Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
",,fh QUEENSLAND.
News
Cite
Share
,fh QUEENSLAND. Llofruddiaeth Ddychrynllyd. Newyddion o Awstralia a hysbysant fod eyflafan mileinig wedi ei chyflawnu yn Queensland, Awstralia. Llofruddiwyd yrn- sefydlwr newydd o Victoria, o'r enw Wilks, yn nghyd a 18 o'i weision a'u teuluoedd gan y brodorion. Mewn gwirioriedd lladd- wyd pob un oedd yn preswylio yn y gym- mydogaeth. Cynnyrchodd y dygwyddiad hwn gyffro mawr ac aeth yr heddgeidwaid yn nghyd a'r ymsefydlwyr i ymlid y Hof- ruddion. Dywedir fod oddeutu 30 o'r ffoedigion duon wedi eu saethu. ,.1't ,,1 'Vn Darganfyddwyd eloddfeydd aur ereill yn New South Wales, ac yr oedd nifer mawr o bob parth yn cyrchu iddyrit.
ARCHEBION ARIANOL I VICTORIA…
News
Cite
Share
ARCHEBION ARIANOL I VICTORIA AC AWSTRALIA ORLLEWINOL. Ar y laf o Chwefror, ac o bynv allan, rhoddir archebion arianol gan bob swyddfa archebion arianol yn y Deyrnas Gyfunol ar y lleoedd a enwir isod yn Victoria ac Aws- tralia Orllewinol, am draul o Is. am unrhyw swm heb fod uwchlaw a62 2s. am unrhyw swm dros X2 ac heb fod uwchlaw £5; 3s. am unrhyw swm dros X5 ac heb fod uwch- law £ 1; a 4s. am unrhyw swm dros £7 ac heb fod uwchlaw XIO; ond ni rod,lir un archeb arianol am swm mwy na £10. O'r amser uchod, rhoddir archebion arianol am unrhyw swm heb fod uwchlaw £ I 0 yn y lleoedd a enwir isod yn Victoria ac Aws- tralia Orllewinol ar unrhyw swyddfa arch- ebion arianol yn y Deyrnas Gyfunol. Rhoddir archebion arianol o dan y trefn- iant ar yr un telerau yn mhob ystyriaeth a'r rhai sydd yn rheoli eu rhoddiad gan y naill swyddfaar y Ball yn y Deyrnas Gyfunol, gyda'r eithriad-o herwydd y peUder rhwng y Deyrnas Gyfunol ac Awstralia-o ganiatau cyfrwng o chwe mis, yn lie dau, ar ol rhoddiad archeb mewn un wlad yn daladwy yn y llall, cyn yr a y cyfryw archeb yn rhy hen. I'r dyben o adnewyddu archeb rhy hen yn y Deyrnas Gyfunol i gael ail archeb, neu i attal taliad archeb, rhaid anfon cais at lywodraethwr prif swyddfa y rhan hono o'r deyrnas (Lloegr, Iwerddon, neu Ysgotland) yn mha un y mae y cyfryw archeb yn dal- adwy. Os bydd archeb wedi myned yn rhy hen, cymmerir tal chwanegol o swm yr archeb newydd, a rhaid anfon yr hen archeb gyda'r cais am ei hadnewyddu. Os gofynir am drosglwyddo y taliad o'r naill swyddfa i'rHaUyny Deyrnas Gyfunol, dylid "anfon cais i'r swyddfa yn mha un y mae yr archeb gyda'r cyfryw gais. Cymmerir y tal chwan- egol yn yr amgylchiad hwn o'r archeb newydd. Rhestr o'r swyddfeydd yn Victoria sydd wedi eu hawdurdodi i roddi a thalu arch- ebion arianol:—Ararat, Avoca, Back Creek, Ballarat, Beechworth, Belfast, Belvoir, Benalls, Carisbrook, Castlemaine, Chiltnrn, Clunes, Creswick, Daylesford, Dunolly, Echuca, Geelong, Gisborne, Hamilton, Heathcote, Hexham, Kilmore, Kyneton, Longwood, Maldon, Maryborough, Mel- bourne, New Inglewood, Pleasant Creek, Portland, Raglan, Sandhurst, Snapper Point, Streatham, Tarnagulla, Wahgunyah, Wan- garatta, Warnambool, Wiiliamstown, Yack- andandah. Rhestr o swyddfeydd yn Awstralia Or- llewinol sydd wedi eu hawdurdodi i roddi a thalu archebion arianol:—Perth, Albany (King George's Sound).
MANION. V~
News
Cite
Share
MANION. V~ Y mae cyfarfod wedi cael ei gynnal yn Abertawe yr wythnos ddiweddaf i'r dyben o godi cofeb i'r diweddar Dywysog Cydweddog. Y mae llineil bellebrol newydd yn cael ei gos6d i lawr o wylfa St. Anne's Head, Aberdaugleddyf, i Borthladd Penfro, yr hyn fydd yn werth annhraeth- adwy at wasanaeth morwriaeth. Er nad oes ond ychydig fisoedd er pan awdurdodwyd gwneyd ffordd haiarn Aberystwyth a (ilanau Cymru, y mae cynnvdd mawr eisoes ar ei gwneuthuriad. Y mae dros fil o dunnelli o haiarn wedi dyfod o Glyn Ebwy, Mynwy. Deallwn fod Mr. T. Williams, o Lundain, a Mr. T. Jones, masnacbydd o Aberdaron, wedi darganfod gwythïen fawr o geryg llechau mewn mynydd ger Aberdaron. Bwriedir agor chwarel yno yn ddioed. Dywedir fad 8,000 o farilau o olew, oddentu 40 galwyn yr un, o Pennsylvania yn awr ar eu mordaith i Lundain. Costiodd trosglwyddiad arbenig newyddion yr Affrica o Queenstown ilr brif ddinas y swm o £300. Cyf* lawnwyd y daith yn yr amsfrbyr o un awrar bumtheg. Y mae cyflog Arglwydd Cowley, llysgenadwr Prydain i lys y Tuileries, yn £10,000 yn y flwyddyn, heblaw XI,000 yn y flwyddyn at oleuo a chynhesu y palas lie y mae yn preswylio, a chynnal gweinidogion. Y maR Iarll Elgin yn bwriadu ymadael a'r wlad hon yn luan am India, gan fod ei arglwyddiaeth wedi ei appwyntio i fod yn llywodraethwr cyffredinol ar y wlad fawr hono. Y mae Tywysog Cymru i aros yn Osborne gyda'r Frenines hyd ar ol dyfodiad ei frawd, y Tywysog Alfred, yr hwn a ddysgwylir i Loegr yn ystod y mis hwn. Yn fuan ar ol ei ddyfodiad, fe fydd i Dywysog Cymru gario allan y cynllun a osodwyd i lawr iddo ef i gwblhau ei addysg gan y Frenines a'i ddiweddardad, drwy gymmerydtaith i'r dwyrain a Gwlad Canaan. Tmddodwyd dros gant a banner o bregethau yn Llundain, ar un dydd Sabbath, yn ddiweddar, yn erbyn creulondeb at anifeiliaid. Fe wnaed hyn ar gais y gymdeithas sydd wedi ei sefydlu yn Llundaii yn erbyn creulondeb at anifeiliaid. Dywed un o newyddiadurou Llundain fodtraul treial achos Windham yn £ 60,000. Nifer y dynion sydd wedi ymrestru yn y cyfnerthau llyngesol ydyw 8,229. Y mae yn nhrefedigaeth Queensland henaduriad (alderman) Chineaidd o'r enw Mr. James Chiam, yr hwn sydd yn byw er ys un mis ar ddeg yn y drefedig- aeth. Y mae yr ymdrafodaeth i wneyd cytundeb mas- nachol rhwng Ffrainc a Prwsia yn myned yn mlaen yn It wyddiannus, a chredir yn awr y cwblheir ef cyn pen ychydig wythnosau. Cafodd Mr. John W. Francis, gynt o ysgol Genedl- aethol Ruthin, ei dderchafu i fod yn brif ysgrifenydd yn llythyrdy Abertawe. Cynnelir cyfarfod misol i ddiwygio cerddoriaeth gyn- nulleidfaol yn mhlith y Cymry yn Llundain. Cym- merodd yr olaf o honynt le ar yr 2il o'r mis hwn yn nghapel y Bedyddwyryn Moorfields. Yn ystod ei arosiad vn Nghaergybi, gwahoddodd Arglwydd Teynham gwmni detholedig o Fethodistiaid, Annibynwyr, Wesleyaid, a Bedyddwyr, i gyd-frec- wasta ag ef yn nhy Mr. John Lewis, lie yr arosai ei arglwyddiaeth. Tra yr oedd gweithiwr ieuanc o'r enw Joseph Holland, yn gosod rhesel yn y Plough Hotel, Llanelwy, daeth o hyd i £ 6 10s. mewn aur, mewn agen yn y simne. Gwnaeth y peth yn hysbys ar unwaith, a thafodd ei wobrwyo a hanner y swm am ei onestrwydd. Y mae Mr. Samuel Davies, Pontfaen, Rhuddlan, yn berchen hwch, yr hon y bu ganddi ar bum torllwyth 89 o foch. Yr oedd y torllwyth diweddaf, yn y mis diweddaf, yn rhifo 19 yr oedd 17 y tro cyntaf, 18 yr ail dro, 20 y trydydd, a 15 y pedwerydd tro. Y Milwriad Colt, yr enwog revolver wneuthurwr, a fu farw yn Hartford, Connecticut, ar y 9fed o'r mis hwn. Ryw dro y* 01, aeth Crynwr, a chyfaill iddo (heb fod o'r un grefydd ag ef) i'w addoldy ae wedi bod ytio am yspaid awr o amser, dychwelodd, heb' glywed un gair yn yr addoldy. Wrth fyned adref, gofynodd y Crynwr 1 w gyfaill Pa fodd yr hoffai y cwrdd?" I r hyn yr atebodd, "Beth y mae hwn yua yn ddigon i flino a lladd y. diawll" "Wei," ebe y Crynwr, 'I hynyna sydd arnom eiliieu."
PRWSIA.
News
Cite
Share
y golled fawr a weinyddwyd gan Raglun- iaeth ar lywodraeth gyfeillgar a theulu breninol sydd yn dal perthynas agos a fy nheulu i. Dengys yr ysgrifau a osodir gerbron y senedd fy mod yn aros yn ffyddlawn i fy egwyddorion, a fy mod yn cadw golwg sef- ydtog ar ddadblygiad y cyfansoddiad. Dengys y gyllideb gynnydd yn y cyllid cyboeddus a wasanaetha i leihau yr echwyn ychwanegol a ofynir tuag at gario allan y dygwyddiadau milwraidd." Yna sylwodd ei Fawrhydi ar y canlyniad dedwydd o'r anhawsder rhwng LIoegr ac America, a pharhaodd—"Y mae fy ym- weliad Ag Amherawdwr y Ffrancod eisoes wedi effeithio i gryfhau y perthynasau cyf- eillgar rhwng Prwsia a Ffrainc, ac i'w gosod ar sylfatn gadarnach. Y mae yr amherodraeth i ffurfio cyt- undeb masnacbol rhwng Prwsia a Ffrainc yn myned va mlaen yn foddhaol. Y mae fy llywodraeth yn gwneyd ym- drech egniol i sefydlu cyfundrefn filwraidd nuffurf i holl lywodraethau Germany, ac i adeiladu llynges Germanaidd. Bwriada Prwsia arfer pob moddion i ddwyn diwyg- iadau i mewn i gyfansoddiad y cynghrair yn gyfateboli nerth a manteision yr holl lyw- odraethau. Y mae y brenin yn gofidio fod yr ym- rysonfa gyfansoddiadol yn nhalaeth Hesse yn parhau i goleddu gobaith am adsefydliad cyfansoddiad 1831. -1 Mae Prwsia, mewn undeb ag Awstria, wedi cychwyn ymdrafodaeth gyfrinachol a llywodraeth Denmarc gyda golwg ar y dug- iaethau, a dywedodd—Y mae Prwsia, yn gystal a holl aelodau ereill y cynghrair Germanaidd, yn bwriadu amddifFyn iawn- derau a'r egwyddor o undeb cyfgenedl- aethol. U Rhaid i ddadblygiad ein sefydliadau fod yn wasanaethgar i nerth a gallu y wlad. Nis gallaf byth oddef i'r ddadblygiad cyn- nyddol o fywyd politicaidd cartrefol beryglu iawnderau y goron, a gallu ac awdurdod Prwsia. fC T mae sefyllfa boliticaidd Ewrop yn galw am gydweithrediad unol rhyngof fi a fy mhobl, ac yr wyf yn dibynu yn hyderus ar gefnogaeth wladgarol y cynnrychiolwyr."