Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

---------------------Y GONGL…

News
Cite
Share

Y GONGL GYMREIG. LLYTHYR AT GYMRY'R CAMBRIAH YR wythnoa hon, yr wyf am arwain sylw fy narllenwyr at un o'r mannau mwyaf nodedig ac enwog syddo fewn i Gymru feohan, dlawd," nid amgen HEN ARDAL QLA.STJROL YSTRAD MEURIG, YN SIR ABKRTEIFI. Gwyr pawb braidd rywbeth am Ystrad Meurig a'i hysgol Rammadegol dra enwog, yr hon a ehwareuodd ran mor bwysig yn hanes Cymru fu," a'r hon sydd yn parhau i wneyd yr un peth o hyd. Mewn gwirionedd, nis gwn pa Ie i ddechreu na pbale i ddiweddu wrth ysgrifenu ar Ystrad Menrig. A gaf fi led-awgrymu fod esgid fy nhafod (neu, yn hytraoh fy ysgrifbin y tro hwn), yn rhy fechan i droed fy meddwl a'm calonP QAIR 0 HANES YR YSGOL. Sefydlydd ysgol enwog Ystrad Meurig ydoedd Edward Rhiaiart, yr hwn a fn farw yn y flwyddyn 1777, wedi byw bywyd llawn o ddiwydrwydd a ohynnildeb. Efe ei hun oedd sefydlydd ac athraw eyntaf yr ysgol, ac yn ci ewyllys olaf, rhoddodd ei holl fedaiannau at waddoli yr ysgol. "Grand old man," yn ngwir ystyr y gair, ydoedd efe. Ym mhhth efrydwyr boreol yr ysgol enwog hon, gellir nodi yr enwogion, Ieuan Brydydd Hir a Dafydd Ionawr-y naill yn frodor o ardal Swyddffynnon, a'r llall o ardal Brynerog, gerllaw Towyn, Meirionydd. Gyda llaw, gellir crybwyll mai pan yn llanc yn Ysgol Ystrad Meurig yoyfansoddoddDafydd Ionawr" Gywydd yDaran"—ar lan Afon Teifi, meddir, ar bryd- nhawn ystoi-mns iawn, pan oedd "Tarandwrf, braw, drwy'r bryndir A dychryn drwy'r dyffryn-dir." (chwedl yntau). Un o feibion glewion Yagol Ystrad Menrig oedd yr Hybarch Archddiacon John Williams— ysgolhaig o glodydd Ewropeaidd, yr hwn a fu yn athraw i rai o fechgyn Syr Walter Scott, y nofelydd, yr hwn hefyd a weinyddodd y gymwynas olaf i'r gwr gwir fawr hwnw, y Parch. Frederick W. Robertson, o Brighton. Yn Ystrad Meurig hefyd, yr addysgwyd yr Archddiacon Jenniugs, o Westminster Abbey; yr Esgob Hughes, o Lanelwy Dewi o Ddyfcd (tad prif athraw Yagol Rugby); yma hefyd yr addysgwyd tad ac ewythrod esgob presennol Llanelwy. Prin y mae'n anghenrheidiol crybwyll mai yma hefyd yr addysgwyd y boneddwr ieuainc tra adnabyddus, Mr. Vernon Stanley Jones, mab athrylitbgar y prif athraw dysgedig sydd yn Ystrad Menrig yn awr. Ym mhlith gweinidogion ymneillduol enwog a addysgwyd yn yr ysgol hon, gellid enwi y diweddar Ba.rch. William Morris, Cilgarran (wedi hyny, o Dy Ddewi), un o bregethwyr doniolaf a gallnocaf y Methodistiaid Calfinaidd; y Parch. John Phillips, Bangor (prif athraw cyntaf y coleg Normalaidd yn Upper Bangor) a'r Parch. John Jones, Llan- badarn-fawr—gwr a gariai enaid mawr, mawr, mewn corff bitw bach, eiddil, gwan, ac nn oedd yn nodedig am santeiddrwydd profiad a bnchedd. Ystyrid Mr. Jones yn ysgolor clasurol campus yn ei ddydd, er nad oedd ei gorff nemawr mwy o < faint na'r edition mwyaf o Greek-Englith JJtmcon, Ltddetl, and Scott. Ond rhaid i mi adael y gwaith o ddilyn cwrS hanes hen Ysgol Rammadegol enwog Ystrad Meurig, ar hyn o dro. Buasai yn ddymunol genyf fforddio gofod ac amser i ddyweyd gair am y prif athrawon galluog fuont yn llafurio yn Ystrad Meurig o ddyddiau Edward Rhisiart hyd yn bresennol. Ond rhaid gadael hyny heibio ar hytfo dro. Boddloner ar i mi grybwyll y ffaith fid y boneddwr a eistedd yn ngludair y prif athraw Ystrad Meurig, ar hyn o bfyd, yn un o Yagolboigion Lladinaidd goren holl gyfandir Ewrop. Mae Lladin yn part and parcel o'i fodolaeth. eneidiol. Hir oes iddo i osod ei ddelw a'i argraff ar eraill, a phan symmndir yr Elias hwn, caffed y byd ryw Eliseus ar ei ol. A GOBI AD EGLWYS GOFFADWRIAETHOL EDWARD RHISIART," YN YSTRAD MEURIG. Bydd Ned o'r dre, druan, Yn gorwedd mewn graian, A phob hen awff trwstan Aiff trosto," meddai Edward Rhisiart am dano'i hun, yn un o'i ganeuon tlysion. Gwelir, wrth yr uchod, nad yr hen fugeilgerddwr wedi dysgwyl cael llawer o barch ac anrbydedd i'w goffadwriaeth, gan ei olafiaid. Modd bynag, wele Eglwya Goffadwriaethol" brydferth a chadarn wedi ei hadeilsdu iddo yn Ystrad Meurig, a thra yr erys maen ar faen ym muriau hon, fe fydd ei goffadwriaeth yn ddiogel. Dydd lau, yr 17fed cyfisol, oedd y dydd pennodedig i agor yn ffurfiol yr eglwys newydd ym Ystrad Meurig, Cynnelid y gwasanaethau am 11 yn y bore, banner awr wedi dan yn y pryd- nhawn, a ohwech yn yr hwyr. Yr oedd yr hin yn nodedig o ffafriol, a chafwyd cynnulleidfaoedd tra lliosog. Pregethwyd yn y bore gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi, yr hwn, mewn modd medrus ac argyhoeddiadol a dynnodd amryw wersi pwyaig allan o'r prif ffeithian yn hanea bywyd Edward Rhisiart. Pregethodd Archddiacon Llanelwy yn dra brwdfrydig yn y prydnhawn, gjn gymmeryd cyfeiriad nid annhebyg i'r un a gymmerasai yr Esgob. Cardi pybyr a thrylwyr yw Arohddiaoon Llanelwy, ac y mae yn deg crybwyU iddo fod yn foddion i gasglu JE300 at yr eglwys newydd yn Ystrad Meurig. CYD-GYFARFYDDIAD HBN GYFEILLION. Mae mwy o neillduolrwydd yn perthyn i agoriad eglwys newydd yn Y strad Meurig nag mewn Ueoedd eraill. Addysgwyd y fath nifer o offeiriaid yn Y sgol Rammadegol y He, y rhai erbyn hyn, ydynt wedi ymsefydlu ar hyd aIled y byd, ym mhob cyfeiriad. Mae associations y lie yn meddu y fath at-dyniad, fel y gallesid yn rhesymol ddysgwyl gweled llawer o hen wynebau wedi dyfod am dro i'r hen ardal ar achlysur fel hwn. Ond mawr y cyfnewidiad aydd wedi cymmeryd lie mewn ami nn o'r ymwelwyr oeddynt yn Ystrad Meurig ar yr 17fed er pan oeddynt yno yn efrydwyr ienaine bochgooh. Ami i lygad oedd ya ddisglaer a threiddgar yr adeg hono, aydd wedi deehrea pylu erbyn hyn-aml i gnwd o wallt du fel y fr&n wedi teneno a gwytm, ac ami i gefn wedi dechreu orymu. Ond canfyddem fod aradr amser wedi rhedeg ei swch yn ysgafnach dros rai gilydd—wedi gadael rhychiau mwy bis ar ambell i wyneb, ac wedi delio yn fwy garw ag eraill. YR AWR GINIAW. WedifrgwaaaBaethborenol fyned drosodd, eis- teddodd tua 150 wrth y byrddau yn yr awyr ag- ored ar y lawnt o flaen y Ficerdy. Llywyddidar yr achlysur gan Arglwydd Lisburne, ac yr oedd yn breaenoi yr Arglwydd Esgob, yr Archddia- coniaid Evans a Protheroe, Parch, J. Richards, Rheithior AberfEraw, Ynya Mon (yr hwn fu yn gynnorthwywr liael i'r mudiad, Mrs. Wadding- ham, Mr. Roberts, cyfreithiwr, a'ibriod, alluaws mawr o offeiriaid a lleygwyr nad yw yn gyfleus i ni eu henwi ar hyn o bryd. Cynnygiwyd y llwnc-destynan arferoI-cydnaws ag amcan a natur y cynnulliad. Cafwyd sylwadau pert a phwrpasol ar yr aohlyaar gan yr Esgob, y Parch. J. Jones, ficer Ystrad Meurig; ArchddiAcon Evans, Parch. J. Richards, Aberffraw, Parch. ¡ Joseph Lloyd, ac amryw eraill. Deallwn fod Mfa. Waddingham, Hafod, wedi bod yn dra ohar- edig yn nglyn ag anturiaeth yr Eglwys newydd hon, o'r dechreu i'r diwedd. Darfu iddi, yn garedig iawn, ar y funyd ddiweddaf, bwrcasu yr holl addurniodau arferol ar gyfer Bwrdd y Cy- mun yn hollol ar ei thraul ei hun. Deallwn hefyd i Arglwyddes Amherst fod yn ddiwyd iawn yn casglu ym mhlith y Llundeinwyr at y mudiad hwn. GWEITHIWR DIORPHWY3. Tybiwn fod y Parch. John Jones, M.A., ficer a pbrifathraw Ystrad Meurig, yn deilwng o gryn lawer o glod am ei Iafur caled fel Prifathraw yr Ysgolt ac hefyd fel ficer dau blwyf, sef Ysbytty Ystrad Meurig ac Ysbytty Ystwytb. Darfu iddo. flynyddan amryw yn ol, adeiladu Eglwyg newydd 1R Ysbytty, ac wele ef wedi adeiladu un yn Ys- trad Meurig yn awr, a gofalu am yr ysgolhefyd. Y mae, mewn gwirionedd, yn haeddu clod am ei lafur caled. DAU BETH YN EISLAU ETO. Y path cyntaf oil sydd yn eis;au ydyw, twr Eglwys newydd sy'n Ystrad Meurig. Mae'n rhaid cael hwnw cyn y bydd yn gyflawn a pher- ffaith, ac yn deilwng o Ystrad Meurig. Ond fe 1 olyga hyny draul o fil o bunnau, ac y mae tua dau cant o bunnau yn aros o ddyled ar yr Eglwys fel y mae, heb y twr. Y peth arall sydd yn e iaiau yn Ystrad Meurig yw YSGOLDY NEWYDD. Nid yw yr hen adeilad yn deilwng o'r amser- oedd presennol, nac ychwaith o'r ysgol a'i thra- ddodiadau, a'r ardderchog lu fuont yn derbyn eu haddysg ynddi. Deallwyf fod rhai Cymry pybyr yn teimlo i'r byw dros urddas Ystrad Meurig, ac yn penderfynu gwneud eu goraf er cael adeilad cymwys i ddwyn yr ysgol ymlaen ynddo. Un o'r cefnogwyr brwdfrydig hyn ydyw MORGAN DAVIES, M.D., F.R.C.S., LLUNDA1N. Mae Dr. Daviea yn hen gydnabod bore 088 i mi. Buom yn cyd-ysgolia ein dau un haf yn Llangwyryfon. Nid wyf yn adwaen un Cymro mwy selog dros ei wlad a'i defion na Mr. Davies Teg ydyw hysbysu yma mai un o fechgyn Ys- trad Meurig ydyw Dr. Davies, ac y mae ei galon yn llawn aidd a sêl dros yr hell ysgol. Mewn llythyr o'i eiddo, dywed Dr. Davies fel hyn :— I mi, mae'n beth hynod fod ysg-ol, ym mha un y dygid hogyn i gyfathrach k Homer, Virgil, Cicero, Sophocles, ac Euripides, wedi cael ei sef- ydlu yn nghilian y mynyddoedd, ac am dros wyth ugain mlynedd wedi ei dwyn ymlaen heb nemawr gyfoeth, ie, ac ymhlith gwladwyr llafurns, di- gymysgaeth. Yr wyf yn galwhyna yn romance Ym mhellach yn mlaen yn ei lytbyr, awgryma Dr. Davies mai priodol fyddai mabwysiadu rhyw arwyddlun (coat of arms) i Ysgol Ystrad Meurig. Yr arwyddlun a gynygia Dr. Davies yw Y fran yn dwyn meen yn yn ei chylfin." Ar y pen hwn dywed :—" Ai ni fyddai yn gysgod cywir iawn o Ystrad Meurig? Y 'deryn distadl yn dwyn had y pren ardderchocaf yn y byd Y strad Meurig ddistadl, fan yna yn nghiliau'r mynyddoedd, yn plannu hadaa Dysgo, sy'n rho'i llawnder a nerth i ddynoliaeth,ac yn galluogi pob Dyben Da i gaffael goruchafiaeth." Gwelwn fod y Dr. Davies ar dan gan aiddgarwch dros lwydd a dyrchafiad Ystrad Meurig, a theg ydyw crybwyll iddo wneud ei ran yn anrhydeddus tuag at yr Eglwys newydd a agorwyd yr wythnos ddiweddaf. Ond dichon y gofyna rhai o ddarllenvryr y CAMBRIAN y cwestiwn, I ba ddyben yrysgrifenaf mor helaeth am Ystrad Meurig i bapyr newydd a gyhoeddir yn Abertawe ? We), i gychwyn, am fod y CAMBRIAN y newyddiadur hynaf yn Nghymru, ac am fod Ysgol Ystrad Meurig yn un o'r sefydliadau Cymreig henaf, ac am fod pob cwr o'r Dywysogaeth wedi manteisio drwyddi, yn uniongyrchol neu anuuiongyrchol, ac hefyd am fod cyfiawnder o "rai ag arian ganddynt" i'w cael o gwmpas Abertawe a Chaerdydd yna. Mae yna ddynion a benywod i'w cael sydd yn ymrolio yn nghanol aur melyn. Mae yna luaws o Eglwyswyr felly i'w cael. heb sou am neb arall. Yn awr, mi ddymnnwn i'r cyfryw gofio am y di- weddar Mr. Samuel Morley, a'i haelioni dirfawr ef i'r cyfundeb crefyddol ag y perthynai iddo. Ped agorid calon un neu ddau o gyfoethogion Morgan wg, gwelid twr ac ysgoldy wedi eu gor- phen yn Ystrad Meurig mewn ycbydig amser. AR FY FFORDD ADREF. Wedi mwynhau fy hun yn fawr yn Ystrad Meurig, troais yn fy ol i'r fangre hon. Mae'r daith oddiyma i Ystrad Meurig (a chymmeryd y ffordd feraf) yn ymgadw o fewn i awn murmuron y Teifi braidd o hyd ac y mae rhanau o honi yn | nodedig o brydferth. Wrth ddychwelyd, cefais fy nghadw yn bur hir i ddysgwyl am dren ym Mhencader. Tra yn aros yno, troais i fewn i weatty fy hen fErynd Nancy," er cael cwpanaid o de. Yno cyfarfyddais am y tro cyntaf yn fy mywyda MB. J. GLYN DAVIES. Mae y boneddwr ieuanc hwn yn gymmeriad nodedig o ddyddorol, ar lawer cyfrif. Mae yn gyfaill mawr i Mr. J. H. Davies, Cwrt Mawr, a deallwyf fod chwaeth y ddau yn debyg i'w gil- ydd. Dygwyd Mr. Glyn Davies i fyny yn Ler- pwl. Deallwyf fod ei daid yn frodor o Aberys- twyth. Mae Mr. Glyn Davies yn wr o dalentan dysglaer, ac y mae yn dra chydnabyddus a lien- yddiaeth Gymreig, hen a diweddar. Mwy na'r cwbl, mae yn hollol syml a diymhongar, yr hyn a barai i mi ei fawr hoffi. Addawodd yn garedig alw gyda mi pan ddaw i lawr yn ei yacht y tro nesaf i Aberteifi. Bwriada dalu ymweliad buan ag Ystrad Meurig, er cael gweled yr hen fangre glasurol enwog. Gwelaf y rhaid i mi sychu fy ysgrifbin ar hyn o siarad heddyw. J. MYFENYDD MORGAN. St. Dogmaels.

WATER POLO.

[No title]

LOCAL NEWS.

NEATH.

LLANDILO & DISTRICT.

GORSEINON.

LLANRHIDIAN

BRITON FERRY.

TREBOETH.

PONTARDAWE,

Advertising

SOUTH WALES STOCK AND SHARE…

Advertising

[No title]

MUMBLES.

LLANDRINDOD WELLS.

HIGH WATER IN SWANSEA HARBOUR

LOCAL FIXTURES OF FORTHCOMING.…

Advertising

Family Notices