Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE. ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS. 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERDDOROL Y CYMRY Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o 10s. 6ch. y mis ac uchod, Gan y gwneuthurwyr goreu bob amser ar law Broadwood, Brinsmead, Collard, Neumeyer, & Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &e. AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c &c, HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &e. VOICE TRAINING, &c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on application. CANEUON, &c. (Goreu'r Iaith Dr. Parry, &c. «w1ad v Delvn [J. Henry], cyfaddas i bob llais. Is O Rwy'n Cofio (Sweet Memories) Tenor Is i*wiaa y JJeiyn l wiad fy Ngenerljgaeth. Soprano neu Tenor Is Gwlad y Canu „ » is Llvrhyrf y Mam Sopraho neu Tenor is ^Wt\ytl 57 t™3 is Mcrch y (J (llx'.n. Baritone Is Merch y Morwr ,• is Hen Gadair Kawrfy Contralto, Barilaiie tsc n.r?^3h\aTfrfeBTodau Songs of Wales [bound] 4s post free Ditn ond Deilen Contralto neu Baritone 6d Gems of Welsh Melddy 7s 6d post free Yr oil yn y ddau Nodiant. D. R. JONES & Co., 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. F Eto ar y Blaen. — TERWERIN. —. TE A CHOFFI PUR. Gwerthiant yn cynyddu bob wythnos o gan pwys i dunelli. I Cartref Gymreig. < f GLASLYN HOUSE, 9, Euston Square, London, N,W. EVANS) I TEMPERANCE HOTEL Most Central to all parts of London. Close to Euston (L. & N. W. Ry.) Station. Two Minutes walk from St. Pancras (Midland By,),SWon. Ten Minutes train from Padàington (G. W. Ry.) to Gower Street Section for Euston Square. Fare, ld. I Home for Students during Examinat ion. 1 I ————— Addysg ol. BEAU M ari S GRAMMAR & COUNTY SCHOOL HEAD-MASTER: E. MADOC JONES, M.A., Downing College, Cambridge, A gSISTED BY QUALIFIED MASTERS. BOARDERS are received at the School House. jj Terms Moderate. Superior accommodation healthy and pleasant situation. SCHOOL RE-OPENS SEPTEMBER 17TH. Applj) HEAD-MASTER. COUNTY SCHOOL, BARMOUTH. (A DUAL SCHOOL FOR BOYS <0 GIRLS). JHEAD MASTER EDMUIID D. JONES, M.A: HEAD-MISTRESS Miss E. J OWENS, B.A. Boys received as B Darders by the Head- master, and Girls by the Head-mistress. Prospectus, &c., on application from J. LLOYD, Clerk. JAMES NISBET, L.R.A.M., Teacher of Piano, Organ, Harmony & Singing. Eighty Certificates, Two Medals. One Book Prize, One L.R.A.M. Diploma, Three Eisteddfod Prizes gained by Pupils. 11, SPELLOW LANE, LIVERPOOL. RICHARD E. EVANS. HOUSE AND ESTATE AGENT, ia, Preston Street (Opposite Police Courts), LIVERPOOL, And 67, CLARENDON ROAD, SEACOMBE. ESTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR LET, MORTGAGES EFFECTED.
Ein Colegau.
Ein Colegau. COLEG Y GOGLEDD, BANGOR: Arholiad am Ys- golo iaethau.-Y mae yr arholiad art). ysgoloi-iaethau (agored i fyfyrwyr newydd yn unig) yn y coleg yma newydd derfynu. Rbanwyd yr ysgoloriaethau fel y canlyn :—William Roberts (Ysgol Friars, Bangor), 40p; Horatio Nelson (Ysgol Ramadegol Uttoxeter), 30p Annie Lawrence (Leeds Church Middle Class High School), 25p; Frank N. Tinkler (Coleg Aberystwyth), 25p; Llewelyn Caradoc Evans (Ysgol Kingswood, Bath), 20p; Katharine L. Johnstone (Woolwich and Plumstead High School), ?0p Edward Jones (High Schoel, Os- westry), 15p; Edith Owen (Ysgoi Plas Meuai, Bangor), 15p; Arnold Davies (Ysgol Ramadegol Menai Bridge), lOp; Jacob John Evans (New College. Llundain. ac addysg gartref), lOp William Griffith (Liverpool College), lOp C. W. L. Hardy (Coleg Amaethyddol Downton), lOp; Alice M. Paterson (Hammersmith High School), lOp Moses Roderick (addysg gartref), lOp; Mabel E. TaHFs (Woolwich and Plumstead High School), 10p. Safai J. H. Wimms (Hackney Pupil Teachers' Centre) yn nesaf yn y rhestr. Ysgoloriaethau Tate (am wyddoniaeth ac efrydiau celfyddydol), Morgan M. Phillips (Coleg Normalaidd Bangor), 20p C. N. Waterhouse (Ysgol Rydal Mount, Col- wyn Bay), lOp. ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH Yr Arholiad am yr Ysgoloriaethau.—Mae senedd yr Athrofa hon, mewn cyfarfodydd a gynaliwyd ar y 24ain a'r 27ain cynfisol, wedi dyfarnu yr ysgolor iaethau canlynol i'r ymgeiswyr llwyddianus yn yr arholiad a gynaliwyd yr wythnos cyn y ddiweddaf -Miss E. M. Henle, Chantry School, Frome, 40p (Ysgoloriaeth David Davies) Miss Sifton, Notting Hill High School, 25p (Ysgoloriaeth Brereton, 15p, a rhan o Ysgoloriaeth yr Ymwelwyr, lOp); Miss Trayes, N. London Coll. School for Girls, 20p (Ys- goloriaeth Commercial Travellers North Wales); W. C. Wordsworth, County School, Dolgellau, 40p (Ysgoloriaeth y Prifathraw); Miss E. M. Davies, Notting Hill High School, lOp (ysgolor- iaeth agored); Miss E. B. Ross, Southport High School, 80p (ysgoloriaeth agored) E. N. Jones, Athrofa Prifysgol Caerdydd, 20p (ysgoloriaeth gyfyngedig i Gymry); William Burton, Athrofa Prifysgol Bangor,'25p (Ysgoloriaeth Keeling mewn Athroniaeth Naturiol) J. W. Wilkinson, Royal Ie lIege of Science, lOp (ysgoloriaeth agored); Miss E. Small, Jersey Ladies College, lOp (ysgoloriaeth agored); E. Derry Evans, efrydiaeth breifat, 20p (Vsgoloriaeth R. iI. Richards) Miss F. V. Brew, Blackburn Ho. School, Lerpwl, lOp (ysgoloriaeth agored); J. H. Watts, Bedford Modern School ac efrydiaeth breifat, 5p (rhan o Ysgoloriaeth yr Ym- welwyr) Miss Hart, Haberdashers' Girls' School, Hoxton, 5p (rhan o Y sgoloriaeth yr Ymwelwyr) E. E. Hughes, County School, Bala, lOp (Ysgolor- iaeth Ellis Eyton) Miss Theobold, Cambridge Training College, 5p (rhan o Ysgoloriaeth yr Ym- welwyr) S. H. Hooke, St. Mark's College, Wind- sor, 5p (rhan o Ysgoloriaeth yr Ymwelwyr) Miss Dora Turner, Bournemouth and Nottingham Girls' School, lOp (Ysgoloriaeth Keeling mewn Athron- iaeth Naturiol, ychwanegol); George Thomas, Athrofa Prifysgal Caerdydd, lOp (ysgoloriaeth gyfyngedig i Gymry) John Evans College School, Lampeter, 20p (Ysgoloriaeth Elizabeth Davies); Miss M. D. John, King Edward School, Birmingham, lOp (ysgoloriaeth agored) Richard Williams, C.M. Preparatory School, Bala, lOp (ysgoloriaeth gyfyngedig i Gymry) 0. T. Jones, County School, Pencader, lOp (Ysgoloriaeth Kee!- ing mewn Athroniaeth Naturiol); R. L. Davies, Normal College, Bangor, lOp (ysgoloriaeth gyfyng- edig i Gymry) S. M. Lewis, Old College School, Caerfyrddin, ac efrydiaeth breifat, lOp (ysgolor- iaeth gyfyngedig i Gymry); David Ellis, Commer- cial and Grammar School, Aberystwyth, 5p (haner ysgoloriaeth Gymreig); Miss M. E. Jones, Dr Williams' High School, Dolgellau, 5p (haner ys- goloriaeth Gymreig); David Williams, Athrofa Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 20p (Ysgoloriaeth Cynddelw).
Advertising
TKGS.JONES &Co. Ltd. TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7, and 2/- per Th. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20/- and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLIGATION. THOS JOES CO. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. Y CYMRO: Newyddiadur Oenediaethol. Danfonir UN copi yn ddidraul trwy y Post:- Am 12 mis, 5/6 Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/6 Telerau Hysbysiadau- Yn ol 3/- y fodfedd, neu 13 gwaith am 19/6. NOFEL NEWYDD, Miriam y Gelli." Yn ein rhifyn nesaf bydd "YR HEN DEILIWR," yn terfynu; a'r wythnos ganlynol (Hydref 17) dechreuir cyhoeddi NOFEL NEWYDD fyw o ddydd'; ordeb, lawn o ddigwyddiadau cyffrous, ddesgrifiadol, ddyddan, ddifyr, yn arddangos ac yn egluro y BYWYD GYMREIG YN MHAfAGONIA Gan un sydd wedi byw yno am flyynddau, f'un Ilygad dyst o'r ffeithiau a ddesgrifir, a chanddo ddawn uodedig at ymhelaethu. Mewn gair Nofel Newydd gan Awdwr Newydd a fydd "MIRIAM Y GELLI," gwerth i bob Cymraes a Chymro ei darllen a'i deongli. Er nad yn faith mae MIRIAM Y GELLI Yn un o'r nofelau goreu a ddarllenasom erioed. Tua'r Nadolig byddwn yn dechreu cyhoeddi N OFEL NEWYDD alluog arall o waith y rhian wyl- aidd a thalent g Miss WINNIE PARRY, Port Dinorwic. Cydaebydd pawb fod Y CYMRO yn ei Nofelau beth bynag yn rhagori ar bob Newyddiadur Cym- raeg arall; ac yr ydym yn dra hy erus i bydd i'r ddwy Nofel uchod chwanegu at ei glod yn y cyfeiriad hwn.
< TRADE-UNIONISM CLERICOL.
< TRADE-UNIONISM CLERICOL. DDYDDIAU Mawrth a Mercher o'r wythnos ddiweddaf, ymgynullodd clerigwyr, yswaen- iaid, a phobl fawr Llanelwy i Wrecsam i gadw eu cynadledd flynyddol. Llywyddid gan yr Esgob. Yntau a agorodd y gweith- rediadau mewn anerchiad tra nodweddiadol ohono ei hun-wedi ei fritho gan ystad- egau," ac yn ddigon bydol i ddyfod o'r gadair ar ginio clwb neu gyfarfod cwmni reilffordd. Hyd y gwelwn, ni chrybwyllir Cristionogaeth yn llythyrenol ynddo ond unwaith, ac y mae lawn mor amddifad o'r ysbryd ag ydyw o'r llythyren. Y mae yma lawer o son am yr eglwys, wrth yr hyn y golygir Eglwys Loegr, ac ar ran pa un y bu gwirionedd, cyfiawnder, a rhai, priodoledd- au caill yn helpu'r esgob yn ddiweddar i p enill buddugoliaeth ogoneddus yn yr etholfa gyffredinol, ac am yr hyn y mae efe yn ddigon natunol'yn llawen. A'n dyled- swydd yn awr," ebe'i arglwyddiaeth, "yd yw gwneud y blynyddau heddychol sydd o'n blaen yn ffrwythlawn o weithredoedd da." Mae'n amheuthyn clywed geiriau mor raslawn yn disgyn tros wefusau Esgob Llan- elwy, ef y dywedir yn y frawddeg nesaf mai diwygio'r eglwys a'r ysgolion gwirfodd- ol a olygir yn benaf yma wrth weithred- oedd da." Fel y gwelir, mae'r ymadrodd diwygio'r eglwys," yn awgrymu nad yw hithau'n berffaith fel y myn rhai Eglwys- wyr gorselog-Esgob Llanelwy o'u rhifedi -y rhai a gyfaddefent yn rhwydd fod ar y byd ac Ymneillduaeth fawr eisiau diwyg- iad, ond nid yr Eglwys. Ac yr oedd yr Esgob yn bur bendant mai nid rhyw un esgobaeth ddylid ddiwygio ond pob esgobaeth, gan amlygu trwy hyny mai yr un feddyginiaeth a wna'r tro i'r Eglwys yn Nghymru ag i'r Eglwys yn Lloegr. Un o nodion arbenicaf crachfeddyg ydyw cym- hwyso yr un physig at bob math o afiechyd. Ac fe gydsynia pawb bron fod eisiau diwygio'r Eglwys, yn Nghymru beth bynag. Diwygiad ardderchog fyddai dysgu amryw o'i hurddasolion a'i chlerigwyr i synied yn gywir am danynt eu hunain, i'w hadnabod eu hunain a gweled mai bodau meidrol ydynt ar y goreu-nad yw eu breichiau yn hwy na gweinidogion adranau eraill o'r fyddin fawr. Diwvgiad árall o duedd i lesoli'r person a'r plwyf a fyddai eu dwyn yn nes at eu gilydd, trwy ad-drefnu'r gyfun- drefn blwyfol-symud yr eglwysi o'r llan- erchau anial ac annghysbell y maent ynddynt yn awr, a'u dwyn at y bobl. Ond y diwygiad penaf oil y dylai gwir garedig- ion yr eglwys ymgyrhaedd ato fyddai cym- hwyso ati yr egwyddor wirfoddol, yr hon sydd wedi gwneud yr eglwysi Ymneillduol y fath allu mawr yn y wlad. Mae'n wir nad yw'r tri diwygiad hyn yn perthyn i'r dosbarth uwchaf o ddiwygiadau. Ond y maent yn annhraethol uwch na'r trade unionism oedd gan Esgob LIanelwy i'w gynyg yn Ngwrecsam. Yn marn ei arglwyddiaeth y camwri sydd yn gwaeddi fwyaf croch am ddiwygiad ydyw atal gos- tyngiad yn nghyflogau'r clerigwyr. Yn ol ei dystiolaeth ef, nid yw gwir gyflog offeir- iaid o fewn 40 y cant i'r hyn a nodir fel y swm a dderbyniant ac fel engraiphtdywed mai 425p ydyw yr hyn a geir o 700P. Achosir hyn gan y gostyngiad yn ngwerth y degwm, er y dywed y ffermwyr nad yw eu taliadau hwy ond tua'r un faint er's blynyddau. I ba le, gan hyny, y mae'r gweddill yn myn'd ? Ac nid yw'ri hawdd I gwybod pa fodd y mynai'r esgob dynu'r clerigwyr o'r wasgfa. Dywed yn bendant nad yw yn disgwyl rhagor oddiwrth y tir, ond cyfeiria at y cynydd dirfawr sydd wedi bod ar gyfoeth mewn cyfeiriadau eraill, a dadleua y dylai clerigwyr Eglwys Loegr gael rhan ohono ar lun, dyweder, Offrym- au'r Pasg." Ceisbwl a phastwn i hel y degwm oddiar y ffarmwr, druan gwen deg ffals a geiriau mwyn i gardota offrymau'r Pasg." Ac yn mhellach, y mater olaf ac nid y cyntaf a ddygasai esgob wedi ei fendithio a synwyr cyffredin gerbron a fuasai cyflogau'r clerig- wyr ie, yn hytrach na chrybwyll peth mor fydol a hunanlesol, buasai llawer esgob yn rhoi haner ei gyflog fel esgob (2,ioop) tuag at helpu ei frodyr tlodion cyn yr ynganasai air am dano, a bu rhai o'r cyfryw esgob- ion yn llanw'r swydd y mae Esgob Edwards yn awr ynddi. Aden fawr arall yr araith gul hunan- geisiol hon ydyw ceisio profi y dylai'r Ysgolion Sectol a godwyd i ddysgu pader a chredo a ffurfiau a defodau tan yr enwg wyb- odaeth grefyddol-y dylai'r ysgolion hynÁ gael eu dodi ar yr un safle a'r Bwrdd Ysgol- ion, neu Ysgolion y Wladwriaeth hyny ydyw y dylai rhan o'r trethi a delir gan Ymneillduwyr tuag at addysgu plant tyned at gynal ysgolion lie y dysgir daliadau sydd yn ol eu barn hwy yn gyfeiliornadau, megys adenedigaeth yn medydd, &c. Pan elo'r Esgob i faes fel hyn, bydd ei ffigyrau yn britho'r llygaid, ac yn profi pobpeth, unpeth neu ddim. Bron nad allai dyn dyeithr ofni i'r prelad darbodus golli dagrau pan y cyfeiria at dywyllwch plant Cymru a sir Fynwy, lie y mae 50 o'r 57 Ysgolion y Bwrdd sydd trwy Gymru a Lloegr, heb ddarpariaeth ynddynt ar gyfer addysg grefyddol y plant." u Ffaith alarus ydyw hon," ebe'r esgob, "i unrhyw Gymro Crist- ionogol." Ond cymered y Cymro Cristion- ogol galon Wrth eu ffrwythau yr adnabydd- web hwynt. Ni fyddai genym ofn gosod dwsin o blant unrhyw sir yn Nghymru tan arholiad Ysgrythyrol hefo'r un nifer o blant unrhyw sir yn Lloegr, na ddeuai plant Cymru allan o'r ymdrech yn fwy na chon- cwerwyr. Y gwir yw fod gan Ymneilldu- aeth gyfundrefn i gyflwyno addysg gref- yddol nad oes gan Eglwysyddiaeth hyd yn hyn. Gresyn na ddywedai rhywun wrth Esgob Llanelwy am y gyfundrefn hono.
o, Arwerthiant Ystad Cwydir.
o Arwerthiant Ystad Cwydir. AED yo ml-.en gyda'r arwerthiant uchod ddydd Mercher, pan y daeth cynulliad lluosog yn nghyd ac y caed prisiau da. Yr arwerthwr oedd Mr W. A. Dew, a tharawodd y gwahanol lotiau i'r rhai canlynol :—Glanygors, 251a. 3r. 31p., Mr John Evans y tenant, am 1,550p. Tai Uchaf, 63a. 3r. 15p Mr David Evans, tenant, am 700p. Tynycoed, Mr D. Williams am 80p; Whitehall Cottages, Parch J. Gower, am 60p. Rhan o Tai uchaf a Tynyllan, Mri R Hughes a'i Fab, tenantiaid, am 140p. Tynwyd Tynrhos a Phenrhos yn ol. Tnnyreglwys a Bwlch, 195a. 3r. 21p., Mrs Jones, y tenant, am 900p. Aeth Tai Isaf yn rhanau i'r Parch John Gower am 220p Mr J. E. Evans Jones, Trefriw am t75p; Mr Glynne Jones, Bangor, am 215p; a Dr Evans, Trefriw, am 317p. Ty Newydd, 19a., Mr D. Hughes, tenant, am 393p. Penygwaith, 92a. 2r. 7p., Mr G. Roberts, tenant, am 446p. Tynyrardd, Mr D. Pritchard am 67p. Tynwyd cynefin defaid Bwlchyrhaiarn yn ol. Talyllyn, 276a., Mr Griffith Thomas, tenant, am 780p. Prynwyd Cae Huddugl, yn cynwys rhan o Raiadr y Wenol a'r afon Llugwy, gan Mr John Smith, Graigside Hydro, Llandndno, am 2,400p. Dolgarn a Dol Bryn Coch, Dr Roberts, Ffestin- iog am 3000p. Cefnsgubell a'r Waenhir, Mr D. W. Evans, y tenant, am 1,380p. Tynwyd amryw lotiau yn ol o ddifiyg cynygion digonol. Cyfanswm gwerth yr eiddo werthwyd yn ystod y dydd oedd 14,613p, yn gwneud cyfanswm y ddau ddiwrnod yn 34,888p.