Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
MEIRION A'R GLANNAU.
News
Cite
Share
MEIRION A'R GLANNAU. iLlosgwyd yr adeilad mawr sydd bron gyferbyn a gorsaf Aberdyfi i'r llawr fore Iau. Gwesty y bwr- iadwyd yr adielad i fod gan Mr. Savin, y gwr ad- eiladodd westy mawr yn y Borth, a'r trydydd yn Aberystwyth. Ond gwag fu am flynyddoedd, ac yna daeth Jesuitiaid i gartrefu ynddo am amser. Wedi hynny, trowyd ef yn aneddau, ac yr oedd amryw deuluoedd ynddo pan dorodd y tan allan. Chwythai awel gref o'r mor, ac er goreu pawb llosgwyd y He allan. Cofir i dan ddifa y gwesty arall yn Aberys- twyth wedi iddo gael ei droi'n goleg. Bydd yn dda gan luaws cyfeillion Mr. Evans, clerc yn y (Goods Dept.) G.W.R., glywed am ei ddyrch- afiad i fod yn cashier yn y Goods Dept., Shrewsbury ac hefyd am ddyrchafrad Mr. 0. G. Davies, mab Mr. G. G. Davies, i fod yn olynydd iddo fel chief clerk i'w dad yn Bl. Fi-estiniog.
NODION 0 FALDWYN.
News
Cite
Share
NODION 0 FALDWYN. Y mae Miss IJ. Helen Rowlands, B.A., y Dref- newydd, a Mr. David. Rowlands, Ysgol y Cyngor, Carno, yn prysur baratoi ar gyfer y bererindod i Ddolwar Fach sydd i ddigwydd ddydd .Sadwrn, isfed o Fai. Y maent wedi anfon cylchlythyr dyddorol yn apelio am gefnogaeth edmygwyr yr emynyddes anfarwolodd y llecyn hwnnw, yn enwedig gweinidog- ion y IGair. Disgwylir y Parch. Edward Griffith, Meifod, i lywyddu ar weithrediadau'r dydd. Amcan y bererindod ydyw dyrchafu Ann Griffiths yn syn- iadau pobl ei sir ei hun. Disgwylir enwau pawb fwriadant ddod erbyn dydd Gwener nesaf y 7fed o Fai. Gelliraníon yr enwau i Miss Rowlands, Mr. Rowlands, neu y Parch. 0. T. Davies, Llanfyllin. Swyddogion Cyfarfod Ysgolion Dosbarth y Dref- newydd am y flwyddyn ddyfodol yw, Mr. Zechiariah Jones, 'Saron, Llywydd; Mr. R. W. Davies, Carno, Ysgrifennydd; Mr. R. illoyd Roberts, Trysorydd a'r Parch. John. Williams, Carno, yn ofalwr am dair blynedd. Dewiswyd hwy yn y cyfarfod bly-nyddol gynhaliwyd yn Saron y Saboth diweddaf. Diolch- wyd hefyd i'r cyn-swyddogion,—Mr. Llewelyn Humphreys, Llywydd, a Mr. D. M. Wilson, Trys- orydd. Holwyd y- gwahanol ddosbarthiadau gan y Parch. R. Davies, B.A., Trefeglwys; a chafwyd an- erchiadau gan Mri. D. J. Evans, Drefnewydd, J. Humphreys, R. Jones, W. Davies, Saron, ac E. S. Jones, Drefnewydd. Mae tipyn o gwyno yn Aberhafesp a Bettwsced- iwain—dau blwyf ar lan yr Hafren—oherwydd fod y clerigwyr yn gwasanaethu yn y fyddin, ac nad oes neb arall wedi eu nodi i gadw y gwasanaethi crefydd- ol yn rheolaidd yn y plwyfi. Mae gwasanaeth yn eglwys Aberhafesp bob nos Sul, ond y boreu yn myn'd heibio yn ami heb yr un. Yn y prynhawn yn unig y ceir gwasanaeth yn eglwys y Bettws. Y canlyniad yw fod rhH y cymunwyr Sul y Pasc di- weddaf wedi disgyn o 100 i 30. Dyma gyfle i gen- badaeth.,
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENI, PRIODI, A MARW. GENEDIGAETHAU. Owen.—Ebrill 14, priod Dr. A. G. W. Owen, Gorwyl, Birkenhead, ax fexch (cyntafanedig). Williams.—Ebxill 129, priod y Parch. Afonwy Wil- liams Abermaw, ar ferch (Enid Mary). PRIODASAU. W atkin—Benbow.—Ebrill 23am, yn y Geuffordd, ger Trallwm, gan y gweimdog (Parch. Cadwaladr Jones), Mr.^David Watkin, Fownog, a Miss Martha Ellen Benbow, ail ferch tenant newydd Penaxth, gery Dxefnewydd. M ARWO L AETiHAU. Edmend.—Ebrill 27, yn 105 mlwydd oed, Mrs. Mary Edmond, modryb Mrs. Griffith, priod Principal Griffith, Caerdydd. Ganwyd hi Hydref 16, 1809, yn Aberdeen. Edwaxds.—Ebxill 22, yn 78 mlwydd oed, Mr. Thos. Edwards, Gwynfa, Penygarn, gynt o Caledonian Road, ■Llundai'n. Gadawodd weddw, tri o feibion, a dwy ferch. Cymerodd yr angladd le ddydd Oun, y Parchn. R. iHs Jones, iLlanfihangel, W. Morgan, Garn, T. M. Jones, TxiSant, a T. Jenkins, Talybont, yn, gwasanaethu. Yr oedd yn flaenor yn eglwys Penygarn, a theimlir colled fawr ar ei ol. Mae y Parch. Richard Edwards, ficer Brynfoid. gex Tiecynnon, yn fxawd iddo. Howell.—Ebxill 25, yn Cwmcynfelin, Aberystwyth, Gerthiude Howell, annwyl briod David Howell, Y.H. Yr oedd yn foneddiges garedig, yn ffydd- lo'n aelod o eglwys Si I oh, ac yn fawr iawn ei pharch yn y dref. Cymerodd yr angladd le ddydd Iau, pryd y gwasanaethwyd gan v Parchn. D. Thomas, Llangorwen, T. E. Roberts, M.A., a Robert Jones, Aberdyfi. James.—Ebrill 28, yn 74 mlwydd oed, Rebecca James, ,6, Waunnhydd Road, Tonyrefail. Jones.-Ebrill 27, yn 85 mlwydd oed, y Parch. Josiah Jones, gweinidog gyda'r ,Annibynwyr, Machynlleth Jones.—Ebrill 18, yn 85, mlwydd oed, Mrs. M. Jones, iLlythyrdy, Llangernyw, gynt o Ty Hir, Llanddewi. Jones.—Ebrill 23ain, yn ,24 mlwydd oed, Miss Gwladys Russell Jones, annwyl ferch y Parch, a Mrs. Verrier Jones, iNewlands, Walkern Road, Stevenage, Herts. Jones.—Ebrill 19, yn South Prior iHouse, Rhuthyn, yn 78 mlwydd oed, Mr. Lewis Jones (Rhudden- fab). Jones.-Ebrill iSfed, yn 75 mlwydd oed, Mr. David Jones, Regent 1St., Llangollen. Jones.—Ebrill 2iain, yn un o ys'bytai iLerpwl, bu farw Mr. Hugh Gwilym Jones, Wynne Road, Bl. Ffestiniog. Cydymdeimlir a'i briod a'i blant by chain amddifaid. Jones.—Ebrill 23, yn 53 mlwydd oed, Mrs. Laura Jones, priod Mr. Robert Tones, Peniel, Bethania, Bl. Ffestiniog. Bu y teulu am dymor yn y Wladfa Gymreig, ond daethant yn ol oherwydd: afiechyd Mrs. Jones. Cydymdeimlir a'r priod a'r plant. Jones.—Ebrill 25, yn 79 mlwydd oed, ar ol hir wael- edd, Mrs. Elizabeth Jones, Compton House, Four- crosses, Bl. Ffestiniog. Chwith gennym feddwl fel y mae yr hen frodorion yn myned o un i un. Bu yn aelod ffyddlon tra y gallai yng nghapel y Tabexnacl. Gadawa fab a merch i alaru ar ei hoi, sef Mr. R. O. goines Grocer, a Miss Jones, o'r Compton iHouse, a chydymdeimlir a hwy yn eu trallod. Jones.—Hunodd yn yr angau Miss A. Jones, Maes- llyn, Pennant, yn 2oain mlwydd oed. Merch i Mr. a Mrs Evan Jones. Claddwyd hi ym mynwent y plwyf, sef, Llanbadarn, Trefeglwys, dydd Iau di- weddaf. pryd y gweinyddwyd wrth y ty gan y Parch. !R. D. Rees, ficer y plwyf, ac yn yr eglwys gan y Parch. W. Morgan, B.A., Pennant, ac yn y fynwent gan y Parch. T. b. Thomas, Nebo. Cydymdeimlir yn fawr a'r rhieni yn eu galar. Dangoswyd hyn mewn modd amHvg gan y dyrfa luosog ddaeth ynghyd dydd yr angladd. Owen.—Ebrill 12, yn 70 mlwydd oed, Mr. Thomas Owen, Arddol, Llangynog. Owen.—Ebrill 22, yn i3eg mlwydd oed, Elwyn, annwyl fachgen y Parch. W. G. Owen (Llifon) a Mrs. Owen, Colwyn Bay. Owen.—Ebrill 22, yn 74 mlwydd oed, Mrs. Maxgaxet Owen, annwyl briod Mr. William Owen, Penybryn, Cerigydruidion. Dydd Llun, lEbrill 26, hebryng- wyd yr hyn oedd oedd farwol ohoni i fynwent y Plwyf, dan y drefn newydd, a daeth tyrfa fawr i'r cynhebrwng, yr hyn oedd yn arwydd o'r parch a delid iddi yn y gymydogaeth. Gwasanaethwyd gan y Parchn. D. R. Jones (A.), D. F. Roberts, B.D., Bl. Fiestiniog, a J. Morgan Jones (gweini- d crg). iGadawodd ei hanwyl briod Mr. William Owen, a Mrs. Jones, Growdne, ei hunig chwaer, a'r plant canlynol i alaru eu colled am briod gofal- us, chwaer garedig, a mam dyner, -Mri. John Edwards, Owen Edwards, a E. W. Edwards, Bl. Ffestiniog, Mrs Margt. Hughes, or Debeudir, Mrs. J. Jones, Lerpwl, a Mr. David Edwards sydd yn yr America. Yr oedd yn bresennol hefyd Mrs. T Edwards, Mrs. Owen Edwards, a Mrs. E. W. Edwards, Bl. Ffestiniog, Mr. Robert Jones, Growine, Mr. a Mrs. John Hughes, Gronglwyd, ac amryw berthynasau ereill. Cydymdeimlir yn fawr a'r teuluoedd yn eu proiedigaeth. Phillips.—Ebrill 27, yn nhy ei mab, 3x, De Burgh- >St. Caexdydd, yn 75 mlwydd oed', Mrs. M. J. Phillips, gweddw y Paxch. Rees Phillips, gweini- dog y Methiodistiaid, Abexafon, mewn canlyniad 1 ddamwain a'i cyfaxfu pan mewn modux. Rees.-Ebrill 28, Mr. J. Griffiths, Rees, Whitland. Thomas.-Ebrill 22, yn 61 mlwydd oed, Mrs Annie Thomas, gweddw Mr. John Thomas, flannel Manu- facturer, &c,, Llanfairraereinion. Williams.—Ebrill 21am, yn 57 mlwydd oed, priod Mr. Morris Williams, 6, Dolgarregddu, Bl. Ffes- tiniog. Claddwyd hi ddydd Sadwrn ym mynwent Bethesda. Williams.—Ebrill 27, yn 68 mlwydd oed, Mr. Elias Williams, New St., Bl. F'festiniog. Yr oedd yn wr adnabyddus iawn yn yr ardal, ac wedi gweithio ei oes o'r bron dan y Cyngor Dinesig. Yr oedd yn adnabyddus iawn a holl rannau y plwyf. Williams.—Mawrth izfed, yn ysbyty Rome, N.Y., bu farw Robert Williams, Rome, New York, yn 58 mlwydd a 10 niwrnod oed. Ei afiechyd oedd y Bright's disease. Ganwyd Mr. Williams ym mis Mai, 1856, mewn ffermdy o'r enw Tyddyn Uchaf, plwyf Llanor, ger Pwllheli, Arfon, G.C. Ei xieni oeddynt John ac Ann Williams, ei fam yn wraig neilltuol o grefyddol. Pan oedd Robert ond i3eg oed, bu farw ei dad, a chan mai ef oedd yr unig fab, daeth gofal y tyddyn i'w ran ef. Pan oedd yn iyeg oed, derbyniwyd ef yn bregethwr yn eg- lwys Rhosfawr, ac yn ddilynol yn aelod o'r Cyf- arfod Misol. Ordiniwydef yn 1882, yng Nghym- deithasfa Llangefni, Mon, a chafodd alwad i fug- elhoeglwys Selslllg Nant Gwtheyxn, a bu yno dair blynedd. Bu yn ddilynol yn bugeilio eglwys Pen- ycaerau, yn Lleyn, ac yn 1888, daeth ar ymweliad a'r wlad hon, a chafodd dderbyniad caredig. Wedi blwyddyn arall yng Nghymru, ymfudodd drosodd i'r taleithiau a bu yn gwasanaethu eglwys Rome am salth mlynedd, ac eglwys Coaldale, Pa., am dair blynedd. Bu'n briod ddwywaiih. Yn 1890, ymbriododd a Miss Mary Williams, Rhydlios, illeyll, yr hon fu farw Mawrth 1892, ga.n ei adael ej, a'i ferch fach i alaru eu colled. Yn 1899, yr ail waith ymunodd mewn priodas a Miss E. Jones, Rome,, yr hon gydag un mab sydd wedi eu gadael yn alarus. Cymerodd yr angladd Ie" o'i gartref 309 W. Court St., prynhawn Mawrth, gwasanaeth- wyd gan y Parchn. J. Isaac Hughes, Utica Thos. E. Jones, Nelson, a Dr. Roberts, Rome, a can odd y pedwarawd amryw ddaxnau yn Gymraeg. Yr oedd y blodau yn, lluosog. Yr archgludwyr oedd- ynt: iwilli-am R. Williams, o Utica; Robert O. Williams, Llanrwst; John S. Williams, Hugh Wil- liams a William J. Williams, o Rome. Gedy mewn galar Mrs. Williams a'i mab, Oswald, a Miss Mary Williams, o Buffalo, N.Y., sef ei fetch o'r briodas gyntaf. Mae iddo chwaer yn Lerpwl, Lloegr.
PAH AM Y PRYDERAVCH AM FWYTA?
News
Cite
Share
PAH AM Y PRYDERAVCH AM FWYTA? Y mae llawer o ddioddefwyr oddiwrthddiffyg treuli ad wedi gofyn iddynt eu hunain y cwestiwn yna. Y mae bwyta gyda hwy, ar wahan i'r poenau a ddi- lyna bob pryd o fwyd, yn ymddangos fel yni wedii ei ddifetha. Oherwydd gweithxediad aneffeithiol y cylla, yr afu, a'r coluddion, sydd yn atal treuliad trwyadl y bwyd, y mae eich corff, os ydych yn ddi- oddefydd, yn dyfod mewn angen am faeth. Y r ydych yn graddol golli pwysau; y mae eich wyneb yn gwisgo gwedd bryderus; yr ydycht yn dyfod fel cysgod o'r thyn oeddych o'r blaen. Paham mewn difrif yr ydych yn parhau mewn cyflwr o hanner newynu pan y mae yna fodd j chwi ddyfod o hono ? Y mae y ffordd hon wedi ei darganfod gan ddegau o ifiloedd o bobl trwy y byd sydd yn cymeryd Mother Seigel's Syrup. 'Gan ei fod yn cynnwys sylweddau agos i ddwsin o amrywiaethau o wreiddiau, rhisgl- au, a dail, y mae yn y feddyginiaeth ddarpariaethau meddygol er cyweirio i fyny a chryfhau yr organau treuliadol na feddir gan unrhyw ddarpariaeth arall. Cymerwch hi, a phrofwch ei gwerth, eithriadol.
RHIWMATIC AC ANHWYLDEB Y KIDNEY.…
News
Cite
Share
RHIWMATIC AC ANHWYLDEB Y KIDNEY. TRINIAETH RAD. Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acid, crystals yn y llywethau a'r cymalau, effaith gormod o uric acid yn v cyfansoddiad, a'r acid hwn ydyw'r acho. penaf o boen yn y cefn. lumbago, sciatica, gowt, an- nhren y dwfr, caroeg, grafel, dropsi, diabetes, a Bright's disease. Y mae Tabledi Estora yn driniaeth effeithiol a llwyddiannus ar gyfer hyn, ac wedi gwella llu o achosion wedi i feddyginaethau eraill fethu, yr hyn a gyfrif am y ffaith eu bod yn cyflym gymeryd lie meddyginiaethau "ar ol yr oes"—ydynt yn ami allan o gyrhaedd pawb ond y cyfoethog. Y mae nifer cyfyngedig o focses o Dabledi Estora yn cael eu cynnyg yn rhiad" er profi eu bod yn llawn warantu eu disgritiad-miaddyginiaeth onest at y Kidney am bris gonest, is. i^c. y bocs o 40 o dabledi, neu 6 bocs am 6s. Cyflenwir Hwy gan y rhan fwyaf o fferyllwyr. Y mae y cynnyg hwn o un bocs lLawn yn parhau mewn grym i ddarllenwyr y Cymro" am ddeng niwrnod o'r dyddiad hwn, ac at yr amod fod y rhybudd hwn yn cael ei dori allan a'i anfon gyda 35. mewn stamps, onide fe anwybyddir y ceisiad- au; a'r amcan ydyw. diogelu rhag rhai nad oe- arnynt angen y cynnyg. Cyfeiriad—Estora Co., 132, Charing Cross Road,
MAE'R GERMANIAID FEL FFERYLLWYR
News
Cite
Share
MAE'R GERMANIAID FEL FFERYLLWYR wedi dod a meddyginiaethau cyfansawdd hynod i'r maes, ond nid yw Lloegr ar ol. Ymhlith meddyg- iniaethau nid oes, dim gwel na
PHELENI LLYSIEUOL KERNICK.
News
Cite
Share
PHELENI LLYSIEUOL KERNICK. Ni honir iddynt allu gwyrthiol, end ca'r rhai sy'n dioddef oddiwrth ddiffyg traul,, afu drwg, croen drwg, &c., eu bod yn anmhrisiadwy. Gofynwch am beleni llysieuol Kernick, a gofalwch eich bod yn eu cael. Gwerthix hwy mewn blychau am 7^c., 13^0. gan unrhyw Fferyllydd, &c.
Cymdeithasfa Gwrecsam.
News
Cite
Share
wedi llawn fwriadu bod yn bresennol, ac wedi para- toi cryn Lawer; ond nid oedd yr hyn oedd wedi ysgrifennu yn ddigon icyflawn i'w ddarllen yn y cyf- arfod. Ar gynygiad y Parch. E. James Jones, M.A., a chefnogiad y Parch. J. ughes, M.A, ipendeifynwyd an- fon ;cofion a chydymdeimlad dwysaf i Mr. Roberts, gyda dymuniad am ei adferiad buan a llwyr. Llawenheid o ddeall ei fod yn dyfod ymlaen cystal a'r disgwyliad. Agorwyd y mater yn ei absenolde'b, gan y Parch. Robert Williams, M.A., Glan Conwy, a siaradwyd ymhellach gan y Parchn. Daniel Rowliands, M.A., Owen Lloyd, Caergwrle, John Owen, M.A., Caernar- fon, G. Parry Hughes, Morfa Nefyn, a William Thomas, Llanrwst. Terfynwyd gan y Parch. Edward Griffiths, Meifod. CYFARFOD Y BLAENORI AID. Yr un awr cynhaliwyd Cyfarfod y Blaenoriaid yng nghapel y Trinity, Mr. Edward Jones, Y.H., Llywydd y Gymdeithasfa, yn y gadair. Dechreuwyd gan Mr. A. W. Smallwood, Cymmau. Ymholwyd i reoleidd-dra'r brodyr oedd yn cael eu cyflwyno am ordeiniad, a chafwyd boddlonrwydd am yr oil. Yr un mater oedd i'w drafod ag yng nghyfarfod y Pregethwyr, sef Cadwraeth y Saboth. Agorwyd gyda phapur rhagorol gan Mr. H. H. Hughes, Y.H., Caer- gwrle, a dilynwyd gan Mr. J. Davies (Neifion), Bwlchgwyn, Mr. E .D. Jones, Llandrillo, a J. S. Lloyd, Gwrecsam. Diolchwyd yn gynnes i Mr. Hughes am ei agor- iad lar gynygiad Mr. Goodman Edwards a chefnog- iad Mr. O. Robyns-Owen. Terfynwyd gan Mr. W. Jones, Ty iMawr, Mon. [Ymddengys y gweddill o'r adroddiad yn ein xhifyn nesaf]. TREFN Y MODDION. Pregethwyd yn Seion, nos Fawrth, am 7.30, gan y Parch. Evan Davies, Trefriw. Nos Fercher, am 6,30, Anerchiad Ymadawol y iLlywydd. Am 7.30 Anerchiad gan y Parch. John Williams, Brynsiencyn, ar Ein dyledswydd fel Eg- lwysi yn wyneb yr Amgylchiadau presennol." Nos lau, am 7.30, gan y Parch. John Williams, Brynsiencyn. Yn y Trinity, am 7.30, Parch. T. Charles Williams, M.A., (Menai :Bridge (yn Saesneg). Dydd Gwener am 10 gan y Parchn. J. Owen Lerpwl, a John Williams, Caergybi. Am 2.30 gan y Parch. Owen Owens, tlanelwy. Am 6.30 gan y Parchn. William Thomas, Maesteg, a John Hughes, M.A., Lerpwl.