Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

NODION PEBSONOL.

News
Cite
Share

NODION PEBSONOL. CYNI&IA Pwyllgor yr Eisteddfod a fwr- icdir gynal yn ninas New York y Nadolig nesaf, wobr o $40 am y Farwnad oreu i'r diweddar Barch. HOWELL POWELL; hefyd $10 am yr Hir a Tlioddaid, wyth llinell, goreji, yn feddargraff iddo, sef Gorchan chwie' ben, deg sill yr un, a thoddaid o 19 sill. Mae y Farwnad a'r Beddargraff yn agoted i'r holl fyd. JIAE gorsedd Ynys Enlli yn wag, mewn caalyniad i farwolaeth y Parch ROBERT "WILLIAMS, yn yr oedran teg o 81 ml vydd. .^YNELIR cyfarfod blynyddol nesaf y Gymcleithas Hynafiaetliol Gymreig yn Nghaerfyrclclin, o dan lywyddiaeth Esgob JONES, o Dy Ddewi, un o ysgrifenyddion y Gymdeitlias, ac am dymor, golygydd ei chylchgrawn chwarterol. YN ddiweddar traddodwyd darlith ragor- ol dan nawdd Cymdeithas y Cymrodorion, yn y Freemasons' Tavern, Llundain, ar "Sefyllfa y Celtiaid yn y Llwyth Japhet- aidd," gan Mr. JOHN Ruys, M. A., Arhol- wr Ysgolion ei Mawrhydi. Cymerwyd y gadair ar yr achlysur gan Mr. Charles W. Wynn, M. P., yr hwn wrth agor y cyfarfod a adolygodd veithrediadau yr hen gym- deithas yn yr amser a basiodd, ac a siaradai yn obeitliiol am ei defnyddioldeb yn y dy- fodol. BARNA gohebydd o Milwaukee y dylasai cyfeiriad y Proff. LLEWELYN J. EVANS, fod yn fwy cyflawn yn Hysbysiad Eisteddfod Wisconsin. Dodwn ef yn y fan lion-Proff Ll. J. Evans, M. A., Lane Seminary, Cin- cinnati, O. GWELIR fod Pwyllgor Eisteddfod Hyde Park, Pa., wedi sicrhau gwasanaeth Mr. J. W. PARSON PRICE a Carl ZERRAHN, Bos- ton, yn feirniaid cerddorol, a disgwyliant gael atebiad cadarnhaol oddiwrth Gerddor arall o radd uchel o New York. Mae y Cad. Hartranft, a'r Anrhy. Horatio Gates Jones, wedi eu sicrhau yn lluwyddion. Deallwn fod gohebiaeth yn cael ei chario yn mlaen a'r Parch. J. GORDON JONES, M. A., gyda'r amcan o sierhau ei wasanaeth fel Beirniady Farddoniaeth. AR yr 16eg cyfisol, ymgasglodd nifer o etholedigion i 3 E. McMillan St., Cincinnati, 0., ar yr achlysur o Briodas Arian DAVID EVANS, Ysw., a'i briod hawddgar. Treul- iwyd amryw oriau mewn modd difyr iawn. Yn mysg y rhai oeddynt yn bresenol enwir Mr. Thomas a'i briod o ardal Racine, Wis., Dr. J. D. Jones, a Mr. Foulkes, efrydydd yn Lane Seminary. COFiit am ddamwain ddychrynllyd a ddigwyddodd yn ngorsaf Merthyr, D. C., yn mis Mai diweddaf, trwyyrhonyniweid- iwyd rhyw 80 o deithwyr ac y lladdwyd Mrs. MORGAN, priod Mr. Thomas Morgan, Ross & Castle Inn, Cefn. Dygodd Mr. Morgan gyngaws yn erbyn y Cwmni, a'r dydd o'r blaen, dyfarnwyd fod iddynt dalu £2,000 o iawn iddo ef a'i bedwar plentyn. Mwy o ddyfarniadau cyffelyb a barai i gwmniau rheilffyrdd fod yn fwy gwyliad- wrus. DARLLENWN fod Miss JONES, cliwser J. Collen Jones, yr hon sydd yn enedigol o Langollen, wedi ei hethol i fod yn brif athrawes ar un o Ysgolion Bwrdd Ysgol tref mor fawr a phwysig a Sheffield, Lloegr. DERBYNIWYD y newydd trwm yn Man- gor fod dau forwr adnabyddus o Ogledd Cymru—Capten HUGH ROBERTS o'r Con- way House, Bangor, a Capten GRIFFITHS, o'r Collingwood, Pwlllieli-wedi boddi yn Macabi, ger Callao, Peru, mewn canlyniad i ddymchweliad y cwch, yn yr hwn yr oeddynt yn ceisio rhwyfo i dir. Boddodd dau forwr hefyd yr un pryd. YMDDANGOSODD y nodyn canlynol yn y Milwaukee Sentinel am Ebrill 16eg: Y mae 11 Mr. THOS. C. WILLIAMS, hen breswylydd o Union Grove, Swydd Racine, yn cael cynyg myned yn weinidog y Llywodraetli i Peru, yn lie yr Anrhyd. Francis Thomas, sydd wedi ymddiswyddo. Nid yw Mr. Wil- liams eto wedi hollol benderfynu derbyn yr apwyntiad, er ei fod yn cael ei demtio i hyny gan$10,000 o gyflog. Os penderfyna dderbyn y swydd, bydd y Llywodraeth wedi sicrhau cynrychiolydd galluog yn mhrif ddinas y chwaer werinol. ARNOT, PA.—Nos Fercher, Ebrill 21ain, bu y Parch. C. JONES, M. A., o Morris Run, yn y lie hwn yn traddodi ei ddarlith ar Seryddiaeth i gynulleidfa fawr yn nghap- el y Presbyteriaid; a siaradodd yn rhagor- ol ar y gwahanol blanedau am tuag awr a haner. Yr oedd y gwrandawiad yn ddifrif- ol, a chododd awydd mawr ynom i ymfudo i'r Haul i edrych am waith tori glo, gan y byddai lawer iawn gwell, yn gymaint a bod tun ell o lo yma wedi ei throsglwyddo yno yn 27 tunell. Byddai cael gwaith yno yn fantais fawr i'r hyn ydyw yn ngwlad y ddaear yn bresenol. Yr oedd y mynediad i mewn i'r ddarlith yn rhad, a chasgliad ar y diwedd.—Herbert Lewis. PITTSBURGH, PA., Ebrill 22.-Nos Sad- wrn diweddaf cynaliwyd cyfarfod pur ddyddorol yn Neuadd .Oyfrinfa Roger Wil- liams ar gongl Market, st., a Fifth Ave., .gyda'r amcan o gyflwyno Clorian ardderch- og (Analyt/cal Balance Scale), yn ngliyd a phedair cyfrol hardd ar Fferylliaeth, i JOHN GRAY, Ysw., arolygydd galluog a chymeradwy y Soho Copper Works, fel arwydd o deimladau, caredig a pharchus y gweithwyr tuag ato. Yr oedd y rhoddion yn werth tua $300; ac yn gerfiedig ar y glorian yr oedd y geiriau- "PRESENTBD to JOHN Gray, Superintendent of the Soho Copper Works, by the workmen, April 17, 1875." 11 Cafwyd anerchiadau ar yr amgylchiad gan y boneddigion canlynol, yn mhlith er- aill: Mri. H. J. Thomas, John Jones, Evan Jones, Owen Jones ac Evan D. Evans. Y cadeirydd.oefcld yr Henadur H. J.'Thomas. -Cadvan.

I GWE,-TILFAOL--MASNAC-UOL._…

Cli EF YD I) OL AC EGLWYSIG.

LLA WE It MEWN YCHYDIG.

Adolygiad y Wasg. .-

[No title]

Prydain Fawr.

Ffi-aine.

Germani.

Kliiva, Asia.

[No title]

[No title]