Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

r.. AT EIN GOHEBWYR.

News
Cite
Share

r AT EIN GOHEBWYR. O. J., Ystalyfera.—Diolch i chwi am eich caredigrwydd. Bydd yn dda genym glywed oddiwrthych. yn amL LLANDDEUSANT.—Derbyniasom lythyrau oddiwrth T. Jeffreys a Mordechai, yn ein hysbysu nad oedd yr hyn a anfonodd Cadog i'r DYDD yn ddiweddar am bobl Llanddeusant yn wirionedd. Hyderwn y cymer y cnaf diegwyddor well gofal rhagllaw pan yn anfon hanesion i ni. CADOG, Llangadog.—Nis gallwn gyhoeddi yr hanes, gan na ddarfu i chwi ymddiried i ni eich enw priodol. DADL CoRRis.- At Un am Degwch.Ar ba dir yr y'dych yn ein cyhuddo o roddi mwy o chwareu teg i'r Eglwyswyr nag i'r Ymneillduwyr? Ar ba sail y cyhuddwch ni o wrthod cyhoeddi ysgrifau y rhai olaf, tra yr ydym wedi cyhoeddi y cyfan a ddaeth i law ? Yr ydym yn ammheu y priodoldeb o gyhoeddi chwaneg ar hyn, am fod yr ysgrifenwyr yn ymgais at ddifriio personau yn lie cymeryd y ddadl mewn llaw. ALAROH GLAN DYFI.- Yn ein nesaf.. MALDWYN.—Dymuna y gohebydd hwn ar i Ieuan Gwyllt gyhoeddi ei feirn- iadaeth ar y Pennillion i Ysgol Jacob, yr hwn oedd yn destun yn Nghyfar- fod Cystadleuol Machynlleth, Nadolig, 1868. J. DAVIES, TREUDDYN, ae ernill.—Nid oes yr un Dyddiadur ie. 6e. ar law. Y mae genym ychydig o rai 6c.

Darlun o'r Ballot yn Awstralia.

YMRESYMIAD A CHWYLDROAD.