Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
CYMRU A'R RHYFEL.
News
Cite
Share
CYMRU A'R RHYFEL. Mewn un diwrnod feanaVwyd neu fe glwyf- wyd 26 am o swyddogion Cymreig yn Ffrainc. Rhoddodd y Parch. W. Bevan i fyny fugeil- .a iaeth eglwys Siloh (N..), Caergybi, er mwyn myn'd i wneud angenrheidiau rhyfel yn y De. IT Mae Second-Lieut. L,. El. Roberts, mab Mr. L. J. Roberts, arolygydd ysgolion, Abertawe, yn yr hospital wedi ei glwyfo. Clwyfwyd ei frawd, hefyd, yn Chwefror diweddaf. IT Mae 2,200 o wrthwynebwyr cydwybodol wedi eu cymryd i'r ddalfa gan yr heddgeid- waid, ae o'r rihai hyn bu 1,25101 flaen y llys- oedd milwrol, a rhyddhawyd 146. > II Er pob ymdrech a wnaed, nid oes un lie i ddisgwyl yr anfonir milwyr i Landrindod i gael eu disgyblu y gaeaf nesaf. Bydd angen yr oil mewn" canolfanau milwrol, ac i am- ddiflyn y glannau. Derbyniwyd y newydd trist ddechreu yr wythnos ddiweddaf fod Lieut. Frank Moss, unig fab Dr. Moss, Wrecsam, a nai y Barnwr Moss, wedi marw yn yr hospital o niweidiau a gafodd ar faes y frwydr. Y mae eglwys Treborth, Abertawe, wedi rhoddi galwad i Mr. J. Timothy1 Davies i ddyfod i'w bugeilio. Nid yw wedi ateb eto. Bydd Mr. Davies yn cael ei ordeinio yr wyth- nos hon yn Nhroedyrhiw. Gorffenodd y Cynghorwr Morgan Jones, o Bargoed, ei gosp o hedwar mis a roed arno am beidid ufuddhau i'r gorchymynion milwr- ol, ac yna aeth ymlaen i ddioddef cosp o ddau fis am rannu tafleni o blaid dile-u'r -Dd-eddf Orfodol. II Ymwelodd yr Athro J. 0. Thomas a'r Bala y, dyddiau diweddaf. Bydd yn myn'd yn ol i Ffrainc ddydd Mawrth nesaf. Yn Seiat Eg- lwy-s Tegid nos- Fercher adroddodd Mr. Thomas hanes y gwaith a wneir yn Rouen a lleoedd eraill yn Ffrainc dan nawdd y Y.M.C.A., a chaed hanes dyddorol a bendith- iot iawn. I if Collodd Prif Gwnstable Sir Faesyfed ei fywyd yn Ffrainc yr wythnos ddiweddaf. Er mai Sais ydoedd, drwy briodas. a merch hynaf Syr Charles Philipps, o Castell Picton, Sir Benfro, daeth i gysylltiadau Cymreig. Yr oedd yn ddyn dewr, diofn, wedi, cael profiad yn rhyfel Deheudir Affrica. Nid oedd ond chwech wythnos. er pan aeth allan i Ffrainc. chwech wythnos er pan aeth allan i Ffrainc. Dywedodd un Mr. John Clay nad oedd gweinidogion Ymneilltuol Caergybi yn gwneud dim ond cerdded yr heol. Gw rthf>d- odd y gweinidogion ymuno a'r Pwyllgor C'yn- h'ilo at y Rhyfel nes y tynai y dyr o glai ei eiriau yn ol. Enbyn hyn mae'r gwr da wedi ymddiswyddo, a'r Pwyllgor yn gwa.hodd y gweinidogion i ymuno gan nad yw Mr. John Clay yno i dynnu ei eiriau yn ol. 1f. 0 flaen tribunlys Dwyrain Dinbych gofynai pen pobydd, hanner cant oed, nad yw yn gwei.thio ei hun, am gael cadw naw o bobydd- ion a dau i wneud teisenau. Caniatawyd yr 011 a ofynai. 0 flaen yr un tribunlys gofynai pobydd. arall, 66 mlwydd oed, sy'n gweithio ei hunan, am ryddhau ei ddau fab,-ei unig wei.thwyr. Caniatawyd iddo un. Annirnad- wy yw gweithredoedd y Tribunlysoedd Derbyniodd y Parch. D. R. Griffiths, Pen- maenmawr, ddau bellebyr yn hysbysu fod ei ail fab—D. Llewelyn Griffiths-wedi ei daraw yn beryglus wael ('dangerously ill ') ar yr 8fed Medi (cyf.), a'i fod yn gorwedd yn 43, General Hospital, Salonika. Diau y lbydd. yn dda gan ei gyfeillion, yn y Deheudir a'r Gogledd, gael ysgrifennu gair crefyddol ato i'w galon6gi yn ei waeledd trwm; gan e'i fod yn ofni Duw o'i febyd, ac yn Fethodist i'r earn fel ei dad. Nid oes wybodaeth pellach ynghylch cwrs ei afiechyd ond hyderwn y gwel yr Hollalluog yn dda ei arbed ef; a'r rhai eraill, ar wahanol feusydd. y rhyfel, sydd yp nychu mewn ysbytai ar hyn o bryd. Achos haedda y cydymdeimlad dwysaf yw achos y pregethwr ieuanc, Mr. Hubert Davies, o Dreherbert, yr hwn sydd wedi ei ddedfrydu 1 lafur caled oblegid ei ymddygiad fe.1 gwrthwynebwr cydwybodol. Da gennym ddeall fod yna Bwyllgor wedi eil benodi i ys- tyried ei achos, a mawr hyderwn y llwydda y gwyr cyfrifol sy'n aelodau ohono i ysgafnhau peth ar ei g-osp os nad ellir ei lwyr ryddhau. H Gondus gennym hysbysu marwolaeth Cor pi. W. Rhys Evans, Gellilenor, Maesteg, priod Mrs. M. Olwen Evans, yr hon sydd feroh i'r Parch. Wm. Thomas, iMaesteg. Lladdwyd ef ym mrwydr fawr y Somme ar y 1sfed o'r mis hwn. Daeth trosodd gyda'r Canadians 2nd. Contingent, ac yr oedd wedi bod yn Ffrainc am 12 mis. Yr oedd yn wr ieuanc rhag-orol dros ben, a dyfodol disglair c, i flaen. Bydded yr A!rglwydd yn nodded i'w weddw ieuanc alarus, ac i'w fam oedr-anus yn ei hiraeth dwfn.. Ataliwyd' y cerbydlau mawr sy'n rhedeg o drefi glannau'r mor am fod petrol yn brin. Yna dygwyd ehywbeth arall i symud y peir- iannau. Ond yr oedd yr heddlu ar eu gwarth- af ar unwaith, a dygwyd hwy o fliaen yr yn- adon. Cawsant eu dirwyo, a bydd yr achos yn mynd i'r ucihel lys er mwyn cael sicrwydd a ydyw y gair petrol yn cynnwys pob math o "spirits" ellir ddefnyddio i yrru'r peiriant yn ei flaen. Camiateir i'r cerbydau hyn redeg anewn rhai rh:annau o'r deyrnas, ac mae'n bryd cael rheol ar y mater. Gofidus iawn gennym glywed fod Corporal Arthur Owen. Williams, mab y diweddar Barch. O. E. Williams, a Mrs. Williams, Towyn, Meirionydd, wedi ei ladd yn-Ffrainc ar y iofed o Fedi. Dywedai y prif swyddog- wrth anfon y newydd prudd: i'w fam na wyddai Arthur beth oedd ofn, a danghosiâ ef i'w gydfilwyr fel esi.ampl o hunanfeddiant a gwrhydri. Heblaw hyn., yr oedd yn wr ieuanc o gymeriad prydferth a rhagorol, a dyrha y cysur pennaf heddyw i'w fam alarus a'r teulu. Treuliodd y pedair blynedd diwedda.f yn Llundain, ac yr oedd yn aelod yn Wilton Square. Ymunodd a'r Fyddin y flwyddyn ddiweddaf, a gwnaeth ei ran hyd roi ei fywyd i lawr dros y wlad. Cydymdeimlai pawb a'i fam ac a'r perthynasau oil yn eu galar am fachgen annwyl iawn. 11 M'ae Myrddin John. Evans (mab i Inspector a Mrs. Evans, Caerphili, ac wyr i'r diweddar Mr. a Mrs. Thomas Lewis, Glanywern, Arthog), wedi ennill y Military Cross' am ddewrder ar faes y frwydr yn Ffrainc. Ar y pumed ar hugain o Orffennaf, yn ystod yr ym- gyrch ger Poziers, cynhygiodd fyned i, gyrchu rhai clwyfedig-ion, oedd wedi gorwedd ar faes y frwydr am bymtheng awr. Arweiniodd bump o filwyr i'w cyrchu, ond lladdwyd pob un ond ef, yn ogystal a'r clwyfedigion. Claddwyd ef dan y idaear trwy ffrwydriad tan-belen. Canfyddodd cwmni arall ef ymhen ychydig oriau, a. chyrchwyd ef i'r 'base hospital.' Y mae yn awr yn Wandsworth Hospital. Eiddunwn iddo wellhad buan. Gyda'r Australian Army Medical Corps yr ydoedd. Aeth allan i Awstralia yn Ebrill, 1914, ac ymunodd a'r fyddin ar dorriad y rhyfel. f Ddiwedd yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Mr. G. G. Williams a Mrs. Williams, House, Trawsfynydd, y newydd trist fod'eu mab hynaf, Pte. Da,vid G. Williams, wedi cwympo ym mhoethter y frwydr yn Ffrainc, y Sul cyntaf o'r mis hwn. Yr oedd David Griffith yn ddyn ieuanc mwyn a charedig, tua 3oain oed, o gymeriad glan, ac yn un a fawr hoffid gan bawb a'i hadwaenai. Cyn ymuno a'r fyddin o'i wiirfodd y flwyddyn ddiweddaf, daliai swydd bwysig ym masnachdy Allan- son's yn Birkenhead, ac yn aelod parchus a ffyddlon. o eglwys Parkfield. Cydymdeimlir yn fawr a,'i dad, yr hwn sydd yn flaenor gweithgar ac yn llanw cylch pwysig yn eglwys Moriah (M.C.), Trawsfynydd, ac a'i fam, ei unig chwaer a'i frawd, yr hwn hefyd sydd yn y fyddin. Nos Saboth diweddaf pa.siodd eglwys ac Ysgol' Sul Moriah bleidlais o gyd- ymdeimlad a'r teulu trwy i bawb sefyll ar eu traed.
...PERSONOL.
News
Cite
Share
PERSONOL. Drwg gennyf glywed y rhaid i Mr. Richard Jones, Pendinas, Caersws, aros yn ei wely am rai wythnosau mewn canlyniad i'r ddamwain a gafodd. j 11 Gwr diamheuol werthfawr oedd y Parch. John Hughes, gweinidoig y Bedyddwyr yn j Nantymoel, ac un 0' bregethwyr mwyaf cymer- 1 adwy yr enwad. Brodor oedd o Sir Foil, a^ etifeddodd fesur lielaeth o ddawn pregethwrol y Sir. Bydd bwlch mawr ar ei OIl mewn llawer cylch, ac hiraeth dwys. Ond erys er i'r gweithiwr farw ei lafurwa'Ith cf. Golygfa eithriadol ar lawer cyfrif oedd yr hon welwyd yn ddiweddar yn Porthmadoc, sef presenoldeb y ddau frawd, Dr. Owèn Evans a'r P'arch. Thos. Evans, Amlwch. Pregethodd y naill yno drigain. mlynedd yn ol a'r llall hanner can' mlynedd yn ol. Mae'r ddau wedi eu digoni. a hir ddyddiau, ac wedi cael y fraint 0' hir-bregethu yr iachawdwr- I iaeth. H Cyflwynwyd oriawr aur i. Mr. Evan Jones wrth iddo ymadael o fod yn is-athraw yn Ysgol Sir Machynlleth i fyned yn brifathraw Ysgol Sir Llanfair Caereinion. Cynwynwyd j) z;1 yr anrheg mewn cyfarfod cyhoeddus, dan lywyddiaeth Mr. Hugh Davies, a phawb; o bwys yn y dref yn canmol Mr. Jones, ac yn dymuno'n dda iddo vn ei gvlch newydd. 11 Gwr dreuliodd rai misoedd yn Ffrainc yw Mr. J. D. Williams, Golygydd y 'Daily Leader,' Abertawe, ac. un 0' flaenoriaid ym- roddgareghvys Alexandra Road yn y dref honno. Mawr werthfawrogwyd ei ysgrifau o faes' y frwydr, ac nid oes ball ar ei ganmol- iaeth j, ddewrder a brwdfrydedd a chrefyddol- der y milwr Cymreig. Dywed iddo etifeddu profiad sydd werthfawrusach na'r aur coll- adwy. f Dydd Saboth diweddaf bu farw y Parch. J. Ossian Davies, gweinidog adnabyddus gyda'r Annibynwyr, yn Shortlands, Kent." Cafodd gystudd maith, ac er ys tua i3eg mlynedd yr oedd yn byw yn nhir neilltuaeth. Bu'n wein- idog yn Llanelli, Abertawe, Bournemouth, a Llundain, ac yn Ihvyddiannus iawn, fel y gall- esid disgwyl i un oedd mor llawn o'r tan Celt- aidd, ac yn siaradwr mor hyawdl fod. Yr oedd yn frawd i'r Parch. T..Eynon Davies, Woodford Green. H Nid yw y Parch. Llewelyn Williams wedi bod yn ffodus iawn mewn cael cyfle i wyrttyllu pwncgwrthwynebiad cydwybodol yng N-ghy farfod Misol Dwyrain Morgannwg. Yn Mountain Ash symudwyd ymlaen at y ma-t-er nesaf, ac yn Nhonyrefail yr wythnos ddiwedd- af rheolwyd ef allan o drefn am nad oedd wed] ysgrifennu ei rybudd. Ond nid gwr i ffoi yw Gweinidog y Barri, ac ni enillir dim gan y Cyfarfod Misol wrth ohirio ymdriniaeth ar y mater. Ofer taflu'r dydd drwg ymhell. v r IT Mae Mrs. Lloyd George wedi myned yn ol i Lundain wedi treulio tua chwech wythnos yng Nghriccieth. Bu afiechyd Mr. Richard Lloyd, ewythr hybarch y Gweinidog Rhyfel, yn achos o beth pryder, a diau i hynny beri i Mrs. Lloyd George aros i lawr yn y wlad. GylÇia Mr., a Mrs. William George y cartrefa Mr. Lloyd, a thra y buont hwy yn cael ychydig o seibiant, cymerodd Mrs. Lloyd George ofal y claf. Da gennyf ddeall fod Mr. Lloyd erbyn hyn wedi gwella yn rhagor- ol, ac mor fywiog ei feddwl ag erioed. H ■ Wele enwau y brodyr ieuainc ordeinir yr wythnos hon yn NhroedyrhiwMri. D. J. Evans, B.A., B. D., Capel Seion; Thos. Ivor Jones, Salem, Aberystwyth Thos. Beynon; J. Timothy Davies; Roland T. Davies; Wm. Edwards, M.A., Mountain Ash D. J. Owen, B.A., Bedlinog; James Deans, Caerdydd; Sidney Evans, B.A., Casllwchwr; D. Bryn- mor Jones, Pontygwaith; Morgan J. Rees, Hopkinstown. Traddodir y Cyngor gan y -Parch. Rhys Morgan, a'r Araith ar Natur Eiglwy.9 gan yr Archdderwydd Dyfed.
Advertising
Advertising
Cite
Share
'Gweleryr Hysbysiad am y Llyfr, GWERSI UWCHAF AR GYFER ADFERIAP HEDDWCH yn tudal. 8.