Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Bu raid gadiael allan amryw erthygjau pwysig a iwriadwyd at y rhifyn hwn er mwyn cael lie i'r sylwadau ar y diweddar Barch. Daniel Rowlands, M.A. Hefyd daeth. amryw adroddiadau lleol i law yn rhy ddiweddar at yr wythnos hon. Derbyniwyd.—W. Crewe Ar y Gamfa; Y Golofn Farddonol; Cyfarfodydd Misol Mon a Dyffryn Con- wy; Abeiysitwyth; E. M. Rees; Marwolaeth Blaenor; Gyfarfod Sefydlu yn Nhrethomas; Y Golofn Gym. raeg; Nodioqi o Leyn, &c., &c.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Athrofa Aberystwyth. J (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). Prifathraw-r. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHREUA 46ain Tymor Hydtef 3ydd, 1917. Paratoir yr Efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prif- yagol Cymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaethau (amryw ohonynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr Arholiad le yn Aberystwyth ar y i8fed c Fis Medi, 1917. Am fanylion pellach, ymofyner â- J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. Telegraphic Address: "GWALIATEL, London. Telephone Nos. 5010 & 5011 City. HOTEL GWALIA, TJ3PP3ELEI WOBURN PLA CE, LON DON. W.C. CENTRALLY SITUATED. (Within 5 minutes walk of Euston Station and am minutes from Paddington by Underground Rail- way to Gower Street Station). BED, BREAKFAST, BATH & ATTENDANCE, 6/. 130 Rooms Luxuriously Furnished. lramengers Lift to all floors. Fireproof Buildinf. JOHN M. JENKINS, Manager. The County School, r DOLGELLEY. (The Dolgelley Ornmmar School). Dr. Ellis Endowment, A.D., 1665. BOARDING ct. DAY SCHOOL FOR BOYS. EXCELLENT general education and training pro- vided, with special preparations for the Universities, the Civil Service and Commerce. BOARDERS received at the HEADMASTER'S HOUSE. Yet Prospectus, Fees, &c., apply to the Headmaster. Gymtfrslthas Yswlflo* v Mothoitist- iald Caffinaidd. Yn unol a phenderfvniad y Gymanfa Gyffredinol ya Nhrefnewydd, Mehefin IOI, iqi2, "ffurfiwyd Cymdeithas yn ddioed, a chymeradwywyd hi gan y Dirprwvwyr Iechyd Cenedlaethol Cymru ar y 27ain o Fehefia, 1912. Swyddfa: Regent Chambers, Wrexham. Yagrifennvdd Cyffredinol: Mr T. W. Thomas. i Ysgrifennydd Trefnyddol: Parch. W. W. Lloyd. Trysorydd: Mr. J. W. Parry, Brynderw, Wrexham. Bydd yn dda gan yr Ysgrifenyddion ystyrried pob cais am aelodaeth ac ateb unrhyw ofyniadau anfonir iddynt. Gwneir pob ymdrech i ddwyn y gwahanol eglwysi i gyffyrddiad a'r aelodau yn eu symudiad o le i le, yr hyn sydd yn bwysig iawn. Use E ENORA!1 3 SELF-RAISING FLOUR IT MAKES PERFECT • PASTRY, SCONES, &C, &c. -_n- II SOLE WHOLESALE AGENTS— MORRIS & JONES, Ltd., Ma*#kwt#r. A Dr. Williams' School, DOLGELLEY. Preparations for the Central Welsh Board and Ox for Local Examinations, London and Welsh Matri- culation, and University Scholarships. There are three leaving Exhibitions, tenable at Colleges, which are awarded annually upon the re- sults of the yar's work. The Building and Grounds are excellently adapted to stcuro the comfort-and health of the Pupils. A NEW WING. was built in 1910 to meet the demand for increased accommodation. A Domestic Science Department has recently been added, TENNIS, CYCLING, AND HOCKEY. Inclusive Fees: BOARDING £27 10s. per annum TUITION, fg 5s. For prospectus, apply to the Headmistress or to the Clerk to the Governors. Gwersi Esbonado1 AR Ail Epistol Paul at y (Jorinthiatd. GAN Y PARCH. T. E. DAVIES, TREORCHY. Pris 1/3 drwy y Post. I'w Ciel oddiwrth yr Awdwr neu o Swyddfa'r Cymro," Dolgellau.
TABERNACL, LLANYMDDYFRI.
News
Cite
Share
TABERNACL, LLANYMDDYFRI. Oherwydd amryfusedd ynglyn a Chyhoeddiadau yr eglwys uchod, dymuniT gwneud yn hysbys: Ein bod yn galw yn ol bob cyhoeddiad ar ol y Sul olaf yn y flwyddyn 1918: felly nad ystyriwn ein hunain yn gyfrifol am gyhoeddiadau ar ddyddiadau ar ol yr adeg a aodir. GBOXGE MORGAN.
GALWAD AM ABERTH.
News
Cite
Share
GALWAD AM ABERTH. DYDD Gwener, yn Nhy y Cyffredin, traddod- odd y Prifweinidog un o'r areithiau pwysicaf draddodwyd er dechreu y rhyfel, ac un sydd yn rhwym o beri i bawb o ddeiliaid Prydain ddi- frifoli, ac edrych ar yr amgylchiadau gyda llawer iawn o bryder. Dyna oedd amcan yr araith, sef cael trigolion y Deyrnas i sylweddoli ein perygl, a gweled mawredd yr ymdrech y rhaid wrthi i ddwyn y rhyfel i fuddugoliaeth. Bellach mae y rhyfel wedi bod yn myned ym- laen er ys dros ddwy flynedd a hanner, ac y mae y mis diweddaf wedi rhoddi gwedd mwy ddifrifol i'r sefyllfa nag a fu yn ystod yr holl gyfnod. Y rheswm am hynny ydyw fod y llwyddiant sydd yn dilyn gweithrediadau sub- marines y gelyn yn peri fod y Ilongau sydd at wasanaeth y Deymas hon i gario nwyddau i'r ynys yn prinhau, ac oherwydd hynny fod yn angenrheidiol gwynebu ein perygl o ddifrif. Paratoi rhag y gwaethaf oedd amcan y Prif- weinidog, a gwneud i bawb deimlo y rhaid inni yn ddiwahaniaeth fod yn barodi i aberthu a di- oddef. Yr oedd Syr Edward Carson ychydig ddyddiau yn flaenorol wedi paratoi y ffordd o flaen Mr. Lloyd, George trwy osod yn glir ger- bron y wlad y d. if rod mawr a wnaed ac a wneir ar ein llongau, gan amlygu pwysigrwydd hynny i'r wlad, ac i ba raddau yr oedd llwydd ar yr ymdrech i lesteirio y difrod. Yr oedd hysbys- rwydd wedi ei roddi y byddai gan y Prifwein- idog ryw gynlluniau iV cyflwyno ag y teimlai y Weinyddiaeth oedd yn angenrheidiol er sicrhau fod gan y Deyrnas nifer digonol o longau at ei gwasanaeth i gario y rhyfel ymlaen yn llwydd- iannus. Nis gall araith y Prifweinidog lai na rhoddi rhyw gymaint o symbyliad a chalondid i'r gelynion, a pheri iddynt deimlo fod graddau o lwydd ar eu hymdrechion. Ac o'r ochr arall mae yn rhwym o beri i d6n o bruddglwyf redeg drwy ein gwlad ninnau, ond ton ydyw ni gredwn nid i'n gwneud yn ddi-obaith, ond a bar inni gymryd y rhwyfau yn ein dwylaw a phender- fynu y mynnwn rwyfo y cwch yn ddiogel drwy yr ystorm a chyrraed.d hafan ddiogel. Yn yr Araith rhennid ein dyledswyddau i ddau ddosbarth. Un ydyw yr angen am gadw y llongau rhag cario dim i mewn i'r wlad ond yr hyn sydd yn hanfodol. Amcenid gosod gwa- harddiad ar bopeth nad oedd yn wir angen- rheidiol. Gosodid rhestr o nwyddau a waherdd- id yn gyfangwbl, tra y cyfyngid ar lu o bethau eraill. Ymhlith y nwyddau hyn mae rhai pethau nad yw yn hawdd deall paham y gosodir hwy i mewn, megis te, coffi, a cocoa,—defn- yddiau ag y mae gwerin y wlad yn dibynnu cymaint arnynt fel moddion cynhaliaeth. Ar yr ochr arall y mae tybaco-nwydd nas gall unrhyw un ddweyd ei fod yn angenrheidiol- heb unrhyw lesteiriad ar ei ffordd. Ond tebyg fod y Weinyddiaeth gyda hyn fel gydag amryw- iol bethau dan orfod i ystyried buddiannau ein Trefedigaethau a'n Cynghreiriaid wrth bender- fynu. Yr ochr arall i'r araith oedd Ymborth i'r Deyrnas, a pha fodd i sicrhau fod gennym ym- borth at ein galwad. Cydnabyddai Mr. Lloyd George fod ystoc y Deyrnas o ymborth yn isel iawn, ac oherwydd hynny y byddai yn angen- rheidiol cymryd mesurau lied gryfion. Gofyn- id i amaethwyr y deyrnas godi y cynnrych mwy- af posibl o'r tir oedd yn eu meddiant, a rhoddid sicnvydd prisiau iddynt am bum' mlynedd. Os na fyddent yn ufuddhau, cymerid mesurau i'w — gorfodi i hynny. Y mae 60,000 o weithwyr amaethyddol sydd yn ago red i gael eu galw i'r fyddin, ond er hyrwyddo gwaith yr amaethwyr 10,000 yn unig a elwid i fyny. I'n golwg ni anhawdd esbonio os yw yr ymborth sydd at alwad y deyrnas mor fychan, pa reswm sydd mewn galw hyd yn oed y deng mil ? Paham na orfodid y rhai hyn i roddi eu. holl allu ar waith i ddwyn o/r tir y cynnyrch mwyaf posibl. Mae agwedd arall ar gwestiwn yr ymborth. Os yw ein rhagolygon am ymborth mor dywyll, paham y caniateir i swm mor fawr o ddefnyddiau ym- borth gael ei droi yn Ddiod Feddwol. Gwir fod y swm hwn wedi ei dynnu i lawr i'r hanner, ond mae papur argraffu a phapur at packio parseli wedi ei dynnu i lawr i'r drycledd ran. Ar amryw bwyntiau fel hyn mae yr Araith yn bur anfoddhaol, yn neilltuol pan gofir fod y gwr oedd yn ei thraddodi, ag sydd hefyd heddyw yn Brifweinidog Prydain wedi datgan ? ugain mis yn ol mae y gelyn mwyaf yr ydym allan i'w erbyn ydyw y Ddiod Feddwol. An- hawdd inni gysoni gosodiad fel yna a'r ffaith v y caniateir i'r gelyn yna, nid yn unig gael byw, pan mae bodolaeth y deyrnas mewn perygl tra y:\ ei lochesu, ond i'r gelyn hefyd gael difa moddion cynhaliaeth trigolion y deyrnas, a phlant y deyrnas mewn perygl o fyned heb fara. Anhawdd ydyw peidio meddwl a theimlo fod gallu y fasnach feddwol yn fwy na hyd yn oed y datganwyd ei bod gan y Prifweinidog ar lawer adeg, ac y maQ hynny yn ddweyd llawer. Diameu fod y sefyllfa yn un ddifrifol, ac yn gyfryw ag sydd yn gofyn am inni roddi heibio pob peth nad yw yn hanfodol angenrheidiol er llwydd ein teyrnas. Ni ddylem warafun i'r Weinyddiaeth atal popeth sydd yn llesteirio ein llongau rhag dwyn ymborth i mewn i'r wlad i gadw y deiliaid yn fyw, ac at gario cyflenwad cyson o ymborth a moddion rhyfel at wasanaeth ein milwyr. Dylai pawb o honom fod yn barod i aberthu pob budd a mantais bersonol i hyr- wyddo hynny. Nis gall araith y Prifweinidog lai na pheri i bawb a'i darlleno yn ystyriol deimlo fod y 3 Deyrnas yn wy'nebu ar gyfnod difrifol—cyfnod heb fod yn faith gobeithio-ond y cyfnod mwyaf cyfyng a welodd erioed, ac un fydd yn gofyn am gynorthwy pob person o fewn y deyrnas i'w dwyn i fuddugoliaeth. Teimlwn yn bur hyderus, beth bynnag ydyw ein teimlad a'n barn am briodoldeb y mesurau a awgrymir yn yr Araith, y penderfynwn y gwnawn a allwn i gefnogi y Weinyddiaeth yn ei hymdrech.