Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
FWY OND NYNI "YDI'B BOBL?"
FWY OND NYNI "YDI'B BOBL?" HYDE PARK, PA.—Da oedd genyf weled eich nodyn yu y DRYCII am yr 8fed cyf., yn honi gwaedoliaeth Gymreig o du ei fam i'r diweddar Arglwydd Lytton. Bum lawer gwaith yn ymlioli a mi fy Run am y rhes- wm dros y sylw arbenig a dalodd Argl vydd Lytton i Gymry a hanesyddiaeth Gymreig. Ceir cyfeiriadau caredig atynt yn britho ei weithiau. Cyfansoddodd un o'i brif weith- iau barddonol a'i lygaid arnynt. Enw mwyaf adnabyddus ei fab, cyn marwolaeth ei dad, ac yn awr hefyd o ran hyny, oedd ac yw Owain Meredydd, enw liollol Gym- reigaidd. Yr wyf yn awr yn darllen un o weithiau Arglwydd Lytton, sef "Harold, the last of the Saxon Kings," ac y mae yr anrhydedd a'r parch, gyda'r hwn y siarada am y Cymry, yr edmygedd didwyll a goledda am wroldeb diguro eu blaenoriaid, y wybodaeth drylwyr o hanesyddiaeth Cymru a arddengys, yn nghyda'i amcan canmoladwy o osod allan y gwir am danom yn teilyngu cymeradwyaeth pob Cymro o fewn y byd. Y gwir am danom ni y pryd liyny, fel yn awr yw, mai achos ein haf- lwyddiant ni oedd-nid diffyg gwroldeb, beiddgarwch, cryfder, neu fedr digonol; ond holl bresenoldeb yr vsbryd cenfigen- llyd, rhagfarnllyd a bradwrus sydd wedi ei argraffu a "phin o haiarn ac a plilvvm," ar ein hanesyddiaeth. Feallai wedi'r holl ddarostwng a fu ar ein cyndadau, fod y cyfan er y daioni a'r lies goreu i'r byd yn gyffredinol. ac i ninau Gymry yr oes br-s- enol yn ileillduol. Pwy wyr y fath greadur- iaid fuasem heddyw, oni buasai ein gorch- fygiad? Ar y terfyn, teimlaf yn ddiolchgar i chwi, Mr. Gol., am y nodyn y cyfeiriaf ato uchod, o herwydd arbeda lawer o drafferth, a bydd yn ffynonell gref o gysur i mi wrth deithio anialwch dyrus y byd yma i ymholi yn barhaus ar ol pob trallod a phoen. "Pwy ond y ni ydi'r bobl," pan gawn ni chware'teg?-B-b.
AWGEYM I YSGGLION SUL.
AWGEYM I YSGGLION SUL. UTICA, N. Y.—Y mae profiad yn ein dysgu nad yw daioni penaf yr Ysgol Sul yn deilliaw o anturiaethau ei gorucliwyl- wyr galluog, o adrodd hen chwedlau cell- weirus, o ganu Yankee Doodle ar eiriau cys- egredig, neu eiriau disylwedd ar donau di- werth n'ac o adrodd o'r cof ranau helaeth o'r Beibl, neu o unrliyw un o'r ystrywiau aneirif a arferir i enill dyddordeb y plant a chynyrfu eu huchelgais. Ond deillia yn hytrach o ddylanwad personol yr athrawon, y rhai ddylent ymdrechu i enill serch eu hysgolheigion, a thrwy nerth eu cariad a'u hesiampl i'w harwain i fabwysiadu bywyd Cristionogol. Nid oes achos beio y plant am ofyn excitement a difyrwch, o herwydd dyna y moddion a ddefnyddiwyd er eu cael i'r ysgol, a'u cadw ynddi. Mae yr argraff ar feddyliau plant rhai ysgolion fod eu pres- enoldeb yn ifafr i'r goruchwyliwr a'r athrawon, ac os na chant bic-nics, Christ- mas presents, a phethau o'r fath i'w difyru, bygythiant adael yr ysgol. Ond y mae y pethau hyn yn hollol aneffeithiol i gyn- yrchu unrhyw argraff grefyddol arnynt. — 11 y Yr unig amcan yr ymgeisir ato drwy y canu, yr adrodd a'r darllen, yw eu difyru, a tlirwy hyny llwyddir i feithrin yr arcli- waeth sydd mor naturiol yn eu natur at ddifyrwch ac excitement, a hyny yn u. ig, ac esgeulusir y cyfleusdra i wneuthur ar- graffiadau dwfn a da ar eu meddyliau i fod yn seiliau cymeriadau da. Nid yw y plant o ganlyniad yn cael eu parotoi yn nechreu- ad eu ffordd i wrthwynebu y lluaws o demtasiynau a'u cyferfydd. Yn ol fy marn i, nid yw llawer o'r peirian-waith a elwir yn Ysgol Sul, ond yr humbug mwyaf.— Maent wedi gwneyd yr hyn sydd yn an- rhaethol syml yn ddyrys; ac ymdrechant gyflawni trwy weithredoedd celfyddydol a dyfeisiadau cywrain, yr hyn nas gellir eu cyflawni ond drwy y cymelliadau cariad- lawn hyny ydynt yn alluog i gyraedd eu calonau. Dangoser i'r plant ein bod yn eu caru yn anwyl, ac argraffer egwyddorion etiraidd Cristionogaeth ar eu meddyliau; yna gallwn fforddio taflu ymaith yr artific- ials.- Llygadog.
CYMRY BOREUOL AMERICA.
CYMRY BOREUOL AMERICA. FONEDDIGION Y DRYCH:—Wrth ddarllen hanes boreuol America, ac wrth sylwi ar enwau y gwroniaid hyny fu yn ymladd yn erbyn braidd bob math o anhawsderau— oddiwrth anwariaid creulon ac anifeiliaid rheibus y goedwig-pan wrth y gwaith o dori yr anialwch yn ardd baradwysaidd, ac adeiladu dinasoedd hardd ar hyd glanau mor y Werydd; 'a phan yn araf symud tua'r gorllewin, gan hau, nid yn unig had- au gwareiddiad, ond hefyd hadau annibyn- iaeth y Talaethau Unedig, yn mhlith enwau y gwroniaid hyny yr ydym yn canfod Haw- er o enwau sydd yn swnio yn bur Gvmro- aidd. Tybed mai Cymry oeddynt? Wel, ie Cymry oedd rhai o honynt beth bynag. Paham ynte, na byddai i ni fel Cymry ym- ffrostio mwy yn eu gwasanaeth tuag at ein gwlad fabwysiedig ? Atebed ein llenorion gwladgarol sydd yn gwybod hanes yr hen Dderwyddon yn well na Julius Caesar. Paham naroddwch i ni lianes y gwroniaid yn iaith ein mam, yn lie ymddiried y gwaith i ryw Caesar gelyniaethus eto; ond feallai y bydd rhai o honoch yn barod i ddweyd nad Cymry oeddynt, mai Ellmyn- iaid neu Wyddelod oeddynt, er fod enwau Cymreig arnynt. Wel, Cymro yn sicr oedd Thomas Lloyd, yr hwn a anwyd yn Nghymru; ymunodd a'r Cweceriaid (Quak- ers), a daeth i America gyda William Penn. Bu yn Is-swyddog Talaeth Pennsylvania, ac yn Llywydd y Colonial Council. Bu farw yn y flwyddyn 1694. Un arall oedd John Evans, yr hwn a ymfudodd i'r wlad hon; bu yn Is-swyddog Penna., yn y flwydd- yn 1703. Ai Cymro oedd Dafydd Jones, yr hwn fu yn farnwr yn ucliaf-lys New York, oddeutu y flwyddyn 1768? Pwy oedd John Cadwaladr, yr hwn oedd yn Gadfridog yn myddin America yn amser Rhyfel y Cliwyldroad? Ai nid Cymro eto oedd William Jones, Llywodraethwr Rhode Island? a lluaws o rai eraill allem eu hen- wi? Mae y Parch. D. W. Morris yn ei ys- grif—(gwel y DRYCH, Mawrth 4, 1875), ar "Mordaith Abel Morgan" yn dweyd fel y canlyn: Stephens, Merthyr, yn y Traethodydd mai Cymry oedd agos bawb o swyddogion America yn y blyn- yddoedd hyny;" sef oddeutu y flwyddyn 1720, yr oedd swyddogion America bron i gyd yn Gymry a llawer o honom heb wy- bod hyd yn nod ein hunain! A ydyw ein cenedlgarwch wedi marw? Neu a adaw- odd pob Cymro a ymfudodd ei genedlgar- wch ar ei ol arfryniau Cymru? Paham na chymer rhai o'n lluaws llenorion at y gwaith o gasglu yn nghyd enwau a gweithredoedd ein hynafiaid Cymreig yn America? Pa Ie y mae y Cymro cenedlgarol, Ap P. A. Mon ? Yr eiddoch-Ap Thomas.
ROBERT AB GWILYM DDU.
ROBERT AB GWILYM DDU. YSGRIFEKAI gohebydd yn ddiweddar i Llais y Wlad fel y canlyn: Ychydig yn ol, digwyddodd i mi daro wrth gopi o'r North Wales Gazette, a ddyddiwyd yn mis Tach- wedd, 1819. Ynddo gwelais y penillion canlynol o waith hen gymydog i mi gynt, sef R. Ap. Gwilym Ddu. Ni chanfyddaf mo honynt yn y casgliad o'i waith a elwir "Gardd Eifion;'n gan hyny, anturiaf eu hanfon atoch i'w hargraffu yn mhlith gweithiau anghyhoeddedig ein prif feirdd ymadawedig.-E. "LIEDDYW AC EFORY." Er geni heddyw ddyn i'r byd, Mewn bywyd i anadlu, Rhaid myn'd i'r bedd o'r man y bo, y At feirwon, eto 'fory. A dyn, fel gwyw lysieuyn gwan, Mor fuan mac,'n diflanu, Ymddengys heddyw'n deg ei wedd, Ac yn y bedd efory. Os yw dy foreu'n hyfryd iawn, Hi ddaw'n brydnawn er hyny; O! f'enaid anwyl, meddwl di, Ymh'le y byddi 'fory. Pe meddwn barch a moddion byd, A phawb i'm cyd-ddercliafu, Ac eistedd heddyw wrth y wledd, Rhaid myn'd i'r bedd efory. Yn noeth y daethom, bawb i'r byd, Heb degwch pryd na gallu, Y modd y daethom, felly'r awn, A'n lie adawn efory. Ein doe, aeth heibio fel ffrwd gref, Ni welwn ef ond hyny; Ansicr hefyd ym ar daitli, I Y gwelwn chwaith efvry. Mae eto dranoeth mawr i ddod, Anwybod i'w wynebu: Gwae! gwae! fydd ini golli'r gamp, Os metha lamp efory! Cais ymdrech heddyw ymhlaid ffydd; Mae'n dydd yn min diweddu; Rhy hwyr, ond odid, er y daith, Fydd dechreu'r gwaith efory. Mae heddyw bleidiau yn ein plith, A rhai yn rhith broffesu; Y rhagor mawr rhwng gau a gwir, Yn fyr a welir 'fory. Y rhai sydd heddyw yn eu hoes, Dan loes yn dilyn Iesu, Yn ddiwael dorf, ar ddelw Duw, Hwy fyddant fyw efory. Er griddfan heddyw dan y baich, A dynol fraicli yn pallu;. Nid yw ond byr, dymhestlog ddydd, Tragwyddol fydd efory! ROBERT WILLIAMS. Bettws Fawr, Eiflony dd.
F. T. EVANS A'R BEDYDDWYR.
F. T. EVANS A'R BEDYDDWYR. MoRRIS RUN, PA.—Yr wyf yn dymuno dweyd gair bach wrth y Parch. F. T. Evans, Blossbu'rgh. Ni wyddwn, Mr. Evans, pan ysgrifenais y pwt Ilythyr hwnw i'r DRYCH mai chwi oedd "Sylwedydd!" Gobeithio y deuwch yn sylwedydd da. Lied anmherffaith ydynt hyd yn hyn; ac ymddengys eich bod yn hoff o bigo eraill, ond yn teimlo yn ddwys pan eich pigir yn ol. Dylasech fod yn gwybod fod gan y B. deimlad yn ogystal a'r A., ac fod enwad sydd yn rhifo 2,700,000 yn rhy luosog i ddioddef yn hir heb fesur cledd a'r gelyn. Mae fy ngosodiad o barthed diddymiad y B., pe gallech, yn aros. Nid yw eich rheswm llochesu amryw o'r B. yn ddigonol. O ran dim ar a Wn i, lloches- wyd hwynt genycli er mwyn eu harian, neu er mwyn diddymu eglwys y B. yn y lie. Sicr yw na locheswyd hwynt er adeiladu y B. Mae hyn yn eglur i'r gwanaf ei amgyff- rediad. Ond paham y soniwch am hyn wrthyf fi? Oni wyddoch nad oeddwn yn M. R. yr amser y cyfeiriwch ato? Dywed- wch fod "gwirionedd" yn rhoddi "bywyd helaethach" -bob amser yn ddymunol. Y mae weithiau yn beryglus. Rhydd haul y gwanwyn "fywyd helaethach" i seirff, ond deuantyn fwy enbyd. Effeithia'r gwirion- edd felly ar rai dynion. Verbum sat sapienti. Mae yr eglurhad (?) a roddwch o'ch haer- iad disail' "Felly y maent mewn perthynas i'r cymdeithasau eraill," yn deilwng o Don Quixote. Edryched y darllenydd i'r DRYCII am Chwef. 18, 1875, a barned drosto ei ilun. Mae gwyneb No. 1 a No. 2 yn dra gwa- hanol. Mae un yn llawn ddigon i ddyn o'ch maintioli. Mae y "pethau difudd" wedi eich blino! Cymeraf drugaredd arnoch. Addysgu tra- ddodiadau paganaidd i'r bobl, camesbonio ysgrythyrau, gwneyd gorchymynion Iesu o ddim pwys, llusgo i'r eglwys arferiad paganaidd-bedydd (?) babanod-ydynt y "pethau difudd" y cyfeiriais atynt. Dylas- ech fod yn gwybod fy mod yn arfer gweddi a dirwest. Pregethwch ddirwest i'ch eglwys. Mae yn dra thebyg, Mr. E., "na cheir diwygiad o du y B. tra y byddo y bedydd (genych chwi) yn ddrws i'r eg- lwys yn lie Crist. Byddai mor briodol i feddwyn agored bregethu dirwest ag i chwi bregethu diwygiad wrth y B. Mynwch ddiwygiad yn mhlith eich hunain yn gyntaf. Mynwch, fel y B., Grist yn ol y Testament Newydd, yn ddrws i'r eglwys. Ni fedyddia'r B. neb ond y rhai a broffes- ant edifeirwch a chred yn Nghrist. Ni wnant yn enw y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glan, ond yr hyn a orchymynwyd gan Dduw. A ydych chwi yn gwneyd felly? Crist yn gyntaf a bedydd wed'yn,-Cf¿arles Jones.
TREIAL BEECHER A'I FOES-WERS.
TREIAL BEECHER A'I FOES-WERS. CHURCH HILL, O.-Dywedal Gen. Tracy fod athrylith Beecher wedi gwefreiddio yr anialwch; ond y peth sydd eisiau arnom ei wybod yw, pa mor bell y darfu iddo wef- reiddio teimladau gwragedd Brooklyn. Pan gyferfydd gwyr a gwragedd ar unrliyw achlysur cyfcillgar, neu fasnachol, dylent goflo y pellder gweddus a ddylai fodoli rhwng y rhywiau, a'r perygl sydd mewn edrychiadau, geiriau, a gweithredoedd o nodwedd garwriaetliol. Ni ddylasai Mrs. Moulton gusanu Mr. Beecher cyn iddo gymeryd y powdwr hwnw, ac i hwnw "weithio" (to asperate)ac i Mr Beecher gael ei osod yn ei arch; dyna yr unig fan y mae yn ddiogel hyd yn nod i "Section of the day of judgement" ar ddull dynes i gusanu un gwr priod allan o fil. Dichon fod Mrs. Moulton yn ddynes ddiwair; ond yr oedd ei gweithredoedd plentynaidd yn dangos yn mha fath awyrgylch yr oedd y rhan fwyaf o'r ddwy blaid yn byw. Gwelwn y modd y darfu iddynt lithro bron yn ddiar- wybod iddynt eu hunain o lwybr diweir- deb i ffordd lydan drygioni. Dylai hyn symbylu pleidwyr rhinwedd i ddihuno a gwylio yr amddiffynfeydd allanol. Nid yw yr hil ddynol wrth natur yn parchu di- weirdeb, ond yn hollol i'r gwrthwyneb, ac nis gellir ei gael i ymarferiad ond trwy oes- au o laf ur a glofal parhaus; mae yn rhyw- beth i'w feddu a'i gadw trwy ras a gwyl- iadwriaeth, a dylai y rhai hyny ydynt yn agor y dorau i'r gelyn ddyfod i mewn ac achosi eraill i syrthio gael eu dal yn gyf- rifol a'u cosbi-Tom Ap Davies.
[No title]
ARNOT, PA., Ebrill 15—Mae y cymdeith- asau crefyddol, o bob exiwad ac iaith, yn llafurus iawn yma: ac nid yw y Cymry ar ol. Yr wythnos ddiweddaf bu ganddynt gyrddau bob nos oddigerth nos Sadwrn— dau frawd yn myned i weddi, a'r Parch. Charles Jones, M. A., Morris Run, yn pregethu Crist, gyda dylanwad a nerth, yn ddigonol geidwad i bechadur. Boreu Sab- both buwyd yn coffau am farwolaeth Crist. Ysgol am ddau o'r gloch. Yn yr hwyr pregeth Saesonaeg gan Mr. Jones, i lonaid capel o bobl o wahanol genedloedd. Ben- dithiodd L)uw ymdrech a llafur ei bobl yn nychweliad afradloniaid. Disgwyliwn Mr. Jones yma yn fuan i draddodi darlith ar seryddiaeth. Y mae'r Temlwyr Da yn gweithio yn egniol er sobreiddio y bobl, ac yn llewyrchus iawn. Nos Sadwrn diweddaf daeth John Ber- wyn Davies, J. H. John a D. M. Evans, tri chyn-lywydd o Gyfrinfa Caradog ab Bran, Morris Run, yma i'n corffori yn Gyfrinfa reolaidd o Urdd y Gwir Iforiaid American- aidd. Aed trwy y gwaith o'n corffori yn ol y drefn arferol, o dan yr enw Cyfrinfa Eidiol larll, Adran C., Rhif 38. Yr oedd 33 yn bresenol, a swyddogwyd y rhai can- lynol i'r prif swyddi: Uwch-lywydd, D. T. Evans; Is-lywydd, David Harris; Ysgrif- enydd, H. Lewis; Trysorydd, Jacob G. Thomas. Wedi i'r swyddogion gymeryd eu heisteddleoedd, cafwyd anerchiadau ar- eithyddol gan John H. John, William Har- ris, David M. Evans, a John B. Davies, Morris Run; David Harris, Jacob G. Tho- mas, Jacob L. Jones, a D. Morris, Arnot. Canodd y prif feirdd-David M. Evans, J. Berwyn Davies a Jenkin John, nes crynu'r adeilad ar ei sylfeini. Wedi talu diolch- garwch i'r Swyddogion o Morris Run, ym- adawyd wedi treulio cyfarfod wrth ein bodd. Gellir dweyd am y Gyfrinfa hon, ei bod wedi ei geni mewn amser cyfyng iawn pa fodd bynag y try allan-Herbert Lewis.
[No title]
—Mae darganfyddiad pwysig i liynaf- iaethwyr Aiphtaidd wedi ei wneyd yn ddi- weddar yn Port Said. Deuwyd o hyd i faen coffadwriaethol i Thotmes III, yn ystod teyrnasiad yr hwn (1491 c. c.), y ber- nir i'r Israeliaid ymadael or Aipht. Mae enwau dros 400 o leoedd, oil yn adnabydd- us a chan mwyaf yn Arabia, Armenia, Nubia, a glanau Mor y Canoldir, wedi eu cerfio arni.
AR BRIODAS
AR BRIODAS Mr. Richard D. Jones a Miss Nellie A. Thomas, Utica, N. Jr. Ni fu gwell dau o fewn y wlad Y. harddu cylch priodas; Croesawaf hwynt mewn odlig fad I uchaf fyd cymdeithas; Dyu ieuanc hawddgar, cyflym, lion, A gweitligar ydyw Dickie; Merch ieuanc brydferth bur el bron, A dawnus ydyw Nellie. 'Roedd givrid gwyleidd-dra 'n harddu gwedd Y fun ar awr yr undeb; A'i fynwes yntau'n llawn o hedd Gan effaith ei hanwyldeb; Calonau'r ddati fu'n bir fwynhau Eu hundeb pur, serchiadol; Ond heddyw, maent yn gyfiaun ddau Mewn undeb priodasol. Cydrodio mwy tra pery oes 0 fewn cylch aur y fodrwy; Cyd-deimlo serch, heb unrliyw loes, 0 fron i fron yn tramwy; Cyd-ddwyn pob baich o bryd i bryd, Cyd-sefyll pob peryglen, Cyd-ddeall croesau chwerwon byd, Cyd-wel'd y cudd-fendithion. Haul Rhinwedd fo'n tywynu llawn Oleuni ar en llwybran; A'i wres-belydrau fore a nawn, Gynheso eu calonau, Nes gwneyd eu bywyd megis ha', Yn gyflawn o arddunedd- A'u hoes yn llawn gweithredoedd da, A'u diwedd yn dangnefedd. CYFAILL.
AR FARWOLAETH JIRS. SARAH…
AR FARWOLAETH JIRS. SARAH BREESE. O! Sarah Breese, awr ei braint-ddynesodd Ca'dd noswyl cyn henaint; Mor gynar i breswylfa'r saint, Aeth o gyraedd ei theg geraint. o fywydol ofidiau-addfedodd I fyd o fwynderau; Yno mewn hwyl mae'n mwynhau Dylanwad tadol wenau. Mae anwyliaid mewn alaeth-ar ei hoi Yr wylant gan hiraeth; Ei cholli'n wir, areholl wnaeth I degweh y gym'dogaeth. Mawr gwyn, mor o gyni—sy' i'r eglwys, Oer wagle wnaed ynddi; O forwyn deg difreiniwyd hi, Yr hon oedd yn goron iddi. Ataliwyd mwyniant helaeth—ceraint hoff, Curiant hwy mewn hiracth, Dygodd y brofedigaeth Dan gur, ei phriod yn gaeth. Ei phlant hoff a wylant am-ei gweled, Mewn galar a gwasgfa Maent am buraf, fwynaf fam, Oedd dyner mewn hedd dinam. Tra mae olion trwm alaeth—yma'n wir, Mwynhau pur gwmniaeth Teulu y gwynfyd helaeth Mae'r un hoff-iiid marw wnaeth. Hendref. JOHN R. JONES.
PRUDDGAN.
PRUDDGAN. Efelychiad. Fe gwyd yr haul bob boreu Gan siriol wenu'n hardd, Gwna natur i adfywio A'r blodau oil a chwardd; Yr wyn a'r defaid branciant Ar liyd y dolydd garyrdd, Tra mi mewn poen ac alaeth Yn dwyn gofidiau fyrdd. Mae'r gornant tra yn treiglo Yn araf drwy y brwyn, Yn methu peidio murmur Ei pher alawon mwyn; A'r alarch pan yn nofio Sy'n falch wrth wel'd ei lun, Tra minau mewn uuigedd Yn wylo wrth fy hun. Mae'r adar man yn canu Mor beraidd ag erioed, Ac anian sydd mor nwyfus A geneth ddeunaw oed; A pob peth ar ei gynydd, Mewn nerth a mwyniant pur, Tra mi mewn ing a gofld Yn dioddef poen a chur. Mae pawb o fy nghyfocdion Yn nwyfus ac yn lion, Yn ddedwydd ac yn llawen Heb alaeth dan eu bron; Tra minau mewn unigedd Meudwyaidd yn pruddhau, A gofid ac afiechyd Yn gwywo'm pabell frau. Mae'r coed a'r blodau tlysion A'r bryn meillionog chweg, Pan ddaw awelon hydref Yn colli 'u harddwch teg; Ond pan el gauaf lieibio Daw'r gwanwyn yn ei drefn, Y llyslau gwyrdd flodeuant A deilia'r coed drachefli. Ond Ow! yn ngwanwyn bywyd Yn gwywo yr wyf fi, I dreulio oesau'r ddaear x Y n nyfnder daear dd ii; Yn ngwanwyn tragwyddokleb Cyfodi eto wnaf, Yn lie ganafol adfyd I dreulio bythol haf. Coalburgh, O. ALONFAB.
ER COF
ER COF Am y diweddar Mr. William Richard, yr hvm oedd ddiacoaffyddlawn gyda'r M. (J. yn Remsen, JST. r: Mwynhad ydyw wylo am Richard anwyla'. Dan goron anrhydedd disgynodd i'r bedd, Yn iraidd ac aeddfed ei enaid i Wynfa, 'Roedd nef ar ei wyneb cyn nesvid ei wedd; Hawdd ydoedd ffarwelio a'r Cristion oedranus Wrth weled ei hiraeth am nefoedd ei Dduw. Y boreu cyn cychwyn datganai yn hysbys Fod marw yn elw yn hytrach na byw. Fel diacon ffyddlawn a swyddog eglwysig, Bu farw ein cyfaill cyn gweled ei werth; Ei galon oedd gynes a'i law oedd haelfrydig, Atewnrh wbet aubyehain'roeddcuddiadeiiierth; Nid ymffrost rhagrithiol a'i daliodd i fyny Ar faes t gyflafan y blaenaf o'r gad, 'Roedd cariad i'w weled pan fyddai'n ceryddu, Ni wyddai ei galon am ddich1 a brad. Yr ydoedd ei weled yn codi i fyny Yn arswyd i galon ymyrwyr trahaus, Bygythion ro'i heibio a throai i wenu, Ei synwyr wnai fyny ddiffygion ei lais. Proiiadau ein cyfaill, eneiniai y nefoedd, Y gwlith a ddisgynai 'ddiar gangau y pren, Y pren sy'n pereiddio i'r Cristion ei ddyfroedd, Ein Richard a gadwodd ei fantell yn wen. Ni fagodd y ddaear un bod mwy rha^orol Na'r adyn colledig sy'n ymbil am hedd, Mae'n myned at oisedd ei Dduw n edifeiriol. Tlws flodau paradwys addurnant ei wedd. Ai tybed fod bnddugoliaethnu clodforus Y ddaear yn cyraedd ardaloedd y -,A-aNvi? 'Roedd gweddi fer ddystaw ein eyfaill cai-iadiis Yn enyn nefolion yn danllwyth o fawl. Yr ydoedd yn gyfaill, medd adgof ein calon, Ei fynwes gyfrifeni fel nefol o bair, e Ac wrtho dywedem ein dirgel gyfrinion, Ein bywyd a roddem ar ddinj ond ei air; Fel tawel gymydog a'i law gymwynasgar Anwylir ei enw gan luoedd yn lion.. Hiraethir am dauo fel un heb ei gydmar Ei enw a gofir gan blant yr oes hon. 'Roedd allor deuluaidd i Dduw yn ei deulu. A chedwid hi fyny mewn urddas a pharch; Dydd olaf ei fywyd o'i blaen mae yn plygu, A thranoeth mae Richard mewn arndo ac arch. Y teulu a chwalwyd gan law amgylchiadau, Lie gwelwyd rliieni nid oes ond lie bu; plant I;yd(I yn iiga,eddill sy'n aros eii haii,Lu, Dyfodol eu bywyd fo'n wyn heb y du. Remsen. RODRI ARFOX.
AWGRYM IIR GWEITHWYR.
AWGRYM IIR GWEITHWYR. NEWBTTRGH, O.—Yr wyf wedi credu yn siwr eich bod chwi i gyd yn Utica yna ar y strike; canys ni chefais y DUYCII er's pythefnos. Cofiwch fechgyn fy mod yn foddlawn iawn i roddi i chwi eich pris am eich gwaith, canys nis gallaf fyw yn hwy heb y DRYCH. Yr ydym yn gyfeillion mawr er's cliwe' blynedd bellach, ar gyfrif ei onestrwydd a'i lafur diflino drosom ni y gweithwyr yn mhob amgylchiad. Yr yd- wyf yn credu ei bod yn ddyledswydd ar- benig arnom ni fel gweithwyr, i gofio am y masnacliwyr tynergalon a cliaredig, a'n cynorthwyasant ni, lawer o honynt uwch- law eu gallu; ac y mae hefyd yn llawn cymaint dyledswydd arnom i beidio ang- hofio y rhai hyny, a gauasant eu drysau yn ein herbyn mcwn adeg o gyfyngder. Ie yn wir, cofiwn dalu y pwyth i'r papyrau hyny a'n gwerthasant yn nydd y frwydr, ond sydd yn awr yn treio ein prynu yn ol a clielwydd. Boltiwch eich drysau yn eu herbyn, fechgyn!- Un o'r lle,
OMAHA, NEBRASKA.
OMAHA, NEBRASKA. (ODDIWRTH EIN GOIIEBYDD "BAGILLT.") OMANA, NEB., Ebrill 12.—Ar ol hir ddis- tawrwydd, goddefer i "Bagillt" draethu ei len, gydag amcan o roddi rhyw hyffordd- iadau i'w gydgened], yn ngwyneb fod ys- bryd ymfudo i lanau y Tawelfor wedi ym- aflyd mewn llawer er's amser bellach. Y mae yn eithaf hysbys i ddarllenwyr y DRYCH, fod rheilffordd wedi ei hagor er's blynyddau bellach o For y Werydd i'r Tawelfor, sef ar hyd y pellder mawro dros dair mil a haner o filldiroedd, a gellir gweled y ceffyl tan yn teithio yn ol a blaen gyda chysondeb, trwy ddyffrynoedd breis- ion, anialdiroedd eras, a thros gopau y Mynyddoedd Creigiog, nes peri i'r edrych- ydd waeddi—"Dyma orchest o waith cel- fyddyd!" Y mae Ilawer o allu a cliyw- reinrwydd celfyddydol i'w ganfod yn ngwneutliuriad y rhan gyntaf o'r ffordd hon, sef o New York i lan yr afon Missouri yn Council Bluffs. Ond yn y rhan arall o honi, sef o Omaha i San Francisco-dyma lie y mae campwaith celfyddyd yn dyfod i'r golwg. Pan awgrymwyd gyntaf am yr angen rheidrwydd o adeiladu yr Union a'r Central Pacific, ychydig o wrandawiad, a dim cefnogaeth a gafodd y personau hyny gan yr awdurdodau a'r wlad; oblegid credai y mwyafrif y pryd hwnw mai ffolineb ac ynfydrwydd o'r mwyaf ydoedd meddwl am y fath anturiaeth. Er hyny cafwyd rhai personau digon dewr a phenderfynol i ddadleu nes argyhoeddi y llywodraeth, a'r canlyniad fu myned at y gwaith, ac erbyn heddyw wele ffordd wedi ei hagor o for i for, yr hon sydd yn cludo miloedd o deithwyr yn fisol, ac megis yn cydio holl wledydd y ddaear a'u gilydd mewn rhwym- au masnachol; fel y gellir yn briodol alw rheilffordd yr Union a'r Central Pacific yn gampwaith celfyddyd, neu brif ffynonell gwareiddiad (yn yr ystyr gelfyddydol), y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nis gellir traethu maint y daioni sydd eisoes wedi ei gyflawni trwy y ffoidd hon, ac y mae yr hyn a wna yn y dyfodol yn fwy nag y gellir ei ddirnad. Amser yn unig a ddengys. Ond rhaid bellach ddyfod at fy mhwnc, sef ychydig o hanes Omaha. Y mae y dref yn parhau i raddol gynyddu, ac y mae yma gryn_ lawer o fywiogrwydd masnachol ag ystyried maintioli y dref. Er hyny nis gallwn roddi un gefnogaeth i neb i ymfudo yma yn bresenol, gan fod y dref hon oddeutu haner y ff ordd o New York i Cali- fornia, a llawer o deithwyr o herwydd bod yn analluog i fyned yn mhellach, yn gorfod aros yma. Felly gwelwcli fod yma ddigon- edd o weithwyr at yr alwad. Rheswm arall yw fod y cyflogau yn cael eu gostwng y naill flwyddyn ar ol y llall, fel y mae yn rhaid i ddyn weithio am agos mor lleied ag yn y dwyrain yna. Merched gweini ydynt yn demandio y cyflogau goreu yma; gallant gael o dair i bum' dolar yr wythnos yn rliwydd. Y mae mwy yn ymfudo i California trwy Omaha eleni nag p erioed. Yn nghorff y pum' wythnos di- weddaf, aeth dros ddeg mil a haner o ym- fudwyr drwy y lie hwn, a bron yr oil o honynt yn gwynebu tua California. Os parhant yn hir i fyned yno fel yn awr, byddant yn fuan wedi gorlenwi y lie, a bydd canoedd yn edifarhau iddynt erioed adael eu eartrefi yn y dwyrain. Gan fy mod mewn lie cyfleus i weled pawb, a gwybod pwy sydd yn myned i California trwy Omaha yma, y mae genyf amcan lied dda am nifer y Cymry sydd yn myned yno, ac yn wir nid bychan yw eu rhif y dyddiau hyn. Mae rhai yn myned yno at eu perthynasau a'u cyfeillion, y rhai a'u sicrhant y gwnant yn well yno nag yn y dwyrain; eraill yn myned yno ar antur. Yr wyf wedi cael cyfle i ymddydd- an ag ugeiniau wrth fyned yn ol a blaen dros yr afon yma, a gwelais lawer o rai a aethent trwodd yma i California ddwy neu dair blynedd yn ol yn dychwelyd adref, ac yn dweyd fod canoedd yno yn methu cael gwaith o fath yn y byd, nac arian i ddych- welyd yn ol, ac hefyd fod llawer iawn yno yn gweithio am yr un cyflog a'r Cliineaid. Dywedodd masnachwr o San Francisco wrthyf y dydd o'r blaen, y gallai ef unrhyw ddydd, ar haner awr o rybudd gyflogi haner cant o glercs a book-keepers am haner can dolar y mis o gyflog. Dywed- odd hefyd pe byddai gan yr ymfudwyr ych- ydig o arian i ymsefydlu ar dir yno, y gallent yn hawdd ddyblu eu harian mewn dwy neu dair blynedd o amser; ond am fyned yno i ymddibynu ar eu diwrnod gwaith, y byddent yn sicr o weled eu ffolineb cyn hir. Er mwyn cael y gwirion- edd am sefyllfa pethau yno, carem weled rliai o lenorion enwog California yn ym- aflyd yn y pwnc, ac yn egluro i'w cyd- genedl drwy y DRYCII, pa fodd y mae pethau yn bod yno, a pha un a'i cymerad- wyo a'i yntau eondemnio ymfudiaeth yno a wnaent ar hyn o bryd. Yr oedd llythyr- au Ap Trevor yn bur ddyddorol fel hanes ei daith, ond carem glywed gair yn fwy uniongyrchol ar y priodoldeb neu yr an- mhriodoldeb o ymfudo yno. Gwnaeth y brawd Ap Trevor dipyn c gtmgymeriad yn ei lythyr pan yn son am Omatia, wrth ddweyd mai pleserus ydoedd gweled yr agerlongau sydd yn rhedeg ar yr afon rhwng yma a St. Louis yn gweu drwy eu gilydd. Fe ddichon mai camgymeryd yr afon a ddarfu y brawd, a'i fod yn medd- wl y Mississippi, ac nid y Missouri, oblegid nid oes agerlongau yn rhedeg ar y Missouri rhwng Omaha a St. Louis er's yn agos i dair blynedd bellach, a dim ond ambell i un yn rhedeg o gwbl, ar yr afon yn y cyf- eiriad yma, a'r rhai hyny yn myned i Fort Benton gyda supply i'r Indiaid a milwyr y llywodraeth. Hyderaf y gwna faddeu i mi am ei gywiro yn hyn o beth. Gauaf oer a dialed ydym wedi gael yma eleni, ac y mae y gwanwyn yn arwyddo bod yn ddiweddar. Y mae yn bwrw eira heddyw, y ddeuddegfed o Ebrill. Mae Omaha mor enwog am fwd yn y gwanwyn ag ydyw Gomer, Ohio, lie y clywais Oheb- ydd Llundain yn dweyd iddo weled dyn yn helpu gwraig oedd wedi myned iddo at benau ei gliniau o'r bron, i ddod allan o hono, ac yr wyf finau yn rhyw haner ddisgwyl cael fy ngalw at yr un gwaith yn Omaha yma, os pery y tywydd ydym yn gael yn awr yn hir eto. Y mae fy llith wedi myned yn faith eisoes, ond hyderaf y maddeuweh i mi, gan nad wyf yn eich trwblo ond anfynych. Wele fi yn anfon i chwi bwt o wahanol bapyrau y gorllewin yma, sydd yn dangos i chwi pa fodd y cafodd Bagillt ei wobrwyo am ei onestrwydd ychydig ddyddiau yn ol.* Nid yw fy ngweithred o ddychwelyd y pocket book i'w berchenog i'w briodoli i ddim ond i'r esiamplau a'r ddysgeidiaeth foreuol a dderbyniais gan fy anwyl rieni, y rhai ydynt yn awr mewn gwth o oedran, ac yn byw mewn pentref o'r enw Bagillt, yn Sir Ftlint, ar lan yr afon Dyfrdwy, yr hwn le yw mangre fy ngenedigaeth, ac svdd yn anwyl gan fy nghalon. BAGILLT. Cyhoeddwyd yr hanes yn y DRYCH di- weddaf. —