Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Cymdeithasfa Gwrecsam.

News
Cite
Share

Cymdeithasfa Gwrecsam. Ebrill 28, 29, 30. Uywyddion- PARCH. EVAN DAVIES, TREFRIW, a MR. ED- WARD JONES, Y.H., MAESMAWR. Ysgrifennydd- PARCH. R. R. WILLIAMS, M.A., BALA. Eglwys Seion, Gwrecsam, groesawodd Gymdeith- asfa'r Gwanwyn eleni yn y Gogledd, ac ni raid dweyd fod y derbyniad a'r croesaw roddwyd 'i'r wyl yn un tywysogaidd a chwbl deilwng o draddodiadau goreu'r Cyfundeb. Yr oedd urddas mawr ar yr holl eisteddiadau, gynhelid yn y deml eang, hardd; a'r sirioldeb mwyaf gan frodyr a chwiorydd yr eglwys yn yr holl gynteddau ac wrth y byrddau yn ogystal ag yn y cartrefi clyd yr agorwyd eu drysau led y pen i dderbyn aelodau'r Gymdeithasfa ac i weini i'w cyf- reidiau. Yr oeddynt oil yn amlwg yn ddedwydd yn eu gweithred ac yn profi gwirionedd y geiriau mai dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn." DYDD MEECHEE, Gyfarfu'r Pwyllgor Aiiannol yn festri Seion am 10.30 ddydd Mercher; a Chyfeisteddfod y Gymdeith asfa, neu'r hyn a elwir yn y Deheudir yn Bwyllgor Rhagarweiniol, yn Seion am II o'r gloch. CYFARFOD CYNTAF Y GYMDEITHASFA AM DDAU OIR GLOCH. De-chreuwyd gweithrediadau'r Gymdeithasfa yn Seion am dd.au o'r gloch. Arweiniwyd yn y gwasanaeth agoriadol gan Mr. Thomas Williams, Fachwen, Arfon. Galw'r Enwau. Galwodd yr Ysgrifennydd enwau Swyddogion y Gymdeithasfa, y Cyn-lywyddion a'r Cynrychiolwyr f'el y canlyn: Llywyddion, Y Parch. Evan Davies a Mr. Edward Jones, Y.H. Ysgrifennydd, Parch. R. :R. Williams, M.A.; Cyn-Ysgrifennydd, Parch. John Owen, M.A. Trysorydd, Mr. 0. Robyns-Owen; Ysgrifennydd Cyf- arfod y Blaenoriaia, Mr. John Matthews, Y.H. Cyn-Ysg. Cyfarfod y Blaenoriaid, Mr. John Owens, Y.H. (a). Cyn-Lywyddion. Parchn. Daniel Rowlands, M.A., T. J. Wheldon (a), Evan Jones (a), Owen Owens, John Prichard, John Williams, Bryn siencyn, John Hughes, M.A., Edward Griffiths, Wil- liam Thomas, John Williams, Caergybi, John Owen, Elias Jones. Aelodau Ychwanegol o Gyfeisteddfod y Gymdeith- asfa.Mri. Jonathan Davies, Y.H., J. E. Powell, Y.H., William Venmore. ,Cynrychiolwyr.- Mon. -Parchn. T. Charles Wil- liams, M.A., Menai Bridge; D. Cwyfan Hughes, B.A., Bryndu; Dr. M. Hughes, Llanerchymedd; Mr. Pierce Williams, Gaerwen; Mr. W. Jones, Ty- mawr; John Matthews, Siglan. Lleyn ac Elfionydd.-Parchn. G. Parry Hughes, Morfa Nefyn; W. Wyn Williams, iLlanystumdwy; fci. D. Lloyd Jones, Pwllheli; Daniel Jones, Tyd- weiliog. Arfon.—Parchn. William Williams, Talysarn 11,6 Jones Davies, Tregarth; D. J. Lewis, B.A., Waen- fawr; Mri. W. R. Williams, Brynmenai; John Hughes, Bethesda; Thomas Williams, Fachwen. Dyffryn Conwy.—Parchn. Robert Williams, M.A., Glan Conwy; J. Alun Lloyd, Mochdre; Mri. David Jones, Llandudno; W. J. Williams, Y.H., Llanrwst. Dyffryn Clwyd.—Parchn. David Jones, Rhuddlan Owen Foulkes, Bettws Mri. G. Griffiths, Vale Road, Rhyl; J. R. Owen, Dinbych (a). Fflint.—Paichn. T. E. Williams, B.D., Mostyn; D. E. Roberts, Connah's Quay; Mri. John Owen, Y.H., Gwespyr; Joseph Ames, Holywell(a) Parch. J. E. Davies, Holywell. Dwyrain Dinbych.— Parchn. Robert Hughes, Weston Rhyn; J. Lloyd Jones, B.A., Bwlchgwyn; Mri. David Jones, iLlangollen (a); Robert Jones, Rhos (a). Dwyrain Meirionydd.—Parchn. Owen Ellis, Llan- uwchllyn T. D. Parry, Gro; Mri. R. T. Vaughan, Llanfor (a) E. D. Jones, Llandrillb; J. W. Roberts, V.H., Bala. Gorllewin Meirionydd.—Parchn. David Hughes, Trawsfynydd; S. T. Hughes, Abermaw; Mri. John Pritchard, Penrhyndeudraeth (a) John Jones, Aber- mawr (a); W. !G. Jones, .Dolgellau. Trefaldwyn Uchaf.-Parchn. John Williams, Llan- wrin; Edward Evans, Llangurig; Mri. J. E. Mills, Ca-ersws; David Owen, iLlanwrin (a); S. Breese, Llanbrynmair. Trefaldwy'n Isaf.—Parchn. W. C. Jones, Llangad- fan; J.R. Evans, Birmingham Mri. John Hughes, Llanfyllin; M. H. Roberts, Croesoswallt. Henadariaeth Trefaldwyn, &c.—Parch. 'Howell Wlliams, Trallwm; Mr. George Dickens Lewis, Am- wythig (a). Henaduriaeth Lanacashire, &c.—Parchn. R. Row- land Roberts, B.A., Caerlleon (a); John Roberts, Gwrecsam; Parch. John ,Roberts, Caer; Mri. John Owen, Y.H., 'Caerlleon (a); J. Mortimer Harris, West Kirby (a). Liveipool.-Parchn. E. J. Evans, Walton Park H. Harris Hughes, B.A., B.D., Princes Road; Mri. Seth Roberts, Peel Road J. C. Roberts, Walton Park (a) James Venmore, Y.H. Manchester.—Parch. R. Parry Jones, Warrington William Parry, Bolton (a) Mr. W. Wiliams, Ard- wick. Llundain.—Mr. Richard Humphreys, West Hamp- stead. Y C,ofnodion. Tystiodd y Llywydd fod y Cofnodion ysgrifenedig yn cyfateb yn hiollol i'r Cylchlythyr argraffedig, a chadarnhawyd hwy. Adroddiad y Cyfeisteddfod. Darllenodd yr Ysgrifennydd adroddiad Cyfeistedd- fod y Gymdeithasfa, yn cyflwyno'r cenadwriaethau canlynol am ystyriaeth :— 0 Leyn ac Eifionydd.-i. Yr ydym gyda gofid dwys yn hysbysu y Gymdeithasfa am farwolaeth y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon). 2. Cyflwynir y brodyr canlynol i'r Gymdeithasfa i'w hordeinio eleni: —Mri. Thomas Owen Hughes, B.A., Criccieth (Tre- ffynnon yn awr); Robert Roberts, Efailnewydd; R. illoyd Edwards, Penygraig; Richard O. Williams, Dinas; W. J. Jones, Ynys Enlli. 3. Gwahoddir Cymdeithasfa yr Hydref y flwyddyri hon i Bwllheli. Hyd y gwelir ar hyn o bryd, yr ail wythnos ym Medi, sef o'r 8fed i'r iofed, fyddai yr adeg fwyaf manteis- iol i'w chynnal. 4. Gwahoddir y Gymanfa Gyff- redinol i gyfarfod ym Morthmadog yn y flwyddyn 1918. 0 Arforl.-i. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Jerusalem, Bethesda, Ionawr II, 1915, pasiwyd— Fod cais yn cael ei anfon i'r Gymdeithasfa yn gofyn am ganiatad i Eglwys Moriah i werthu eiddo." 2. Mfewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd ym Mrynmen- ai, Chwefror 15, 1915, pasiwyd y penderfyniad can- lynol Yn wyneb yr amgylchiadau eithriadol yr ydym ynddynt fel gwlad ar hyn o bryd, fod y Cyfar- fod Misol yn gofyn caniatad y Gymdeithasfa i wneud y trefniadau aiferol tuag at gyflwyno i'w hordeinio i waith y Weinidogaeth y Mri. J. L. Mostyn Owen, Carneddi, a T. H. Williams, Brynmenai." 0 Ddyffryn Conwy.— 1. Gwahoddir y Gymanfa Gyffredinol yn 1916 i Colwyn Bay ar ddyddiau Mawrth, Mercher, lau a Gwener, Mai 23—26. 2. Dewiswyd y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno, yn aelod ar Bwyllgor Athrofa'r Bala, ac ail-ddewis- wyd y Parch. E. O. Davies, B.Sc., Llandudno, yn aelod ar Bwyllgor y Llyfrau. 3. Cymeradwywyd cais Eglwys Saesneg Llandudno am ganiatad i werthu ty perthynol i'r Achos yn y lie, a phasiwyd i gyflwyno'r cais i'r Gymdeithasfa yng Ngwrecsam. 4. Nodwyd y brodyr canlynol i gyflwyno achos neill- tuol i sylw y IGymdeithasfa-y Parchn. E. O. Dav- ies, B.Sc., Llandudno, iRobert Williams, M.A., Glan Conwy, a Mr. D. Jones, iLlwynfryn, Llandudno. 0 Ddyffryn Clwyd.—Yn y Cyfarfod Misol a gyn- haliwyd yn Nerwen, Mawrth 4, 1915, hysbyswyd fod Mri. Thomas Williams Prion, Hugh Jones, Bont- uchel, ac Edward Williams, B.A., Clawddnewydd, wedi eu dewis gan yr Eglwysi i'w hordeinio eleni, a chadarnhawyd hyn gan y Cyfarfod Misol. 0 Fflint.- Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd ym Mostyn, Chwefror 8, dewiswyd Mr. Christmas Jones, Sychtyn, a Mr. W. H. Roberts, Berthen, yn rheol- aidd i'w cyflwyno i'r Gymdeithasfa i'w hordeinio y flwyddyn hon. 0 Ddwyrain Dinbych.—Yn v Cyfarfod Misol gyn- haliwyd yn y Groes, Ionawr 27, 1915, pasiwyd ein bod yn cyflwyno Mr. R. iG. Roberts B.A., Johns- town, i'r Gymdeithasfa, fel un wedi ei alw yn rheol- aidd gan yr Eglwysi i'w ordeinio eleni. 0 Ddwyrain Meirionydd.-i. Yn ein Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn y Bala, Ionawr 13eg, 1915, dewiswyd Mr. James Hughes, gweinidog Llidiardau a'r Celyn, yn rheolaidd i'w gyflwyno i'r Gymdeith- asfa i'w ordeinio y flwyddyn hon. 2. Gyda galar fcdwfn yr ydym yn hysbysu y Gymdeithasfa am farwol- aeth y Parch. Brifathraw Ellis Edwards, D.D. 0 Orllewin Meirionydd.-i. Yn y Cyfarfod Misol gynhaliwyd yn Nolgellau, Ionawr 26, 27, 1915, dewis, wyd Mr. John Jones, B.A., B.D., Trawsfynydd, yn lwr o Langoed, Mon, yn rheolaidd i'w ordeinio y flwyddyn hon. 2. Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, Ebrill 12, 1915, pen- derfynwyd—(a) Ein bod gyda gofid yn hysbysu y Gymdeithasfa o farwolaeth y Parch. E. J. Evans, Nazareth, Penrhyndeudraeth. (b) Ein bod yn rhoddi gwalioddiad cynnes i Cymdeithasfa yr Haf i Harlech, Mehefin 15, 16, 17, 1915. (c) Ein bod yn gofyn i'r Gymdeithasfa apelio at yr Eglwysi ar iddynt fanteis- io ar esiampl y Brenm i gymhell eu holl aelodau i'w efelychu trwy lwyr-ymwrthod a'r diodydd meddwol. Ac hefyd ar iddi ddefnyddio yr adeg bwysig bres- ennol i wasgu ar y Llywodraeth i roddi atalfa ar rwysg y fasnach feddwol. 0 Drefaldwyn Uchaf.—Yn y Cyfarfod Misol a gyn- haliwyd yn Llanidloes, Ionawr 27, 28, 1915, pasiwyd i gyflwyno Mr..Richard Edwards, Pare a Manledd, i'r Gymdeithasfa i'w ordeinio. 0: Drefaldwyn Is-af.-Dymuna y Cyfarfod Misol gyf- lwyno Mr. J. T. Jones, Bethlehem, i'r Gymdeithasfa i'w ordeinio. 0 Henaduriaeth Lancashire, &c.-i. At a meeting of the Presbytery held at Glan'rafon, Feb. 3, 1915, it was announced that Messrs. R. L. Powell, More- ton, and E. M.Griffiths, Saughall, had been chosen by the Churches for Ordination this year and this was confirmed by the Presbytery. 2. It was resolved to ask the consent of the Association to the sale of minerals under Connexional Property at Rhostyllen. 0 Liverpool.—Yn y Cyfarfod Misol gynhaliwyd yng Nghapel Crosshall Street, Ebrill 7, wedi deall fod ein hannwyl frawd y Parch. John Hughes, M.A., yn bwriadu ymweled a'r America yn fuan, pasiwyd i ofyn i'r iGymdeithasfa roddi iddo lythyr yn ei gyf- lwyno i'n brodyr y tu draw i'r Werydd. Dymunwn ido nawdd y Goruchaf ar dir a mor, a phob cysur a llwyddiant yn ei waith yn ystod ei ymdaith. 0 Arfon.— Pasiwyd i anfon cais i'r Gymdeithasfa am iddi ordeinio Mr. R. Morris Roberts, Moriah, eleni. Gyda gofid y dymunir hysbysu'r Gymdeith- asfa am farwolaeth y Pareh. W. R. Jones, F.R.G.S., Conwy. 0 Ddyffryn Conwy.-Gofynir i'r Gymdeithasfa basio penderfyniad cryf yn gwrthdystio yn erbyn Mesur Oedi Dadgysylltiad; ac hefyd am benderfyn- iad ymhlaid gwaharddiad hollol ar werthu diodydd meddwol tra parhao y rhyfel. 0 Ddyffryn Clwyd.—Yn hysbysu fod y C.M. wedi dewis Mr. D. S. Davies, Y.H., i'w gynrychioli ar Bwyllgor Athrofa'r iBala. 0 Fon.—Penderfynwyd gofyn i'r Gymdeithasfa dalu diolch i Mr. William Venmore, am ei haelioni yn rhoddi symiau o arian i eglwysi Llanerchymedd, Nebo, a Bozrah. Yr oedd dau gais am dderbyniad i'r Cyfundeb wedi eu cyflwyno i'r Cyfeisteddfod. Cyflwynid hwy i'r Gymdeithasfa. Cy.nwysai'r Adroddiad befyd y penodiadau canlyn- ol,—y Parchn. John Owen, Anfield, a John Owen, M.A., Caernarfon, i dynnu allan benderfyniad ar farwolaeth y Parchn. J. J. 'Roberts a'r Prifathro Ellis Edwards, D.D., y Parchn. John Hughes, M.A., ac O. Owens i dynu allan benderfyniad ar Ddirwest; y Parchn. J. Williams, a'r Mri. J. E. Powell, Y.H., ac 0. Robyns-Owen ar Ddadgysylltiad, a'r Parch. J. Williams i alw sylw at Burdeb, ac efe gyda Mr. Jon- athan Davies, Y.H., i dynnu allan gylchlythyr ar y mater. Cadamhawyd yr adroddiad ar gynygiad y Parch. J. Hughes, M.A., a chefnogiad y Parch. Edward Griffiths. Y Gymdeithasfa Nesaf. Ar ran C.M. Gorllewin Meirionydd, estynwyd gwa- hoddiad cynnes i'r Gymdeithasfa nesaf i'w chynnal yn Harlech, gan y Parch.. David Hughes, Traws- fynydd. Hysbysodd yr Ysgrifennydd fod y dyddiad unwaith wedi ei nodi; ond yn awr, oherwydd fod milwyr wedi eu hanfon i Harlech fod yn ymddangos y bydd- ai'r dyddiad hwnnw yn anymarferol. Yn wyneb- hynny awgrymai'r Cyfeisteddfod fod mater y dydd- iad yn cael ei ymddiried i'r Ysgrifennydd, mewn ym- gynghoriad a'r cyfeillion yn Harlech. Derbyniwyd y gwahoddiad gyda diolchgarwch, a d'erbyniwyd awgrym y Cyfeisteddfod gyda golwg ar. y dyddiad. Gwaith y Gymdeithasfa. Y Noson Gyntaf.—Ein Cenhadaethau Cartrefol. Cyfarfod y Pregethwyr.—Cyfarfod Gweddi. Cyfariod y Blaenoriaid.—Cyfarod Gweddi. Cyfarfod Deg o'r glocb yr ail Ddydd.—Gwasanaeth Ordeinio. Seiat y Boreu Olaf.—" Y Ddwy Dystiolaeth (loan v. 26, 27). Brodyr i'w Hordeinio. Darllenodd yr Ysgrifennydd restr o'r brodyr oedd wedi eu cyflwyno gan y C.M. i'w hordeinio, fel y canlyn :— 0 Leyn ac Eifionydd.-Mri. T. Ü. Hughes, B.A., Treffynnon; R. Roberts, Efailnewydd; R. Lloyd Edwards, Penygraig; R. O. Williams, Dinas; W. J. Jones, Enlli. 0 Ddyffryn Clwyd.-Mri. Thomas Williams, Prion; Hugh Jones, Bontuchel; Edward Williams, B.A., Clawddnewydd. 0 Fflint.—Mri. Christmas Jones, Sychtyn; W. H. Roberts, Berthen. 0 Ddwyrain Dinbych.—Mr. R. G. Roberts, B.A., Johnstown. O Ddwyrain Meirionydd.—Mr. James E. Hughes, Llidiardau. 0 Orllewin Meirionydd.—Mr. John Jones, B.A., B.D. (Trawsfynydd), Llangoed, Mon. 0 Drefaldwyn Uchaf—Mr. Richard Edwards, Pare. 0 Drefaldwyn Isaf.—Mr. J. T. Jones, Bethlehem. 0 Henaduriaeth Lancashire, &c.-Mri. R. L Powell, Moreton; E. M. Griffiths, Saughall. Cyfiwynwyd yr oil i Gyfarfod y Blaenoriaid er ym- holi a oedd eu galwad a'u cyflwyniad yn rheolaidd. Cais am Eithriadau. Yn ol y ,cen,adwriaethau o Arfon, cyflwynwyd cais am i Mri. J. L. Mostyn Owen, Carneddi, T. H. Wil- liams, Brynmenai, ac R. Morris Roberts, Moriah, gael eu derbyn i'w hordeinio eleni fel eithriadau. Hysbysodd yr Ysgrifennydd fod y ceisiadau wedi cael ystyriaeth ddyfalaf a manylaf Cyfeisteddfod; ond eu bod o'r farn nad oedd rhesymau digonol dros gyflwyno eithriadau am ordeiniad eleni. Cyn- ygiai dros y Cyfeisteddfod nad oedd yr eithriadau yn cael eu caniatau. Cefnogwyd gan Mr. Edward Jones, Y.H. Parch. H. Jones Davies, Tregarth, a ofynodd a oedd hyn yn golygu eu bod yn gwrthod y tri. Yr oedd un o'r tri wedi cael galwad, a chredai fod ei achos ef yn rheolaidd. Atebod y iLlywydd nad oedd yn rheolaidd, am nad oedd yr eglwysi wedi rhoi eu barn. Dywedodd Mr. Jones Davies fod y C.M. wedi ed- rych i fewn yn fanwl i'r mater cyn anfon y cais i'r Gymdeithasfa, a hyderai na phasid hyn heb roi iddo ystyriaeth ddigonol. Atebodd y Llywydd fod y Gymdeithasfa yn barod i ystyried y ceisiadau pan elwid y brodyr gan yr eg- lwysi. Yna pasiwyd cynygiad y Cyfeisteddfod. Derbyniad yn ol. Parch. John Owen, Anfield, a gyflwynodd gais ar ran y Parch. T. G. Owen, M.A., Liverpool, am dderbyniad yn ol i'r Cyfundeb. Eglurodd Mr. Owen fod yr amgylchiadau yn eithriadol iawn. Cofid i'r Gymdeithasfa lai na blwyddyn yn ol roi llythyr trosglwyddiad i Mr. Owen i undeb a'r Presbyteriaid Seisnig. Yn awr yr oedd Mr. Owen wedi ei ddal gan afiechyd, yr hyn a achosai raddau o ddigalondid ac yr oedd yn awyddus iawn am gael ei dderbyn yn ol, a'i dderbyn yn ol i'w le fel gweinidog yn y Cyf- undeb. Yr oedd Mr. Owen wedi gwneud gwaith ardderchog yn Oakfield Road, ac yr oedd yn wr o gymeriad difrycheulyd. Yr oedd y cais wedi bod gerbron y Cyfeisteddfod, a gofynai'r Cyfeisteddfod ei dderbyn yn ol, a, gwneud hynny gyda breichiau agored. Cefnogwyd gan Mr. H. 'H. Hughes, Y.H., a phas- iwyd Ihynny yn galonnog iawn.