Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

24 articles on this Page

It:::::&--:..-----___-_._---___._-+-Cybi…

News
Cite
Share

It:& -+- Cybi Sant. Yn ystod y triugeirifed flwyddyn o deyrnasiad y Frenhines Victoria, cafodd Eglwys Cybi Sant, Caergybi, ei hanrhegu ag anrhegion gwerthfawr a chostfawr, pa rai ydynt yn gaffaeliad o'r mwyaf i'r hen gysegr a fu yn breswylfa hardd a godidog am lawer canrif i hen dadau Eglwysig yn yr Ynys hon. Fel ychwanegiad at yr hen Eglwys Golegawl, adeil- adwyd darn helaeth ar ystlys ddeheuol cargau yr eglwys o'r gwneuthuriad goraf a mwyaf manwl, yn deilwng, ac yn ateb i'r dull yr adeiladwyd y gwr- eiddiol o'r hen eglwys. Anhawdd yw dywetly-l yn mha gyfnod y sylfaenwyd Eglwys Cybi Sant, una y farn gyffredin yw mai oddeutu y flwyddyn 550 A.D., a dywed traddodiad i'r Sant enwog, enw yr hwn a gysylltir a'r sylfaeniad, ddyfod yn Esgob Mon. Mab ydoedd St. Cybi i Selyf ab Geraint, a Gwen o Gaergawch. Tyb rhai ydyw y bouolai Teml Rhufeinaidd o fewn magwyrydd yr hen am- ddiffynfa, yn mha un yr adeiladwyd yr cglwys gyntaf yn amser Cybi Sant; ac ar ol ymadawiad y Rhtifeiniaid; o Brydain iddi gael ei defnyddio megis Eglwys Frytanaidd neu Gristionogol, ond pa ur. bynag am hyny, y mae yn ymddangos yr arferid claddu y meirw o fewn yr amddiffynfa lien yn amser Caswallon Law Hir. Dywedir mai yma y lladdwyd Serigi Wyddel gan Caswallon gyda'i law ei hun. Yina o fewn yr amddiffynfa y cladd- wyd Serigi, ac adeiladwyd capel yn y lie ei cladd- z, wyd. Galwyd, y capel hwn Eglwys y Bedd, a Chapel LlaJi y Gwyddel. I Dichon mai enw cyntefig Caergybi ydoedd Trcf Lywarch, enw wedi ei gymeryd oddiwrth Llywareh Ily ap Bran wedi hyny Llari y Gwyddel, ac yn ddi- weddaf Caergybi. Dengys i mi wrth gydmaru yr enw Caer gyda manau eraill yn y cyfnod hwn, mai llvgriad ydyw o Cor, ac mai camgymeriad ydoedd 1 ,9 cysylitu enw Cybi with yr enw cyntaf, ac y dylesid enwi y lie yn Gor Cybi. Yr oedd yr oil o'r sefydl- iaidau Eglwysig yr adeg hono yn.myned o dan enw Cor, yr hyn a arwydda yr y cyfnod yma, Gyf undeb Cristionogol. Hwyrach mai yn nyddiau Sant Gar- mon a Bleiddan y daeth yr enw Bangor i ymarfer- iad, a hyny yn y bumed ganrif, tua'r un amser ng I y blodeuodd Cybi Sant. Arwydda y gair Ban, uchel, dyrchafedig, a Cor, cylch neu gor, a rhydd N ennius yr enw Magnum Monasterium i Fangor- is-y-Coed, am y rheswm y priodolai i'r sefydliad hwn safle tra dyrchafedig, canys yr oedd sefydliad- au Eglwysig o'r safle hyn yn niwedd y burned gan- rif yn cymeryd arnynt lywodraethu ar daleithiau neillduoi eraill, a gelwid y sefydliadau hefydi yn Gwyndai (or Chapter Houses). Enw gwreiddiol j)ob Cyfundeb Eglwysig ydoedd cor, ac hefyd enw cyffredinol pob sefydliad Eglwysig mewr: aniryiv wledydd ydoedd. Gelwid lie yn agos i BelleLste yn Brittany yn Bangor; yn yr Iwerddon, yn Ulster, y mae sefydliad Eglwysig a'i enw Beann- chor, wedi ei gyfiwyno i St. Patrick. Yn Ysgot- land y mae dau blwyf yn myned o dan yr enw Banchory, o'r un ystyr a'r enw Cymreig Bangor. Ar yr un adeg sylfaenwyd hefyd Bangor Asav, yn y flwyddyn 543, Cor Beitno yn 616, Cor Cybi, Cor Dyvrig (Caerlleon), Cor Penmon, neu Gor Seiriol, Cor Tathan (Caerwent), a Chor Tewdws. Yr oedd 8ant Cybi yn cydoesi a Dewi Sant, ac yr oedd yn "bresenol yn Nghyrudledd Llanddewi-Brefi. Gweithred ganmoladwy ydoedd sefydlu Eglwys Gristionogol o fewn amddiffynfa Rufeinig, a thrwy hyny diorseddu Bhufain baganaidd o'i dylanwad a'i llywodraetli yn y wlad hon. Er bod yn agos i dair canrif ar ddeg wedi treiglo ar glawr amser er pan y blodeuodd Cybi, eto y mae ei enw mor fyw a pheraroglaidd ag erioed yn ei gysylltiad a'r Eglwys yn y He hwn. Dywed traddodiad y byddai fiant Cvbi a Sant Seiriol yn cyfarfod i drafod pync- iau Eglwysig mewn man yn nghanol Ynys Mon o'r enw Clorach, a chan y byddai Sant Cybi yn teithio tua'r dwyrain, a'i wynei) at yr haul, gelwid ef yn Cvbi Felyn, a chaii y byddai Seiriol yn tramwy tua'r gorllewin o Penmon, gelwid yntau yn Seiriol Wyn. Cyfansoddodd Mr Mathew Arnold linellau tlys- ion ar yr aclilysur o gyfarlyddiad dyddiol y ddau Sam: "In the bare mist of Anglesey they show Two springs which close by one another play, And thirteen hundred years ago re they say Two saints met often where those waters flow. One came from Penmon westward, and a glow. Whitened his face from the sun fronting ray Eastward the other from the dying day, And he with unsunn'di face did always go. Seiriol the bright, Cybi the dark, men said, The seer from the east was then in light, The seer from the west was then in shade Ah! now 'tis changed. In conquering sun- shine bright The man of the bold west .now comes arrayed, He of the mystic east is touched with night." Y mae Eglwys Cybi Sant yn un o'r eglwysi mwyaf pwrsig, dyddorol, ac henafiaethol yn Ynys Mon. Yr" oedd yn perthyn iddi yn y canol oes- oedd o'r hyn lleiaf ddeuddeg o ganoniaid. Gelwid Penaeth y Coleg yn Pencolas, ac yr oedd yn un ■o dri arglwyddi ysbrydol Mon. Yr oedd blwydd- dal pob un o'r canoniaid yn 1553 yn bunt yr un. Y mae y ffenestr ddwyreiniol yn dyddio o adeg Edward III. Ar v rhan ogleddol i'r eglwys y mae yr ymadrodd canlynol i'w weled yn gerfiedig:- "Sanctus Kcbius ora pro nobis," ac yn y rhan or- llewinol i'r eglwys y canfyddwn fwa Sacsonaidd o leiaf fil o flynyddoedd o oed. Dichon y cawn gyfleusdra i syhvi ar rai pethau yn nglyn a'r eg- lwys odidog hon eto cyn bo hir. ROBERT PRICE, Curad. Caergybi, Mon.

--------Yoluorl namantuo.

------'------_._---.ER COF

-------_--Mr D. Lloyd-George,…

Tan Mawr yn Llanbeulan.

Ewyllys y Deen Vaughan o Landaf

,I)amrain Angencl i Arglwyddes…

Bangor.

Caergybi.

Cemaes.j

Llanfachraatli-

Llais gadwaladr (B-jdor^a…

!Llangefni

[No title]

rPiil Farcbnadoedd yr __Wythncs.

Marchnadoedd Cymreig

Anglesey Fairs for 1SST.

Shipping.

Family Notices

-laith y Llaw.

-------------ChvriV:^ am Wraig.

[No title]

Caernarfon

Rhosybol