Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

+ ELUSENDOD THOMAS HOWELL,

News
Cite
Share

crybwylledig, a'u bod yn amddifaid heb dad, ac yn 12 mlwydd oed ac uwchlaw hyny, ac yn fyw ar y pryd; ar yr hon dysteb y talai y rhagddywededig feistr a gwarcha-.vdwyr ar yr adeg, yn ddioedi, 84 o bunnau yn flynyddol, allhn o renti- a chyllid y tiroedd a nodwyd, o ddwylaw yr Esgob, Deon, neu'r OfFeiriadgor crybwylledig, er budd y pedair amddifaid a nodwyd am y flwyddyn hono, i'w rhanu yn gyfarial rhyngddynt, hvny yw, 21 punt i bob un; ac os dygwyddai, ar unrhyw adeg, fody cyfryw amddifaid fyddent ar y pryd agosaf i dylwyth a gwaed y crybwylledig Thomas Howell yn llai na 12 mlwydd oed, ac heb fod mewn oed i'w priodi, dylid tain yr ariani bedair amddifaid o'r ach ganlynol fyddent uwchlaw 12 mlwydd oed, ac mewn oed i'w priodi, a bod, o dan raiamgyIchiadau enwedigol, yr avian i'w talu er iddynt gael eu henwi cyn y dylent dderbyn y cyfryw. Ac yn mhellach, darparwyd, os adfeiliai y tai drwy ddamwain, drwy dan, ac nas gellid codi yr 84 punt, fod y Cwmpeini i gael eu gofyn yn gyfatebol i hyny. A darparwyd, os dyg- wyddai y meddiant gynnyddu mewn gwerth uwchlaw yr 84 punt taladwy i r amddifaid, a'r 21 punt dognedig i'r Cwmpeini gyferbyn a'r costiau arferol neu anarferol, fod felly y cyn- nydd dros ac uwchlaw y swin o 84 punt ac 21 punt i gael ei ranu yn gyfartal, a'i dalu yn flynyddol i'r pedair morwynig a nodwyd, i bob un gyfran gyffelyb, gan ragolygu bob amser na byddai i'r cyfryw welliant blynyddol, i'w rariu rhwng yr amddifaid crybwylledig, fod uwchlaw 16 punt yn y flwyddyn. A darparwyd, fod i'r Cwmpeini, os derbynient y 3,820 ducat gwedd- ill, rieu y fath gyfran ag a brynai dir ychwan- egol o werth 16 punt yn flynyddol, i dalu i'r 9 ainddifaid gymmaint ag y byddai cynnydd cyn- nyddol y rhenti, gan olygu na thelid i'r am- ddifaid a enwwyd fwy na 100 punt yn y flwyddyn. >Nid ymddangosodd fod y swm p 3,820 ducat a enwwyd ddiweddaf erioed wedi ei dalu i'r Cwmpeini. Ffaith bwysig befyd yw, nad oedd yr Attorney General yn eyfranogi yn y cwyn, r" Dvma yr esboniad ar y cyfeiriad wneir yn y ddeddf uchod, yn perthyn i'r flwyddyn 1559, at ryw ach o deulu Thomas Howell: Yn y flwyddyn 1556, ae-yn ystod teyrnasiad y frenines Mari, a phan oedd Nicholas Heath, Archesgob Efrog, yn Brif-Ganghellwr, tystiwyd ach o deulu Thomas Howell, mewn prwyad a ardystiwyd gan Cardinal Pole, yr hwn oedd bryd hyny yn Archesgob Caergaint. Ni anfonwyd allan y prwyad (commission) mewn unrhyw gwyn yn Llys Cydwybod (Chancery). Y prwyad hwn, er cadw coffadwriaeth o deulu y eymunwr, ac na wnaed er llsvyddo unrhyw ddyben eglwysig, oedd yr ymyraeth cyntaf o eiddo'r eglwys yn belyntion yr elu,sendod. Yr oedd teulu Thomas Howell o Sir Fynwy, a cheir hyd heddyw lawer o bersonau o'r 6nw hwnw yn y sir. Yr enwocaf o'r enw, er y gallai fod yn annichonadwy ei gyssylltu a'r cymunwr, oedd James Howell, mab rhyw Barch. Thomas Howell, yr hwn a aned gerllaw Aberhondilu tua'r flwyddyn 1596. Ymwelodd a'r Yspaen, Eidal, &c., ac argraffwyd ei Ejristola: Ho-EUanm' drosodd a throsodd drachefn. Y mae ei ddarluu yn nghadvv yn Mynwy, yn Llantillo Cresseny. Gan ei fod yn fab offeiriad, nid yw mewn un modd yn annhebygol i'w dad symud o Fynwy, fel y derbyniai dder- chafiad eglwysig yn Mrycheiniog. Gorchymynwyd drwy ddeddf yn 1559 fod tysteb i gael ei gwneyd bob blwyddyn i'r pedair amddifaid o'r ach a dystebwyd drwy orchymyn Cardinal Pole, a bod y cyfryw dysteb i gael ei wneyd gan ac oddiwrth yr hwn fyddai yn Esgob Llandaf ar v pryd.* Ameau y dysteb hon oedd, nid trosglwyddo unrhyw haw fraint yn yr elusendod i Esgob Llandaf, ond am fod Sir Fynwy yn esgobaeth Llandaf, yr oedd esgob, yn y dyddiau hyny, yn un o'r swyddog- ion gwladol goreu y gellid ymgynghori ag ef ar bvyne achyddiaeth unrhyw deulu yn Mynwy. Heblaw hyn, Anthony Kitchen, neu Dunstan, oedd Esgob Llandaf yn 1559, a chartrefai yn mhalas yr esgobaeth, yn mhlwyf Mathern, ger- ]law Casgwent, yn Sir Fynwy. Claddwyd ef, yn o gystal a'i olynwyr uniongyrchol yn yr esgobaeth, sef Hugh Jones a William Blethin, yn Mathern. Am hyny, yr oedd fod cartrefle swyddol Esgobion Llandaf yn Mynwy ar y pryd yn rheswm digonol arall dros geisio tysteb ganddynt hwy. "Yny flwyddyn 1593, daeth allan archeb oddiwrth y Court of Chancery, yn yr hon y cyfarwyddai Lord Keeper Puckering fod i dysteb teulu Howell gael ei wneyd gan ac oddiwrth Lsgob Llandaf ar y pryd, a chan bedwar, tri, neu ddau Ynad Heddwch o Swydd Fynwy, Deon ac OfFeiriadgor Llandaf i weith- y n redu yn lie yr Esgob pan fyddai yr esgobaeth yn wag. Tebygol i'r archeb olaf hon gael ei haehosi drwy fod amddifaid teulu Howell yn methu cael tysteb Esgob Llandaf, o barthed eu hach- yddiaeth, yn olynol i wneuthuriad archeb y flvvyddyn 1559. Ffaith neiilduol iawn, sut bynag, yw, fod Ynadon Heddwch yn Sir Fynwy wedi eu cyssylltu a'r Esgob, o hyny allan, yn ngwneuthuriad v dysteb. Y mae yn brawf diymwad, fod prif hiliogaeth Howell, yn 1593, i'w cael o fewn Mynwy, ac hefyd, nad oedd gan Esgob Llandaf, neu Ddeon ae OfFeiriadgor Llandaf, fwy o hawl yn yr elusendod nag oedd gan Ynadon Heddwch Sir Fynwy. Nid oedd yr elusendod er mwyn lledaeniad dysgeidiaeth grefyddol, ond yn gwbl wladyddol ac elusenot; Yn yr argraffiad cyntaf o'r llyfryn hwn, dy wedwyd, ar awdurdod Hay den's List of. the Bishops of Landaff,' fod yr esgobaeth yn wag yn 1559, pan wnaed yr archeb hon. Pa fodd bynag, ymddengys oddiwrth gyfres esgobion yn Williams' History of Mortmouthshi,re,' (Appendix p. 44), fod Anthony Kitchen, neu Dunstan, yn Esgob Llandaf o 1545 hyd 1563. Sonir am dano gan Esgob God. win fel gwarth a chywilydd yr esgobaeth (Coxe's Monmouthshire, p. 10), wedi cymmeryd arno newid ei farn mor fynych ag y newiaiwyd erthyglau ffydd broffesedig aelodau yr Eglwys Sefydledig, tra yr oedd efe yn esgob. Bu farw yn 1563. Canlynwyd ef yn 1566, wedi i'r esgobaeth fod yn wag am dair blynedd, gan Hugh Jones, yr hwn a gladdwyd yn Mathern yn 1574. Dywedir mai efe oedd y Cymrocyntaf a dderchafwyd i'r esgobaeth :yn ystod tri chan mlynedd cyn hyny. Ei olynydd oedd William Blethin, Cymro. Yr oedd Gavase Babing- ton yn esgob o'r flwyddyn 1591 hyd y flwyddyn 1595. Gwnaed William Murray, Celtydd, ond Ysgotiad, yn esgob yn 1627. Ni dderchafwyd i'r esgobaeth yr un eglwyswr o deulu Cymreig er 1675, neu agos ystod y dau can mlynedd diweddaf. Dysgeidiaeth, doethineb, yn nghyd a cbymmeriad moesol a gwrolder dyn, ddylai, pa fodd bynag, ddylanwadu yn mhennodiad esgob, ac nid y lie ei ganwyd ac yn y rhan sy'n 01 o'n hvsgrif, amlygir pwys. igrwydd tra mawr y gwahaniaeth hwn. Nid ymddengys fod dim gweithrediadau cyfreithiol, anad a nodwyd genym, wedi cym- meryd lie hyd Gorph. 27, 1838, pan osodwyd hvsbysiad yn erbyn meistr, gwarchawdwyr, brodyr, a chwiorydd y Guild, neu Fraternity of the blessed Mary the Virgin, of the Mystery of Drapers of the city of London,' gan yr Attorney General, er cadarnhad a rheoleiddiad yr elusendod. Yr ateb i'r hysbysiad a fynegai, fod o'r rhenti a osodwyd yn nghyfrif yr elusendod y taliadau canlynol wedi eu gwneyd:— £ s. d. Quit rent to Grocer's Company 1 0 0 Quit rent to the Parish of St. Edmund the King. 0 5 4 Clerk of the Company 0 10 0 Incidental expenses for Surveyor's charges and repairs To the order of the Bishop of Landaff on the receipt of a certificate that the four persons therein named had been appointed to receive marriage portions, such persons being maidens, or those next of kin and lineage and blood to Thomas Howell, and of the age of 12 years and upwards. 84 0 0 Dywedwyd hefyd fod y gweddill o'r cyllid wedi ei osod at g.yfrif daered (income) y Cwmpeini. Nid yw y cyfrif argraffedig yn dangos pa faint o'r arian a dalwyd dan y pennodiad Surveyor's charges and repairs.' Cyfaddefai yr amddiffynwyr fod, ar adeg yr hysbysiad, y rhenti a osodwyd at gyfrif yr elusen- dod yn cyrhaedd £1,941 15s. Ie. yn flynyddol; ac ymddengys fod hyn yn annibynol ar rent unrhyw leoedd perlhynol i'r meddiant elusenol, a ddef- liyddid ganddynt hwy eu hunain. Yr oedd y Cwmpeini, yn eu hateb, yn ymddi- bynu ar ddeddf y flwyddyn 1559, fel pe rhoddai iddynt hwy yn ddiammodol holl weddill y cyllid, wedi cymhwyso y symiau a nodwyd ynddi i ddy- benion yr elusendod, pa symiau, fel yr honent, a gyfyngid i 100 punt y flwyddyn. Yr oeddent hefyd yn dal ar yr arferiad oedd yn bodoli er ys talm o barthed dosparthu daeared yr elusendod. Cybudd- wyd hwynt o wneuthur camgymhwysiad o'r rhenti, ac yn ol deddf Arglwydd Longdale, Master of the Rolls, dyddiedig Ebrill 29, 1845, dangoswyd eu bod wedi eu camgymhwyso. Yr oeddent yn honi hawl i wneyd y defnydd a ewyllysient o'r cwbl braidd o income yr elusendod, ac fe osodwyd eu hawliau o'r neilldu. Hysbysai deddf Ebrill 29, 1845, fod yr holfarian yn Haw yr amddiffyn- wyr, yn nghyd a rhenti y tir a brynwyd o dan Wyllyseb Thomas Howell, i'w cymhwyso at ddy- benion elusenol yr ewyllys. Gorchymynwyd, yn mysg pethau ereill, fod i'r meistr benodi cynIlun er gweinyddiad dyfodol yr elusendod, a chyrnhwysiad yr incomes yn ol llaw ac yr oedd i hysbysu, gan edrych ar y dybenion elusenol mewn bwriad gan y cymunwr, pa un a fyddai gymhwys a phriodol i wneyd unrhyw,:a pha ymeangiad o wrthddrychau a dybenion elusenol yr elusendod dan sylw, fel ag i gynnwys amcanion ereill nas bwriedid yn union- gyrchol gan y cymunwr hefyd, i ymholi a fyddai yn angenrheidiol sicrhau Act of Parliament er dwyn i weithrediad y cyfryw gynllun ag a gymmeradwyid ganddo, ac i benodi braslun o fill er cael yr Act hono i eangu'r amcan, ac i alluogi yr amddiffynwyr i brynu rhan o'r Charity Estates, ar ba un yr adeil- adwyd yr hall a'r buildings sydd yn awr yneu gwas- anaeth, yn nghyd a'r gerddi perthynol wedi eu rhyddhau oddiwrth y Charitable Trusts, i ba un yr oeddent yn ddarostyngedig, ac er buddsoddiad (in- vestment) a threftiiant arian y pryniad. (rw barhau.)