Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

---:0:---CLEFYDON YN NINBYCH.

News
Cite
Share

:0: CLEFYDON YN NINBYCH. MEWN colofn arall, gwelir llythyr byr yn galw sylw at dri ymwelydd annymunol a. hen dref enwog Dinbych, sef tri chlefyd nad ydynt ond anfynych yn ymadael heb eu hyspail gyda hwynt. Y mae afiechydon er's oesau yn chwanog iawn i ymweled a. Dinbych yn anad un dref yn Ngogledd Cymru, Bu y geri marwol yno yn gynar ar y ganrif, a thro neu ddau wedi hyny, a gwnaeth ddifrod arswydus, tra y diangodd trefi eraill cymydogaethol bron yn llwyr rhagddo. Yn ystod ei ymweliad cyntaf, ysgubwyd, meddir, tua thrydedd ran pobl- ogaeth y dref o'i herwydd i fynwent yr Eglwys Wen. Amser ofnadwy, chwedl yr hen Ddinbychiaid, oedd amser y solera." Gwynebau dewrion a rhyfygwyr y dref yn glasu gan ofn yr holl addoldai yn orlawn am chwech neu saith yn y bore mewn cyf- arfodvdd gweddi; dystawrwydddychrynllyd yn gorwedd ar y lie, na thorid ond gan rugldrwst cerbydau angau yn dwyn ei ysglyfaeth tua'r gladdfa. Yr oedd gwybodaeth am delerau a deddfau iechyd y pryd hwnw yn ei fabandod a bu y geri yma drachefn bob tro y daeth i Gymru, ond nid mor llidiog ac andwyol a'r tro cyntaf. Darganfyddwyd o dipyn i beth mai anmhuredd a budreddi oedd yn ei wahodd, ac ymroed ati i'w symud, yn benaf trwy anogaeth a than gyf- arwyddyd yr hen feddyg hyglod, Dr. Evan Pierce. Ond er fod Dinbych yn sefyll ar lechwedd serth, cafwyd allan mai tref an- hawdd ei chlirio ydyw craig o gareg galch sydd o tani, galed a chostus i'w thori yn ffosydd ac nid yw y dref, ar ol y cwbl, yn sefyll yn uchel o ran ei glanweithdra er llawer ymdrech a wnaed at hyny, erys llawer i'w wneud eto. Y mae pob diwyg- iad yn nhelerau iechyd tref fel hyn yn galw am aberth o fuddianau personol yn fynych y sawl fyddo wedi ymgymeryd a. rhoddi cyfraith y wlad mewn grym. Dyna anhawsder mawr llywodraeth leol effeith- iol a phan ystyrier pobpeth, y mae'n.yn- dod mor dda y gweinyddir hi, os ydyw yn iawn dweyd da lie y gellir gwell," chwedl yr hen ddihareb.

-:0:"CWRS Y BYD.

0 Nodion o Lan y Tafwys.

o| Elw Eisteddfod Caernarfon.,

-0---Ysgol Laeth a Menyn Mon…

Nodion o Fon ac Arfon.

[No title]

MR. CLADSTONE AR acric.si…