Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

- BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU…

News
Cite
Share

BEIRNIADAETH CYFANSODDIADAU EltfTEDDFOD CASTELLNEDD, A GYNNALIWYD NADOLIG, 1865. 1. Englyn beddargraff Mr. Henry Jones, <diacon ffyddlon vn Methania, Castellnedd." Mae 31 yn eystadlu ar y testun hwn, o dan y ffugeriwau canlynol:—Un a fu ar fin ei fedd, Hiraethydd, Ab Galar, Deigr ab Deigr- yn, Eginvn o Forganwg, Multum in Parvo, Gildas Wyn, Alltud. Hiraethlon, Galarus, Tristfardd, Medicus, Enoch, Martha, Galar- wr Barfog, Eryr Glan Hafren, Pererin Lludd- edig, Cyfaill calon Iddo, Hiraethlawn, I. ap Harri, Awenydd, Galarwr, neu Gyfaill Iddo, Harri, loan R., Lleon, Arall, Dienw, Llythyr- gludwr, Hen Fardd, a Jeremiah. Mae bron yr oil o'r 31 hyn yn englynion Iled gynghan- eddol a llithrig. Mae y mwyrif o honynt y cyfryw ag a atebent yn feddargraff i rhyw ddyn da, yn gystal ag i Mr. H. Jones. Ys- tyriwn y pedwar canlynol :—Hiraethlawn, Galarus, Deigr ab Deigryn, a Harri-yn rha- £ ori ar y lleill. Cynnwysiad vr oil o'r rhai yn, oddieithr un, ydyw, fod Henry Jones yn ddyn da, ei fod wedi marw, ei fod yn gorwedd yn y bedd, ac y caiff ei godi yn ogoneddus. Mae hynvna yn perthyn i bob dyn da ag sydd yn ei fedd. Mae eisieu rhywbeth yn fedd- argraff i ddvn fel Henry Jones a rodda ddar- luniad o'i deithi hynodol, a'i wir gymmeriad tra yn fyw. Mae eisieu rhywbeth ar ei ol a lyddo'n debyg i Henry Jonos pan oedd yma, <er llanw, goreu y gellir, y lie mae ef wedi adael yn wag yn ei ymadawiad. Er enghraifft, er fod englyn Galarus yn esmwyth a llithrig, £ tto, yr oil a ddywedir am gymmeriad Henry -Jones yw, ei fod yn ddysgybl cynhes i'r .Iesu." Nid ydyw hyny ond un linell yn mhlith amrywiol ereill yn nghymmeriad cre- fyddol Henry Jones. Mae eisieu cael cym- maint a ellir o Henry Jones, sydd wedi ein gadael, i fod yn y darlun sydd genym ar ei ol. Herri sydd yn rhoddi i ni fwyaf o Henry Jones yn y darlun, o'r 31 hyn. Dyma ei «englvn:— Arweiniodd fywyd yr union,—o'i fodd Bu'n grefyddwr ffyddlon O'r swydd fel gwyliwr Seion, I swydd uwch a'i Henry Sion." Beth ellir ddweyd yn uweh am dduwioldeb xinrhyw ddvn na'i fod wedi arwain bywyd yr union ?" A pha beth ellir ddwevd yn uwch am weithgarwch y duwiol nag iddo fod yn "ffyddlon ?" Ni fu, nid oes, ac ni fydd bytb neb yn rhagori ar hyn mewn cymmeriad crefyddol a chan fod Henry Jones vn un o oreuon y ddaear, tybiwn vr englyn uchod y coffadwriaeth goreu iddo. I'w awdwr, sef Harri, y dyfarnwn y wobr. 2. Pedwar pennill i'r Cristion.Daeth i law bedwar-ar-bumtheg o gyfansoddiadau ar y testnn hwn, yn dwyn y flPugenwau canlynol: -.Gomer, Gomer (2), Dafydd, Dafydd (2), Ohristianus, Addfwyn, Un wyf am fyn'd i'r nefoedd, Cadog, Bunyan, Taliesin, Timotheus, loan, Cristion Cymreig, Jacob, Harri, Un o'r Lie, Anfedrus, Tudur Gwent, a Brawd o Brydvdd. 1 A I I I Anrearus.—mae nwn, mewn gwirioneaa, wedi bod yn anfedrus, oblegid y mae wedi canu ar y mesur 7. a 6 dwbl, yn lie ar Glan Meddwdod Mwyn. Tudur Gwent.—Mae yma ormod o ddyn. warecTiad o'r cwch bach." Nid oes yma ond pedair llinell yn lie saith; gosodir y tair olaf yn fath o fyrdwn. Harn.—Can dda, ddestlus, syml, bywiog, ac yn gwella hyd v diwedd. Un o'r Lie.—Dim neillduol. Mae yntau wedi syrthio i'r un amryfusedd a Tudur Gwent, a chymmaint a hyn yn waeth, gan na rodda ond dwy linell yn fyrdwn. Felly, nid yw yr oil, ei bennill a'i fyrdwn, ond chwech llinell, pan y dylai y pennill ei hun fod yn saith liinell. Jacob.—Mae hon yn gan dda, syml a thrafferth wedi ei gymmeryd i chwilio am adno 1 bron ar bob llinell, yr hyn a roddir ar ymyl y dda!en. Cristion Cymreig.-Mae hon yn gan ddq, ac yn gwella ti1 t'r diwedd, yr hyn sydd yn ragoroldeb o bwts yn rohob eyfansoddiad. loan. Cynghori a chysuro y Cristion ydyw prif amean y gan; hi ydyw yr eithaf- nod yn y cyfeiriad hwn o'r holl restr. Timotheus.—Rhywbeth mor agos ag y gellir bod i'r canol-rhai yn wael, a rhai yn waelach. Tahesin.Rhywbeth yn debyg i'w frawd Timotheus. Nia gwir fod engyl gogoniant yn cadw y Cristion rhag gwae." Bunyan—Mae hon yn meddu ar lawer o deimladau toddedig, ac y mae yn gwella tua'r diwedd. Cadog.-Rhywbeth heb fod yn well nac yn waelach na'r rhai sydd tua'r canol yn y gystadleuaeth hon. Un wyf am fyn'd i'r Nefoedd.-Tebyg i eiddo Cadog, ond cymmaint a hyn yn islaw iddo, sef, fod sill yn ormod yn un linell o'r byrdwn yn mhob pennill. Dylai y byrdwn, o bob peth, fod yn eglur a llithrig. Addfwyn.—Can dda. Rhywbeth yn fyw- iog afresh ynddi. Dafydd.—Mae hon yn gan Hed dda, oddi- eithr un linell, gwallau ac aflerwch yr hon ydynt anfaddeuol; dyma hi, Nid ydynt ond tonau byr chwerw a chref." Dafydd (2).-Mae y Dafydd hwn wedi gwneyd can dda iawn i'r Cristion. Mae yn .amrywiol ac yn darawiadol. Ond yn an- ffodus, methodd y Dafydd hwn a rhoddi ei delyn heibio yn ddigon buan; yn lie pedwar, mynodd gyfansoddi pump pennill, yr hyn sydd yn fwy nag a geisir, telly yn droseddiad ar y rheol. Christianus.—Mae llawer o ragoriaethau yn perthyn i'r gan hon. Ond ni chaiff y wobr y tro hwn. Mae eisien i'r awdwr hwn fod yn fwy pwyllog-eisieu arno fyfyrio mwy ar ystyr geiriau, ac athroniaeth yr jaith Gymraeg. Gall ddyfod yn fardd nid anenwog. Gomer.—Can dda, gynnwysfawr. Gomer (2).—Can dda, fywiog. Brawd o Brydydd.-Mae angen ar yr awdwr hwn ddysgu fod ganddo lawer etto i'w ddysgu cyn y daw yn Brydydd o nod. Mae amryw o'r cyfansoddiadau hyn yn feddiannol ar lawer o deilyngdod ond y ped- war goreu o'r pedwar-ar-bumtheg ydynt Harri, y ddau Gomer, ac Addfwyn. Mae y pedwar hyn yn agos iawn a bod yn gyfartal. Mae Harri yn meddu ar fwy o amrywiaeth a bywiogrwydd. Ystyriwn ef y goreu yn yr ymdrechfa hon. Efe bia y wobr. (I'w barhau.)

CWRDD MISOL DYFFRYN ABERDAR.

CWRDD MISOL CWM RHYMNI.

GOHEBIAETH 0 OGLEDD LLOEGR.

ABERDAR.

PWLLHELI.