Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

25 articles on this Page

Y GONG r, GYJIREIG. i

News
Cite
Share

Y GONG r, GYJIREIG. i LLYTHYE AT GYMRY'R CAMBRIAN. Bobl nnwyl, y mae yn wresog, mewn gwirionedd, y dyddiau hyn. Er nad wyf fi yn fod tew a bras, teimlaf fy hun yn toddi fel ymenyn o dan belydrau "Hafaidd hin Mehefin" y flwyddyn 1899. 0 NA FYDDAl'N HAF 0 HYD" meddai rhyw brydydd Cymreig. Rby brin y credaf y carasai neb iddi fod yn haf o hyd," o'r fath .ig- ydyw yn y dyddiau presennol. Ond dyna. rnae yn beth rby anhawdd ein cadw ni, ddaiarolion grwgnacblyd, yn dawel a boddlawn. Mae yn rh y rywbeth neu gilydd yn barhans-rhy wresog, rhy sych, rhy oer, rby wlyb, neu rhy > lyehlyd, Pa le y mae'r yalad berffaith bono i'w chael, lIe y mae'r creadur bychan dyn yn hollol icrth (i fodd:- Nid ar y ddaiar hon, yn sicr. # # Arfprai y diweddar Barch. Thomas Richards. Aberg-wann, ddywedyd mai Heban y byd hwn oedd pi ddrw?—heb iechyd, heb gysur. heb gyfoeth, Ac. Teimlwn fod mesur o wirionedd yn ei osodfad, canys bod "heb"' yr elfen hon neu arall sydd, yn fynyeh iawn, yn amherffeithio pet-ban. Ond beth a feddyliai yr hen philosophydd o arwyddoclifl y gair "heb" yn jr ymadrodd heb bechod 'i Ond rhaid gadael. am y tro, y dull sentimental hwn o edrych ar bethau. SYR LALRENCE RLGR JEXKIXS. Naturiol ddigon i ni fel Cymry ydyw teimlo yn foddbaol a llawen pan ddyrchefir un o'n cenedl i binacl o bwy3 yn yr ymherodraeth Brydeinig. Mae peth felly newydd gymmervd lie yn awr. yn nyrchafiad y Barnwr Laurence Jenkins i urddaa Marchog. Ychydig amser yn ol, gwnaed ef yn Brif Farnwr Bombay, yn India, ac yn ebrwydd gwedi hyny, gwnaed ef yn Farchog. Brodor ydyw Prif Farnwr Syr Laurence H. Jenkins o lanan y Teifi yma. Bu ei ddiweddar dad, Mr. Richard D. Jenkins, a lliiaws eraill or perthynasau, yn byw yn Pantirion, St. Dogmaels, ac i'w deulu ef y perthyn y lie hwnw yn bresennol. Bu Mr. Richard D. Jenkins, tad y Prif Farnwr, yn llenwi y swydd o churchwarden yn eglwys blwyfol St. Dogmaels am flynyddoedd lawer; ac y mae yn cysgu cwsg yr hirnos fawr o fewn ychydig latheni i'r man yr wyf yn ysgrifpnu y llinellan hyn. Brawd i'r Prif Farnwr ydyw y Parch. R. Bowen Jenkins, M.A., Perigler Llangoedtror, ger Aberteifi, yr hwn, ar un adeg, oedd licer Aberthir. Wel, ni a eiddunwn oes hir, a llawer dyrchafiad eto, i Brif Farnwr y Llysoedd yn Bombay. Yn nwch. nwcb, nwchach yr ol, Dringed i gadair angel." HELYNT ABERYSTWYTH. G welwn nad yw yn "hafohyd," hyd j-n nod yn nhymmor naturiol haf. mewn ambell dreflan yn Nghymru. Lie paradwysaidd a braf, debygid. ydyw Aberystwyth. Mae natur a chelfyddyd >! wedi ymano a'u gilydd i drwsio a harddu Aberystwyth, ac i'w gwneud yn fangre ddymunol i ymwelwyr arianog o Loegr a pharthau eraill. Ond gwelwn fod yno GWMWL AR AEL Y FFURFAFEN y dyddiau hyn. Ymddengys i wr o'r enw John Gibson ddwyn cyhuddiad dychrynllyd yn erbyn* rhyw dy yn nhref swynol Aberystwyth. Yn canlyn, wele ddyfyniad o araeth Gibson yn ol fel y ceir hi yn rhai o'r papyrau :—" There was in this town (Aberjistwyth) at the present time a building where little children were done to death regularly all the veur round. Yn awr, gwelir fod cyhuddiad o'r fath nchod yn beth dychrynllyd, a dylid profi ei wirionedd, i'r earn, nen ei dynu yn ol. Gwelwn fod cyngor trefol Aberystwyth eisoes wedi bod yn eistedd ar y mater, a gallwn feddwl fod yr Henadur Donghton, a rhai eraill, yn bur hallt ar Gibson. Nid wyf yn proffesu gwybod dim am fanylion y mater difrifol hwn, ond ymddengys i mi y dylai Gibson fod yn ddigon gwrol i enwi y ty a'i breswylwyr, neu ynte gau ei safn, a pheidio yngan gair. Tuedda peth fel hyn i newidio cymmeriad tref ffa-iynol Aberystwyth, ao i gadw rhai ymwelwyr ymhell o'r He. Am danaf fy ban, ni bum erioed yn malio darllen damcaniaethau anymarferol y gwr hwn ar dudalenau ei bapyr. Ymddengys i mi fel dyn yn ymhyfrydu syuied a siarad yn wahanol i fwyafrif plant dynion. Ond ni chredais erioed fod ei hynodrwydd yn tarddu oddiar nnrhyw fawredd meddyliol cynbenid yn natur y dyn roegis ag y gellir dyweyd am Carlyle, ac ychydig eraill. Tra yn s.n am Aberystwyth, naturiol ydyw crybwyll gair am "THE WELSH GAZETTE" sydd newydd gael ei gychwyn yn y dref hono. Nid yw ond ychydig wythnosau o oed eto, ond ymddengys yn bapyr newydd iach a chryf, ac yn Hawn arwyddion bywyd. Mae ei olygydd, pwy bynag ydyw, yn wr o chwaetb, dy.g, a gallu. Rhwydd hynt iddo ef a'i bapyr. OES Y CYFIEITHU. Clywir llawer iawn o son y dyddiau hyn am ddyledswydd y Cymro i ddysgu'r ddwy iaith-y Saesneg a'r Gymraeg. Diameu hefyd mai dyledswydd mwy ymarferol bwysig ydyw hon na llawer un. Mae cyflog a swydd, bara a chaws ac ymenjn, yn gynnwysedig yn nghyflawniad y ddyledswydd hon ac felly nis gall fod yn un ddibwys. Ac fel y mae gwybodaeth a dysg yn ymgynniwair yn y tir, mae y Sais a'r Cymro yn dyfod yn barhaus i agoeach cyfathrach a'u gilydd ac i ddeall y naill y llall yn llawer swell. Tn y y dyddiau hyn, cawn fod cyfrolau o farddoniaeth Gymreig yn ymddangos yn iaith y Seison. Mae ficer Llanidloes, ac eraill, wedi gwneud cryn dipyn yn y cyfeiriad hwn. Ond nid pawb sydd yn meddn ar y ddawn i gyfieithu rhyddiaeth na barddoniaeth. # A welaist ti, ddarllenydd mwyn, rigwm y diweddar Fardd Coccos, o Fangor, i r pedwar Hew sydd wedi eu cerfio mor ardderchog ar y mynedfoydd i'r Britannia Bridge, sydd dros gulfor MenaiDyma fe :— "Pedwar Hew tew, heb ddim blew. Dau 'rocbor hyn, a dau 'rochor draw." Ceisiai rhywun Seisnigeiadio y rhigwm fel hyn :— Four lions fat^ T":n 'rochor this And two 'rochor that." Adgofi v byn nyni o Dafydd Rolant, y Bala, yn egluro i ryw Sais beth oedd y mater ar un o fysedd ei law, yr hwn oedd yn crynhoi i dori It is making a collect ion, meddai'r hen frawd ffraeth Cofier mai gwr o dalent oedd yr hen Ddafydci Rolant, er ei fod yn brin ei wybodaeth o ieithwedd y-r faith Seisnig. » « Ond yr ydym yn rhy Larod, mi goeliaf, i ruthro i'r casgliad na bydd Cymro yn gwybod dim, os na bydd yn gwybod Saesnpg. Ni bu ericed gamgymmeriad mwy na pheth felly. Cof genyf glywed yr hen foneddwr Parcbedig, Canon Lester o Kirkdale, Liverpool (cadeirydd BwrdJ Ysgol y ddinas bono) yn gwneud y sylw wrthyf un tro. nad oedd yr un rajmrvn mwy o gywilydd i Gymro yn nghanol Cymru beidio gwybod Saesneg nag oedd i Sais beidio gwybod Cymraeg. Dyna gvfaddefiad gonest gan Sais gouest—un or Saeson goraf a adnabum i erioed. Ond y ma*1 Saeson a Chymry, yn gyffredin, yn rhy bendew a balch i weled a chydnabod peihfel yma. Mae genyf fi bob parch i tjais fel dyn, ond nid ftl I). nr, nac angel. I TSTORI Y OIWEDDAR DALHAIARX. Dywedai Talhaiarn am ryw Cymro gwledig oedd wedi cyfarfod a gwr go drw^iadus ar y ffordd yn rhywle, ac wedi tynu ei bet iddo wrth ei basic). Ym mhen ychydig diacbefn, dygwyddodd irywun ddyweyd wrth y Cymro gwledig pwy ydoe, d y gwr dyeithr trweiadus a gyfarfuaoai, a dygwyddodd droi allan taw Cymro ydoedl. "A minnau wedi tynu fy het iddo," meddai y Cymro gwledig, mewn gofid mawr. Yr oedd efe, druani wedi tybied mai Sais ydoedd, gan ei fod yn dipyn o swell. Xt feddyliai am dynu ei het byth i Gymro Mae yr uchod yn ddangoseg deg iawn o'r hyn ydyw teimlad greddfol nifer fawro genedl y Cymry. Rby ycbydig a fa yn ein plith yn y gorphenol (mae sefyllfa pethau yn dechreu gwella yn awr) o wyr tebyg i'r hen Iolo Morganwt- Iolo Morganwg, haul mawr y cenedl (oh wedi cynddelw)—yr hwn pan feiddiodd rhyw sais e. ddirmygu &'i fygwyth, a'i hatebod yn y modd canvluol Touch a WeUhmati if you dan, Ancient Bi itons a* vc are We were men of great renoirn Ere a Saxon wore a crown." SHAKESPEARE A'R CYMRY. Diameu fod rhai Cymry pybyr, o Iolo Morganwg, i'w cael yn nyd iiau'r prif-fardd Seising Shakespeare, canys fe gofir y modd y darfu i ryw Sais, yn ol darlunisd Shakespeare, anturio dirmygu y Cymro a r geninen. Oud fe ofala'r Cymro dalu y pwyth adref i'r dim i'r Sais. Gorfoda ef i fwyta'r geniiien, ac ergydia ef yn ei gefn, ar yr ua pryd. i'w gynnorthwyo i'w llyncu: Os oes yn aros eto rhwng mynyddoedd a bryniau gwyllt Walia rai Cymry hob wybod dim Saesneg. nid oes raid nac achos i'r cyfryw wneud unrhyw ymddiheurad i'r Saeson, na neb eraill, am eu gwaith yn beiddio gwneud eu hym- ddangosiad ar y ddaiar heb fedru siarad Saesneg Cymro unieithog ydoedd Y PARCH. JOHN JOKES, TALSARN, yr hwn ydoedd gystal pregethwr iig unrhyw un a esgynodd erioed 1 bwlpud. ac, yn wir, yr oedd cyleh ei wybodaeth gvffredinol yn llawer eangach na'r eiddo ami i wr graddolog yn yr oes bresennol. Yr oedd Cymru, i gyd, megis yn hongian wrth wefus enneiniedig y gwr mawr ucbod, Gyda Haw, wrth SMII fel hyn, yn ddamweiniol, am enw yr anfarwol "Talsarn," neidia y cof yn ol at y nawn Sadwrn hwnw, llawer o ffynyddoedd yn ol, pan delais ymweliad a THANYCASTELL, DOLYDDELEN, lie y ganwyd ac y magwyd y tri brawd anfarwol, y Parchn. John, David, a William Jones. Mi a grwydrais gryn lawer, y prydnhawn hwnw, 0 gwmpas y fangre. Bum yn y ty a r ystafelllle y ganwyd y tri brawd enwog. Gwelais y garreg ar tin y ffrwdd sydd wedi ei gosod yno yn goffadwriaeth am yr ysmotyn lle'r arferai'r Parch. John Jones ei ddawn i breaethu, pan yn hogyn ieuanc. i'r plant a ymgynnullent i wrando aruo. Yngerfiedig ar ygarreg, yr oedd yr englyn canlynol o eiddo Dewi Arfon,— Clogwyni coleg anian—wnaent ryfedd Athrofa i loan Ai yn null gwron allan- Mawr wr Duw—rhoes Gymru ar dan." Mae adgof o'r ymweliad hyfryd, hwnw yn dra fresh yn fy meddwl a'm calon y munyd hwn. Saif yr hen dy He y ganwyd y tri brawd nodedig, ychydig islaw hen gastell Dol-y-ddelen. Naturiol, felly, oedd ei enwi yn Danycastell a tiaturiol iawn ydyw pennill tlws y diweddar Ambrose, o Borthmadog:— Parch i enw Tan-y-Castell, Ehoes i'r wlad dri chenad hedd; Na symuder un o'i feini, Tra bo'r Wyddfa ar ei sedd At y bwthyn dinod acw Y cyfeiria ami ei fys, Pan f'o gwancus ebargofiant Vfedilbinc" llawer llys," J. MYFENYDD MORGAN. St. Dogmaels. EURFRYN AR DRO GARTREF. Deallwn fod y bardd Eurfryn, yr hwn a aeth gyda'r ymfudfa fawr o Alcanwyr i'r America ychydig flynyddau yn ol, ar ymweliad a'r Hen Wlad y dyddiau hyn. Hyderwu y bydd iddo fwynhan ei hun, ac y bydd yr ymweliad yn adfywiad i'w awen fwyn. Tnedda ein chwilfrydedd ni i ofyn os mai wedi dyfod drosodd i gipio cstdair Caerdydd y mae r

-------------_.--------------"THE…

MUMBLES.

LLANDRINDOD WELLS.

.. ---NEATH.

PORT TALBOT.

--TAIBACH.

- ABERAVON AND PORT TALBOT

| MUMBLES,

[No title]

--+--LOUGHOR.

PONTARDAWE.

Advertising

ISOUTH WALES STOCK AND SHARE…

Advertising

SWANSEA. SKETCHING CT'?J 1…

PRESENTATION TO * A SWANSEA…

SWANSEA BANKRUPTCY i COURT.…

LLANDRINDOD.

IMPORTANT BUSINESS DEVELOPMENT.

Advertising

LOCAL FIXTURES OF FORTHCOMING…

[No title]

RHONDDA & SWANSEA BAY RAIL…

Family Notices