Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Ar y Tir
Ar y Tir Gan Hen Ffarmwr. Mae'r wasg Doriaidd wrthi ei goreu yn ceisio creu drwg deimlad drwy ddy- wedyd fod y Llywodraeth wedi rhoi derbyniad sarhaus i Brif-Weinidogion y Trefedigaethau yn y Gynhadledd ddi- weddar. Wrth annerch cyfarfod 0 dair mil o Ryddfrydwyr yn Edinburgh yr wythnos o'r blaen, dywedodd Mr Winston Churchill nad oedd y Llywodr- aeth wedi cle:ian y drws ar undeb Ym- heraodrol, ond ei bod wedi gwneud hynny ar dolli ymborth. Yr oeddynt wedi rhoi clec ar y drws, wedi ei fario a'i folltio ar y cynnyg hwnnw. Yr oedd y drws, ebe fe, yn ddrws o hen dderw Prydeinig da, ac yr oedd y mwyafrif Rhyddfrydig, Radicalaidd a Llafurol mwyaf a gaed erioed yn Nhy'r Cyffredin a'u cefnau yn gedyrn yn ei erbyn. Nid agorid fyth mo'r drws hwnnw, nid agoried cymaint a rhigol tra byddai Syr Henry Campbell-Bannerman yr Borthor Cenedlaethol. Boed hynny gymeradwy neu anghymeradwy, a pha un bynnag ai mewn swydd ai allan o swydd, nid ildiai y blaid Ryddfrydig fodfedd. Ni roddent ffyrling o flaenoriaeth ar un hedyn. Yr oedd adfywiad ym mhlaid diffyndoll yn y blaid Doriaidd, ond yr oedd efe yn barod i'w herio i gyd- ymlaen. Nid oes yn ddiau le i gwyno fod Mr
Gormes Grefyddol.
Gormes Grefyddol. SYRY mae llawer o siarad ac ysgrifen- nu wedi bod ac yn bod o drugaredd yng cghylch Pngbydraddo"deb a gormes gref- yddol yr Eglwys Wladol, ac nid heb eisieu ond yn rby ychydig o lawer o ymddiddan personol a dynion ar y pen yma, oherwydd y mae Jiu mawr iawn o'r werin bobl. ysyw. aetb, mewn dwfn anwybodaetb o'r ormes y maent yn byw o dani yn grefyddol yn ogystal ac yn wladol. Ac onid ydyw yn anhawdd darbwyllo y cyfryw sydd wedi eu geni a u magu o dan awyrgy!ch felly. Yn araf iawn, os byth, y deuant yn ymwybodol o hono, ond credant mai fel y mae pethau y maent i fod. Yn ddiau dyledswydd a braint y rhai sydd wedi eu deffro ydyw goieuo y bob!. Ni raid iddo fod yn bregethwr, biaenor nac athraw yn ystyr gyffredin y gair i wneyd y gwaith yma ac uid peth unwaith mewn wythnos ydyw y gwaith goreu a all dyn ei wneyd, ond yr hyn y mae yn ei hau bob dydd o hadau rhyddid, eyfiawnder, a sancteiddrwydd, pan V mae yn ymddiddan a dynion ar y ffordd, ar y maes neu ryw fan arall, dyma yn sicr yw yr hyn sydd yn creu awyrgyich foesol a chrefyddol iach, i beri i bobl dyfu a dadblygu i fod yn ddynion yn ngwir ystyr y gair. Modd bynaag, o bob lian y gwyddom ni am dano, y Llan bychan prydferth a orwedd ar l<»nau yr Eiwy yw y llecyn y mae yr estrones a'i phleidwyr yn arfer eu dylanwad gormesol ic anghristionogol fwyaf o unman. Tra- argiwyddiaeth ffcoenuchel, atgas a welir ac a deimlir yma yn ei fFarf waethaf. Tra- argiwyddiaeth a hunan-les, a hwnnw o dan gochl wen gwasanaeth i Grist ar draul beichio cydwybodau y bobl hynny sydd yn argyboeddedig o'r peth- Os bu lie erioed yn hanes y byd, fwy tebyg na'i gilydd i'r Ddinas, a'r dosbarth sereinoniol oedd yn byw ynddi, wrth ba ra y dywedodd ein Gwaredwr eu bod yn degymu y mintys a'r anis, ac yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, y Llan bychan hwn yw hwnnw. I bob dyn di-duedd, synwyot a chrefyddol, y mae awyrgyich y )!e yn lleihoi, y mie y frwydr yn boeth. Rhengoedd tra-arglwydd- iaeth ar un Haw, a rhengoedd ilwfr-dra a gwaseiddiwch ar y Haw arall. 01d, atolwg, ai ynglya ag Eglwys Lioegr yn uaig y mie y tra-arglwyddiaeth a'r gwaseiddi weh hwn. 0 na yo mhell oddiwrth hynny. y mae yn rhaid dyweyd y gwirionedd. Er gofid i ni y mae yr ysbrydion duon hyn naill a i wedi dod drjs y muriau i mewn i'n heglwysi Ymneiltduol, neu y maent wedi eu mlaagu a'u mheithrin ynddynt, yn neillduol felly yr eglwysi cryfaf-y naill wedi ei fagu a'i besgi ar fer diniweidrwydd, a dallineb, ao arian corff yr aelodau cyffredin" fel eu gelwid, a hynny o dan gochl gwasanaeth i Grist a'r oiaf wedi ei fagu ar ambell i t'riwsfonyn sychtyd a Ilwydaidd a ddigwyddai ddisgyn yn ddamweiniol dros fwrdd yr arglwyddi, a hynny eto o dan gochl gostyngeiddrwydd ac ufudd-dud—mynant i ni gredu, Did yn gymaiot fod goddef- garwch addfwynder, a chariad yn tyfu yn oyffryn prydferth gostyngeiddrwydd, ond tod Tra-argtwyddiaeth "Teigraidd" a gwaselddiweh cial(ld yn byw yno hefyrt —ond diolch am ddigon o synwyr cyffredin, a goleuni yr Efeugyl i weled yn amgenach. Fy mhrofiad yw- y gwneir ein cynnuiieid- faoeid 1 fyny gan dri dosparth Y cyntaf yw yr un gormesol; a hwnnw am ei fod yn meddu ar ddawn a chyfoeth a'r ail yw yr un ,I lIwfr" a gwasaidd, am ei fod yn dylawd, er ei fod y mwyafrif o lawer a'r trydydd yw yr un sydd yn gweled pethau yn eu Hi w priodol, ac yn ceisio cyfryngu er eu gwella, ac oherwydd hyny yn gorfod dioddef merthyrdod mewn e.^wyddor, gan gael eu bystyried fel rhai yn aflonyddu ar heddweh yr eglwys pan y gwyddis na bydd yr heddweh ond un gwasaidd a gorfodol. Nid rhyfedd i dan y Diwygiad ddiffodd mor swta pan feddyliem fod y Ilwynogod llechwraidd ac ysglyfaethus hyn yn aros heb eu difa. Yr oeddym yn disgwyl y buasai dyfodiad colomen wen ysbryd y Diwygiad yn foddion i beri i lawer o'r ysbrydion hyn ftoi; ond er gofid nid felly y mae. Mewn rhai mannau, o leiaf, cyfeirir nid yn anfynych gyda graddau o sarhad wrth son am wrthgilwyr y Diwygiad gan briodoli eu cwymp i'w gwendid a'u diffyg hwy eu hunain, heb feddwl unwaith faint fu dwylaw oerion Tra-arglwyddiaeth a hunan-gyfiawnder yn foddion i ddinystrio y planhigion tyner hyn. Wrth derfynu, nodaf un engraifft fel prawf o'r Tra-arglwyddiaeth a'r gormes yma. Yr wyf yn ystyried fod i aelodau parchus o eglwys gyfrannu yn haelionus ati am oes gyfan heb i'r swyddogion erioed oiyn iddynt, na rhoddi cyfleusdra iddynt trwy gyfarfod brodyr, na thrwy ryw fodd arail, i i roddi eu llais ar pa fodd i ddefnyddio yr arian a gyfrannant, yn un o'r ffurfiau gwaethaf i'r ormes grefyddol ac yn enwedig pan yr atelid iddynt freintiau y Ty, os gwrihodant yn y graddau Ileiaf lymostwng i'w hawdurdod aruchel. LLIN YN MYCU.
Advertising
I I BYES TESTED FREE ^^Jp-to=date Methods. J F. H. ARCHER, F.S.M.O., B.O.A. Price of Spectacles and Eyeglasses extremely moderate. ARCHER & SONS, Specialists. 73, Lord Street, LIVERPOOL. Telephone 5615. Established 1848
Newyddion Crefyddol.
Newyddion Crefyddol. Nodion y Bedyddwyr. £ Asaver(Cpm&i.) Ymddengys i ni, yn ein nodiad o'r alwad gan eglwysi Llanerchymedd a Bod- afon, i Mr Philips, myfyriwr yn athrofa Caerdydd wneud dau gamgymeriad :— (a) Hysbysu ei fod wedi ei hateb yn gadarnhaol, pryd nad ydyw mewn gwir. ionedd. (b) Gadael allan enw y Parch D Hopkins, yn awr o Gaergybi, o restr Y gweinidogion fu yn gwasanaethu Eglwys Llanerchymedd. Deallwn fod rhai pobl fusneslyd yn ceisio argyhoeddi Mr Hopkins mai yn fwriadol ygwnaeth- 011} hyn. Damwain fu ac nid dim byd arall. Os y doluriasom ei deimlad trwy hyn o anffawd y mae yn wir ofidus gen- nym. Nid oes neb yn dymuno ei Wyddiant yn fwy na ni. Cawsom lythyr o Lanerchymedd y galw ein sylw at ein camgymeriadau yn y nodyn cfybwylledig ac yn sicrhau fod Mr Hop- kins mor boblogaidd a neb fu yno. i\T\e\ Dair blynnedd yn ol cynygiodd I fVyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol wobr o ^50 am y traethawd goreu ar "Enwogion Cymreig o 1700 hyd 1900 "gyda Byr-Nodion.' Daeth un a'r hugain 0 gystadleuwyr i'r maes yn Eisteddfod y Rhyl yn 1904 ond atal- hvyd y wobr o ddiffyg teilyngdod. Cyn- ygiwyd y wobr eilwaith yn Nghaernafon a chipiwyd hi gan Mr Edward Jones, Llundain. Bu ychydig o ymgipris Yn nghylch dilysrwydd ei awduraeth 4lewn rhai o'r newyddiaduron. Aeth y storm honno, fel pob storm arall, heibio, a bu tawelwch maw. Nid ydym yn sicr fod y Parch Thomas Morgan, Sciwen, yn un o'r ymgeiswyr a'i peidio. Gwydd- i sicrwydd erbyn hyn, y bwriada "dwyn allan waith yn dwyn y teitl— 'Enwogion Cymreig 1700 1900," Mewn tair neu bedair ogyfrolau tri swllt neu dri a chwech yr un. Ymddangosodd engraifft o'r gwaith eisoes yn Seren Cymru," ac yr oedd yn gryno a phwr- Pasol iawn. Eiddunwn i Mr Morgan £ °b llwyddiant yn yr anturiaeth enfawr "°n. Y mae yn lienor gwych, fel y Prawf ei gofiant rhagorol i'r Parch Nathaniel Thomas, Caerdydd. Y mae yn ein heglwysi lu o bobl ieuainc sydd Yn awyddus am wybodaeth fanylach am cewri oedd ar y ddaear y dyddiau fu. rwy y cyfrolau hyn rhoddir iddynt Syfle rhagorol i ymgydnabyddu a gwr- y ddwy ganrif gyfoethog uchod o hanes enwogion Cymru. Un o bleserau pena'n bywyd oedd cael benthyg En- wogion Cymru" y diweddar Mr Isaac j^oulkes, i'w ddarllen yn ein horiau jjacnddenol. Trueni, gyda llaw, na ,uasai y llyfr rhagorol hwn wedi medru el ffordd i lyfrgell William Brown, yn y ddinas hon, at y 11u I!yfrau Cymreig geir yma. Wedi i'w olygydd ;'engar dreulio cymaint o'i oes yma, ac ,(*do fod yn dwr mor gadarn i lenydd- ei genedl yn y dref ac allan o honi. ydym eto wedi bod mor ffodus ac etifeddu dwy gyfrol Josiah Thomas Jones, ar yr un testyn. Mantais i'r JJyfr ac i'r darllenydd fydd cyfyngu nanes yr enwogion i gyfnod neilltuol— Sef dau gan mlynedd. Yn sicr y mae i ^aith o'r nodwedd yma ei le mewn Jjenyddiaeth Gymreig. Gobeithio y ca ^derbyniad calonog. Hyderwn yr ad- Syfodir coffadwriaeth ami i un na chadd 8YIVV yn y llyfrau crybwylledig. Gwna II k Geninen" wasanaeth amrhisiadwy Vn y cyfeiriwyd hwn, hynny yw, rhoddi ar gof a chadw hanes buchedd a bywyd Svyroniaidj mewn gwahanol gylchoedd. 1 cha yr un cadarn yn awr syrthio na phlenir blodyn ar ei fedd gan ryw gyfaill gilydd yn ngardd Y Geninen." ^bosiblein bod ni y Bedyddwyr mor 'eius a neb mewn anwybyddu coffaw- ^riaeth ein cedyrn. Nid prinder Ysgrifenwyr cymwys sydd i gyfrif am hYn, ond diffyg cefnogaeth ac ofn colled. 1\Ta.\» O"T 'D*ts%,abk. Yn Dr Witton Davies, ceir engraifft ?'r hyn all dyn wneud yn ngwyneb ^awer o anhawsderau, trwy ddiwyd- rwydd a dyfalbarhad. Bu Dr Davies 4ttl rai blynyddau yn dal y swydd o athraw yn Ngoleg ei enwad yn Bangor, ar un pryd yn un o broffeswyr y Brif- Ysgol, o herwydd lliosogrwydd galw- aciau am ei wasanaeth, a'r dreth drom a!" amser gorfodwyd ef i dori ei gys- ^"tiad ag ysgol y proffwydi yn Bangor, ^nderfynodd y myfyrwyr ei anrhyd- e<idu ag anerchiad hardd, fel arwydd o'u parch diffuant tuag ato, a'u dyled iddo tel eu cyn-athTaw. Efe yw yr unig Gymro gafodd gyfle i ysgrifenu erthyglau I i'r llyfrau safonol E icyclopscdia Biblica," Hasting's Dictionary of the Bible," a'r "Century Bible." Yr ydym newydd wneyd sylw o Dr Davies a'i waith yn y golofn hon eisoees, fel nad oes angen ymhelaethu. H R ROBERTS. Pob goTiebiaetli i'w hanfon i'r PARCH. La. R. ROBERTS 186. -\Iollyn-eux Road, 080
Llyfrau a Llenorion
Llyfrau a Llenorion COFFA CEIRIOG. Mae symudiad ar droed i godi adeiliad er cof am Ceiriog yng Ngiyn Ceiriog, ei hen gartref. Cychwynwyd y mudiad gan Mr A T Davies, Ysgrifen- nydd Swyddfa Addysg Cymru, beth amser yn ol bellach, mynegir ei fod yn debyg o droi yn llwyddiant. Deil Mr Davies i gymeryd dyddordeb yn y mater, er ei fod er pan benodwyd ef i'w swydd newydd, wedi symud i Lundain i fyw. Un arall s/n gefnogwr cryf i'r mudiad yw Mr J. Herbert Robert?, A.S Cyn- haliwyd cyfarfod yng Nglyn Ceiriog yr wythnos ddiweddaf i gefnogi'r cynllun, a siaradwyd yn gryf o'i blaid gan y Parch. R. Jennings, ficer Glyn Ceiriog a'r Parch Ellis Jones. Bwriedir coil math o sefydliad cy- hoeddus yn y lie, a rhaid wrth swm go lew o arian at y pwrpas hwnnw, mae'n ddiau. Nid wn i ba faint o arian sydd mewn llaw, na pha faint sydd eisiau, ond gellir yn ddiau wneud defnydd da 0 taint bynnag a giffer. Beth pe rhoe pob un a gafodd fwynhad wrth ddarllen cerddi Ceiriog swllt at y drysorfa ? Deuai cryn lawer o sylltau i fewn o bob cwrr o'r byd. Fiwyddya yn ol, yr oeddwn yng nghwmni dau o gyfeillion yn un o'r ileoedd hyfrytaf yng Ngogledd Cymru, ac aethom i son am Ceiriog. Bobl anwyl ebe un o'r cwmni—dyn ynghanol busnes rnawr "onid ydi Ceiriog wedi bod yn gysur i lawer Ar hynny, dyma fo yn dechreu ad odd rhai o gerddi'r bardd. Bu wrthi am hydion, a ninnau a'r Ileill yn gwrando arno mewn distawrwydd. Yr oedd y ffenestr yn llydan agored. Draw yr oedd Mon Mam Cymru yn y golwg, a niwl llwydwyn fet lien uwch ei phea, a Menai fel aerwy arian rhyngotn a hi. Yr oedd awel Mehefin yn dwyn arogl blodau fil i fewn drwy'r ffenestr agored, a'r awyr drymaidd yn bwrw hud ar bo- peth. Clywem lais mwyn yr adroddwr —mab i hen gerddor gwych yn ei ddydd -yn adrodd cerdd ar ol cerdd, a'u hadrodd yn ardderchog yr oedd hefyd. Aeth dros y Cyfoedion Cofadwy," "Nant y Mynydd," Y Garreg Wen, Breuddwyd y Bardd, darnau o Fy- fanwy Fychan," ,pac o Alun Mabon," campwaith Ceiriog, ac un o'r cerddi goreu yn y byd. Yr oedd ei lais yn dyfod megts o bell, a'r geiriau yn llito atom yn esmwyth a pheraidd. Dyma'r pryd y gwybum i mewn gwirionedd gymaint o fiwsig y sy yn ngherddi Ceiriog. Dyna hi," ebe'r adroddwr, ar ol gorffen Nant y Mynydd," dyna hi, a dyna'r "Garreg Wen wed'yn. Rydw i yn cofio adrodd honno mewn cyfarfod nnwaith yn Roeddwn i yn meddwl y medrwn i ei hadrodd hi yn o dda hefyd. 'Roeddwn i yn meddwl yn sicr fy mod wedi cael hyd i ysbryd y gerdd Ceisiais a methais. Nid ad- roddais erioed yn salach, 'rwyn siwr. O mai hi yn gerdd ardderchog I" "Adrodd weh hi I" ebe H. a ninnau ar unwaith. "Wn i ddim fedra' i bellach-mae amser er hynny," meddai G.O., ond mi geisiaf." Ac fe wnaeth. Ar tro hwnnw, beth
Advertising
— 1 Perfect Artificial Teeth. P. Neil Campbell 84, BURNING ROAD (Next to Edge Hill Training College), b LIVERPOOL .e60.$O. PAINLESS EXTRACTIONS. Gold, Silver and Other Fillings Advice and Estimates of Cost Free. Hours 9 a.m. to 8 p.m. LADY ATTENDANT. American System of Crown & Bridge Work Telephone 445 Royal.
Llyfrau a Llenorion
I bynnag, cafodd hyd i ysbryd y gerdd. I Nid anghofiaf byth mo'i lais na'i lygaid. I Yr oedd y naill fel yr awel a'r llall fel y gwlith dan yr haul. Gwnaeth G. O. gamp y noswaith honno. Ni wnaeth adroddwr erioed well chware teg a gwaith ei hoff fardd, ac nid adroddir byth mo'r Garreg Wen yn rhagorach nag yr adroddwyd hi y noswaith honno. Ac ar ei hol, dyma Freuddwyd y Bardd." Ai breuddw/dio yr oeddym ninnau ? Yr oedd y goleuni yn lleihau, fel pe buasai'n cilio draw, yn don ar ol ton, a'r nos, hithau yn dyfod yn araf ac yn dwyn syrthni yn ei hes- gyll eang. Ac yntau'r adroddwr yn eistedd yn y gornel o hyd, ac yn llefaru yn araf ac yn isel Ni welodd ef gladdu Ei briod a'i deulu, IN a deilen wywedig yn disgyn i'r ardd, Yng ngwyfyd ei galon bruddwydiodd y bardd." Alun Mabon," ebe un o honom yn ddistaw, pan orffennodd efe gerdd yr hen fardd yn ei freuddwyd. Ie," ebe yntau, "Alun Mabon dyna un o bethe gore Ceiriog." "Adroddwch y penillion olaf," ebe H- "gwnewch." Gwnaeth yntau mor gampus ag yr adroddes Y Garreg Wen." Aros mae'r mynyddau mawr, Rhuo drostynt mae y gwynt, Eto clywir gyda'r wawr Gftn bugeiliaid megys cynt; Eto tyf y llygad dydd Ogylch traed y graig a'r bryn, Ond bugeiliad newydd sydd Ar yr hen fynyddoedd hyn. Ar arferion Cymru gynt Newid ddaeth o rod i rod, Mae cenbedlaeth wedi mynd A chenhedlaeth wedi dod Wedi oes dymhestlog hir, Alun Mabon mwy nid yw, I Ond mae'r heniaith yn y tir A'r alawon hen yn fyw. Tawodd y llais mwyn. Nid oedd Mon na Menai i'w gweled mwyach ond yn aneglur yn y gwyll. Yr oedd yr awel dyner yn cynhyrfu, ac fel pe buasai yn tynu ei llais ati ac yn ucheneidio yn awr ac eilwaith. Disgynnodd dafnau breision o law ar garreg y ffenestr a chlywem drymllyd swn taran yn rholio yn y pellter. A oedd ysbryd Ceiriog yn y daran ar yr hen fynyddoedd hyn ?" "Dynbyw," ebe'r adroddwr, megys wrtho ef ei hun, ydi, mae Ceiriog wedi bod yn gysur i filoedd Bum yn meddwl llawer am ei eiriau wedyn, ac yr wyf yn sicr ei fod yn ei le. Yr oedJ Ceiriog yn adnabod calon Cymru, a chanodd lawer o'i Jlawenydd a'i gofid. Onid oes ar led y byd filoedd o Gymry a garai roddi swllt at ei goffau yn ei hen gartref ? Daw llawer ohon- ynt i weld y lie ryw dro. Canodd Ceiriog ei hun- 'Does neb yn caru Cymru'n llai, Er iddo grwydro'n ffol Mae calon Cymro fel y trai Yn siwr o dd'od yn ol!" Pe medrid cyrraedd y Cymry sydd ar led yn gystal a'i rhai sydd adref ac a gafodd gysur yng ngweithiau'r bardd, nid anodd fyddai cael bob yn swllt swm go dda at godi'r llyfrgell yn Nglyn Ceiriog. Os teimla rhyw ddarllennydd ar ei galon anfon swllt i swyddfa'r Cymro," cydnabyddir ei dderbyniad yn y golofn hon, ac anfonir ef i'r rhai sy'n gofalu am y mudiad yng Nglyn Ceiriog. Cofiodd Ceiriog y mawrion meirw- Os caru cofio'r wyd Am ddolydd Dyffryn Clwyd, 0 cofia gofio'r rhai sy'n hutio dan dy droed 1" Ac nid anghofir mo'i hiraeth am gartref, lleferydd i deimlad calon llawer mil o'i gydwladwyr Mae'r wenol yn crwydro o'i hannedd ddi-lyth, Ond dychwel wna'r wenol yn ol i'w hanwyl nyth A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt, Gan gofio'r hen gartref y chwareuem yndd.i gynt Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd Chwerwed ef a ciwerw, melus ydyw cofio Annedd wen dan haulwen yr awen a wena arnom [byth!" -tot-
Ar y Tir
Churchill yn amhendant ar y mater. I! Gwyddom yn union ym mha le y mae efe yn sefyll, a chan ei fod yn siarad dros y Llywodraeth, gwyddom mai hollol ofer fu cais Dr Jim ac eraill i gael gan y wlad hon dolli ymborth y tlawd er mwyn y goludogion. Nid oes gan y Trefedigaethau le yn y byd i gwyno oherwydd barn y wlad nag ag- wedd y Llywodraeth ar y mater, ond os medr y Toriaid, byddant yn sicr o greu drwg deimlad. Hwy yw'r bobl sydd yn son am undeb Ymherodrol ac yn gwneud eu goreu i gynyrchu peth hollol groes i undeb. < Wrth gyfeirio at gyllid y wlad yn ei araith yn Edinburgh, dywedodd Mr Churchill fod y cyfnewidiad ynglyn a'r mater hwnnw eisoes yn ddigon i haeddu ei alw yn rhyieddoi. Yr oedd llawer iawn o bethau, ebe fe, i galonogi y rhai oedd yn gobeithio y gellid ym wneud a. phwnc blwydd-daliadau i hen weithwyr cyn hir. Gwn am amryw ffermwyr Cymreig sydd ar fedr penderfynu gadael eu hen gartrefi a myn'd i Canada. Maeat wedi blino ar weithio fel caethion i dalu J crogrenti i gadw scgurwyr nad ydynt | dda i ddim, a theimlant fod yn Canada gyfle i bobl onest a diwyd, peth na cheir yn y wlad hon. Hysbysir fod mwy o ymfudc i Canada eleni nag erioed. Aeth 55,000 o ymfudwyr drwy Montreal er mis lonawr ar eu ffordd i ogiedd- orllewin Canada, rhagor o ddeng mil nag yn ystod yr un amser y llynedd. Mae digon o le iddynt yno, a digon o dir i'w gael ar delerau ysgeifn a hawdd eu cyfarfod. Nid ffermwyr a gweithwyr yn unig sydd yn eisiau yn Cana.da ychwaith. Mae yno al w am grefflwyr medrus, ac y mae Cymdeithas Gwneuttiurwyr Celfi y wlad wedi penderfynu gofyn i'r Llywod- raeth gefnogi ymtudiad crefftwyr yno. Y mae galw am ymfudwyr hefyd yn Awstralia, ac y mae'r Llywodraeth yn barod i gymeryd moddion i wneud anghenion a manteision y wlad honno yn hysbys ym Mhrydain Fawr. Yn ystod yr ychydig Oynyddau nesaf diau y gweiir llawer o ffermwyr ieuainc Cymru yn ymfudo. V mae byw ar y tir yn y wlad hon wedi myn'd yn nesa' peth i amhosibl, ac ni cheit dynion ieuainc anibyunol eu hysbryd byth dderbyn y driniaeth y mae ffermwyr Cymru yn ei chael oddi ar law y meistradoedd tir a'u hystiwardiaid. Peth tr ist yn ddiau yw meddwl fod yn rhaid i'r dynion mwyaf anibynnol mewn o-wlad droi o'u hen gartrefi, ond nid oes dim arall i'w ddisgwyl oni cheir diwygiad trwyadl yn neddtau'r tir. Mae melltith y ceir motor yn mynd yn waeth o hyd yn y wlad. Yr wythnos ddiweddaf bu cynhadledd yn Mhen- maenmawr o gynrychiolwyr Cynghorau Cymreig i ystyried y mater. Pender- fynwyd ceisio gan Gynghorau Sirol Cymru a Lloegr ofyn i'r Llywodraeth roi arian at wneud y ffyrdd yn gyfryw fel na fydd y llwch yn peri niwed a cholled fel y mae yn bresennol, Dy- wedodd Mr Thomas Roberts, Aber, un o brif iffermwyr Sir Gaernarfon, fod y golled a achosir gan y ceir motor yn ddirfawr. Byddai ei berllan ef yn arfer bod yn un o'r rhai goreu yn y wlad, ond y llynedd difethwyd y blodau gan lwch y ceir motor fel na chafodd efe nag afal, na gellygen, nag eiran yno. Am y niwed a wneir i dai a phorfa, y mae hwnnw yn aruthr. Dylid gwneud rhywbeth rhag blaen. Pahamjj nad orfodir y rhai sy'n defnyddio ceir motor i wneud ffyrdd idd-ynt eu hunain, fel y mae rhaid i gwmniau y ffyrdd haearn ? Byddai lawn mor resymol caniatau i'r trenau redeg hyd y ffyrdd. Yn wir byddant yn llawer iawn diogelach na'r ceir gwylltion hyn, a yrrir gan ynfydion traws auoddef,