Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
tv,I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
tv, I Cynwysiad. Hysbysiadau 1,2 Ymylon y Ffordd I 3 Undeb yr Annibynwyr Cymreig 4, 5 Cwm Rhondda—Oak Hill, Ohio, America—Y Gym an fa Dde-Orllewinol 6 Waunariwydd — Stockton-on-Tees—Er Coffadwr- iaetb am David Badger, Burry Port 7 At ein Gohebwyr-Yr Wythnos-Cymdeitbas Genadol Llundain a'r diweddar Dr Rees 8 Y BRIF ERTHYGL- Cyfnewidiad y Llywodraeth 9 Y Senedd Yorherodrol 9 Glandwr, Abertawy — Manchester — Eisteddfod Genedlaethot 1885-Caerileon a'r Cyffiuiau 10 Gohebiaethau-Genedigaethau; &c 11 Y Wers Rhyngwladwriaethol-Cyfarfodydd 12 Llanelli 13 Hysbysiadau 13, 14, 15, 16
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. John Edwards.—Cafodd arall y blaen arnoch. Diolch i chwi er hyny. Ystalyferiad,—Ymddangosodd yr alwad yn ein rhifyn diweddaf. Mewn Llaw.—Taith i'r Undeb—Newyddiou Enwadol -Dyfodol Annibyniaeth yn Nghymra-Dyffryn Nedd-Merch y Morwr-Whitland-Cyfarfod 8Jyn- yddol ac Arholiad Coleg Aberhonddu-Henllan- AbergorJech-Cymanfa Maldwyn Cyfarfodydd- Genedigaethau, Marwoiaethau, &c., &c. BYWYD GEORGE MULLER," Sylfaenydd drwy fiydd a gweddi y Tai i 2,050 o Amddifaid, Bryste. Vris 6c., gyda'r post 61c., new 10 am 4s. 6c. Blaendal. I'w gael gan y Cylieithydd- J. P. JONES, Caerwent House, Bridgend, Glamorganshire.
YR WTTHNOS.
News
Cite
Share
YR WTTHNOS. RHEILFFOEDD LLANGAMARCH, &C. — Yn Nhy yr Arglwyddi nos Wener, darllenwyd yr ail waith Fe&ur Rheilffordd Llangamarch, Castellnedd, ac Aberhonddu Junction, a throsglwyddwyd ef i'r Pwyllgor. MAER YN CYFLAWNI HTJNANLADDIAD.— Dydd Gwener diweddaf, cafwyd Mr John Woods, maer, Andover, Hants, wedi ym- grogi yn ei ysgubor. Yr oedd yn hollol farw pan y canfyddwyd ef. Prudd-der ac iselder meddwl oedd yr achos. PENODI BONEDDIGES YN GOFNODYDD GENEDIGAETHAU A MAEWOLAETHAU.—Yn Leek dydd Mercber diweddaf, darfu i'r Gwarcheidwaid, allan o 13 o ymgeiswyr (gwrywaid i gyd ond un), ddewis Miss Elizabeth Rider i'r swydd uchod. Cyflog, a670 y flwyddyn. Dywedir mai dim ond mewn dau le arall yn y Deyrnas Gyfunol y Uenwir v cyfryw swydd gan foneddigesau. FFEAINC A CHINA.—Dydd Mawrth di- weddaf, arwyddwyd cytundeb o heddwch rhwng y ddwy wlad ucbad. Gresyn- na buasent yn ddigon call i wneyd hyn cyn dystrywio cymaint o eiddo a cholli cynifer o fywydau. Y GYMDEITHAS DDAEAEYDDOL FRENINOL. —Cynaliwyd ciniaw blynyddol y gymdeithas hon dydd Llun diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol dros 200 o'r aelodau, ac yn eu plith amryw wýr urddasol, megys Arglwydd Aberdar (y llywydd), Ardalydd Lorne, Ar- glwydd Houghton, Mr H. M. Stanley (John Rowlands, y Cymro), Syr Peter Lumsden, Syr Henry Rawlinson, &c. Cafwyd anerch- iadau dyddorol gan y boneddigion uchod ac ereill. Dymunai Arglwydd Aberdar gael ei ryddhau o fod yn Llywydd yn y dyfodol. Cydsyniwyd a'i gais, ac etholwyd Ardalydd Lorne yn olynydd iddo. YMNEILLDUAD Y BARNWR B. T. WILLIAM.S -Mae yn ddrwg genym fod y boneddwr hwn, yn herwydd afiechyd, wedi gorfod ymneillduo oddiar faine farnol Llys y Man Ddyledion, Rhif 30 (Morganwg). Nid yw wedi bod yn alluog i weinyddu yn y llys er's amryw fisoedd, ond gobeithiai ei gyfeillion a'i gydnabod y buasai ei iechyd yn cael ei adfer, ac y gwelsid ef yn fuan eto yn cy- meryd ei le yn y Ilys ond fel arall y mae wedi troi allan. Deallwn fod y Llywodraeth wedi caniatau blwydd-dal iddo o fil o bunau cyhyd- ag y byddo byw. SYMUDIAD Y BARNWR GWILYM WILLIAMS.—Bydd yn dda gan breswylwyr Morganwg ddeall fod y Barnwr Gwilym Williams, Mislay n, yn cael ei symud o Lys Rhif 30 (Mid-Wales) i gymeryd lie y Barnwr B. T: Williams yn Morganwg. Mae y symudiad bwn wedi rboddi boddlonrwydd cyffredinol. Bu y Barnwr Gwilym Williams yn ynad heddwch am flynyddau yn Mhonty- pridd a'r Rhondda, a thra yn gweinyddu y svvydd hono, enillodd iddo ei hun gymeriad uchel. Heblaw byny, yr oedd bob amser yn cymeryd y dyddordeb mwyaf yn -holl symud- iadau buddiol ei genedl a'i wlad. Mae wedi dechreu yn llysoedd Morganwg er dydd Gwener diweddaf. PENODIAD MR BRYNMOR JONES.—Da genym gael y cyfleustra i gofnodi fod y boneddwr hwn wedi ei benodi yn Farnwr ar Lys y Man Ddyledion, Rbif 30 (Mid-Wales)' yn lie y Barnwr Gwilym Williams. Prin y mae eisieu i ni ddyweyd wrth ein darllenwyr mai mab y diweddar Barch Thomas Jones, Walter-road, Abertawy, ydyw Mr Brynmor Jones. Dygwyd ef i fyny yn gyfreithiwr. Wedi hyny, enillodd y gradd o LL.B. Ar ol cael ei alw i'r bar, cysylltodd ei hun a brawdlysoedd Deheudir Cymru ac wrth ganlyn y gwahanol lysoedd, gwnaeth enw o fri fel dadleuydd cryf, ac un yn meddu ar wybodaeth eang o'r gyfraith. Pan gofiom nad yw ond 33 oed, y mae yn syndod i weled gwr mor ieuane wedi cyrhaedd safle mor uchel. Da genym allu crybwyll ei fod ef a'r Barnwr Gwilym Williams yn Rhydd- frydwyr, yn Anghydffurfwyr, ac yn Gymry trylwyr-yn medru siarad a deall ein hiaith yn dda, yn gallu cydymdeimlo a'n diffygion, ac edmygu ein rhagoriaethau. Yn sicr, y mae ysbryd y diweddar Barch Thomas Jones yn teimlo yn hapus ac yn ymfwynhau wrth weled ei ddau fab yn llenwi swyddi mor bwysig yn ngwlad eu genedigaeth. ASYN DETJDFAWE.—Ysgrifena gohebydd oddiar fwrdd y Lydian Monarch, dyddiedig Mai 26ain, Harbur Suez, a dywed fod y llong wedi ei chadw yno am bedwar diwrnod i'r unig am can o gario adref asyn oedd rhywun wedi penderfynu anrhegu y Frenines ag ef. Hefyd, fod yr arosiad yn costio n y X150 yn ddyddiol. Yr oedd y llong yn 4,000 o dunelli, ac yn llawn o filwyr a cheffylau. Costiai y llong £100 am ei benthyg, ac yr oedd y costau ereill yn £ 50; felly, dyma yr asyn hwn wedi cosio i'r wlad hon £600. Yn sicr, dylasai y sawl sydd yn gyfrifol am y blunder gael ei alw i gyfrif am yr annoethineb o gadw llong o'r maintioli uchod i aros am bedwar niwrnod heb yr un neges ond i gario asyn gartref i'w Mawrhydi. AGOEIAD YB HOLLOWAY SANATOEIUM.— Math o hospital yw y sefydliad hwn, wedi ei fwriadu i fod yn noddle ac yn feddygdy i bersonau y byddo eu synwyrau wedi dyrysu. Dechreuwyd- ar y gwaith o'i adeiladu gau y diweddar Thomas Holloway, awdwr y pill* .a'r ointment, a gwnaeth drefniadau yn ei ewyllys iddo gael ei orphen, yr hyn a wnaed. Agorwyd ef yn ffurfiol dydd Llun diweddaf gan Dywysog Cymru, yn mhresenoldeb y Dywysoges a nifer luosog o bersonau urdd- asol. Mae y sefydliad a'r tir oddiamgvlch iddo wedi costio < £ 320,000. Diolch i'r diweddar Thomas Holloway am feddwl am gynllun mor ddyngarol a llesioH ddefnyddio rbai o'r canoedd o filoedd o bunau a dder- byniodd am ei bills a'i ointment. Yn hyn y mae yn esiampl deilwng i lawer ereill yn ein gwlad. CYEAEFOD I WETHDYSTIO YN ERBYN PENODIAD DEFODWR I BEEIGLOEIAETH MEETHYE.—Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus brwdfrydig nos Fawrth diweddaf, wedi ei alw yn nghyd gan Mr W. Simons, cyfreith- iwr, i wrthdystio yn erbyn penodiad Defodwr yn olynydd i'r diweddar Barch J. Griffith, yn groes i ddymuniad llais unfrydol aelodau a gwrandawyr yr Eglwys yn y dosbarth. Yr oedd y lie wedi ei orlenwi. Y prif siaradwyr oeddynt Mri W. Simons, David Evans, a Walter Smyth, y tri yn Eglwyswyr blaenllaw. Cymerai Mr Simons ei safle oddiar bwynt cyfreithiol. Mae yn wybyddus mai yn llaw Ardalydd Bute yr oedd y fyw- ioliaeth hon ychydig flynyddau yn ol, ond pan ymunodd ef a'r Pabyddion, trosglwydd- odd yr bawl i nodi periglor i'r fywoliaeth i ddau ymddiriedolwr. Dywed Mr Simons fod hyny yn groes i'r gyfraith. Yr oedd gan yr Ardalydd hawl i'w gwerthu, ond nad oedd ganddo hawl gyfreithlon i'w gosod yn rhodd yn nwylaw Ymddiriedolwyr, o ganlyniad, dywed Mr Simons fod y penod- iad presenol yn ddirym. Dywedai yr un boneddwr ei fod ef erbyn hyn yn eithaf parod i fyned i mewn dros Ddadgysylltiad a Dad- waddoliad yr Eglwys. Pasiwyd penderfyn- iadau unfrydol i gondemnio penodiad presenol, ac i ddefnyddio pob moddion cyf- reithlon i wrthsefyll cael Defodwr yn olynydd i'r diweddar Rector Griffith, a chan y bwr- iedir symud yn gyfreithiol yn erbyn y penod- iad presenol, penderfynwyd hefyd flFurfio Pwyllgor i gario y gwaith yn mlaen, ac i gasglu tanysgrifiadau i dalu y treuliau. Addawodd Mr Simons ei holl wasanaeth cyfreithiol yn rhad ac am ddim.
CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN…
News
Cite
Share
CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN A'R DIWEDDAR DR. REES. The Directors having been informed of the lamented death of the Rev. Thomas Rees, D.D., it was unanimously resolved :— That the Directors have heard with sincere sorrow of the unexpected death of their beloved colleague the Rev. Thomas Rees, D.D., the Chair- man of the Congregational Union of England and Wales for the present year. The Directors remember with gratitude to God all that He enabled His servant to do by his life- through the press, on the platform, and in the pulpit, for the extension of the kingdom of Christ -and they especially desire to record their high -estimate of the valuable help which, with unwa- vering fidelity, he rendered to the London Mis- sionary Society, by his sincere sympathy, wise counsel, and earnest advocacy of its claims, throughout the Principality.. The Directors tender their respectful sympathy to the bereaved family of their fellow labourer, assuring them of their earnest prayer that they may be abundantly comforted, strengthened and blessed, by "the Father of the fatherless." EDWARD H. JONES, Home Secretary. May, 1855.
Hysbysiadau.
News
Cite
Share
Hysbysiadau. Heb fod dros dair llinell, Is. y tro; am bob Uinell ychwaiiegol, 3c. Ond ymddengys Hysbysiadau aA yspaid o amser am brisiau llawer is.