Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

23 articles on this Page

DAN OLYGIAETH "PENAR.."

News
Cite
Share

DAN OLYGIAETH "PENAR. HELYG A MYRTWYDD, BRIAILL A RHOS. Dyna gystal arwyddair a dim i'n nodiadau y tro hwn, oblegyd daw y non a'r lleddf i fewn yn eu tro. Ni chawn ymddifyru gyda'r dysteb a'r gaa yn hollol: rhaid i ni wrando dyfnder yr ochenaid, a syllu yn grynedig ar y deigryn. Nid yn y blodau a'r briaill y gwelwn ein cyfeillion i gyd yr wythnos hon mae rhai o honynt yn ardal yr helyg a'r myrtwydd, ac mae ein cydymdeimlad a hwynt yn fawr. Hyfryd er hynny yw awr gyda'r briaill a'r rhos." Dyma rai o honynt:— Nos Sadwrn diweddaf cynhaliwyd cyfarfod yn Nazareth, Treforris, i gyflwyno anercbiad goreur- edig, spectol ac inkstand, i Efell Trefor," fel cydnabyddiaeth o'i lafur dyfal fel ysgrifenydd eglwys Nazareth. Daeth eynnlleiufa dda yn nghyd, a chyme rwyd y gadair gan yr Henadur David Harries, Treforris, yr hwn mewn ychydig eiriau a ddygodd dystiolaeth uohel i Mr. "W iliiams fel un cydwybodol a dyfalbarhaol. Darllenoud lythyrau oddiwrth y Parch. D. Piston Evans, Parch. Mr. Scully, ac ereill, yn gofiaio o hetwydd absenoldeb rheidiol. Yna canwyd gan Mr. Ben Williams gan Gym- reig lawn o ysbrydiaeth: a chafwyd anerchiad gan y Parch. W. Richards, Briton Ferry. Dy- wedai mai arwydd o gyanydd yn y genedl Gym- reig yw ei bod yn gwobrwyo y meddyliwr, a'r gweithiwr moesol fel Efell Trefor. Ar ei ol ef anercbodd y Parch. Rhystyd Davies y cyfarfod. "Yr ydjch," meddai, yn gwobr- wyo teilyngdod—yn gwobrwyo y byw ac nid yn canu salarnad ar 01 y marw-un sy'n troi ffrwd ei dalent a'i allu i gyfeinad y cysegr." Adrodd- odd englymon a dyma hwy :— i. Tyr haf ar Efell Trefcr-heddyw, Addas fardd, a lienor Yn was da, medd ddoniau'n stiT, Ac urddas gwych y cerddor. n. Gwir fanwl ysgrifenydd—a'r dysteb Syn destyn ilawenydd; Brawd siriol, yn rasol rhydd Fywhad mewn cvfarfodydd. III. Am ei gariad, dyma goron -heno 1'r anwyl was ffyddlon A rbagor o anrhegion Er lies gaiff y blaenor lion. IV. Yn anwyl, Xazareth heno—a ddaw Yn ddceth i'w wobrwyo Boed naul ffawd ar frawd y fro, Was addaa,hir oes iddo. Y Parch. Taihiricai Davies a ddywedodd fod yn dda ganddo gael ei daflu megy., gan ddamwam i'r cyfarfod. "Un yw Mr. Williams," meddai, "sydd yn mawrhau el swydd. Dyn da yw i ddechreu, a pha hawl sydd gan neb i fod yn aelod heb fod felly. Mae yn amlwg ei fod ya fawr ei ddylanwad yn eich plith, a'i tod yn dda ei air,' yn ol iaith yr apostol. Da genyf eich gweled yn gwobrwyo eymeriad da." "Dyma Mr. Lloyd, cyfreithiwr o Abertawe," meddai y Cadeirydd. "Esgusodwcn fl," meddai Mr. Lloyd. "'Does dim esgusodi i fod ar gyfreithiwr," meddai yr henadur, "dylai cyfreithiwr fod yn barod bob amser." Ac yr cedd yu barod, yn sicr i chwi. "Yr wyf yn adnabotl Mr. Williams," meddai, mewn gwedd wahanol i'r hyn yr adwaenoch chwi ef. Nid yw crefyddwyr y wiad yn ym- ddangos yr un fath i'w gweinidogion ag a ym- ddangosant i gyfreithiwr. Gellwcn gymeryd hyn oddiwrth gyfreithiwr. ("Heo chwecn ac wyth,' gofyuai brawd uireidus yn ddystaw bach.) Bu genyf lawer i ymwneud ag et, a chefais ef bob amser yn ddyu trwyadl a deallgar. Da iawn genyf fod yma." Can oead y nesaf gan Miss S. A. Williams, a chanodd yn dyner a cnyfan lawn. Cafwyd anerchiad aoniol gan Mr. Thos. H. Davies, a gwnaeth gyfeiriadau hynod o chwareus at y ffaith ei fod yn dilyn pregethwyr a chyt. reithiwr. "Da genyf," medciai, eich gweled yn gwneud hyn i un sydd yn gwaaanaethu yr Hwn sydd a hawl ganddo i'w wasanieth." Cododd yr hen frawd Mr. William Davies, a dywedai fel hen athraw 1 Mr. Williams ei fod yn enwog am fyfyrio a dysgu penodau o'r Beibl. Mas Mr. Williams yr hyn yw o herwydd yr Ysgol Sabbothol." Mr*. Lippiett, Abergwynfi, a ddywedodd fod Mr. Williams yu gyiaiil t; y lwyr, ffyddlon i'w argy- hoeddiadau, ac yn gretyddwr didwyll. Mr. Thomas Meiedith a ddywedodd ei fod yn ddyleaus iawn i Efell Trefor. Canodd Efell i fi, onu 'dalla 1 ddun canu iddo fe. Dwy' i na bardd na lienur. Ond mae yma set fawr hardd iawn mae yma ysgriienyddion, a wn i faint o Phariaeaid sydd yma. Mae yn anhawdd cael honno heb rai o'r rhai hynny yn y dyddiau hyn. Rhyw fath o ewiuire within yw Mr. Thomas Williams, yn baiod i helpu dyn tlawd allan o ddijjiculti. Ond fyse fe ddim wedi dod i'r fan hyu pe byse fe wedi treulio ei amser ar gongle y streets yma. Bendith an,o ef, a'r eglwys, a'i deulu." Mr. John Meredith a ddywedodd fod Mr. Williams yn wt o gyngor, ac yn un i'w ganlyn yn ddyogel. Mae yn nu ay'n ffurfio cymeriad goreu Treiorris. Dygudd Mr. John Williams drachefn y dystiol- aeth ucuat i Efell Trefor. Canodd Mr. Gwilym Jones, ChwyfiwnFaner yn feistrolgar a swynol. Catwyd ychydig eiriau gan Penar," yr hwn a wahoddusid i'r cyfarlod, a chaed anerchiad gan Mr. Wm. Davies, ysgolieistr. Ac mewn geiriau wedi eu imesur a'u ilumo yn ofalus a chymedur, catwyd gauddo araeth ragorol ar werth cymeriad da, yu cael ei egluro gan ei adnabydaiaeth o llfeii Tretor. ''Mtte y gauiif bon," meddui, yn sier o brofi ei hun yn ganrif fydd yn gwerth- fawrogi cymeriad da yn twy nag unrnyw ganrif a.'i blaenoroda." Dyma gan Gymreig gan Mr. David Evans, Treiorris—can a ciiryfder creigiau yr Eryri ac adsain by wyd goreu y Cymro a Chymru ynudi. 'Mynwn weltld Gymru yn Gymru rydd,' meddai, gyaa g\'t res angherduoi, digon i danio unrhyw iynwes. Cyflwyuwyd yr anerchiad gan Mr. John Thomas Jones, y specLul gan Mrs. H. D. Williams, a'r inhstanu gan Daniel Thomas. snaradoud Jifcli Treior vchydig eiriau priodol iawn, yu aai.gos barn a synwyr cyffredin da a chryt, gyda ujiuuer o dcimiad. A caafwya can gau Mrs. H. D. Williams— can Gymreig 11awu w,allad a dwysder. Yr oeud ju gyiarlod cryt a aylweddol, ac yn gydnaoyuuiaetu weadua i werth Efell Trefor tel dmesyud yn Nurelorns. Mawr Iwyaa, a hir oea iddo ef a'i deulu. Dyma rai o linellau loan Bach iddo- Ein henwog Efell Trefor," Gailuog fardd a cherddor, Ei weithiau sydd fel blodeu blydd. Clod y'nt a budd i'u goror; Mae'i fywyd yn Nbreforris Trwy Gymru yn dra bysbys, Esiampl yw fel Cristion byw, I Deadf Duw yw ei ewyllys. Offrymodd ei dalentan Ar allor dyleds wydda Yn ffyddion bu yn Haw ein Rhi, Gorchlygodd tu o rwystrau « Mae'n athraw ac arweinydd A blaenor doeth a threfnydd, Aberthai'n hir o blaid y gwir, A'i gysur yw gwir grefydd. Mae purdeb ei gymeriad Yn bregeth ac esboniad, Ei fod yn byw gan otni Duw, Ar annuw mae i ddylanwad A'r eglwys sydd yn canfod Gwer thfawredd ei deilvng-dcd Maent henu'n en gyduno'n llu I'w anrhydeddu'n hyglod." I A dvma bennill eto iddo o gyfarchiad "Eilir U Mai"— Wel, Efell Trefor, geUwch chwi I I deimlo'n bapus, dybiaf fi, Chwi welwch fod y dysteb hon Yn llawn o nodau'r cywair lion Mae cariad pur yn rhoi o hyd Gysuron gloewon yn y byd r A chariad Nazareth sydd heno A chynhes law yn eich gwobrwyo." I Ni wyr neb derfyn direidi diniwed pregethwr mewn hwyl i addaw cyhoeddiad 08 bydd yn brydydd parod. Dyna brofwyd gan atebiad y Proffwyd o Bryn- teg yn ddiweddar, yr hwn a anfocwyd ar gerdyn post:— Myfi'r pregethwr grwanaf Fel yr wyf, A ddof y Sabbath nesaf, Fel yr wyf; 'Rwyf yma beunydd wrthi, Mewn enw c bregfthu Ond dof am dro i'r SGetty Fel yr wyf: Heb ddawn na moddion gwaeddi. Fel yr wyf." Ac yr celd yn dda gan y bobl fwynion ei weled fel yr oedd. Ac felly y bydd y gwr naturiol hwn beunydd. Dytia arwyddair da i bregethwr— it Fel yr wyt. Dyma dipyn o ddireidi barddonol lied dda. gydag ystyr presennol byw iddo. Cynhygiodd Pwyllgor Eisteddfod Glynceiriog, Gogledd Cymru, y Pasg diweddaf, wobr am yr englyn goreu ar Y R HELIWR," A dyma ddau a anfonwyd i fewn gydag ychydig o gyfnewid yn y testyn :— 'Tr Hehcvr." Ein milwyr, helwyr, hwyliog-yn Affrig Sy'n effro gynddeiriog, A llonydd ni cha'r llwynog-De Wet. I Ar antur wedi'r huntio-drwy y wlad A rhyw lun o frwydro, Twt, twt, mae De Wet eto-yn rhydd." Gwyddai y bardd talcen slip (?) hwn yn dda beth yr oedd efe o'i gwmpas. Pro Rrwr pur yw y Bardd. A phwy bynnag sy'n darllen Y Cymro" hawdd adnabotl y Haw. Helynt ryfedd fu heiynt y "Rhiangerdd" rhwng- PwyLgor Eisteddiod Genedlaethol Lerpvvl a Dyfed." Penderiynodd y Pwyliyor ofyn i Dyfed ddychwelyd y wobr gan id.o dorri amoc yn y rhaglen. Gwrthyd yntau wucud am fud y Pwyllgor wedi cyhoeddi ei gerdd ya y "Cymro." Tatlwyd y ffrae i Orsedd y Heirdd. Wel, yn awr YIlte am storm. Dyma ni bellach yng nghysgodion y myrtwydd a'r helyg, ac yn gwrando murmur lleddf yr afonig min nos. Pwy na alara g'olli Enuliah fwyn, y Bjjrdd o Bencia.wdd Mor bruddtelus yv gwrando ei gyfaill gwir. Mr. Seth P. Jones, yn son am dano yn y Geninen am Ebriti :— DAYYDD RIILDIAN REES, 0 BESCLA.WDI) Y mae llu o feirdd a Uenoiion, a nemawr llai, mi gredaf, o weinidogion Annibynia, yn anwylo ei enw Ciinys ni fu i'r naill nac i'r lleill erioed gyfaill mwy digytnewid. Hwynthwy aethent a'i tryd ef, fel yntau a'u bryd hwythau, i'r graddau y cawsent adaabyddiaeth o'u gilydd. Dyma paham un o'r anwyliaid lleayddol a chrefyddol oedd efe. Hawdd oedd caru ac edmygu dyn o'i nodweddion dengar ef. Fel pe i ddwyshau'r cariad a'r edmygedd deimlid ato, byddai Kliiaian yn gvmedrol iawn yn ei arddangosiad allanol o'i deimladau ef at ei gyfeillion, yn eu gwydd ond yr hyn gadwai'n ol y pryd )iyny dorai'n gryf o'r gronta yn ngwydd ereill. Tueddai ei edmygedd o honoch ymguddio yn eich presenoldeb. Byddai ei ysbryd megys o'r tu ol i'w berson yn tynu llelJi yn araf ac yn yswil o'ch blaen, a heulwen ei lygaid yn ymdoddi yn iighwmwl gwyn y lleu- llieiniau tryloewon ledganfyddech yn cymeryd eich lluu megys o'ch cysgod—nid llun eijh corff trwsiedig, ond llun eich hunan noeth. Yn ddi- arwybod ceisiech fod ar eich goreu ynei wyadfod. Teimiech fod rhywun a chalon fawr ganddo am ddod i adnabyddiaeth iwyrach ac i gymdeithas agosach a chwi, os oedd genych fynwes eang 1'w derbyn. Teimiech ei fod yn meddwl llawer mwy nag oadd yn ddweyd; ei fod yn pwyso ac yn mesur ei eiriau gyda'r un gofal ag a wiiai a nwyddau ei faelfa. Cadwai chwi felly i beidio bod, eich hunan, yn amleiriug. Wedi cymeryd amser cymedrol i ystyried yr hyn ddywedech, llireiriai ei eiriau yn afon lydan, ddotn, araf, ddistaw a thryloew tuag atoch, gan ireiddio gwreiddiau dyfndaf pob peth o werth yn eich natur a'ch bodolaetn. leimlech beth arall yn dwyshau eicu dyddordeb ynddo. Byddai bob I amser yn brysur gyda'i fasnacti, ac ni chawsech ganddo yn ami ond geiriau megys rhwng crom- fachau; rhai hynod gynwy=fawr, er hjny-rhai hynod awgrymiadol; a mwy na hyny, rhai hynod ogleiaiol; y cyfryw fyddai yn codi awydd am ragor, fyddai yn eich temtio i'w gymhell o'r neillau i gael y gylrinach yu gyflawn rhyngoch chwi ac yntau. Ond nid oedd modd. Deuech eilwaith a thrydwaith, deuech wedyn a chwedyn, a phob tro i wybod yn mbellach am yr hyn fu dan sylw o'r blaen. Cedwid y dyddordeb, felly, i adwyshau o dro i dro, nes y caech eich gilydd yn gyteillion cyfrinachol a mynwesol iawn. 0 hyny ailan, "yr byn a gysydtodd Duw na wahaned dyn." Yr oedd o ymddangosiad persoDol lied ar- benigol: corff o faintioli ychydig llai na'r eyffredin, tua phum troedfedd a thrydydd o dafdra: y rhan uchaf yn gorbwyso'r isaf; ys- gwyddau llydain, a pheu pwy&fawr yn gwasgu'r gwdaf i'r eysgodion; talcen llydan brtif, a chopa eang, a chynhauat toreithiog o wallt yn ym- donni'n dywyll uwchben, fel pe i dystio chai'r ysgwyddau guddio o'r golwgyn llwyr yr hyn oedd uwchlaw iddynt mewn pwysigrwydd tel ag mewn safle. Ac i bwysleisio hyn, gotalai Rhidian ei blygu yehydig tua'r a&wy fel pe i atal yr ys- gwyddau i'w dynu trwy urais 1 geudod v trest. Cerddai a'i ben haner-plygedig yn mlaen, a'r traed yn brysio i gadw uano, a'i law ddehau yn rhwy.'o'n galed, a'r aswy yn gorphwys yn nervous ya llogell ei got. Dyua r agwedd mwyar nod- weddiadol o Ridian, yn neillduol pan fyddai marwnad neu nir a thoddaid coffadwriaethol ar waith; yn neillduol hefyd yn nyddiau boreuaf ei fywyd llenyddol. Fel y deuai'n henach araf gollai ei wedd a'i osgo larddol. Ond, yn anffor- tunus, daeth afiechyd yn rhwystr idio dylu yn ddyn hoew, gwisgi a smart. Ond pell fyddai Rhidian o ddymuno teilyngu'r ansoddair olaf. Beth sydd gan feirdd Cymru yn ei erbyn i Onid yw corff goiygus, iluniaicld, ac osgo ddysgybledig, dywysogaidd, yn gweddu i lardd fel i rywun | arall? Os daw'r conscript by^ytuiedig i arferiad I yn ein gwlad, yr hyn ta ddymuuaf; ond os daw, cynygiaf fod y beirdd i gaei en galw gyntat dan ddysgyblaeth. Hwynthwy weiat h mewn angen drill fwyaf o bawb. Sue stwff i udur a than fyddent, nis gallaf brophwydo undgwn y bydaai ymarferiadau corfforol o les anleithol iddynt, gan mwyaf." Mor flin yw genym ddarllen am farwolaeth I dynion ieuainc, ac am alar tad a mam a ^heulu ar eu holo Erayd trwm lawn gafodd ein cymydeg parchus Dr. Joseph Davies, Hafod, a'i biiod anwyl a'r teulu ym marwolaeth ei anwyl fab Mr. William Davies, 20 oed. Bu yn y Meiiaips mewu I ymchwil taer am lectiyd, ac er ood yno am amser go faith a chael tynerwch meddygon a gofal cartref da, daeth adret i farw. Yr oedd yn dda genym oil, a chan ei deulu mai marw gartref fu ei ran. A bu farw yn beraidd a buddugoliaethus. Marw wedi gweddio dros ei dad a'i fam fuasent mor garedig iddo, ac mor ofalus o hono. Ac ni fu dim darn o bapur mor hyawdl yn ein ilaw erioed i a'r darn papur gwyn hwnnw yr oedd ei dad anwyl yn ei ddagrau wedi codi gweddi olaf ei anwyl fachgen iddo. Ie; gysegredig wedoi-mwy ei gwerth ar daam by chan o bapur na holl ddodrefn y ty er godidoced ydynt. Dygwyd ei weddillion i fynwent Llangyfelach, a chladdwyd ef ym mhre- setioldeb llu o gyfeillion gwahoddedig. Bydded Rhagluniaeth y net yn dinon o'i dad a'i tarn a'i deulu o.l. A dyma fywyd ieuanc arall wedi gwywo: mab ein hanwyi frawd y Parch. William Jones, Bethania, Treforris. Yr oedd ei fryd ar ddod yn bregethwr fel ei dad, a phrin yr oedd arno eisiau gweil delfryd (ideal). Clywsom eiriau da am dano, a deallwn y disgwylid pethau da oddiwrtho, ond efe a dorwyd ymaith tel blodeuyn y gias- welltyn. Ymgeledued y Nef ei dau a'i tarn a'r teulu yn eu trallod. Deled ei dad allan o'r cwmwl wedi gweled pethau gogoneddus, a siaraded hwynt eto nes swyno Cymanfaoedd Cymru fel y gwnaeth lawer gwaith. Claddwyd y gweddillion ieuanc ym mynwent y Cross Hands. ddydd Llun, Ebrill y 29ain. Peraidd huu icido, ANADL. ANADL wan, ei doieni—yw'n cadwen, in fyw'm cedwir drwyddi; A'i day mod, ryw ddydd arni Tyr angeu twlcii-trengaf ft. BETHEL (r). DIM. HEN hosan a'i choes yn eisie'—a'i trig Heb erioed ei ddechre' A'i throed heb bwytli o'r ede', Dyna yw dim otiiue i' PWY? DIWEDD Y PERERIN. DIGOXWYD fi ar deganau-y byd, Aed ei barch ac yntau I ryw ddy;t gar y ddau, Mynwent a nef i minnau.

[No title]

Cor«s|tommue.1

"THE BIBLE IN MODERN LIGHT."

: THE DRIXK QUESTION.

I TROUBLES OF SWANSEA AND…

! THE UNK1SSED PROFESSOR.

[No title]

i Digtinrt awtr

ABERAVON TOWN COUNCIL.

BRITON FERRY.

[No title]

NEATH AND DISTRICT

PONTARDAWE-

--THE BEST TEMEPERANCE DRINK.

PARTNERSHIPS DISSOLVED.

Advertising

CWMAVON. I

THE BEST NON-INTOXICATING…

[No title]

PONTARDULAIS NOTES. >

[No title]

Advertising