a ddymuna hys- bysn ei fod wedi symud ei swyddfa i 86 GENESEE STREET, UTICA, N. Y. [Uwchben Store John 0. Jones & Son.) pr^swylfod—845 Genesee St. YN EISIEU W-Meddyg Cymreig== Mewn ardal Gymreig eang, boblog a cbyfoeth- og. Agoriad eithriadol o Fanteisiol i Feddyg Profladol i lanw lie un o'r fath a gollwyd oddi- yno yn ddiweddar. Am fanylion anfoner at C., DRYCR Offlae, Utica, N. Y. EIN GOHEBWYR. Aelod, WiLKESBASRE Nia gallwn gyboeddi eich nodyn am nad ymddiredasoch i Di eich enw priodol. AGENTS Y DBYCH. SIR CAMBRIA, PÂ,-W. Glendon Williams, Job Hp to wd, Pa. Cleveland, O.-D. F. Lewis, 37 Leua Ave. (cyf. eiriad newydd.
[No title]
Er fod Theodore Roosevelt yr eng- raifft uwchaf o Americaniaeth ar docyn, au Talaeth New York, eto, o'r braidd, megys a chroen ei ddanedd, y cipiodd y toddugoliaeth!
[No title]
08 T gwnaeth y blaid Werinol mor dda ar ei thrai, yn mha gyflwr y bydd y gwrthwynebwyr wedi y lliio y llanw mawr yn 1900? Bydd y traeth yn llawn adfoilioii banloriau ac addewidlon dryll- iætg.!
[No title]
Yn Nghwrdd Chwarter yr Annibynwyr yn Tonypandy D. C., yn ddiweiddar, gyda bias y derbyniwyd y newydd fod B. Gwynfe Evans yn bwriadu cyhoeddi llyfr yn erbyn y Tadau Methodistaidd. Rhoddwyd archebion yn y main am wyth gant o'r llyfr! Y mae yr ysbryd en- wadol yn rhan bwysig o grefydd yn Nghymru.
[No title]
Ymddengys fod Eagob Tyddewi hefyd yn gryn dipyn o enwiaidfwr. Mewn cyf- arfod yn ddiweddar, wrth gyfeirio at y Gymraeg, dywedai nad oedd fawr pwys mewn iaith, ac mai "y rhan dda" yw gwasaoaethui Cymru a bod yn deym- garol i'r Eglwys. Digon naturiol' fydd- ai gofyn a fu yr Eglwys yn y garphen- 01, yn deyrngarol i Gymrn? Ac eto, a yw yn ddichonadwy gwasanaethu gwlad heb ddefnyddio iaith y wlad?
[No title]
Y mae y Pab presenol yn nodedig am anfon cylchlythyrau at yr eglwys ac at y byd. Y mae yn un o'r epistolwyr mwyaf fu yn nghadair Pedr, o'r ganrif Babyddol gyntaf hyd yn awr. Bwriada ar fyr gyhoeddi cylohlythyr ar bwnc di- /arfogiad. Dymnnol iawn fydd cael per- ffeithydd ffydd y Pabyddion, sydd wedi bod ar hyd yr oesau yn defnyddio y cledidyf, i bleidio diarfogiad.
[No title]
"Yr angen am lafur. meddyliol yn nglyn a ohrefydd" oedd testyn pregeth ragoroi mewn oyfarfod misol yn Ngbyinru yn ddiweddar. Ychydig o les adeillia o lafur meddyliol oddigerth ei fod yn y cyfeiriad iawn. Y mae llawer p lafur meddyliol a wastreffir i gyfiawn- han a pharhau cyfundrefnau mwyaf af- res'nnol yr oesau. Gymaint I o lafur ddefnydtdir i gynal hen ddtaliaidau cyfeil- iomusynlledarga.nfodygwir! Gres- yn yw gweled oes yn amddiffyn credoau ei mam ai nain yn lie ffurfio rhai gwedd- us iddi ei hun.
[No title]
Mewn arwerthiadau yn Nghymru, hyd; yn nod y dyddiau hyn, os na fydd y cynygion yn hwylus gellir clywed yr ar- werthwr yn gwaeddi, "Rhoweh gwrw i'r bobl! Dim ond swllt wedi ei gynyg; rhowch gwrw i'r bobl!" Dywedir, hef- yd fod cwrw yn hwylysu etholiad ami i ymgeisydid. Cyn dydd yr etholiad, os y bydd yr etholwyr yn araf, ychwanegir at eu ffydd wieidyddol drwy "Rhowch ragor o gwrw i'r bobl."
[No title]
Ychydig o wahaniaeth sydd rhwng Ffraiflic a Germani mewn gweinyddu cyfiawnder. Rheolir y naill gan fym- pwy milwrol a'r Hall gan fympwy ymer- odrol. Yn y naill, y penaethiaid milwrol sydd yn groen deneu; yn y llall yr Ym- erawdwr. Rhoddir llyffetheiriau ar y wasg gan y .naill fel y llall. Traddod- wyd geneth 19 oed, o'r enw Jenny Dyk, yn Breslau yn ddiweddar am fwrw 1 barn ar lun yr Ymerawdwr mewn ffen.5 estr! ]
[No title]
Blaala yr Amiericainwr yn rhwydd ar i¡ bawb am ddyfais. Gwrthrych dyddor- deb Ffair y Byd, yn Chicago, oedd ol- wyn Ferris; ac yn Ffair y Byd Paris, 1900 y rhyfeddod penaf fydd gwlaw- len eangfawr o waith Americanwr, yn mesur, pan yn agored, 350 troedfedd o uchder a 250 ar ei thraws. Nidi lie i ymguddio rhag gwlaw fydd; eithr hong- ir cerbydau wrth ei bargod i gytnwys haner cant o bobl yr un i'w chwyrn- droi er difyrweh.
[No title]
Ymddengys nas gwyr y Werddon beth sydd yn dda er ei lies, hymy YW, y rhan Babyddol o honi. Er fod y Cadfridtog I. Kitchener yn Wydidel, o swydd Kerry, ac yn ymffrostio yn hyny, a llu o Wydd- elod yn y fydidlin Brydeinig, eto cawn William Redmond a'r Parneliaid eraill yn ynfyd o blaidi Ffrainc ar bwnc y Soudan! Y mae y Gwyddelod o natur a dygiad i fyny afler, yn feddyliol a chrefyddlol, a thebyg iawn y mynant dreulio y gweddill du hoes yn ngharth- ffosydd gwareiddiad. ¡
[No title]
Tebyg hefyd fod yr Archesgob Caer- grawnt yn gydnabyddus a'r nodwedd ymranol hon o eidido y CSymry, oblegid rhodfdiodd gyngonom dwys yn Abertawe, yn nghyfeiriad cael y Cymry, yn Eg- Iwyswyr ac Ymneillduwyr, i deimlo ac ymtddw'yn ytf fwy brawdol at eu gilydd Gan eu bod yn addoli yr un Tad, ac yn dysgwyl cael eu gwaredu gen yr un Gwaredwr, ooeliai fod gandidynt bob cymelliad i fod yn frodyr. Brodyr, serch hyny, oedd Cain ac Abel.
apWEITHTO ER DAIONI.
apWEITHTO ER DAIONI. Pwysleisir un ffaithgan yr etholiad diweddaf, set miai perffaith oferedd yw i unigolion anmibynol a phleidiau is- raddbl ymgystadlu alr pleidiau rhool- aidd. Waeth beth fo cymeriad dilych win yt ymgeiswyr ac arucheledd eu heg- wyddorion, anobeithiol yw eu tynged-y maent fel gwellt ar lifeiriant neu grin ddail o flaen y gwynt. Mewn adegau o gyffroodigaeth mawr, nid ydynt hwy a'u hachosion yn ganfyddadwy; a thafiant ell pleidleisiau dro ar ol tro, yn hollol ofer a diles, ac ymhyfrydant mewn aflwydd- iant cyfangwbl yn hytrach nag ym- foddloni ar gael ychydig o'r hyn a geis- ia,nt. Dysgwyliant gyraedd pen' y bryn heb gerdded y rhiw. "Yr oil neu ddim" yw eu hegwyddor, a "dim" yw y rhan a gant yn ami. Ymddengys mai rheol I gwareiddiad yw "nerth yn ol y dydd," ychydig yma ac ychydig alcw. Mae ych- ydig at ychydig yn gwneyd Ilawer.
ARAFWCH Y DREFN.
ARAFWCH Y DREFN. Byddai yn ddbeth i benboethiaid o bob math ystyriedi hamddenolrwydd rhag- luniaeth. Ni adeiladwyd Rhufain mewn un dydd, ebe yr hen air; ac nid oes eis- ieu ond haner pen i ganfod ei fod; yn annichonadwy gwareiddio a glanhau cymdeithas mewn uin oes. Ouid oes o'n hamgylch fodau sydd yn ymwylltio am ddychwelyd holl drefn annuwiol a llyg- redig plant dynion mewn ychydig flyn- yddoedd; a synir a siomir hwy yn ddir- fawr ar ddiwedd eu hoes, pan, y gwel- ant yr achos y llafuriasiaint drosto yn agos yn yr un cyflwr. I ddyn o deimr ladjau byw, gresynus yw sylwi ar y modd ynfyd ac annystyriol yr ymddyga y mwyafrif yn eu perthynas a diwygiad- au gwleidyddol a chymdeithasol gwir dieilwng; ond ymgysuro yw y ffordd oreu yn y ffaith fod rhod rhagluniaeth a threfn Duw yn troi yn araf iawn, mor a,raf fel o'r braidd y gellir canfod ei thro. Ymofidiwn yn ami am na bae yn troi yn Ilawer cyflymach.
IACHAD DRWY DDYGHYMYG.
IACHAD DRWY DDYGHYMYG. Hysbysir ni fod Gwyddoniaeth Grist- ion ogol ar gynydd eto mewn manau ymaac yn Loegr, a thebyg y pery y goel hon i swyno mathau o feddyliau hyd y delo yn dymor rhyw goel arall. Gwneir i fyny hanes plant dynion o gyfodiad a chwympiad olynol hygoel- iaethau sydd, yn ddiau, wedi bod yai gymorth a dyddanwch mawr iddynt drwy yr anial hyd yn bresenol. Hudir rhai meddyliau yn fawr gan y grefydd newydd hon, sef iachawdwr- iaeth. drwy ddychymyg; a sicrheir i ni gan ral ei bod yn gwneyd gwaith da. Nid sytaen fawr safadwy ffyddi sydd, yn dal y brodyr a'r chwiorydd hyn i fyny, eithr dychymyg, yr hon, drwy ganol- bwyntiadr tynerwch a phrydferthwch ei I' delfeddygiad, fedr gyflawni gwyrthiau rhyfeddol. Mewn rhai cyfeiriadau tebyg y gall dychymyg guro ffydd: Gwaith I ffydd yw gwneyd y gwirion yn ddoeth, I ond gwaith dychymyg yw gwneyd) y doeth yn wirion.
TRANOETH.
TRANOETH. Nid hawdd yw amgyffred ymddygiad rhai o'r newyddiaduron Democrataidd blaenaf. Ymddengys mai dallbleidiaeth yw eu hegwyddor ysgogol, oblegid ceir hwy tranoeth i'r etholiad yn dadguddio echryslonrwydd eu cyflwr moesol, ac yn bradychu eu hunain yn waeth nag y gwnaeth Judas panyr aleth ae yrymgrog- odd oddiar goeden yn y maes a brynwyd ganddo a gwerth gwaed. Yn ystod) yr ymdrech yn Nhalaeth New York cawn y "Times" a'r "World" a'r "Journal" yn cefnogi y tocyn Democrataidd, ond tran- oeth i'r etholiad yn troi at eu hen arfer o ddifrio y blaenoriaid. Wedi tewi yn gywilyddus am wythnosau, tyr yr orac- laa hyn allan, pan yn rhy ddiweddar, i lelldithio a rhegu. Dyma ddywedai y "Journal" traxjoeth i'r etholiad am y blaenoriaid Democ aidd: "Y miae y blaenoriaid Democrat- aidd cenedlaethol wedi arddangos y cuii? ni a'r hurtrwydd mwyaf, y tu h wnt i ¡ grediniaeth," ac, etc, cawn y newyddiad- uron hyn er yn condemnio "hurtrwydd" y blaid Ddemocrataidd, yn cymera-dwyo a chefnogi y tocyn. Nid yw y ffaith fod Richard Croker yn garnleidr, ac yn gwneydl y fainc farnol yn droedfainc i'w draed, yn ol y "World," yn un rhwystr i'r newyddiaduron dauwynebog gefnogi llechen y penaeth!
TOCYNAU GLAN
TOCYNAU GLAN Un o anfanteiaion gvrleidyddiaeth yw y modidi y gwneir y tocyn yn ami yn Arch Noah a,dinas noddfa i bob math o gymeriadau politieaidd ameus. Nid hawdd yw deall paham y gwneir y fath amryfusedd. Tramgwyddir y pleidleis- wyr mor enbydus gan ambell i ddyhiryn ar docyn da fel o'r braidd ma ddym- 1 chwelir yr holl docyn o eisieu doethin- eb i ranu yr efrau oddiwrth y gwenith. Nis gellir osgoi bradwyr gwenog fel Judas yn fynych, ond camgymeriad dyb- ryd yw gosodi cymeriadau llygredig ad- nabyddius ar docyn. Onid yw y ffaith fod y cyfryw ar y tocyn am swydd barchus a chyfrifol'yn lied brawf fod y gweddill o'r tocyn yn foddlon ar y gym- deithas? Nid yw hyn yn un tramigwydld i'r "ffyddloniaid," eithr i wyr annibynol a deallus, y mae bob amser yn peryglu llwyddiant. Ymddengys mai un o angenion gwleid- yddiaeth yin y dyfodol ages yw mwy o'r ysbryd gwerinol mewn penodii ymgels- wyr a llai o'r drwg unbenaethol. Dylai fod penodiad ymgeiswyr am swyddi vn ganlyniad ymgyngoriad helaeth a got- ynion y blaid, nidi yn gynyrch dymun- iad neu orchymyn un neu ddau. Yn ol y cynllun presenol, rhaid yw dymchwel- yd plaid mewn etholiad er mwyn ei chael i ddiarddel run anheilwng. Dylai y diarddeliad gymeryd lie yn y dewis- iad rhagarweiniol.
CRISTION TRIWYNEBOG.
CRISTION TRIWYNEBOG. C,ond,emnia un o bapyrau Cymru waith yr Ymerawdwr William yn myned a'i briod Gristio,nogol ar ymweliad a'r Swl- tan o Twrci, sydd hyd ei en yn aflendid amlwreiciaeth; a chondemnir ef, hefyd, yn ddligon haeddianol. A ydoedd yn ddynol yinddo ei dwyn hi i lys adyn sydd ¡ yn ymianlladu gyda phedair gwraig ac I yn ymdryllythu gyda chanoedd o or- dtderchadon? A oedd yn weddus i'r Ymerodres Gristionogol bwyso ar fraich yr anghenfil amiwreicyddol Mahometan- aidd? A oedd yn anrhydedd neu ogon- I iant i Gwilym ddyfodi j gyffyrddiad a'r fath gymeriad paganaidd ac aflan ei ar. ferion? Ai ni fuasai yn well iddo ymes- gusodi ar ei ran ei hun a rhan ei briod na mwynhau cymdeithas penaeth put- einfa am encyd ? Ond beth ellir ddysgwyl gan ddyn sydid ar hyd ei ioes yn cyfeiliorni gyda phawb a. phobpeth. Gellir dysgwyl un- rhyw ynfydrwydd oddiwrth ddyn sydd yn carcharu genethoclam feirniadu' ei Iun, ac. yn arwain ei wraig o fodd ei galon i awyrgylch ogofau anlladrwydd. N.dl ydym yn gwybod aim neb a'i cura. mewn coegni a rhagrith. Dyma ddyn yn myned i wlad Canaan i agor achos Lutheraidd yno, a chyda Haw yn prynu ffug a.nedd Mair y Forwyn i'w roi i'r Pabyddion gydia'r amcan bydol a llyg- I redig o gael y blaid Rufeinig yn y Reichstag i gefnogi ei gynlluniau mil- wrol a llyngesol.
jY DDINAS A'R WLAD.
Y DDINAS A'R WLAD. Nid oedd etholiad Talaeth New York ond ymrafael am uwchaf- iaeth rhwng y ddinas a'r wlad, rhwng unbenaeth Richard Croker ag annibyniaeth y gweddill o'r dalaeth. Gwnaeth Richard ymgais fawr i ledaenu ei awdurdod allan o'r ddinas i'r wlad, ond penderfynwyd drwy bleidlais ben- dant mai gwell er lies y Dalaeth fydd iddo gyfyngu ei weithrediadau o fewn cyfflniau y Ddinas Fwyedig. Byddai uwchafiaeth y Teyrn gwleidyddol o'r ddinas dros yr holl Dalaeth fel ym- daeniad pla neu haint; ac felly angen- rheMiol fu cyfyngu y clwyf politicaidd y mae Richard a'i ganlynwyr yn dyodd- ef dano, i'w hen drigfan ddinasol. Nid yw y pla bubonaidd. o India na'r dwym- yn felen o Cuba yn ddim o'u cymharu a'r haint politicatdd-y gwahanglwyf melldigedig Crokeraidd sydd yn sicr o andwyo yr holl wlad yn y man y uecii- reuo ymdaenu. Llongyfarchwn Dalaeth New York ar ei llwyddjiant i yru y clwyf yn ei ol i ffiau y ddinas. Onibae purdeb y wlad, buasai llygredd y ddinas wedi buddugoliaethau. Diolch fod rhanau helaeth o'r wlad fawr ardrlierrchog hon yn rhydd o ddylanwadau melldithiol ac andwyol y ddinas, a gobeithiwn y bydd i'r rhanau gwledig ymroi i gadw eu hunain yn ddifrycheulydl oddiwrth y byd Crokeraidd. Y mae dinasoedd fel New York yn berygl i wareiddiad ac i ffurf-lywodraeth onest a gwerinol; ac y mae yn syn fod y fath dorfeydd yn bar- od: i gynorthwyo er eu diraddiad a'u dar- ostyngiad tan draed.
TOLSTOI AR HEDDWCH.
TOLSTOI AR HEDDWCH. Digon hawdd, gydag ychydig bapyr, inc ac ysgrifbin, yw tynu cynlluniau, i wareiddio y byd, oaid y drwg o hyd yw ca,el y byd yn foddlon i'w wareiddio. Y mae y byd, sef plant dynion fel y maent erioed, yn gyndyn o blaid anwareidd- dra ac anniwylliant, a'r dym profedig sydd yn ymdaro a hwy yn unig wyr hyny. Arweinir y dlamcaniaethwyr yn nl i eithafion ynfydrwydd gan ei ham- wybodaeth o'r ffaith syml hon. Seilia y damcaniaethwyr hyn eu dyfeisiadau, gan amlaf, ar eu hymdeimladau eu hun- j ain, gan dybio fod pawb yn teimlo fel hwythau. Pe bae pawb ond ymgadw o'r dafarn, ebe y damcaniaethwr dirwestol, byddai yn ddiweddi ar feddwi ac ymyfed. Pe bae pob dyn, ebe arall, ond talu ei filiau a chadw ei hun yn rhydd o berch- enogi eiddo eraill, byddai yn derfyn ar anonestrwydd a lladrad. Pe bae pob dyn a dynes yn gofaluam ddweyd y gwir, yr holl wir a dim ond y gwir, byddai yn dyfethiad ar anwiredd. Ebe Tolstoi, hefyd, pe bae pawb sydd: yn dwyn arfau yn eu taflu i lawr ac yn nacau ymladd a'u cydrfforddolion, gan anufuddhaiu i'w huwahafiaid yn ben- dant a pharhaus, byddai yn heddwch cyffredinol yn y man. Ond, yr anhaws- I der yw fod meddwi, anonestrwydd!, llad- rad ac ymrafaelio yn ngwaed plant dyn- ion, a chant fwy o fwyniant yn y peth- f au hyny nag yn y rhinweddau gwrthgyf- erbyniol.
MASNAOH AO ARIAN RHYDD.
MASNAOH AO ARIAN RHYDD. Un o ryfeddodau yr etholiad' diweddaf yw y lleoedd isradldol gymerodd pjnaciau masnach rydd a rhyddfathiad, pan yr ystyriom y cyffroodigaeth a'u hamgylch- ynai ychydig flynyddau yn ol! Gallesid tybio wrth y dyddordeb a gymeridi yn- ddynt y pryd hwnw, yn enwedig yr olaf, fod y wladwriaeth yn sylfaenedig ar ar- ian gwyn, gan mai i brindter hwn y pri- odolid o'r braidd bob cam, tlodi, gwen- did a gweenwyn yn mhlith y bobl; ac mewn parthau eang o'r cyfandir hwn, liyncodd pwnc yr arian, fel y gwnaeth gwialen Aaron, yr holl bynciau eraill, ac fel plalid sydd yn dylyn pob awel dlysgeidiaeth wleidyddol, mabwysiadwyd a mynweswyd ydJdamcruIliaerth gan y Democratiaid; er hyny, yn ystod yr eth- oliad diwedidlaf, ameuai. blaenoriaid y blaid effelthiolrwydd hudoliaeth y waedd am arian gwyn, ac yn ddoeth hefyd, oblegid i bob ymddangosiad, bydldai megys gorymdelthio gyda chorff I marw, neu o leiaf, gyda chorff yn y dar- | fodedigaeth. Yn New York, rhoddwyd 1 gorcnymyn i bawb i beidio yngan gair yn nghylch arian, gan y byddai i'r wlad j didweyd "Gadewch i'r meirw gladdlu en I meirw." I Yn nglyn a masnach rydd, hefyd, ni elilywyd son am ei henw, yr hon a fawr- j ygidi mor uchel gan Ddemocratiaid ych- ydig flynyddoeddi yn ol. Yn yr etholiad diweddaf, ni tharawodd i fedidwl neb i j ymofyn a, oedd mtasnach rydd ar dir y byw! Ai nid! buddiol fyddai gofyn "I j ba' ddyben yw yr egwyddorion gwamal hyn sydd heddyw yn holl-bwysig, ae yfory ytn ddiwerth ac yn ddialw am dan- yht?" Y mae egwyddorion Duw a dyn yn bethau parhaus; ffug egwyddor yn unig ellir orymdeithio eleni, a'i chadw yn nghudid y flwyddyin nesaf. Nid llaw- er o werth yw athrawiaeth y gellir ei hongian y tu cefln i'r drws, neu ei phlygu a'i rhoi mewn cist, hyd y delo yn arfer i'w gwisgo. Y mae dam can- iaethau cicaionaidd o'r fath yn rhy frau i adeiladu gwlad arnynt.
CEFNOGI YR ARLYWYDD.
CEFNOGI YR ARLYWYDD. Rhydd foddhadl i bob carwr trefn a llywodraeth dda i feddwl fod yr ethol- iad diweddaf yn gynaliaeth i weinydd- iaeth yr Arlywydid. Byddai buddugol- iaetxi i'r Democratiaid y flwyddyn hon' yn golled diameuol o ddifrifol i'r wlad yn gyffredinol, am y rheswm y byddai yn galondid, i'r Ysbaenwyr, i wingwyr politicaidd o bob math, ac, yn enwedig, i'r blaid sydd ym ddieithriad yn achos cyfyngder a phryder i fasnach a thraf- nidiaeth. Yn nghanol arwyddion o ad- fywiad masnachol a gweithfaol a rhag- olygon am ragorach amser eto yn y diyfodol agos, cawn dorfeydd annystyriol ym barodi i ddymchwelyd y gobeithion cysurlon hyn yn unig yn gwneyd am fwynhad buddugoliaieth tocyn yn rhag- rithio llawer ac yn addaw dim ond all.. ddiyfodiadi dyddiau blin. Byddai uwch- afiaeth y Democratiaid yn anffawd gen- edlaethol, oblegid golygai ddirywiad a daroistyngiad y wlad i'w chyflwr gres- ynus yn amser saith muwch gul a saith tywysen wag Cleveland. Er mad yw y blaid Ddieimocrataidd yn gwne.yd cyffes o hyny, amlwg yw pe y gallai y dymchwelai gynllun milwrol y llywodraeth bresenol, ac yr ymgyfath- rachai ag Ysbaen er mwyn darostwng y blaid ddiogelbdd barhad yr Undeb a, dadblygiad aruthrol y wlad yn ystod y chwarter canrif diweddaf. Y mae y i blaid oedd gyntaf am ryfel ag Ysbaen J yn barod i fod yn gyntaf i amddifadu y wlad o ffrwythau y fuddtugoliaeth. Y mae digon o ddefnyddiau gwrthwyneb- iad yn y blaid Ddemocrataidd i dynu y faner i lawr yn Ynysoedd Philip, fel y gwnaed gynt yn Hawaii. Y mae can, lynwyr Balaam ym baroidl i felldithio gwaith y Gwerinwyr pan y cant y cyfle. Gyda mwyafrif o 19 yn y Senedd a 15 yn Nhy y Cynrychiolwyr, bydd Haw McKinley yn ddyrchafedig hyd y gor- phener ag Ysbaen ac y sicrheir i'r wlad hon werth gwaed ei bechgyn, a rhydd- had pobloedd o diam iau y gorthrymwr.
CYFRANIAD DYLADWY
CYFRANIAD DYLADWY Cwyn gyffredin yw fod aelodau capel- au ae eglwysydd yn ddiystyr iawn o'u dyJedswyddi i gyfranu at achosion cref- vddol. Nid yn mhlith un en wad y ffyna, y gwyn hon, eithr yn mhlith yr holl en- I wadau, ac hyd yn mod yn mhlith y Pab- yddion sydd yn meddu y fath awdurdod I ar eu canlynwyr. Fel rheol gyffredin, ceir yr eglwysyddi Pabyddol yn trethu. a tholll yr aelodau a'r gwrandawyr yn dra manwl, ond, wedi'r oil, cwynir fod yno rai anturiamt beidio talu, gan herio llid, yr offeiriadon. Gwir yw fod gras Duw i'w gael heb arian ac heb werth, ond er hyny, dyledswydd pawb sydd yn mynychu lleoedd o addoliad yw cyfranu rhyw. gymaint tuag at gyfarfod a threul- iau gweinidogaeth, tan, goleui ac am gylchiadau eraill angenrheidiol i gyn aliaeth crefydd. Y mae capelau ac eglwysydld yn dci- weddar yn ceisio dyfeisio moddion a chynlluniau i goffau eudyledswydd i'r eyfryw grefyddwyr anghyfranol heb ddweyd wrth bob un, fel y dywedodid; Nathan wrth Dafydd, "Ti yw y dyn." Ni thrinir yr un dosbarth o blant dyn- ion. gyda y fath ystyriaeth garedig. Yn yr amser gJrnt, ymddibynid yn hollol ar effeithiolrwydd cymelliadau cy- hoeddus o'r pwlpud a'r sedd fawr, ond yn ddiweddar cyhoeddir llyfrau byehain yn cynwys enwau pawb a'u eyfraniadaTh ar gyfer pob un, gan dybio y byddi i rai o honynt gywilyddio wrth fyehander eu rhoddion. Mewn rhai o'r llyfrynau hyn, er sylw manylach, gosodirser ar gyfer enwau y eyfryw a gyframant ychydig iawn neu ddim, a'r gwyn yw nad yw hyd yn nod y ffordd gyfeiriadol hon yn effeithiol. Mewn ambell i eglwys, gel- wir enwau yr aelodau yn fisol, fel hyn: Hwn a hwn, dim; hon a hon, dim, &c.s &c., ond nid yw hyd yn nod y ffordd ddididlerbynwynieb yna yn tycio. Ceir rhai na sydd byth yn tywyllu drws y dafarn heb rol pum, deg sent, cwarter neu, ddoler ameu cysur yn mynychu y capel ami flwyddyn heb, gyfranu nemawr ddim!
Y PEaHOD GWREIDDIOL.
Y PEaHOD GWREIDDIOL. Ffyna. cryn wrthdarawiad rhwng duw- inyddiaeth a gwyddoniaeth parth per- thynas a chysylltiad drwg a'r natur I ddlynol. Nid ydynt yn gwahaniaethu nemawr ddim yn nghylch y ffaith o fod- olaeth pechod, eithr llawer yn nghylch ei gychwymiad a'i ddadblygiad. Dadl I diuwinyddiaeth yw i'r natur ddynol ym- j lygru ac ymdldirywio mewn canlyniad i annufudd-dod Adda; ac, felly, pan y canfyddir amlygmdau o ddrwg mewn plant, priodolir hyny i'r pechod gwreid d- iol. Gwahaniaetha duwimydidlon, hefyd, yn fawr yn nghylch hyn, gan y ceir dosbarth yn coelio fod y natur blentyn- aidd anymddadblyg'edig yn llwyr lyg- redig ac yn gollfiarnedig ar gyfrif ei pherthynas cyfamodol ag Adda. Arwein- iodd hyn i olygiardlau ar fedydd cyfat- ebol i'r athrawiaeth, pan y dysgid fod dyfod i gyfamod a Duw mewn bedydd (hyd yn nod heb broffes yn y plant) yn dileu canlyniadau y pechod gwreidldibl. Coelia. yr eglwys Babydidol hyn heddyw, a rheolir eglwysi eraill gan relyw cryf o hqni. A rhai mor bell a chyfrif bedydd yn llawer pwysicach na phurdeb fel teler achubiaeth. Yn amser y Diwygiad Protestanaidd, cododidl plaid dduwinyddol yn addysgu fod plant wrth natur fel y papyr gwyn, yn hollol ddibechod, eithr y dysgant bechu yn nghwmni rhai hynach, wedi y tyfoot i fyny. Yn ol yr athrawiaeth hon, y mae yr holl blant, anfedyddiedig fel bedyddiedig, yn gadwedig. Daw gwyddoniaeth yn mlaen, y dydd- iau hyn, gan draethu ei golygiadau hith- au ar y matei1. Wedi ymchwiliad man- wl a gofalus, tystia fod plant dynion yn didlarostymgedig i natur fel pob creadur arall. Ca fod y drwg hwnw a gyfrifir yn bechod mewn dym yn nodweddu byw- yd yr anifa.il, hefyd, ac mai drwy ym- wybyddiaeth fo,es,oil y dyn y daw i'w j gyfrif yn bechod. Y mae y dirwg yn yr anian anifeilaidd, ond yn yr ymdeim- lad dynol y dechrenilr gyrfa drwg fel i. "pechod." Ymwybyddiad ysbryd deallol dyn o dldrwg natur yw pechod. j Cawn fod gwyddonwyr, ac yn eu plith i y Proff. Lombroso, yn talu sylw gofalus a manwl i natur plant, ac ym cael fod j gwreiddyn y drwg ynddynt, a'i fod yn dechreu blaendarddu o'r braidd! yn y j man y'u ganer, ac felly, cyfeiliornad seiliedig ar anwybodaeth yw y goel eu bod fel papyr gwyn. Nis gellir dechreu I ym rhy fuan i ddysgu a dysgyblu > y rhai ) bychain, oblegid y maent yn deall yn | hir cyn ein bod ni yn dleall eu bod yn J deall.
YR ETlIOLIAll.
YR ETlIOLIAll. Dedfrycl y Wlad o Blaid JfficKinley a'i^ei,l h~«V Gydgyngorfa yn Weria ol—!>j huuvad Mawr Tammany yn New York. C'yhioeddftvyd dedfryd' y wlad ar lywo raeth yr Arlywydd McKinley dyds Mawrth, Ta,chwedd 8, a chawn ei bod gymeradwyad a chefnogiad o wasan aeth ac egwyddioriosn y weinyddia^ Werinol. Cyfarfuwyd ag ychydig wrth- wynebiad a siomedigaeth o rai cyfeir- iadau, yr hyn ellid ddysgwyl ar adeg trai, fel arfer, eto cawn fod buddugol iaetliau y blaid, Werinol yn galomogP'^ ac addawant fuddugoliaeth genedlaetb ogoneddusacb. yn 1900. Gorchfygwy^ mhob talaeth o'r braidd Ie y damgosodd y gelyn e1 wymeb a'i egwy ddlor, New York yn unig, dan fwgwd an' mhroffes, y bu y Democratiaid tiff91 llwycldianns. Hysbysir gan y Cadeiryd^ Babcoek, o'r pwyllgor CydgyBg°r^a0 Gwerinol, yn ol yr aclroddiaidau diwedd- af, y bydd y mwyafrif Gwerinol yQ y Cynrychiolwyr yn Yvashington y11 1 ac yn y Senedd yn 19, a digon posibl yW y codir y mwyafrif yn y Ty i 19. FellY, bydd sicrwydd am barhad! gwaith a gv, oanaeth y weinyddiaeth bresemol. In New York y bu y gwrthdaraWi^ mwyaf. Aeth y trefydd, yn nghyd d dims1 New York, yn gryf yn erbyn. 00 ei il.wyd, y fuddugoliaeth i Roosever a r Tocyn Gwerinol Talaethol, gydj mwyafrif bychan, trwy bleidlais y rliw au gwledig. Ataliwyd I rhag ymledu ar hyd y Dalaeth. 33Ydd mwyafrif Gwerinol digonol yn y Ddedo1" wrfa i sicrhau etholiad Seneddwr Gwer- inol yn ol^nydd i Edward! Murphy. BS y Gwerimwyr j-n llwyddianus yn, sylvania, yn ngwyneb yr ymosodiaG mwyaf pybyr a phenderfynol o dui ? Democratiaid a phlaid yr Wythfed G°r chymyn. Etholwyd y Llywodraeth^1" Stone a'r holl docyn Talaethol mwyafrif o tua 122,000, a sicrheir edldiwr Gwerinol. Etholwyd Connell If Gydgyngorfa dros Sir Lackawamna lluosrif o 1571, a bu yr holl docyn yn Scranton yn fuddugoliaethus. '!HI' oedd Iluosrif Dr. J. J. Roberts arO, drengholydd yn 1,858. Gofidir am orch" fygiad yr Anrh. Morgan B. WilliamS y11 Sir Luzerne, yn enwedig gan iddo rodd1 boddlonrwydd da yn y Gydgyngorfa ddi- weddaf. —»^^wnaeth Ohio yn well na'r dysgwyl" iad, a rhagorodd arni ei hun am. y deu- ddeg mlynedd diweddaf. Er mai adelg trai ydoedd, anghofiodd Ohio hyny, gBJ11 lifo i fyny fel pe bae yn dymor IlailW- Cafodd y tocyn Ta,laethol 60,000 o W- afrif, ac etholwyd 15 cynrychiolydd. 130 chwyldroad hefyd yn Kansas, lie yr etl1- olwyd y tocyn Gwerinol Talaethol gydtt mwyafrif o 20,000; cafwyd mwyafrif Ta y Ddeddfwrfa ac etholwyd 7 o'r S cyB" rychiolydidi. Ysgubwyd Poblydkliaeth ef braidd yn hollol allan o'r Dalaeth. y rhanau gwledig, arferent fod yn leoedd Poblyddiaeth, yn Werinol. Y'Jl Massachusetts, etholwyd Wolcott, Gwer- inwr, gyda mwyafrif o dros 80,000; enillodd y Democratiaid ychydig sedd^t' yTiy Ddeddfwrfa. Etholwyd y tocyIl Talaethol Y11 Wisconsiin gyda y mwYaf" rif o rhwng 15,000 a 30,000, a bydd f Ddeddfwrfa a mwyafrif da, ac -etholir Seneddwr Cemedla,ethol yn lie Mitchell Aeth New Jersey yn Werinol gydø. mwyafrif da, a, bydd dau dy y Ddeddf' wrfa yn Werinol, gyda mwyafrif o 20 bleidlais unol. Dangosodd California* ei hun yn fwy Gwerinol nag erioed ac1 eth" olwyd y tocyn Talaethol gydag eithriad neu ddau. Hawlia y Gwerinwyr yr holl gynrychiolwyr yn nghyd a'r Ddeddfwrfa. Gwnaeth Indiana, hefyd. yn dda, gan ethol y tocym gyda mwyaf* rif o 15,000 a sicrhau Seneddwr Gwerin- ol, yn nghyd a naw Cymrychiolydd. Daw y newydd am fuddugoliaethau hefyd yn y Talaethau canlynol: Wash- ington, Wyoming, North Dakota, Con- necticut, Delaware, New Hampshir.e, Michigan, Iowa, Rhode Island, West Virginia a Minnesota. Aeth tiriogaeth Oklahoma yn Werinol; cIoffodd Ne- bra,ska rhwng dau feddwl; aeth Arkan- sas yn hollol gydra.'r a.rian; ac Utah yn Didiemoerataidd. Q bob cyfeiriad, oddi- gerth o'r De a Thalaeth New York daeth cymeradwyaeth ddigamsyniol i weinydd- iaeth yr Arlywydd. Gall y llywodraeth ymfocMleni ar y ffaith fod teimlad goreu a mwyaf gwareiddiol y Talaethau ,c'i phlaid. Dengys yr ethoiiadlau fod y digalon- did a'r teimlad drwg a achoswyd gan ganlymiadau gresynus gweinyddia-d Cleveland (a esgorodd ar bwnc yr ar- ian) wedi diflanu o'r braidd yn hollol, a bydd parhad gwaith da y weinydd- iaeth Werinol yn nghyd a'r bendithion tymorol a meddyliol sydd yn ei dylyn, yn sicr o wneyd y blaid Werinol yn 1900 yn gryfach nag erioed. Yn yr eth- olgyrch diweddaf, nid oedd; pynciau Democrataididyn cael nemafar sylw, sef masnach rydd acarian rhydd, a thebyg yn etholiad 1900 na fydd son am dain- ynt. Yn New York mi ynganwyd dim am danynt, ac mewn ta,laathau. eraill. ymladdai y Democratiaid. am; eu tocyn- au noeth heb ddadga;niad. o egwyddor yn nglyn a hwynt. Ymddengys na fydd ganddynt fanlawr i sefyll arno yn 19t0. Yn y cyfanswm cafodd y weinyddiaeth fuddHgoliaeth ogomeddus o galonog. -»* »
CANAL DOVER, OHIO.
CANAL DOVER, OHIO. Oanal Dover, Tach. 7.—Mae yn dda genym ddweyd fodl pethau yn weithfaol fel yn adfywio ychydig yma. Mae un o'r ddwy Finishing Mills a'r Puddling Mill wedi cychwyn, ond dim gobaith am gychwyn y llall. Mae y melinau sheets a'r*a,lcan yn myned gyda chysondeb er's cryn amser, ac yn achos i dynu llawer o Gymry i'r lie; a thebyg iawn y daw pethau yn well yma gydag amser. Prydnawn dydd Sul, Tachwedd 30ain, yn ei dy ei hun, gan y Parch. S. S, Kauffman, unwyd mewn glan briodae John Evans, Walnut St., a Miss Grace Bryan, Third, St. Mae y priodfab yn fab i John E. Evans a'i briod, Niles, O. Bu hyn yn achos i dynu yr hen frawd i dalu ymweliadt a'r lie, a da iawn oedd genym ei weled yn edrych cystal yn nawnddydd ei ddyddiau.—D. Llewelyn- —■» »,»
[No title]
Yr oedd G. T. Matthews, y te-fasnach- ydd, ar ymweliad a'i gwsmieriaid yn Philadelphia, Pittsburg, &c., Pa., yr wythnos ddiweddaf. •
[No title]
Gresynus lawn yw hanes y cythrwfi yn Wilmington, Gogledd Carolina, a. achoswyd gan nifer o benboethiaid gwyniom yn dinystrio gwasg a. swyddfa. newyddiadur negroaidd am gyhoeddiad rhyw sylwadau anfEafriol. Bydd impic gwareiddiad ar rai o'r Talaethau De- heuol yn gaffaeliad maw.
[No title]
Er fod Syr Herbert Kitchener yn Wydidel o enedigaeth, dywedir mai Sais yw o waedoliaeth, a myn y Saeson mai i'w waedoliaeth ac nid i'w Wyddeliaeth y dylid priodoli ei wroniaeth a'i dde- heurwydd milwrol. Y mae genym ni y Cymry gryn fantais ax y cenedloedd er- aili, am y rheswm nad yw yn ddichon- adwY, ameu am fynyd waedoliaeth a Chymreigyddiaeth John Jones neu'Da- fydd Dafys.