Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

FWY OND NYNI "YDI'B BOBL?"

News
Cite
Share

FWY OND NYNI "YDI'B BOBL?" HYDE PARK, PA.—Da oedd genyf weled eich nodyn yu y DRYCII am yr 8fed cyf., yn honi gwaedoliaeth Gymreig o du ei fam i'r diweddar Arglwydd Lytton. Bum lawer gwaith yn ymlioli a mi fy Run am y rhes- wm dros y sylw arbenig a dalodd Argl vydd Lytton i Gymry a hanesyddiaeth Gymreig. Ceir cyfeiriadau caredig atynt yn britho ei weithiau. Cyfansoddodd un o'i brif weith- iau barddonol a'i lygaid arnynt. Enw mwyaf adnabyddus ei fab, cyn marwolaeth ei dad, ac yn awr hefyd o ran hyny, oedd ac yw Owain Meredydd, enw liollol Gym- reigaidd. Yr wyf yn awr yn darllen un o weithiau Arglwydd Lytton, sef "Harold, the last of the Saxon Kings," ac y mae yr anrhydedd a'r parch, gyda'r hwn y siarada am y Cymry, yr edmygedd didwyll a goledda am wroldeb diguro eu blaenoriaid, y wybodaeth drylwyr o hanesyddiaeth Cymru a arddengys, yn nghyda'i amcan canmoladwy o osod allan y gwir am danom yn teilyngu cymeradwyaeth pob Cymro o fewn y byd. Y gwir am danom ni y pryd liyny, fel yn awr yw, mai achos ein haf- lwyddiant ni oedd-nid diffyg gwroldeb, beiddgarwch, cryfder, neu fedr digonol; ond holl bresenoldeb yr vsbryd cenfigen- llyd, rhagfarnllyd a bradwrus sydd wedi ei argraffu a "phin o haiarn ac a plilvvm," ar ein hanesyddiaeth. Feallai wedi'r holl ddarostwng a fu ar ein cyndadau, fod y cyfan er y daioni a'r lies goreu i'r byd yn gyffredinol. ac i ninau Gymry yr oes br-s- enol yn ileillduol. Pwy wyr y fath greadur- iaid fuasem heddyw, oni buasai ein gorch- fygiad? Ar y terfyn, teimlaf yn ddiolchgar i chwi, Mr. Gol., am y nodyn y cyfeiriaf ato uchod, o herwydd arbeda lawer o drafferth, a bydd yn ffynonell gref o gysur i mi wrth deithio anialwch dyrus y byd yma i ymholi yn barhaus ar ol pob trallod a phoen. "Pwy ond y ni ydi'r bobl," pan gawn ni chware'teg?-B-b.

AWGEYM I YSGGLION SUL.

CYMRY BOREUOL AMERICA.

ROBERT AB GWILYM DDU.

F. T. EVANS A'R BEDYDDWYR.

TREIAL BEECHER A'I FOES-WERS.

[No title]

[No title]

AR BRIODAS

AR FARWOLAETH JIRS. SARAH…

PRUDDGAN.

ER COF

AWGRYM IIR GWEITHWYR.

OMAHA, NEBRASKA.