Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. DAN Y GWLITH. Tyr'd Ysbryd Glan, i adnewyddu'r byd A'th nefol ddawn; Mae'r hen addewid yn parhau o hyd, Yn felus iawn; Anialwch llwm yw bywyd heb Dy rin, O! dyro wlith Dy fendith ar ei fin. Paham yr wyt yn cadw'n ol mor hir Dy siriol wawr? Mae blodeu gras yn brin o fewn y tir, O! tyr'd i lawr; A daw'r anialwch, heb siomedig rith, Yn iraidd fel y lili dan y gwlith. Dynoliaeth welir o dan ddeifiol frad, A'i ddail yn grin; A stormydd gwae yn torri ar ystad Ei bywyd blin; Diddanydd wyt; ac wedi'r difrod chwith, Ar ludw barn, O! dyro'r gawod wlith. Sychedig yw y maes ar Seion fryn, 0! tyr'd yn awr; Prysura dymor y cynhaeaf gwyn I'r Iesu mawr; Dy ddwyfol wlith ar ddail Ei flagur Ef, A leinw'r byd A pheraroglau'r nef. DYFED. -+-- -+- Gwelaf fod eglwys y M. C. yn Aberarth wedi pasi-o dau benderfyniad yr un noson,—y cyntaf dros gael dau o gewri'r pulpud Cymreig i gynnal cyfarfod pregethu y Groglith, a'r llall i brynu nifer arbennig o War Saving Certificates. Rhagorol! -+- -+- -+- Pasiodd pwyllgor gweithiol Cyngrair Cenedl- aethol Eglwysi Rhydd Cymru benderfyniad cryf yn erbyn cenedlaetholi neu brynu y Fasnach Feddwol. Mae'r penderfyniad yn bwysig am ei fod yn dangos cyfeiriad meddwl arweinwyr yr enwadau crefyddol. -+- -+- -+- Mewn cylchlythyr o eiddo'r Bwrdd Addysg yn Llundain, pwysleisir buddioldeb ymarferiad- au corfforol i'r plant, ac anogir yr athrawon i roddi y lie dyladwy iddynt yn yr ysgolion, ac ymhlith y pethau eraill awgrymir dawnsio fel ymarferiad bendithlawn. Beth pe caffai yr hen bobl godi eu pennau! Tystia Sais o Essex, pedair ar hugain oed, iddo ddysgu yr iaith Gymraeg yn drwyadl mewn deng mis, a bod yn well ganddo yn awr am dani nac am ei iaith ei hun. Dyma ar un llaw ateb effeithiol i boff fwgan rhai am yr anawsterau o'i dysgu, ac o'r tu arall dyma enghraifft ddylai beri i Dic-Shon-Dafyddion y wlad gywilyddio a gwrido. -+. Ni wn ai gwir y si fod brawd o F6n a'i fryd ar wneud casgliad o ffraethebion y gwron o Borthaethwy. Os felly, byddai Caroliana yn deitl da i'r llyfr, Clywais am Athro diwin- yddol yn arfer crybwyll y llythrennau T.C.W. i'w ddosbarth fel help gwerthfawr i gofio enwau tri eglwyswr mawr y Saeson yn y seithfed gan- ril, sef Theodore, Cuthbert, Wilfrid. Disgwylir yn aiddgar am ymddanghosiad y rhestr newydd o Ynacion Heddwch Morgannwg. Fe bair syndod nid bychan pan y gwelir hi- gweled rhai enwau i mewn nad oedd neb yn dychmygu am danynt, a gweled eraill o oreuon y Sir. allan. Penderfynwyd gan rai o'r awdur- dodau nad oedd yr un Pregethwr Ymneilltuol i fod ami. O'r goreu, meddai'r lleill, fe ofalwn ninnau gau, allan bob offeiriad. Gwnaeth awdurdodau addysg dinas Caerdydd ymchwiliad yn ddiweddar er cael allan pa nifer o wrthwynebwyr cydwybodol oedd ymhlith eu hathrawon yn yr ysgolion elfennol, a gwrthod- odd yr athrawon, a hynny yn iawn, ag ateb eu gofyniadau. Dyma beth yw ymchwiliad di- angenrhaid, ac nid yw ond ymgais arall i at- gyfodi'r Chwilys creulon gynt. I.+- Bu eich gohebydd ffyddlon, y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., yn adolygu llyfr tonau Mr. Haydn Jones, A.S., yn llawdrwm yn y "Brython." Ond wedi chwilio a chwalu, a chondemnio, dywed yn y diwedd Dyma'r Llyfr Hymnau goreu ei Gymraeg yn yr iaith Da iawn. Mae'n werth cael y feirniadaeth sy'n arwain i'r ddedfryd yna. -+- -+- -+- Llawenydd nid bychan i drigolion Merthyr yw gweled gwaith Cyfartha eto mewn llawn swing.' Yn y blynyddoedd gynt, dyma brif waith yr ardaloedd, a sail llwyddiant y dref mewn ystyr fasnachol, a dilys i lawer o'r ardalwyr dorri eu calonnau pan y peidiodd ei olwynion a throi. Ond daeth haul ar ol y gwlaw, a chafwyd mel yn ysgerbwd y rhyfel erchyll. Clywaf nad oes ychwaneg na dau o bob tri o'r efrydwyr sydd yn y Coleg Diwinyddol yn y Bala yn awr yn perthyn i Goleg y De. A rhyw- beth cyffelyb-sef dwy ran o dair-fydd cyfar- taledd y rhai fydd yn myned allan o'r Coleg yn ye haf. Ymddengys hefyd mai rhai o Goleg y De fydd mwyafrif yr ychydig weddill a adewir ar ol. Nid oes weledigaeth eglur eto am eu lleoliad y flwyddyn nesaf. • 1 -+- Amser yn ol crybwyllwyd am waith godidog eglwysi Dosbarthiadau Caerdydd a Rhondda Uchaf yn ymgymryd a thalu cyfran helaeth o ddyled dwy eglwys wan berthynai iddynt. Gwneir gwaith tebyg yn awr gan eglwysi Dos- barth Aberdar, a dywedir fod Dosbarth Ponty- pridd wedi penderfynu na chaiff y chwaei eglwys fechan yh Llanbradach riddfan lawer yn hwy dan ei baich trwm. Beth bynnag yw beiau eglwysi'r Hen Gorff, nid all neb ameu eu teym- garwch. Bu sylw ar ymchwiliad i ddiswyddiad Syr Owen Thomas yn Nhy y Cyffredin, ac mewn atebad i gwestiwn Mr. Ellis Davies dywedodd yr Is-ysgrifennydd Rhyfel fod y Cadfridog Cymreig yn gadael y Fyddin heb unrhyw am- heuaeth am ei fedr na'i gymeriad. Gellid meddwl fod Mr. Ellis Davies a Mr. Ian Mac- pherson yn deall eu gilydd. 0 leiaf boddlon- odd Mr. Davies i beidio codi dadl. Mae pawb sy'n gwybod hanes yr ymchwiliad yn deal! yn union sut y saif pethau. Dywedodd rhywun anwiredd, ac am fod y rhywun hwnnw yn rhyw- lun rhaid peidio myned i mewn i'r achos I Nid yw peth fel hyn yn ddieithr mewn cylchoedd eraill. -+- -<t-- Ychydig o gyfrinion y Blaid Gymreig wyf yn wybod. Daw gair neu ddau allan yn achlys- urol sydd yn dangos nad yw pethau yn unol yn eu plith. Er enghraifft, darllenais yn y Week- ly News' am etholiad cadeirydd y blaid. Un oedd mwyafrif Syr J. Herbert Roberts. Y tro cyntaf ni ddaeth ond pedwar ynghyd, ac yn ol rheolau'r Blaid mae hynny yn rhy fach. Yn yr ail gyfarfod, saith ddaeth ynghyd, ac yn y cyfarfod hwn y dewiswyd Syr Herbert Roberts gyda dim ond un o fwyafrif. Yr arfer yw ail- ddewis y cadeirydd cyhyd ag. y bydd yn aelod o'r Ty. Pav beth yw pechod yr aelod dros orllewinbarth Dinbych tybed ? Byddai yn dda cael adroddiad cyflawn o lawer cyfarfod heb- law'r ymchwiliad yngl^n a Kinmel Park. Mae un o fyfyrwyr Coleg 'y Brifysgol, Bangor, yn enedigol o'r Aifft. Amaethydd- iaeth ydyw ei brif bwnc. Cadwa yn ffyddlon i'w grefydd Mohamedanaidd. Mae gwraig un o athrawon Ysgol y Friars, Bangor, yn enedigol o Bethlehem, ym Mhalestina, ond mae hi yn Gristion mewn crefydd. Mae felly ddau yn ninas Bangor sydd yn fwy cartrefol yn yr iaith Arabaeg nag mewn unrhyw iaith arall. Mae carwyr purdeb a moes yn y diwedd wedi peri i awdurdodau tref Abertawe ddeffro o'u cysgadrwydd, a'r wythnos ddiweddaf teimlodd y Maer reidrwydd i godi ei lef mewn amdiffyn- iad iddi trwy ei chymharu a dinasoedd a threfi *• eraill cyffelyb o ran safle. Nid amheua neb nad yw ei moesau yn uwch na llawer lie, ond nid da lie gellir gwell. Dalied y cyfeillion hyn ati i weithio yn egniol a diorffwys nes y bydd Abertawe yn batrwn teilwng i drefi eraill edrych i fyny ati. -+- Bregethodd Dr. J. A. Hutton, Glasgow, i gynulleidfa fawr iawn yn Twrgwyn, Bangor, nos ] Fercher diweddaf. Credir yn gyffredin na chafwyd erioed ym Mangor well cyfarfod os ei gystal mewn cysylltiad a Chymdeithas Gristion- ogol Myfyrwyr y Brifysgol. Yn y prynhawn cyfarfyddodd ugain o fyfyrwyr y gwahanol Golegau a Dr. Hutton yn nhk Dr. T. Witton Davies. Ar ol cwpaned o de, bu rhydd- ymddiddan a'r pregethwr mawr parthed y ] gwaith y gall ac y dylai'r Gymdeithas wneud. Rhoddodd Dr. Hutton lawer o awgrymiadau gwerthfawr. Dywedir mai'r peth y rhyfeddir ato fwyaf yn Llyfrgell Dr. Owen Thomas gan efrydwyr Coleg y Bala yw'r cyfrolau gwerthfawr a dyfnddysg a i gasglodd ef ar feirniadaeth testun (Textual ° Criticism) y Testament Newydd, megis ar- graffiadau o'r prif lawysgrifau, ac argraffiadau beirniadol d'r Testament Groeg. Hwyrach nad oedd gan un Athrofa Ddiwinyddol yng ,Nghymru gynt lyfrau mor werthfawr yn y gangen hon ag a feddai Dr. Thomas, a diau nad oes yr un heddyw a fedr gystadlu a Choleg y Bala yn nifer a phwysigrwydd y cyfrolau a geir yno, yn hen a diweddar, ar y pwnc dyddorol a nodwyd. Gwelir un o ganlyniadau mwyaf difrifol cod- iad pris tocynau'r tren yn y prinder cyhoedd- iadau achlysurol y mae nifer o bregethwyr a myfyrwyr yn dioddef oddiwrtho yn awr. Y mae nifer mawr o eglwysi yn myned heb weini- dogaeth o gwbl pan fyddo bwlch yn digwydd yn y cyhoeddiadau Sabothol, yn lie ceisio cael pregethwr arall. Yn y dechreu, pan ymunodd lluaws o oreuon y myfyrwyr a'r Fyddin, tybid, y byddai galw mawr am y pregethwyr oedd ar ol i lenwi bylchau. Ond erbyn hyn, drw& gennym hysbysu fod llawer o eglwysi yn man- teisio ar absenoldeb y gennad a ddisgwylid i beidio a chael neb, gan fod treuliau teithio wedi cynhyddu cymaint. Ond hyd yn oed os na ellir rhoddi ychydig sylltau'n ychwaneg i'r < pregethwr (yr hyn ni fyddai ond ychydig rhwng llawer o aelodau, ac y mae'r aislaloedd amaeth- yddol yn bur gysurus eu hamgylchiadau), byddai'n well gan lawer pregethwr gael ond ychydig na bod heb ddim. Heb ymyraeth a helyntion pobl eraill, gallaf ddweyd fod yr am- gylchiadau presennol yn gwasgu ar lawer o efrydwyr a phregethwyr, a buisailn llawer caredicach o du'r eglwysi i adael rhwng y preg- ethwyr a'r treuliau ychwanegol na thorri ymaith foddion eu cynhaliaeth drwy sham delicacy am na allant godi'r cyflog, a hepgor pregethu o gwbl. if 4ft