Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

!Y DEON HOWELL.

News
Cite
Share

Y DEON HOWELL. Ccllodd Cymru eto wr mawr a thywysog! Gwr mawr a thywysog mewn gwirionedd oedd yr Hybarch DAVID HOWELL (Llawdden), Deon. Ty Ddewi. Ac efe a fu farw ddydd Iau, y 15fed cyfisol, yn 72 ml. oed, a theimla Cymru gyfan ei bod wedi cael colled, a galerir yn gyffredinol ar ei ol. Nid oes yn Kglwysi Loegr yn Nghymru, ac ni bu ex's llawer dydd, un a 3"st\"rid gan y genedl o'r tu allan iddi yn wr m-wy nag ef, mwy en ddylanwad a'i barch, a mwy ei gydymdeimlad a'i genedl, ac a'i daicni yn annibynol a'r enwad a dosparth. Ni bu cymod ei Ddeoniaeth omd rhyw bum nilyn,edd, ac nid i'w swydd yr oedd efe yn ddvledus am ei boblogrwydd a'i ddylanwad. Yr oedd, efe o natur hynaws a charedig, yn Gymro aiddgar, yn caru ei genedl yn yr ystyr oreu yn anger- ddol awyddus am ei d-dyrchafiad nid yn unig mewn dysg a dylanwad, ond, yn fwy na hyny, mewn duwioldeb a rhinwedd. Gwr genedigol o Langan, ac o deulu. pprthynol i'r Methodist- iaid Calfinaidd, oedd y diweddar Ddeon. Ni fynem feddwl am foment na theimlai yn gyd- wybodol ei fod yn ei Ie. yn ngweinidogaeth yr Eglwys Sefydledig, er nad yclym yn bur sicr y teimlid felly tuag ato yn yr Eglwys,. Y mae yn anhawdd i ni beidio meddwl pe y teimlasidi hyny o ddifrif calon y buasai ei ddyrchafiad yn nghynt ac yn uwch nag y bu. Modd byn- ag, nis gall fod. ameuaeth am ei onestrwydd ef fel Lglwysiwr. Ond yr oedd ei natur hynaws, ei galon fawr, a'i yspryd efengylaid'd pur yn ei alluogi i weled daioni gwirioneddol o'r tu allan i'r Llan. Clywsom ddywedyd pe buasai y gwy,r eglwysig yn gyffredinol yn gyrfelyb. i'r Deon yn y rhagoriaethau a nodwyd na buasai yr Annghydffurfwyr yn galw am ddadgysyIltiad yn Nghymru. Camgymeriad ydyw hyny. Gwrthwyneba yr Annghydffurfwyr y cysylltiad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth am y cre,d. ant ei fod yn anysgrythyrol, yr hyn a bar luaws, o ddrygau. gyda hyny. Ond nid dyna ein mater1 presenol. Ein dymuniad yw talu teyrnged o barch gwirioneddol i goffadwriaeth gwladgarwr Cymreig cywir, pregethwr da, a gweinidog ffydcllon i Iesu Grist: gwr oedd yn hiraethu am i Gymru gael Adfywiad Ysprydol trwy dywalltiad o'r Yspryd Glan.' Er fod David Howell yn glerigwr yn Eglwys Loegr, yr ydym; yn honi ei fod fel Cymro gwladgarol, Cristion, cywir ac eangfrydig, a gweinidog efengylaidd nas gallai fod yn guddiedig, yn pierthyn i ninau hefyd. Wrth feddwl am dano nis gallwn amgen na diweddu. ma.1 y dlechreuas. om trwy ddywedyd, C'ollodd Cymru eta wr mawr a thywysog. Wedi i ni ysgrifenu y nodiad uchod darllen- asom Rai Adgofion Personol am Deon How- ell' hynad o ddyddorol gan Eglwysiwr! Cym- reig.' Yn mhlith pethau eraill efe a ddywed y byddai ei bregethau Nos Galan yn, tynu holl boblogaeth Ty Ddewi—Eglwyswyr ac Annghyd- ffurfwyr—i'r Eglwys; G,a,d,eiriol. '/Yr wyf yn meddwl,' ebai efe, na bu yr un gwr o urddas Eglwys Gadeiriol erioed yn byw' ar delerau o gyfeillgarwch mor agos a'i gymydogion An. nghydffurfiol. Gwelodd yr hen groes. a saif yn mhrif heol Ty Ddewi lawer o bethau rhyfedd. Ond un o'r pethau rhyfeddaf oedd g:weled. y Deon mewn undeb a gweinidogion Annghyd- ffurfiol yn cyfarch y dinaswyr oddiar1 ei gris. iau,' Cleddir gw-eddillion; yr Hybarch Ddeon yn Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi heddyw (dydd Mercher).

1 Y DYDDIADUR WESLEYAIDD.…

Hon-ABERMAW.

CEFN AC ACRE AIR.

Advertising

XODIADAr 3YFUNDEBOL.