Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 1853. OWEN ROBERTS, ESTATE GENT, 33, Netberfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the own, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of axes. Also larger houses at higher rents. (F H. E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, KSTA.TE AG-ENT. HA.S large and small Hous To Let in various parts of the JLi city and suburbs. Bouses bought and sold. Al ortgages arranged, Ac. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and ec- noaiically managed. Sales and purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insuances effected. (i HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arranged. TELEPHONE No. 1779. W. H. W EVAN AS & C°- AUCTIONEERS & VALUERS,: 38k, 386, & 383, Stanley Roal, Male. HOUSEHOLD SALES conducted on Owner's Premises at fair and reasonable Terms. Varaa- tions made for Probate Transfers, etc. References given. W. H. NEVANAS buy for prompt Cash whole or part of Household Furniture. Best prices given. M The Liverpool Land Company, Limited. TO BUILDERS, &c.-To be Sold, Freehold and 999 eats' Leasehold LAND, in lots to suit purchasers,in Garston, Klrkdale, Walton, Bootle, and Seaforth. Liberal advances will be made to Builders. Property letting well in all the localities,-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0- & I)- WILLIAMS, Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IÍ STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works-TAYLOR STREET, Office and 402 & 404, Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, and Railings; Hot Water, Green Houses, and Sanitary Engineers; Williams' Patent Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c.; Bakers Oven Stocks, Confectioners' Ovens, Chaffers, Boxes, Fire Bars, &c.; at sizes of Gate Runners, &c. TRADE MARK. .wx PES All REGISTERED 167,58 YFeddygipetliFawrGymreig TU AG AT BESWCH, ASTHMA, BRONCHITIS A holl Anlrwylderau y Frest, y Gwddf, a'r Ysgyfaint. PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH PESWCH Ysgrifena y Parch. E. W. DAVIES, Ton tre, yn ddiweddar Gallaf ddwyn tystiolaeth glir i boblogrwydd roawi HUGH DAVIES'S COUGH MIXTURE, ac i dderbyniad lies neill- duoi fel siaradwr cyhoeddus oddiwrth ddefn- yddiad ohono, ac hefyd 'w werth yr adeg hon gyda'r haint Influenza.' Llanberis, Jan. 27, 1886. Dywed y Patch. J. E. OWEN:- Y mae hen raig yn Pentraeth, Sir Fon, yn dueddol iawn i beswch caled yn enwedig ar amserau rhewllyd. Nid oes dim yn y ffordd o feddyginiaeth yn ei lleshau gystal a'eh 'COUGH MIXTURE.' Ei hnnig gysnr ar y ddaear, ebe hi. yw y Beibl a DAVIES'S COUGH MIXTURE.' Dywed y Parch. LL. B. ROBERTS, Caernarfon Dan ochain anwyd yn nychu -a'r lungs Yn rhyw lesg Weithredu Mwy cais trwy y Cough Mixture cu, Oes 0 iechyd ddi-besychu!' Dywed D. JONES, Bethesda, Bangor:- Anwyl Syr,—Cefais ddwy botel o DAVIES'S COUGH MIXTURE gan Mr. Hughes, Druggist, yn ddiweddar, a dymunaf ddiolch i chwi am dano. Yr oeddwn yn dioddef er's misoedd oddiwrth Beswch a Diffyg Gwyut, ac weditreio pob moddion, ond yn aflwyddianus; ond yr wyf drwy eich meddyginiaeth anffaeledig wedi cael adferiad trwyadl, a gwnaf fy ngoreu i gymhell eich darpariaeth ar bawb sydd yn ddi- oddef oddiwrth anhwylderau yr Ysgyfaint.' Dywed Mr. J. E. EDWARDS, Groes, Rhiwabon: Anfonwch botelaid o'ch COUGH MIXTURE ar unwaith. Da genyf eich hysbysu f od y botel- aid flaonorol wedi gwneud lies mawr. PAROTOEDIG GAN HUGH MYIES, Chemist, HACHYNLLETH- Liverpool Agents—Williams, Chemis Heyworth Street; Williams, Chemist, Granby Street; Wynn Thomas, Chemist, Kensington. Wrexham—Mr Hugh Rowlands, Bridge Street. Messrs GRIFFITHS & DAVIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. Mantles Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. Furs. —AND— Millinei y. In all these Departments will b -nd the Newest and most Stylish Goods of the S v- n at moderate prices. prices. GRIFFITHS & DAVIES 398, Scotland Road. F It e ;x TEILWNG 0 SYLW PAWB. v Y CLAF. x PA Beth yw ASTHMA Anadliad byr, brysiog a llafurus. < A oes rbagor nag un math o Asthma? Oes, dan-un > n barhaol, a'r llall y 1 dyfod yn mlaen ar adegau. Gelwit y cyritaf yn continual, a'r olaf yn periodical. Pa beth sydd yn achosi Asthma? Culhad, crebychiad a 4irwasgiad y pibau meinion sydd yn arwain o'r corn gwynt i'r y^yfaint. Pa feddyginiaeth sydd wedi rhoddi esmwythad buan i aneirif o bersonau a ddyoddefent oddiwrth Asthma, Bron- chibis, fleswch, Anwyd, Eiffyg Anadl, a'r Crygni? BALSAM OF ejEHONEY TUDOR WILLIAMS. AN" mai oerfel ac anwyd ydyw dechreuol achos pob clefydl VJ yn mron, a diddadl fod miloecM yn myned i'r bedd yc auamseml o eisiau cael meddyginiaeth bwrpasol a phrydlawn. Ymaflodd yr anwyd ynwyf mor ddisymwth a lleidr yn y nos, ne, yn mron ymdori gan beswch yn ddibaid, heb ond ychydig orhpwysdra, nes yr oeddwn wedi credu fy mod wedi fy nal san v .larfodedig^pth ac yn nghanol y boen dirdynol oedd trwy fy iitfhyfH.nsoddia.d aufoi ais am botelaid o B A..LSAM OF HONEY" TUDOR WILLIAMS' a chyrnerais tua llonaid llwy gawl ar unwaith, sef chwaneg ua'r cvfarwyddyd oedd ar y botel; a chyn tri munyd yr oedd y peswch wedi peidio i raddau annghyffredin. Cymerais yr oU o cynwysiad y botel, ac erbyn heddyw, yr wyf yn gallu diolch i'r Drefn Fawr, yn nghyda'r wybodaeth am y feddyginiaeth ddaionus hon, am fy mod heddyw yn ddyn iach. Ydwyf, yr eiddoch, yn hollol iach, ISAAC THOMAS. Dadganiad dymunol arall. g Bum yn ddyoddefydd mawr am un mlynedd ar ddeg odlh. wrth gaetlidra, peswch, poeri gwaed, a thvndra y frest; bum hefyd am bum' mlynedd yn cael anhawsder dirfawr i symud o amgvich, ni allaswn gysgu na gorwedd i lawr y nos na'r dydd Bum o -'an driniaeth feddygol am un mlynedd ax d'leg hefyd, bllm o dan driniaeth yn Yspyttai Hereford, Buxton, a Southport, ond y cyfan yn ofer. Dywedodd y medtlygou wrthyf na alHswri ddisgwyl gwellhad, gan fy moa yn 64ain mlwydd oed. Ar ol elywed cymaint o siarad am BALSAM OF HOJMEY' TTTJDOR WILLIAMS rh od dais brawf arno, ac er fy syndod darfu i'r dogn eyntaf roddi rhYlldhad ebrwydd i mi anadlu. Yr eedd poeri o'r ysgyfaint yn lleihau. Diflanodd' y caethdra, fel swyn, gvfaredd. i bedwar gwynt y nefoedd, ac yn mhen ychydis wythuosau. drwy ddefnyddiad parhaus 'BaJsam of Honey 'lviilor Williams, adferwydft i fy iechyd Ystyriwyj hi yn d i.vledswydd arnaf i anfon i ch, y dystiolaeth hon. Yreiddocuyn (idifftiant, Nlrs EMBREY, 19 Coningsby Street, Hereford, Mni 25a-in, 1890." Mae Miloedd o Blant wedi eu hachub o Farw laetfc Or Croup, Bronchitis, a'r Pas, wedi pobpeth arall fethu Y tforcil i broti y peth ydyw profi drosoch eich hunain. 01 gwnp™"ih ')yna ydd yn fendigedig: ni chewch eich siofl^. i 1).—Gwerthir 'BALSAM OF HONEY' TUDOR 'Hr.' gan bob Fferyllydd drwy yr holl fyd. Hewn costrelau, s 9c, neu trwy y llythyrdy yn rhad am Is 3c a 3s. Perch D. TUDOR WILLIAMS, R.D.S. Medical Hall, Aberdare. PSPWNNI STEAMSHIP LARGE AND POWERFUL BRITISH ST E Ail Eli Sail regularly to he LEVANT, BLACK SEA, EGIPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterrar ean Ports, taking the following two routes alternately (1) MALTA, SYR A.SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling ofte on the return journey at sev ral Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece and Spain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPit BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Loftv i,, ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carrift Safety Home comforts. Good and liberal table. Modeiate fares for single and return tickets, and no extra charge living on board during ships'stay at Ports. Tourists and pleasure-seekers taking a trip by this Line ill tind it most enjoyable and interesting. For further parw ars. apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Li-eerp I LLINELL Y WHITE STAH. ROYAL MAIL STEAMERS. LERPWL I NEW YORK Via QUEENSTOWN, BO DYDD MERCHER:— GERMANIC Hydref 9 *TEUTONIC Hydref 16 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithwyr A arwydda y cludir yn yr Ail Gaban ar y iorciaitn t y cludiad ydyw £7 ac 48. Y mae y Llougau rhagcr. hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllun a threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni cheL well cyfleusdra i fordeienwyr^ Am fanylion, ymofyner R. Owen, Ship & h perance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnac Caernarfon; neu a R. Roberts, Bethesda; Owen r. Parry, masnachydd llechi, ( wyddelen; Davie Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; W. M. Jones, Church Street, Llangeln. R. G. Roberts, Rock Cottage, Cr-aigiau Mawr, Ta ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. O. Williams, Shoe Warehouse, Llanrwst Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R. L Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu ag ISMAY IMRIB & Co., 34, Leadenhall Street, Llundain, E.C., a Water Street, Lerpwl. 0 I .I %T SERGE JACKETS We* a
Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr
Helyqtion Bywyd Hen Deiliwr Gan GWILYM HIRAETHOG. PENNOD XXXIV.-SION Y BYD A'l BETHAU. HWYRACB y dylwn grybwyll bod i Harri, Cwm- bere, frawd arall yn bollol o'r un ysbryd bydgarol ag ef, yn yr eglwys bono ond yr oedd bydol ddoethineb hwnw yn gwisgo ffurf wahanol. Sion y byd a'i bethau,' y gelwid ef. Nid oedd Harribytti yn ceisio cyfrwys gelu ei fydol- rwydd ef, fel y gwelsom ond yr oedd Sion am ei guddio o'r golwg am ei fywyd. Crepa bychan, gwyneblwyd, llygadfain, oedd Sion, a. llais gwanaidd cwynfanus—tra gwabanol i Harri, yr hwn oedd yn balff o ddyn cadarngryf, eon, a garw yr olwg arno, a llais cryf a cbras. Gyda'ch cenad,' a 'Begio'ch pardwn,' oedd moes-eiriau cyffredin Sion yn ei ymddiddanion ond ni ofynai Rarri genad na phardwn undyn byth. Yr achos i Sion gael yr enw 'Sion y byd a'i bethau,' oedd ei fynych arferiad o'r ymadredd yn y gyfeillach grefyddol ac yn ei ymddiddanion. Dywedai yn ami iawn ei fod yn ofni fod y byd a'i bethau yn cael gormod o'i sylw nid am ei fod yn caru'r byd a'i bethau chwaith, pell iawn oedd ef oddiwrth hyny nid oedd ef yn gofalu dim am y byd a'i bethau o ran hyny, Aed y ddaear ffordd yr elo, Aed y sawl a'i caro hi. o'i ran ef os cai ef ddigon i dalu ei ffordd drwy'r byd, dyna'r cwbl a geisiai ac a ddymunai ohoni. Byddai arno ofn yn ami i fethu cyfarfod a'i ofynwyr, gwneud cyfiawnder & phawb, a thynu gwarth ar yr achos mawr drwy hyny a dyna yn unig oedd yn peri iddo bryderu yn nghylch y byd a'i bethau.' Yr oedd Sion yn enwog fel gweddiwr am ledaeniad a llwyddiant yr efeogyl yn gartrefol a thramor ond pan eid ato i ofyn cymhorth at unrbyw acbos, gartref neu oddicartref, nid allai efe roddi dim-ni buasai dim yn fwy dymunol ganddo na chyfranu at achosion crefyddol pe buasai y moddion ganddo, ond yr oedd eisiau bod yn gyfiawn cyn bod yn haelionus. Yr oedd ganddo galon a dymuniad mor hael ag undyn ar y ddaear, yr oedd yn sicr o hyny, ond yr oedd y moddion yn eisiau. Yr oedd ambell i adeg ar Harri pan y cyfranai at ryw achos da, y tu hwnt i ddisgwyliadau pawb, ond nid oedd y fath adeg byth ar Sion ac felly, yr oedd ambell i eithriad yn mydolrwydd ysbryd y eyntaf, ond bydolrwydd oedd ddeddf ddieitbriad ysbryd yr olaf. Yr oedd Sion wedi crafu mwy o,*r I byd a'i bethau,' i'w feddiant na Harri, ac yr oedd ei frodyr crefyddol a'i gymydogion yn gwybod hyny ac felly, o'r ddau, gwell oedd gan bawb HaTri na Sion. Pan ofynodd y gwyr ieuainc i Sion beth oedd ei feddwl ef ar achos Miss Evans, ei ateb oedd, Os prioda hi y gwr boneddig yna, mae'n amlwg i mi mai er mwln y byd a'i bethau y gwna hi hyny ac ni welais i ond aflwydd o briodasau felly erioed, ni wnaethwn i byth mo hyny beth by nag.' Pan ddywedasant wrtho beth a. ddywedasai Harri ar y cwestiwn, 'Ie, ie,' eb efe, gydag ochenaid. ar y byd a'i bethau mae holl galon Harri, druan.' A ydych chwi yn meddwl y dylid ei diarddel hi os prioda hi Mr Watkin V gofynai un ohonynt. 4 Na wn i'n siwr,' ebe Sion, ond mi wn hyn, mi ddois i allan o'r byd am nad oeddwn i'n caru y byd a'r pethau sydd yn y byd feddyliwn i y buasai'n well i'r rhai sy'n ei garu o aros ynddo fo a'r rhai sy wedi d'od i fewn i'r eglwys felly, fyn'd yn eu hoi ato fo. Mi fydda i'n cael y mbrofiad yn cytuno a'r hen benill hwnw, Gadawn y byd ar ol,—y byd y cawsom wae." Roddech chi'ch llais tros ei tbori hi allan, pe dygid ei hacbos hi o flaen yr eglwys—hyny yw, os 0 prioda hi Mr Watkin?' gofynai un o'r becbgyn. Na wn i'n siwr,' ebe Sion, 1 mi cyngborwn hi i fyn'd allan o honi'i hun, Irwy'n meddvrl, gan y byddai ei gwaith yn priodi Mr Watkin yn profi ei bod hi'n caru'r byd a'i bethau yn fwy nag y mae hi'n caru crefydd a'i phethau." Beth debygech chwi, ddarllenwyr, a wnaethai dynion fel Harri a Sion pe buasent yn fyw, a chanddynt bleidlais i'w rhoddi mewn etboliad ? Y mae yn bur hawdd i cbwi ddyfalu bargeinio am ei bleidlais, a'i gwertbu i'r uchaf ei geiniog, os cawsai gynyg a cbyfleusdra, wnaetbai Harri, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod, a tbaeru dros gyfreithlondeb y weitbred ar ol darfod. Yr un peth yn union wnaethai Sion yntau, ond nid yn yr un dull. Iuddew yn y dirgel a fuasai Sion. Daliasai ar ei gefn am y pris uchaf am ei bleidlais hyd yr eithaf, ond cymerasai y gofal mwyaf i gadw y peth yn guddiedig oddiwrth bawb mewn gair, gwnaethai y ddau yr un peth, bob un yn ei ffordd ei hun, ag a wnaeth lluaws yn Nghymru wedi hyny, sef gwneud abertb o'u cydwybodau a'r egwyddorion a broff- esent rhag ofn colli rhyw fudd neu fantais a 11 y dybient fyddai mewn perygl pe pleidleisient yn unol â'u proffes gwell ganddynt fradychu ac aberthu cydwybod, druan, na pheryglu unrhyw fantais fydol. Dywedir i mi fod cryn luaws o aelodau a swyddogion eglwysig yn perthyn i'r naill enwad a'r Mall o Ymneillduwyr yn y Dywysogaeth, yn frodyr i Sion a Harri. Carwn allu gwthio fy nodwydd at y crai i'w cydwybodau os oes y fath beth a cydwybod yn y fath ddynion a allant wneud y fath beth. PENNOD XXXV.-ROBIN Y GLEP. AR ol i'r gwyr ieuainc fod gyda'r ddau fydolddyn 'Harri lygad y fargen,' a 'Sion y byd a'i bethau,' aetba.nt un noson at Ffyddlon a Gob- eithiol hwythau i ofyn eu meddyliau ar achos Miss Evans. Teimlo yn bur ofnus a gofidus yr oedd Ffyddlon, ond yr oedd Gobeithiol yn bur galonog. Ofnai y cyntaf bod yr eneth wedi dyrysu am byth, a chwynai y golled fawr oedd am dani yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn yr Eglwys ond hyderai y Hall bethau gwell am dani. Yr oedd gan Gobeithiol adnodau, rhai o'r Beibl a rhai o'i wneuthuriad ei hun, a ddefnyddid ganddo ar bob achos anmheus o'r fath, megys- Y mae cariad yn gobeithio pob dim.' Na fernweh ddim cyn yr amser.' Amser a ddengys.' Gobeithiwch y goreu nes bo raid i chwi gredil y gwaethaf.' Peidiwch a dweyd wrth neb eich bod yn myn'd i farw nes y bo chwi wedi marw,' a'r cyffelyb. Mi ddaw'r eneth allan o'r brofed- igaeth gan iached a'r gneuen, gewch chi wel'd,' eb efe. Amen,' meddai Ffyddlon, 'ond ofni'r gwaethaf yr wyf fi.' 4 Dyna'r gwahaniaeth sy rbyngoch cbwi a finau, frawd.' eb y llall, "yr ydych chwi yn edrych ar yr ochr dywyll i'r cwmwl, tra yr wyf fi yn edrych ar yr ochr oleu. Ni wel neb y goleuni disglaer sydd yn y cymylau, ond myned y mae'r gwynt a'u puro hwynt," medd un o gyfeillion Job. Mae goleuni disglaer yn y cwmwl du yma, yn siwr i ti, frawd, a mi ddaw awel o wynt i'w chwalu fo ac i'w buro fo cyn hir, gei di wel'd.' A oes neb ohonoch yn clywed dim am yr eneth, p'le mae hi ?' gofynai Ffyddlon, 4 y mae'n rhyfedd gen i os nad yw ei chyfeillesau, merched yr Hafod, yn clywed oddiwrthi.' 'Os ydynt y maent yn cadw y cwbl iddynt eu hunain mor ddyogel ag y mae Angau yn cadw ei gyfrinach,' ebe un o'r becbgyn, I a Bob yr un modd y mae yn cymeryd arno, beth bynag, na wyr o ddim yn y byd o'i hanes hi.' Gellir yn hawdd ddeall fel yr oedd amgylchiad o'r fath yn creu y fath ddyddordeb, ac yn peri y fath siarad am dano, mewn ardal anngbysbell a neillduedig fel y fro hono. Nid oedd na cbyhoeddiad misol na newyddiadur yn ymweled a'r fangre Beibl Peter Williams, ac Almanac Sion Robert o Gaergybi oedd yn gwneud i fynu lyfrgellau crefyddwyr gan mwyaf. Yr oedd y bobl yno yn bobl lonydd a diofal, heb fawr negesau rhyngddynt a'r byd o'u hamgylch, amgen newid nwyddau yn y ffeiriau a'r march- nadoedd cylchynol. Ymdrechai pob un elai i ffair neu farchnad bel cydaid o newyddion i'w deulu a'i gymydogioD, drwy holi pob un gyfar- fyddai o ardaloedd eraill, 4 Pa newydd sy acw V Yr oedd Miss Evans, gan hyny, gallech feddwl, yn cynyrchu rhyw ddyddordeb rhyfedd mewn ardal felly. Dychymygid a thaenid pob math o chwedlau am dani un oedd ei bod wedi agor ysgol yn Ngbaerlleon un arall, ei bod wedi marw ac un arall, yr bon a gredid yn fwyaf cyffredinol, ei bod wedi priodi a Mr Watkin, a bod y ddau wedi myned ar daith i'r gwledydd pell, fel y dywedid. Yn y cyfwng hwn, daetb gwr ieuanc, mab i amaethwr yn y gymydogaeth, yr hwn oedd yn gwasanaethu gyda masnachwr yn Ngbaer, adref ar ymweliad a'i deulu. Cyrchai y cymydogion ato i holi a wyddai ddim o banes Mary Evans, yr hon y tybid ei bod yn y dref hono ond ni chlywsai air o son am y stori nes y daethai adref. Yr oedd Robin y Glep yn awyddus i adrodd yr holl chwedlau a glywsai ac a ddyfeisiasai am Miss Evans wrtho. Yr oedd y gnofa wyllt yn mol Robin am gael gafael ar ryw chwedl newydd i fod yn stock-in- trade. Yr oedd y bachgen yntau yn dipyn o wag, a thybiai y gallasai wneud fun o Kobin. Un tro pan alwodd Robin gydag ef, cymerai bapur newydd yn ei law, yr hwn, meddai, a dderbyniasai o Gaer y dydd o'r blaen. 4 Wel, y mae gen i newydd am Mary Evans i cbwi heddyw.' Oes yn wir! oes yn wir! Bendith a'ch c'lyno chi, gadewch i ni gael o,' ebe Robin gan rwbio'i ddwylaw. Hwyracb mai gwell fyddai cymeryd yn ddis- taw ar y mater nes clywer yn mhellach,' ebai'r bachgen. '0, na'n wir, deydwcb o, beth bynag, sonia i air wrth neb am dano fo 4 Wel, waeth gen i mo'r llawer,' ebe'r llall, 4 gan ei fod o wedi ei gyhoeddi yn y papyr new- ydd, 'dall fod dim drwg am ei ddweyd o.' 'Siwr iawn, siwr iawn,' ebe Robin. Yna cymerodd y bachgen arno ddarllen yr hysbysiad am briodas M r Watkin a Miss Evans allan o'r papyr. Nid wyf fi yn deall gair o Saesneg,' meddai Robin, 'a fyddwch cystal a'i roid o yn Gymraeg ?' Wel, sylwedd y peth ydyw hyn Priodwyd ar y dydd a'r dydd, yn eglwys St. Alexander Coppersmith, gan y Parch Demetrius Silver- smith, rector y lie, E. Watkin, Esq., o a Miss Mary Evans, o'r un ardal.' Cododd Robin ei ddwylaw mewn syndod. 4 Wel, rhaid i fod o'n wir, gan ei fod o mewn preint,' meddai, 4 ni chredis i ddim tan heddyw y base Mr Watkin yn ei pbriodi hi ond waeth tewi bellacb. 'Newch chi roi'r papyr yna i mi V gofynai. 'O, na,' meddai'r bachgen, 'mae arnaf ei eisiau.' 'Rhowch i fenthyg o am ddiwrnod neu ddau, ynte.' 'Na, yr wyf yn myned yn fy ol y prydnawn heddyw,' oedd yr ateb. 'Da chwi, sgrifenweh i mi 'rhyn ddaru chi ddarllen,' ymbiliai Robin. 4 Mi allaf wneud hyny,' ebai yntau, ac ysgrif- enodd yr hyn y cymerasai arno ei ddarllen, a dododd ef iddo. Dododd y Coppersmith a'r Sil. versmith yn lie y Gof Copr a'r Gof Arian i fwrw hug dros lygaid Robin, rhag iddo ddeall mai cellwair oedd. Aeth Robin ymaith wedi cael gwledd i'w enaid tlawd, er nad oedd y stori i gyd wrth ei fodd ond yr oedd ganddo stori i'w thaenu. Penderfynodd alw gyda'r gweinidogion yn y Plas yn gyntaf man. Cyfeiriodd ei gam- rau tuag yno, ac adroddodd y chwedl wrthynt, gan dynu allan ei awdurdod. Cymerodd un o'r morwynion y papuryn i'w meistres. Deallodd hono y trie, ymddigiodd yn aruthr, daeth i'r gegin, rhuthrodd ar Robin fel arthes am daenu chwedlau o'r fath hono am ei mab hi-galwodd ar ei cherbydwr, ac arcbodd iddo horschwipio Robin o'r terfynau. Diangodd Robin am ei hoedl, a'r coachman ar ei ol gan glecian ei chwip arno. Cyrhaeddodd un fflangelliad ar ei war, a Robin yn gwaeddi Mwrdwr a mawr oedd yr