Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

ORIEL Y BEIRDD.

[No title]

Ymweliad Blynyddol Mr. Henry…

News
Cite
Share

Ymweliad Blynyddol Mr. Henry Richard, A.S., a'i Etholwyr. Nid ydym yn cofio, ar hyn o bryd, i Mr. Richard esgeuluso ymweled yn flynyddol a'r etholwyr a'i godasant ar fainc St. Stephen er pan y dychwelwyd ef i Dy y Cyffredin, dros fwrdeisdref Merthyr, Aberdar, a'r cylch ben- trefydd, yn 1868, gyda'r fath fwyafiif mawr. Y mae efe, bob amser, yn dderbyniol yn ein plith, a gwrandewir ei areithiau gyda dyddor- deb digymysg. Daeth atom eto y flwyddyn hon gyda'i hyawdledd arferol, a thraddododd ei araeth gyntaf yn y Neuadd Ddirwestol, Merthyr,idyaid llawn o wrandawyr. Mr. Davis, Maesyftynon, yn y gadair, yr hwn, wedi araeth bwrpasol i agor y cyfarfod, a alwodd Mr. Richard i anerch y dorf. Der- byniwyd ef gyda chymeradwyaeth wresog, yr hyn a barhaodd am gryn amser. Ar y cychwyn, amlygodd y cydymdeimlad dyfnaf a'i wrandawyr oherwydd iselder mas- nach yn yr ardal, a'r hyn yn ddiau sydd wedi achosi, ac eto yn parhau i achosi, pryder mawr a chyfyngder gerwin i lawer o bobl. Dymunai fod yn alluog i roi iddynt ryw gysur. Darfu iddo glywed newyddion go- beithiol y prydnawn hwnw-sef, yn Unol Dalaethau America—fod llywvdd v Werin- iaeth fawr wedi datgan ei hun yn ffafr Mas- nach' Rydd (uchel gymeradwyaeth). Deallir hefyd fod y mwyafrif o'i weinidogion o'r un meddwl, a'r hyn sydd efallai yn fwy pwysig, —fod mwyafrif aelodau y Gynghorfa yn ffafriol i fwy o ryddid trafnidol rhwng y wlad bono a chenedloedd ereill. Clywsai, hefyd, fod ysgrif yn debyg o gael ei dwyn i mewn i'r Gynghorfa er gosfcwng y doli-daflen bresenol 25 y cant, yr hon sydd yn cau allan gynyrch a llaw-weithiau Prydeinig o'r wlad hono. Gwyddem ollnas gallem wneuthur heb haiarn a glo ac os bydd i'r doll gael ei gostwng yn 11 b yr Unol Dalaethau, a'r rhyfel truenus hwn yn y Dvvyrain i gael ei dwyn i derfyniad, a Ffraine i ymdawelu dan lywodraeth sefydlog a heddychol, gadawer i ni obeithio y daw 11awer o effeithiau da ereill i ddilyn, ac y bydd adfywiad i lwyddiant masnach yn Merthyr. Wrth adolygu y Sesiwn Seneddol ddiwedd- af, dywedai iddi fod yn ddiffrwyth iawn, a'r un fwyaf felly o fewn i'w brofiad Seneddol ef, a chlywodd yr un peth yn cael ei ddweyd gan ddynion fuont lawer hirach nag ef yn y Ty. Ymddengys fod y Llywodraeth yn ym- gadw yn fwriadol rhag dwyn i mewn unrhyw fesur o gymeriad neu axwyddocad politicaidd, neu unrhyw fesur ellid gyfrif a gynliyrfai lawer o ddadleuaeth neu wrthwynebiad. Yn araeth y Frenines ar agoriad y Senedd, dim ond pedwar neu bump o fesurau dybid oedd yn werth sylw neillduol. Un o'r rhai hyn ydoedd Ysgrif y Carcharau, yr oil am ba un ellir ddweyd iddi gael ei dwyn yn mlaen er effeithio diwygiadau yn ngharchardai y wlad. Bwriadai Mr. Cross, yr Y sgrifenydcl Cartref- • ol, i'r mesur weinyddu i effeithiolrwydd a chynildeb. Yr oedd ef yn amheu llawer pa un a gyrhaeddid yr amcan olaf. Yr oedd efe wedi sylwi mai amcan pob cyfnewidiad o'r nauir hwn oedd rhoddi mwy o awdurdod i swyddogion y Llywodraeth i wthio eu dwylaw yn ddyfnach a dyfnach i logellau y bobl. Yn ol ei farn ef, yr oedd tuedd niweidiol yn y mesur hwn, gan ei fod yn amcanu rhoddi awdurdod helaethach yn nwylaw yr Ysgrif- enydd Cartrefol a swyddogion y Llywodraeth. Yna sylwodd yn helaeth ar ysgrif y Prifysgol- ion yr hon a fwriadai ddwyn i mewn gyfnewid- iadau yn Rhydychain a Chaergrawnt. Y prif bwynt yn mha un yr oedd ef a'r An- nghydffurfwyr yn teimlo mwyaf o ddyddor- deb oedd cyfranogaeth glerigol. Dywedai fod derbyniad Annghydffurfwyr i'r Prifysgol- ion yn un a ddilynasid gan y llwyddiant penaf. Yn Mhrifysgol Caergrawnt yr an- rhydedd uchaf ag y gall unrhyw ddyn gyr- haedd ydyw y safle o senior wrangler. Efe am y flwyddyn ydyw y mwyaf cyhoeddus, enwog, ac anrhydeddus yn y Brifysgol. Wel, oddiar pan dderbyniasid y Ymneilldu- wyr i'r Prifysgolion hyn, yn 1858, yn 1859, yn 1860, yn 1861, yn 1862, yn 1866, yn 1867, yn 1868, yn 1869, yn 1871, yn 1873, yn 1875, yn 1877 -yn yr holl flynyddau hyn yr oedd y senior wrangler ship wedi disgyn i ran Y m- neillduwyr—(uchel gymeradwyaeth)—tua 90 o Ymneillduwyr allan o 2,200 o is.raddedigion. Yn nesaf, daeth cwestiwn Deheudir Aifrica dan sylw, lie y mae amryw drefedigaethau, ac yn eu mysg Penrhyn Gobaith Da a Trans- vaal. Amcan yr ysgrif hon ydoedd galluogi y gwahanol drefedigaethau i ymffurfio yn fath o undeb fel yn Ngogledd America. Nid oedd niwed yn hyn, ond yr oedd efe yn amheus iawn pa un a weithiai trefedigaethau Deheuol Affricanaidd gj-da'u gilydd yn ffurf undeb. Dyma y prif betllau a wnaethpwyd. Yr oedd, wrth gwrs, swm anferth o siarad, ond yr oedd deddfwriaeth ymarferol yn hynocl o fychan. Sylwodd ar y ddau neu dri o'r aelodau Gwyddeiig oeddynt yn gareg rwystr yn y Tf, a dywedai iddo bioidleisio gyda hwy amryw weithiau; ond pan ym- gymerasant i rwystro yn f wriadol, a hyny er mwyn rhwystro, ymadawodd oddiwrthyut. Cwestiwn mawr y Dwyrain ddaeth yn nesaf dan sylw, a dywedai y gwyddent oil ei fod ef uwchlaw pobpeth yn ddyn fleddwch. Yr oedd efe, yn ystod y sesiwn ddiweddaf, megys rhwng dau dan, canys cafodd fod yn y Ty, fel oddiallan i'r Tf, ddwy blaid ryfelgar —un am fyned i ymiadd dros, a'r Itall yn erbyn, Tvvrci. Ylla, dyfynodd ddarn ddigrif- ddoniol o waith Washington Irving am John Bull, yr hwn oedd wedi dysgu meddwl fod ganddo hawl i roi ei fys yn mrywes pawb, yn debyg i'r pryf gopyn pan ddaw y cynhyrliad lleiaf yn agos i'w rwyd. Cyfeiriodd at y creulonderau yn Bulgaria, a'r cyflafanau ofnadwy gyflawnesid yno ond y drwg oedd fod rhai po'ol yn tybied y gallent wella y creulonderau hyny trwy gyflawni eu cyffelyb. Traethodd yn helaeth iawn ar y cwestiwn Dwyreiniol, a dywedai y byddai ef gydag unrhyw blaid fyddai yn erbyn myned i ryfel. Cynygiwyd penderfyniad gan y Parch. yz:l Thos. Rees, ac eiliwyd gan Mr. John Evans, a chariwyd yn unfrydol, yn diolch i Mr. Richard am ei araeth, ac yn datgan ymddir- iedaeth ddilaesu ynddo fel aelod dros y fwrdeisdref yn y dyfodol. Nos Fercher, yn Neuadd yr Odyddion, Dowlais, dan lywyddiaeth Mr. D. R. Lewis, anerchodd Mr. Richard dyrfa fawr, a sylw- odd ar amryw fan fesurau, y rhai nad oes genym ofod i'w crybwyll. Nos Iau, yn Aberdar, yn y Neuadd Ddir- westol, Mr. C. H. James, Merthyr, yn y gadair, traddododd Mr. James ei drydedd araeth, ac yr oedd yn nghyd dyrfa fawr. Teithiodd dros lawer o'r un tir ag yn ei ar- eithiau blaenorol, ac yn mysg pethau ereill sylwodd ar bwnc Dadgysylltiad yr Eglwys oddiwrth y Llywodraeth. Dywedai fod Mr. Gladstone yn barocl i fyned i mewn yn trafr Dadgysylltiad yn Scotland, ac felly yr oedd gwladweinwyr ereill, ac os na chymerant y pwnc i fyny ar unwaith, caent eu gyru i hyny. Yr oedd Arglwydd Derby ei hun wedi datgan ei foddlonrwydd ar ddilead y Dreth Eglwys, a dywedai ei fod yn arddangosiad o'r hyn allai yr Eglwys wneyd pan orfodid hi i syrthio ar ei hadnoddau heb gynorthwy gwladol. Fel sefydliad crefyddol, dymunai i'r Eglwys "Duw yn rhwydd;" ond fel sefydl- iad gwladwriaethol a pholiticaidd, nis gallai dim fod o fwy o les iddi na dadgysylltiad a dadwaddoliad. Cynygiwyd gan Mr. D. Davis, Maesyfiynon ac eiliwyd gan Dr. Price, bleid- lais o ymddiriedaeth yn Mr. Richard fel Aelod Seneddol. Siaradwyd hefyd gan Mri. John Williams, Trecynon; J. Johns, Aberdar; a'r Parchn. H. Davies, Cwmaman W. James, Bethania a Wm. Edwards, Heolyfelin. C.ynygiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd gan Mr. John Jones, glowr, Cwmaman, yr hwn a wnaeth ychydig sylwadau liynod bwrpasol i'r amgylchiad a derbyniwyd ei awgrym mai Mr. Charles H: James oedd y dyn addasaf i'w cynrychioli yn y senedd (fel cyd-aelod a Mr. Richard) gyda brwdfrydedd a amlygai fod y cyfarfod yn bur unfrydol ar y pen hwnw. Yna terfynodd y cyfarfod.

BARDDONIAETH A BEIRDD.

TON YP ANDY A GHERD DO RIAETH.

OGOF ORLANDO.

MASNACKWYR GILFACIT GOGH A…

BLAENAFON.

PA FODD I WRANDO YR ELIJAH?