Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

UNDEB RHWNG ENWADAU-PARCH.…

News
Cite
Share

UNDEB RHWNG ENWADAU-PARCH. T. LEWIS, A'R PARCH H. HUGHES, (Tegai) GOLYGWYR Y "FANER" &c. MAE y Parch. H. Hughes, fel y gwelir yn y Faner, ac yn y SEREN, cyn y ddiweddaf, yn dywedyd fod y "frawddeg" dramgwyddiedig, yn "annheilwug o galon" Mr. Lewis. Gosodwn nodiadau Tegai ger bron etto. Efe a ddywaid fel hyn.—" Yn nesaf, nid yw y rawddeg yn deilwng o'ch calon. Pe rhywbeth i gael ei newid fel arian am nwyddau yw barn dyn, y mae tegwch yn galw am i'r naill beth gael ei roddi yn lle'r llall; ond wele chwi an gael y cwbl heb roddi dim Mae yn syndod i mi fod gwr boneddig mor tlrwyadl a chwi yn gallu casglu digon o hyfdra i ofyn y fath aberth." Yn awr, mae yn ymddangos i ni fod Mr. II., Gol. y Faner, yn nghyd a'n brodyr yn gyff- ledinol, a arferant daenellu ar fabanod, yn coleddu barn anngbywir, ac yn ysgrifenu a siarad yn annheg am y Bedyddwyr, pan y maent yn meddw), ac yn dy- wedyd, fod y Bedyddwyr yn gofyn ganddynt hwy i U ABERTUU" rhywbeth mawr wrth geisio ganddynt i "ymwrthod a bedydd babanod." Yr ydym wedi dangos yn eglur yn ein HYSGRXFAU blaenorol yn y SEREN, nad ydyw y Bedyddwyr wrth ofyn y cyfryw beth, yn vstyried eu bod yn ceisio gan eu brodyr i aberthu un iota o'r Ysgrythyr—un elwi'r plentyn- un fantais i'r rhieni—un egwyddor grefyddol, nac un budd ysbrydol. Pe buasem yn siarad a Phabyddion, neu a gwyr Eglwys Loegr, neu ynte, a Lutheriaid Cyfandir Ewrop, &c., yr ydym gwybod pa ateb a gawsem yn union, ganddynt, wrth ofyn iddynt am "ymwrthod a bedydd babanod;" sef ein bod yn ymofyn ganddynt i aberthu" neu ddifuddioli y baban o'r breintiau canlynol:—o'i ailenedigaeth—o fod yn blentyn i Dduw-o fod yn aelod o Grist, ac o fod yn etifedd teyrnas Nefoedd. Ond wrth ein bod yn gofyn i'n brodyr ymneillduedig yn Nghymru am adael y fath ddefod a tbaenellu babanod heibio, nid oes genym le yn y byd i ddeall pa aberth yr ydym yn ei geisio ganddynt i wneyd ac yn enwedig Tegai, o herwydd yr oeddem ni yn meddwl ei fod ef, os oedd aberth i fod wrth ymwrthod a bedydd babanod wedi gwneyd hyny yn barod. Neu pe buasai y Bed- yddwyr yn gofyn ganddynt i roddi heibio fedyddio o gwbl, fel y Cwaceriaid, buasai ryw fath o esgus gan- ddynt wedi'n i'n beio. Er, ein barn gydwybodol ni, [maddeued Tegai, a'n brcdyr. i ni am ei chrybwyh] yw, fod llai o bechod ar ein brodyr Cwacerol am heidio bedyddio o gwbl, nag sydd ar y Taenellwyr am greu achyflawnuordlnhad hollol anysgrythyrol, ae wrth byny, adael yr un ysgrythyrol ar ol heb ei hymar. feryd. Mae y Cwaceriaid, mae yn wir, yn tynu allan o lyfr y Brophwydoliaeth hon," ond, am ein brodyr Taenellyddol, y maent hwy gyda thynu allan," yn ychwanegu at y Llyfr," sef gadael allan y wir ordinhad heb ei hymarferyd, ac ymar- feryd un gau yn ei lie; ac yn hyn, yn cyf- lawnn dau bechod yn mhen un v Cwaceriaid. Pe pgadawem iii, fel Bedyddwyr, heibio yr hen ordinhad, yn ol fel v eyflawnid hi gan yr Apostolion, ni byddai 1 ni ymarferyd un arall yn ei lie, ond byddai yn well genyrn fod fel y Cwaceriaid. Yrydymyn gwybod y byddai ein pechod yn llai felly. Ond, nid ydym yn ymofyn i'n brodyr, dywedwn etto, i "aberthu" dim yn y mater hwn. Ac os ydym yn ymofyn ganddynt i aberthu rhywbeth, dyma fe sef dyfod gyda ni, fel teithwyr tua'r WIad Well," ar hyd ffordd gyf- feithlon y Brenin, a gadael llwybrau annghyfreithlon ar ol. A ydyw hyua yn ABERTH ?" Mae Tegai, fel y Taenellwyr yn gyffredin, yn dwyn "p • Hall yn mlaen i ddangos y dylai y Bedyddwyr fod mor haelfrydig a hwnw, ac yn dywedyd fod ei enw e. yn llefaru cymmaint a phe enwai fil o -weinidogion cyffredin. Yn hyn y mae Tegai etto, el y Taenellwyr yn gyffredin, yn gib-ddall dros ben gyda golwg ar ein barn ni fel Bedyddwyr am R. Hall. Yr ydym yn gwybod fod R. Hall yn fedyddiwr, ac yn berffaith yn erbyn taenellu ar fabanod. Yr ydym yn gwybod ei fod yn ddyn dysgedig—yn ddyn o athry- lith, ac felly yn bregethwr mawr a dylanwadol, &c. Ond am fod yn un o fil, &c., peidied Tegai a'i frodyr, o hyn allan, a'n camsynied ni fel Bedyddwyr yn Nghymru o leiaf, a channodd a miloedd yn Lloegr hefyd-yr ydym yn credu fod genym ddynion, neu weinidogion yn cydoesi a R. H., ag oeddynt yn llawer mwy o dduwinyddion- nag ef, a bod rhai yn bresenol 3 n fwy o athrawiaethwyr nag ef, yn y wlad hon ac yn America &c., a'r rhai hyny yn gwbl groes iddo gyda golwg ar roi cymmundeb i rai difedydd. Yr ydym yn credu fod Fuller, Kinghorn, &c., &c., o'u hysgwyddau yn uwch nag ef, heb grybwyll am ugoiniau o ddysgedigion sydd genym yn bresenol, ac oil yn gwbl wahanol iddo, mewn perthynas i roddi cymmundeb, fel y dywedasom, i daenellwyr, neu, mewn gair arall, i dlynion difedydd. Mae yn wir fod Hall yn dadlu dros, ac yn rhoi cymmundeb i rai difedydd, pan ag yr oedd yn credu ar yr un pryd eu bod yn hollol ddifedydd. Ac ar y tir hwn y mae canlynwyr H. yn gwneyd y dyddiau hyn. Y maent yn rhoi cymmundeb i daenellwyr, nid o orchymyn, nid am ei fod yn ysgrythyrol, &c., ond fel rhyw gyfleusdra car- edigol a pharchus [as a matter of convenience]. A fydd i'r Taenellwyr eu hunain fod mor rhyddfrydig a hyna? A wna Tegai gymmaint a hyna o garedig- rwydd i rai difedydd yn ei olwg ef ? Os telly, hwy a roddant gymmundeb i Gwaceriaid, ac i'r cyfryw a fyddent yn ymofyn am dano, er eu bod heb un rhith o fedydd. Ust! rnae rhywrai yn sibrwd yn ein clust yn awr, ac yn dywedyd, "A wyddoch chwi ddim fod yn mysg y brodyr Taen-ddol arnryw ugeiniau, beunydd, yn derbyn cyunnuudeb, ac ynaelodauyn eu heglwysi ag na chawsant un esgus o fedydd erioed." Wei, y mae hyna yn dangos fod baelfrydedd mawr dros ben—ie, dros hen y Testament Newydd o ddigon, ac felly, yn fwy o haelfrydedd nag a allwn ni honi fod yn ein mynwes yn bresenol. Pe byddai i ni-ofyn i wyr y Faner, ac i Tegai, wrth adael y pwnc dan sylw,— Gan eich bod yn siarad am fan canol" o hyd, pa le y mae hwnw? Beth yw y rheolau perthynoi iddo? Pa iaint o led a hyd sydd i'r man rhyfedd hwn ? A oes digon o le i Babyddion i gael cymmundeb gyda ni n 11 yn y cyfryw fan? Maent hwy yn Gristionogion, ac wedi cael eu bedyddio, yn ol barn ein brodyr; a mwy na hyny, mae y Pabyddion yn dywedyd mai hwy a ddechreuodd daenellu, ac felly, wrth reswm, byddai Golygwyr y Faner a Thegai yn foddlon cyd-gy mtnuno a'r cyfryw, am feddwl, a dyfod a bedydd o'r tath i'r goleu. A gaift y Cwaceriaid, os byddant yn ymofyn, le yn y man canol yoa? A gaiff aelodau Eglwys Groeg ? A gaiff pawb sydd ar enw o Gristion- ogion sefyll, a chydgrefydda, a ehymmuno yn y lie canol" 1

TY'R CAPEL FRON OLEU.