Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
Ysgol Frytanaidd Mydrim. %T MAE eisieu Ysgolfeistr yn yr ysgol uchod. Rhaid X i'r ymgeisydd fod yn wybodus yn y Saesneg, yn pllu ysgrifenu yn dda, yn nghyd a bod yn alluog i adysgu y plant mewn Rhifyddiaeth, Gramadeg, Daear- yddiaeth, a Chaniadaeth. Gofynircymmeradwyaethau da. Ymofyner â-Rev. D. Williams, Salem, Mydrim, Carmarthenshire. YR Y MII OLYD II TN CVNNWIS Gofymetdcm ttr Adnodau y Testament 2fneydd, it watanatth yr Ysgolion Sabbothol. 6AN Y PARCH. B. EVANS, CASTELLNEDD. Y MAE y Rhan gyntaf yn awr yn barod; a — theimlir yn ddiolchgar i bawb a chwennych- ent feddiannu y llyfr, am anfon eu henwau i mewn i Gyhoeddwr SREEN CYMRU yn ddioed, fel y gwy- bydder pa nifer i'w argraffu o'r ail Ran. Rhoddir y 6fed yn rhad am ddosparthu. Yn awr yn barod, Y GWYLIEDYD D, AM IONAWR, 1866. CYNNWYSIAD :—Perarogli Cyrff Meirw (gyda L' Darlun)—Y Bedyddwyr; eu bodolaeth yn angenrheidrwydd presenol — Ystyriaethau ar Weddi—Y Pwlpud—Y Waag — Gofyniadau ac Atebion-Barddoniaeth: Nid ydoedd y cyfan ond Breuddwyd—Pennillion ar Fedydd. Cartrefol: Y Parch. W. Hunter- Cyffro yn Abertawe- Bedyddiad naw o bersonau yn Llanelli-Tystebau. Tramor: Erlidigaeth yn Poland-Prwsia. Sef. yllfa grefyddol Llundain-Bedyddiadau. Dan nawdd Duw A a'i dangnef. Y Gwir yn erbyn V Byd." REHOBOTH, BRITON FERRY. CYNNELIR EISTEDDFOD yn y Capel Bedyddiedig uchod ar LLUN T SULGWYN, Mar 21ain, 1866, dan lywyddiaeth T. L. EVANS, Ysw., MEDDYG, pryd y gwobrwvir yr ymgeiswyr bnddugol mewn Barddoniaeth, Cerddoriaeth, Rhyddiaith, Ad- roddiadau, &c. £ s. c. 1. I'r Cor o'r un gynnulleidfa, heb fod dan 30 o rif, a ganant yn oreu Canig y Clychau," gan Gwilym Gwent, o'r Cerddor Cymreig 10 0 0 2. I'r Cor o'r un gynnulleidfa, heb fod dan 25 o rif, a ganont yn oreu "Nant y M vnydd," o'r Cerddor Cymreig 3 10 0 3. I'r Cor o Blant dan 15 oed, heb fod dan 25 o rif (yn cynnwys dan mewn oed i garni gyda'r plant), a gano yn oreu Mordaith Sant Paul," o'r Belyn Gymreig 1 10 0 D.S.—Bydd y Cor buddugol ar y prif ddernyn yn eael ei gau allan o'r gystsdleuaeth ar yr ail ddernyn. Bydd hawl gan y Corau i d,1ewis eu harweinydd o'r lie y mynont. Bydd y gweddill o'r testunau, yr ammodau, enw y Beirniad, &c., mewn Rhifyn dyfodol o SEREN CYMRU Am hyfforddbdau pellach, ymofyner a'r Ysgrifen- ydd,—John Thomas, Weigher, Warren, Briton Ferry, near Neath. "Calon wrth Galon." EISTEDDFOD LLWYNHENDY. BYDDED H YSBYS, y cynnelir yr EISTEDDFOD B uchod ar LLUN Y SULGWYN, Mai 21ain, 1866, pryd y gwybrwyir y buddugwyr ar y testunau can- « ifis. c. 1. Am y Traethawd goreu ar "Y llesR ddeilliai o sefydlu Darllenfa yn mhob cymmydogaeth trwy Gymru." Gwobr gan J. Rees, Ysw., Maesarddafen 1 0 0 Ail oreu 0 10 0 2. Am y Bryddest oreu ar Groeshoeliad Crist." Gwobr gan W. Rees, Ysw., Gelli 1 0 0 Ail oreu 0 10 0 3. I'r Cor a gano yn oreu "Deffro," &c., o'r Ceinion 6 0 0 Rhaid i'r Cor fod o'r un gynnulleidfa, ac yn rhifo 30 o bersonau. Bydded hysbys ein bod yn galw y "Cherubim Chorus," a'r 35 o bersonau mewn cor yn ol. Gellir cael y gweddill o'r testunau, yn nghyd a'r manylion, ar dderbvniad dau hostage stamp, gan yr Ysgrifenydd,—Baniel Bevan, Halfway, near Llan- elly, Carmarthenshire. YMFUDIAETH I AWSTRALIA DAN Y LLYWODRAETH. YM AE Dirprwywyr Ymfudol ei Mawrhydi yn barod i roddi TRWYDDEDAU RHYDD i VICTORIA A QUEENSLAND, mewn llorgau o'r Dosparth blaenaf,i WASANAETH- FERCHED UNIGOL, o gymmeriad da, heb fod dros 35 mlwydd oed, ar daliad o 103. yr un. aTHRWYDD- EDAU RHYDD A CHYNNORTHWYOL i ych- Tdic barau priodasol. Rhodda y Bwrdd hefyd DRWYDDEDAU CYNNORTHWYOL i ychydig nifer o bersonau priod i NEW SOUTH WALES. Am neillduolion pellach, a'r Fturfiau angenrheidiol, ymofyner a Goruchwyliwr y Dirprwywyr,— MR. JOHN SHANKLAND, 24, Spilman-street, Carmarthen. AGENTS wanted for a well known MANURE, A which commands a ready sale, is highly recom- mended by Customers for several years, and sold car- riage free. Liberal terms given. Address, B.C., 5, Tavistock Row, Covent Garden, London. IMPORTANT NOTICE. ABONA-FIDE MONEY SPECULATION of £ 12,000,000 sterling, Guaranteed by Govern- ment, is to be allotted in various sums upwards to £ 20.000. Any one, by investing £ 1, may secure j620,000 sterling. For Prospectus (which will be sent gratis) apply by letter, addressed Mr. J. A. Rinch, 14, Buke-itreet, Adelphi, London, W.C. "ATHROFA YR AELWYD." HMRADDODIR Darlith ar y testun uchod, yn y Tabernacl, Caerfyrddin, ar nos Iau, Chwef. laf, gan Miss Rebecca S. Evans, Mabus. Cyminerir y gadair am 7 o'r gloch, gan "Eliza," Caerfyrddin. Tocynau, is. a 6cb. yr un. Yr elw at yr Ysgol Sab- bothol yn y lie. Gweithiau y bythgofiadwy John Bunyan. PUMTHEG- o destunau Allegol, Cyffelyb- P iaethol, ac Arwyddluniol John Bnnyan, mewn pedair rhanar bumtheg, Is. yr un. Cynnwysa y rhlfynau fwy o weithiau Bunyan, am mor lleied pris, nag a gynnygiwyd i'r cyhoedd erioed o'r blaen. Gellir eu cael trwy ddanfon at y-Parch. T. R. Davies, 47, Lammas-street, Carmarthen. AT EIN GOHEBWYR, &c. EIN DsRBYNlADAU.—Emett L. Evans-Oen Dyfed —John Lewis-Jonathan Walters-John Hopkins —Cefni — William Williams Hen Loffwr—Hen Gloddiwr-Phillip y Glantfrwd-T. M. Edwards- Amos—Regab—-Peiriannydd—ffiomer Bach Cys- tadleuydd—Glan Mor—Parch. C. White—Parch. Thomas Evans, India—Y Bedd-E. E.-Llwyd y Baw-Gohebydd Aberdar-Parch. Thomas John- Ap Hywel — Bagillt — Gohebydd Penrhyncoch- Maelog Mon—loan Gwynedd-J. W. Hughes- Parch. James Williams-Parch. L. Evans—Jenkin Lloyd. JOHN LEWIS.—Un rhagferf yw y tri gair a nodwch- rhagferf amserol yn nodi allan y cyfnod neillduol y cyfeirir ato. JONATHAN W ALTERs,-Mae hanes y Te Parti yn y Gadlys wedi ei gyhoeddi yn gryno a 11awn er ys llawer dydd, tra mae eich hanes chwi yn llaweriawn rby hen. Mae hanes marwolaeth Gwyndaf heb un- rhyw ddyddiad wrtho. Mae yn rhaid i ni gael rhyw beth yn fwy newydd, ac yn fwy cryno ni hyn, ueu aiff golwg lipa ar y SEHBN. MR. JONATHAN WALTERS, Dilledydd, Aberaman, a ddymuna hysbysa pawb nad yw ef erioed wedi ys- grifenu gair na Ilinell o dan y ffugenw Cynonfryn, nac 0 dan unrhyw ffugenw arall. JOHN HOPKINS, Ysw., Normanton.-Dioleh i ehwi am eich llythyr o'r lie newydd. Mae hanes darlith y Parch. David Lewis, a hanes dyfodiad Mr. Wil- liams i Darlington, yn y Swyddfa. Mae rhyw am- ryfusedd wedi bod. Bydd yn dda genym glywed oddiwrthych pan fyddo hamdden. Cewch glywed yn gyfrinachol yn fuan. W. WILLIAMS, Ysw.—Yrydym yn barod wedi cy- boeddi dau lythyr oddiwrthych chwi, a dau mewn atebiad oddiwrth Mr. Evans, a cfiredwn fod hyny yn llawn ddigon ar y mater hwn; felly, chwi a'n cymmerwch yn esgusodol am beidio trethi ein gofod yn mhellach. Yr ydym ni yn gwbl foddlon i'r cy- hoedd i farnu rhyngom ni a'r personau y cyfeiriwch atynt. PHILLIP, Glantfrwd.-Nis gallwn gyfrif am y peth, ond danfonwn eich nodyn at y Cyhoeddwr, a chewch ateb. Diolch i chwi am ein hysbysu o hyn. T. M. EDWARDS. — Nis gallwn ni gyhoeddi eich llythyr at eglwys Caerlleon a chyfarfod chwarterol Dinbych. Os yw y Parch. J. G. Owen wedigwneyd cam ag eglwys Caerlleon trwy eich diarddelu chwi heb ei hawdurdod, bydded i'r eglwys ddwyn y mater o flaen y cwrdd trimisol, a bydd yn sicrogaelgwran- dawiad, ac nid yn y SEREN. REGAL.—Digon prin y mae yn werth cvhoeddi llythyr i feirniadu ar hanes cyfarfod ysgol Seion. PEIRIANYDD a ddymuna ar ryw un cymhwys i roddi yn Gymraeg enwau pob ran o agerbeiriant. eich gofyniadau i'r Parch B. Williams, Pembrey, yn gwisgo agwedd rhy ensyn- iadol. Ni fuasech yn gofyn yr ail ofyniad pe buas- ech wedi darllen yr hysbysiad. GOMER BACH.—Heb fod i fyny a'n safon y tro hwn. Daw, ond ymarfer. GLAN MOR.-O ddifrif yn awr, beth sydd yn hanes yr eisteddfod gartrefol a dirodres a gynnaliwyd yn Bethel yn galw am y fath nodiadau a gawn yn eich llythyr, yr h .vn ag ydym newydd ei dderbyn o'r Swyddfa ? Paham y byddwch mor barod i gonach, a chael allan fai lie na bydd ? EISFEDDFOD LLANHIDDEL.—Mae wedi ein cyrhaedd amryw ofvniadau i'r Parch. Stephen Jones. Ni a osodwn yma un-y pedwerydd,— "4. Beth yw'r colliadau yn yr englyn beddargraff canlynol i D. W. Lewis, mab Mr. Lewis Lewis, Abertillery ?— Blodau teg adeg ar edyn-y ser Brysurwyd i'w terfyn; Diwedd sydd i flodPUYD, Ac un wedd y diwedd dyn. Y BEDD." RUFUS.- Yr ydym wedi darllen eich ysgrif gyntaf ar Hanes Bedyddwyr Ystradyfodwg gyda dyddordeb mawr. Diolch yn fawr am dani, a'r addewid am y gweddill. Yr ydym am eu gosod yn y lie mwyaf parchus a feddwn, a chant .wneyd nifer o erthyglau eglwysig, i ymddangos mor fuan ag y byddo llythyrau gwerthfawr Mr. Harris ar y Canu wedi eu gorphen. Danfonwch i ni yr oil pan yn barod, hefyd nodyn bach i fod ar waelod y ddalen am yr Ystrad fel lie, ei safle, maint, nod wedd, &c., er mwyn ein darllen- wyr pellenig. BWLLFA DAR.- Mae gohebydd yn dymurio arnom hysbysu nad oes dim gwir yn yr hyn a haerir gan rai am weithwyr y pwll glo uchod, sef eu bod wedi ym- attal rhag gweithio dydd Mawrth, Ion. 16, erporthi eu blys, a segura. Nid felly yr oedd, ond safwyd allan yn herwydd rhyw achos cyfreithlon. Nid yw ein gohebydd wedi nodi yr achos felly, nid ydym ni yn gallu cyhoedili ei lythyr heb ein bod ni vn gwybod y ffeithiau. Dylech boh amser roddi y rhai hyn. POMAKEE.—Yr ydym yn diolch i chwi am yr esbon- iad a charem i chwi, ac yn wir ein holl ohebwyr ag ydynt am i ni gyhoeddi hanesion o'r fath, roddi yr holl fanylion, er ein boddlonrwydd ni ein hunain yna, bydd genym gyfle i farnu y priodoldeb, neu yr anmhriodoldeb, o gyhoeddi yr hanes. Mae v gyf- raith yn tybied fod pob golygydd yn cymmeryd gofal rhesymol i wybod holl ffeithiau unrhyw achos cyn cyhoeddi unrhyw wawdiaith, neu sarhad ar unrhyw berson. Chwi wel wch y rhesymoldeb o roddi i'r Golygwyr bob gwybodaeth er eu cadaruhau o wirion- edd yr hanes. J. W. HuGHES.—Chester yw enw Saesneg Caerlleon Gawr. Hen ddinas ardderchog iawn yw Chester. Ymdrechwn gael sylwedd araeth Dr. Price i'r SEREN, os cymmer rhyw un y drafferth o'i chyf- ieithu, ac yn wir, mae boneddwr yn awr yn ein hymyl yn barod i wneyd hyn. SEREN CYMRU." I.. Danfoner pob hanesion Crefyddol a Chymdeith- asol, archebion a thaliadau, at y Cyhoeddwr,- JMr. W. Morgan Evans, Seren Cymru Office, Carmarthen. .W' Y Traethodau, Oohebiaethau, Gofyniadau, a Llyfraui'w hadolygu, &c., at-Rev. T. Price, Al.A., Ph.D., Aberdare. Y Farddoniaeth, — Rev. J. Rhys Morgan (Lleurwg), Llanelly, Carmarthenshire. PRIS SEREN CYMRU i dderbynwyr a dalant am dani wrth ei derbyn, neu a dalant cyn pen wythnos ar ol i'r chwarter ddyfod yn ddyledus, yw Is. Ie. y chwarter, neu Is. 3c. os na wneir hyny. TKIMLIR yn ddiolchgari'n dosparthwyr am gael nifer y derbynwyr yn. 4, 8, 12, &c., er arbed postage Nis gellir caniatau y postage pan fyddo y r dan bedwar. T .A.LI.A.D.A. U Derbyniwyd taliadau oddiwrth,-J. B. ac E. E. Rhymni T. J. Tycoch, E. G. Abertawy, D. E. Pontrhydyfen J. p. W. Tonyrefall. D. R. Felindre, Llangeler, T. R. Rhyd-deg, J D. Plaspant, R. J. Mynydd Cenffig, a LI. Tydu, G. H. Landwr, J. B. J. Pontlottyn, G. J. Maes Iago, W. W. Cefnmawr, W. H. Cwmaman, J. F. Nantyglo, ac E. E Lianfynydd.
ABEEHONDDU-CYMEY AMERICA A'R…
ABEEHONDDU-CYMEY AMERICA A'R DR. PRICE. Cyn y bydd y Ilinellau hyn wedi dyfod 0 dan sylw ein darllenwyr, bydd Dr. Price wedi ymweled ag Aberhonddu, ac wedi rhoddi i fyny yr ymgais am y fwrdeisdref, am y rheswm ei fod wedi mwy na chyr- haedd yr amean ag oedd ganddo mewn golwg wrth ddyfod yn ymgeisydd. Mae Iarll Brycheiniog wedi cyhoeddi ail an- erchiad, yn yr hwn y mae yn amlygu cyf- newidiadau pwysig yn ei ddaliadau gwleidyddol er pan gyhoeddodd yr an- erchiad cyntaf yn niwedd mis Medi. Y mae yn awr yn ymrwymo i bleidio llwyr ddiddymiad y Dreth Eglwys—helaethiad y bleidlais, fel ag i ddwyn ein dosparth gweithiol o fewn terfynau y cyfansoddiad —pleidio mesur diwygiadol larll Russell, a rhoddi ei gefnogaeth i unrhyw weinydd- iaeth ryddgarol; mewn gair, y mae wedi dyibd i fyny i safle ag sydd yn cyfiawnhau Dr. Price i dynu yn ol, a gadael y maes iddo. Yr ydym yn ystyried hyn yn ennill mawr-mwy, yn wir, nag oeddem wedi bargena am dano. Cyhoeddodd y larll ieuane ei anerchiad cyntaf ar Medi 29ain, 1865 ac aeth heibio dri mis cyfan heb unrhyw ddatganiad o'r cyfnewidiad, ond i bersonau. Ni fu yr un cyfarfod cyhoeddus; ni argratfwyd dim. Ar Rhag. 19eg, 1865, cyhoeddodd Dr. Price ei anerchiad; a danfonodd gylchlythyr at bob etholwr, gan wahodd yr ymgeiswyr i gyfarfod y bobl gydag ef, er esbonio eu golygiadau; ac wedi hyny, ar Ion. 8, 1866, dyma yr ail anerchiad, yn gwbl wahanol i'r cyntaf, ac yn gyfryw, ag ystyried pob peth, sydd yn dra boddhaol. Yna, y mae Dr. Price, wedi ymgynghori a chyfeillion rhyddid, yn rhoddi y ffordd yn gwbl foddlon i'r cyfnewidiad sydd wedi cymmeryd lie. Y mae y llythyr caalynol o America yn dangos teimladau twymgalon nifer o'r Cymry yno, fel nad ydym yn gwneyd un- rhyw ymddiheurad am ei osod yn y fan hon, gan fod rhan o hono yn dal cyssyllt- iad a'r etholiad yn Aberhonddu :— EISTEDDFOD PITTSTON, PA., GOG- LEDD AMERICA. At Olygydd SEREN CYMRU. SYR,—Y mae yn dyfod i'ch rhan yn ami i gofnodi gweithrediadau gwahanol eistedd- fodau, y rhai a gynnelir yma a thraw mewn gwahanol fanau yn Nghymru; ond nid yn ami y byddwch yn rhoddi hanes eisteddfodau yn America ac er fod hyn yn beth newydd dan haul, aichon y byddwch mor garedig a chofnodi ychydig o weithrediadau Eisteddfod Pittston. Ond rhag i'r "porch fyned yn fwy na/r eglwys," awn at y pwnc. Cynnaliwydeinheisteddfod flynyddol eleni, fel arfer, ar ddydd Nadolig, yn y Phoenix Hall, Pittston. Yr oedd yr ystafell eang hon yn orlawn o'n cydgenedl anwyl. Yroeddyn iechyd i'n calon i gael gweled y fath dorf o Gymry twymgalonwediymgynnull yn nghyd i gynnal un o hen sefydliadau y genedl Gym- reig. Yr oedd y gweithrediadau yn cael eu dwyn yn mlaen dan lywyddiaeth David Morgan, Ysw.; Is-lvwydd, y Parch. F.. R. Lewis (Iorwerth Callestr); Bardd yr Eis- teddfod, E. R. Williams (Iolo Mynwy); Beirniad y Traethodau ar Farddoniaeth, y Parch. D. Davies (Dewi Emlyn); Beirniad y Gerddoriaeth, Proff. W. A. Powell; Beirn- iad yr Adroddiadau, y Parch. B. W. Thomas, o Brif-ysgol Lewisburg, a Mr. D. C. Powell. Gwelsom hefyd ar yr esgynlawr y boneddigion canlynol :-R. Powell (Robin Glan Wynion); Jenkin Jones, Ysw.; Morris Hughes, Ysw.; y Parch. Mr. Owens, gynt o Brynmenyn T. R. Evans, o Brif ysgol Lewisburg; ac am- ryw ereill nas gwyddom eu henwau. Testunau y Traethodall..oeddynt:- 1. Y Maelfeydd Cydweithredol (Co-opera* tive Stores) eu natur a'u manteision. 2. Ein Dyledswyddau tuag at y Bobl Dduon, yn ngwyneb diddymiad C aeth wasj iaeth. Testunau Barddonol:— "8 1. Pryddest ar Ddyngarwch. 2. Awdl arwest gynghaneddol Er Coffad- wriaeth am Henry Evans, Ysw., Pittston. 3. Dau Englyn Bedd-argraff i'r Diweddar Arlywydd Abraham Lincoln. 4. Chwech Englyn ar Olygfeydd y W yom- ing Valley, yn gyssylltiedig ag afon y Sus- qehannah. 5. Dau Englyn ar yr hen Ddiareb, Asgre Ihn diogel ei pherchen." i- Heblaw y pethau hyn, yr oedd un testun cerddorol, un ar ddarllen, 14 ar ganu, 3 ai areithio, ac 8 darn i'w hairodd. Yn yr hwyr, cynnaliwyd cyngherdd ar- dderchog, dan lywyddiaeth y Proff. W; Aubrey Powell, yr hwn sydd Gymro trylwyr, ac wedi dyrchafu i sylw fel un o brif gerdd- orion yr Unol Daleithiau. Yr oedd y canu, yr adroddiadau, a'r areithio mor darawiadol ac effeithiol a dim a glywsom erioed. Caw- som araeth benigamp gan Morris Hughes, Ysw., yn rhoddi hanes ei ymweliad diweddar a Chymru, a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth. Pan oedd yr ystafell yn fwyaf Ilawn, hys- bysodd yr Ysgrifenydd fod ganddo wasanaeth tra derbyniol i gyflawnu dros y pwyllgor, trwy ddarllen y penderfyniadau canlynol, 1 rhai a dderbyniwyd yn unfrydol gan y dorf gyda bonllefau uchel o gymmeradwyaeth, hyd nes yr oedd holl Yankees y dref wedi eu hanner syfrdanu; a gofynent mewn syn- dod i'w gilydd, "What ails the Welsh folks ?'' A phan ddeallasant pa beth a achosodd waedd hon, yr oeddent yn llamu olawenydd, oblegid prif hyfrydwch yr Americaniaid yo gweled egwyddorion rhyddid yn ennill tir. Dyma i chwi, Syr, gopi cywir o'r hyn à ddarllenwyd gan yr Ysgrifenydd, ac a dder- bvniwyd gan y dorf. Wedi darllen yn SEREN CYMBU am rach; 24, 1865, erthyglau yn gwahodd y Parch. T: Price, M.A., Ph.D., Aberdar, i ddyfod yn ymgeisydd seneddol dros fwrdeisdref Aber- honddu, penderfynwyd,— 1. Ein bod yn mawr lawenhau yn y cyfnod newydd sydd yn ymagor ar wleidiadaetH Cymru, trwy fod etholwyr Aberhonddu yn ymddwyn mor anvmddibynol a gwrthod dau ymgeisydd eyfoethog, am nad ydynt yn dyfod i fyny i'r safon briodol mewn gwleidiadaeth. 3. Ein bod yn mawr gymmeradwyo ethol- wyr Aberhonddu yn en dewisiad o weinidog vmneillduol fel ymgeisydd. 3. Ein bod yn barnu yn drylwyr, na allasai etholwyr Aberhonddu fod yn fwy ffortunusyn eu dewisiad nag wrth dilewis y Parch. T. Price, M.A., Ph.D., Aberdar, gan fod ei gym- meriad wedi ei sefydlu fel gwleidyddwr doeth a medrus, fel gwir gyfaill i iawnderau y werin, ac fel un o'r siaradwyr mwyaf hyawdl a nerthol a fedd Cymru. 4. Ein bod yn llongyfarch y Dr. Price yn ei gynnydd diysgog a pharhaus i ddyrchafu i sylw y werin, fel y mae yn awr yn cael yr an- rhydedd benaf a dderbyniodd un gweinidog Cymreig, trwy gael ei wahodd gan etholwyr Aberhonddu yn ymgeisydd Seneddol, y rhai sydd eisoes yn ymffrostio ynddofel yreiddynt, g n obeithio y bydd iddo gydsynio a'u cais, ae y byddant yn llwyddiannns i'w ethol, gan y bydd hyny yn rhoddi cvfleusdra i'r Dr. i hel- aethucylch ei ddefnyddioldeb. 5. Ein bod yn anfon copi o'r penderfyniadan hyn i SEREN CYMRU, ac yn dymuno ar olyg- yddion y gwahanol bapyrau Cymreig i godi y cyfryw. Arwyddwyd, dros yr Eisteddfod, gan JOHN JONES (Nai Shon y Gof), C Pittston, Rhag. 26, 1865. Ysg. Dymuna Dr. Price, yn garedig a cha- lonog, ddiolch i drigolion Pittston am eji teimladau da a chynhes. Wel, fydd Dr. Price ddim yn aelod yn awr; mae yr irw. wedi ei thori, a'r caste wedi ei ddryllio. Gadewch i ni gael helaethiad yr ethol- fraint, ad-drefniad yr eisteddleoedd sen- eddol, ac amddiffyniad y tugel; yna, gwelir y dydd pan y bydd i ddynion gael eu hethol am eu cymhwvsderau; nid am eu bod wedi cael eu geni a'r llwy arian yn barod wrth eu geneuau, ond am eu bod wedi profi eu hunain yn ddynion ymar- ferol, yn alluog ac yn barod i wasauaethu eu dydd a'u cenedl. Bydd i ni yn ein nesaf gyfeirio at def- yllfa pethau yn Aberhonddu; a chy- hoeddwn anerchiad yr larll ac eiddo y Dr. Price. Y FOCHRYW, GER RHYMSI.—Cynnaliodd Iforiaid Adran Rhymni gyfarfod ar y dydd laf o'r flwyddyn hon, i'r dyben o agor cvfrinfa newydd. Cafwyd areithiau hyawdl gan amryw o'r brodyr ffyddlon ac ymdrechol, yn y rhaiy taflent olwg dros ragoroldeb yr undeb Iforaidd, gai annog y brodvr i gydweithrediad a ffydd- londeb. Yr oedd hwn yn un o'r cvfarfodydd mwyaf dylanwadol ag y buom ynddo erioed ac yr oedd pawb o honom yn ymadael, gan benderfynu gweithio yn fwy egniol o blaid yr egwyddorion Iforiaidd nag oeddem wedi gwneyd hyd yn hyn.—D. LL.