Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

.'Etigofion. , ■

News
Cite
Share

Etigofion. ■ MR. ROBERT ROBERTS (ROBYN MEIRION), 0 DRAWSFYNYDD. (GAN Y PARCH. E. DAVIES, TRAWSFYNYDD). (Parhad.) Ar ei fynediad cyntaf i Lundain, cafodd fyned i'r British & Foreign School. Ond deallodd yn lied fuan, mai dyben yr ysgol hbno ydoedd, dysgu dynion ieuainc i fod yn gymhwys fel athrawon i ddysgu eraill, yn ol y dull a fabwysiedir gan yr ysgol hono. Ond gan fod ei olwg ar y weinidogaeth efengylaidd, deallodd nad oedd ar y llwybr mwyaf uniongyrchol er cyrhaedd ei ddyben. Cynnyg- iwyd iddo gyfiog da am fyned i Abertawe, fel athraw ysgol; ond gan fod ei olwg, fel y dywedwyd, ar waith y cysegr, gwrtliododd fyned. Tra bu yn yr ysgol hon, ysgrifenodd ddau draethawd yn Saesneg (er ei fuddioldeb ei hun)—un ar y Farn," a'r llall ar "Ras a Llywodraeth Duw. Rywfodd, dygwyddodd i rai o wein- idogion yr Ymneillduwyr yn Llundain weled y traethodau (yn an- fwriadol iddo ef), a hoffasant y gwaith yn fawr; ac yna symudwyd ef yn ddioed i Ysgol Ramadegol, yr -hon a berthynai i Athrofa Cheshunt. Bn yma am tua 12 mis; yna symudwyd ef i'r Athrofa uchod mor ebrwydd ag y daeth yno le gwag; lie y treuliodd ei amser er anrhydedd i grefydd, er clod i'w athraw, er hyfrydwch i'w gyd-ysgolheigion, ac erbuddioldeb iddo ei hun, o ran cynnyddu Y. ig mewn dysgeidiaeth a phob gwybodaeth fuddiol. Fel yr oedd yn meddu ar ddeall cyflym, a galluoedd cryfion i dderbyn addysg, a'i syched yn mwyhau yn feunyddiol am yfed o ffynnonau dysgeidiaeth, aehan nad ydoedd yn meddu ar gorff cryf, cyfatebol i awydd ei enaid, dechreuodd ei iechyd wanhau, a'i gorff i raddau ddadfeilio yn mhen tua blwyddyn a hanner ar ol myned i'r Athrofa; ac fel yr oedd yn myned waeth-waeth, annogwyd ef i fyned i wlad ei enedigaeth; a'r hyn y cydsyniodd, gan obeithio y buasai hyny yn feddyginiaeth iddo. Ond deallwyd cyn hir, ar ol ei ddychweliad, fod y clefyd nychlyd a thwyllodrus hwnw, y dar- fodedigaeth, wedi gafael yn ei babell wanaidd, yr hwn a'i dygodd, ar ol hirfaith gystudd, i'r bedd. Dyoddefodd ei gystudd gydag amynedd a gwroldeb teilwng o Gristion. Bu am amser yn dysgwyl i am wellhad; ond deallodd o'r diwedd, nad oedd gobaith iddo am gorff iach hyd foreu yr adgyfodiad cyffredinol; ac yna ymroddodd yn dawel i ewyllya ei Greawdwr. Dywedpdd wrth gyfaill, ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth, nad oedd a fynai efe ddim &'r byd hwn, ac nad oedd yn ewyllysio byw ynddo yn hwy nag y gallai fod o ryw ddefnydd dros Iesu Grist. Y diwrnod cyn ei farwolaeth, un o'i gyfeillion a ddaeth o gryn ffordd i ymweled ag t ef; ac yn mhlith amryw bethau eraill, gofynodd ei gyfaill iddo, a oedd yn ofni marw? I hyn yr atebodd, gyda thawelwch meddwl, nad ydoedd yn ofni' marw: dywedodd yn ddystaw, etto yn hyglyw, "Y r wyf yn eich car u oil; ond yrwyf yn earn Iesu Grist yn fwy o lawer." "A chenyf chwant i'm dattod, a bod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw." Yna anadlodd ei anadl olaf, yn esmwyth, fel pe diffoddid canwyll, ar Gorphenaf 18, 1832, yn 25 mlwydd oed, ac ehedodd ei enaid gyda thyrfa o engyl santaidd i fynwes ei briod Iesu i fyw heb gorff, gyda'r dyrfa waredigol yn ngwlad y gwawl,. i syllu ar, ac i ymeangu mewn gwybodaeth o bethau yr iachawdwr- iaeth, heb flino na diffygio i dragwyddoldeb mwy. Y noswaith cyn' ei gladdedigaeth, pregethodd E. Da vies, Penystryd, ar Dan. xii. 2,! ac E. Evans, Abermaw (yn awr o Langollen) dranoeth cyn codi y corff, ar Phil. i. 23. Yna ar ol rhoddi y corff ar yr elor, canwyd yr emyn hwnw o waith Alexander Pope- "Bywiol fflam nefolaidd gu," &c. Yna cariwyd y corff i eglwys Trawsfynydd; ac ar ol darllen gwasan- aeth y claddedigaeth, rhoddwyd ei ran farwol yn y bedd hyd foreu yr adgyfodiad, pryd yr ail unir ef a'i enaid er mwynhau yn gyflawn- bleserau byd tragwyddol heb boen na gofid mwy. Mae teulu R. Roberts wedi meirw oil ond tri; mae brawd a chwaer iddo yn byw yn awr yn mhentref Trawsfynydd, a'i frawd ieuengaf, set y Parch. J. G. Roberts, yn weinidog parchus, ffyddlon, a llwyddiannus ar eglwys Ymneillduol o Saeson, yn Howden, swydd' Gaerefrog (Yorkshire). Er mwyn rhoddi awgrym o nodweddiad a; theimladau ein cyfaill ymadawedig, wele yma ranau o lythyrauj anfonedig oddiwrtho at ei rieni a'i gyfeillion pan ydoedd yn Llundain. Llundain, Medi 1, 1829. ANWYL RiBNi.—Dydd. MercheT y boreu, wedi ymadael & ch-vi yn Bangor, cychwynais gyda yr agerdd-long tua Llynlleifiad. Btim yn sal iawn ar fwrddi yr agerdd-long; ond yr wyf yn credu fod clefyd y mor wedi gwneudlles i mi" Biim yn Llynlleifiad hyd brydnawn ddydd Llun, lie y cefais Mr. Breese, ac eraill, yn dra charedig. Mawr oedd fy syndod weled gan Mr. Breese lythyr oddiwrth ddau wr a elwir Taylor a Carlisle, y rhai a anfonwyd yno, a manau eraill, yn genadon didduwiaeth (infidel missionaries), y rhai a heriant weinid- ogion y dref i ddadleu 4 hwy. Haerant na fu y fath un a Iesu o Nazareth erioed yn y byd—nad yw y grefydd Gristionogol ond dychymyg ddynol a di- fudd i ddynolryw, a bod Paganiaeth yn llawer gwell na Christionogaeth. Ni thybiai y gweinidogion yn werth eu dwyn i sylw, trwy fyned i ymddyddan 4 hwy; ond traddodwyd pregethau rhagorol ar egwyddorion Cristionogaeth gan Mr. Breese, Dr. Baffles, &c. Y Sabbath yr oeddwn i yno, clywais fod rhyw bregethwr (os addas ei alw felly) Antinomaidd, penrhydd, yn bwriadu cynnal1 dadl gyhoeddus 4 hwy nos Fercher; ond pa beth a. fu y canlynia.d nis gwn, am; fy mod y prydhynyyn y brif ddinas. Nid hawdd imiddarlunio pa fath oedd fy nheimladau, pan ddeallais nad oes o'r deugain mil o Gymry sydd yn Llynlleifiad, ddim dros ddeng mil yn myned i un Ile o addoliad ar y Sabbathau. Galarus yw meddwl fod dengmil arhtigain, o leiaf, ohil Gomer, yn y dref rag] grybwylledig yn gefnogwyr penaf didduwiaeth! Pe byddai pawb fel hyn, nil byddai nemawr o.dra.iferth i Carlisle a Taylor gael eu hamcan ysgeler i ben. Ochfil A oes rhyw un o drigolion plwyf T —dd,-—rhyw un yr, wyf yn ei adnabod o'n cydgenedl yn nhref boblogaidd Llynlleifiad yn esgeulus- wr moddion gras? Ow! Ow! Ow! oes ysywaeth! A fyddai pregethu yn Nghymru pe byddai pawbfel hyn? Onid ydyw eu hymddygiadau yn tueddu i yru yr efengyl o'r wlad? A oes rhywbeth yn tueddu yn fwy i baganeiddio y byd? A oes lie i ammheu nad yw esgeuluswyr efengyl yr iaChawdwriaeth yn esgeuluswyr iachawdwriaeth yr efengyl? 0 fy rhieni,! pa fodd y diangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint!—Yd,wyf, eich mab, V ROBERT ROBERTS. y c Idewn Ilythyr at gyfaill dywecl fel 'inlyn:- /1V, 7 Kentish Town, Hydref 16, 1829.' ANfYLGYFAILL.- Wedi rhoddi i chwi hanes eyflawn o fy amgylchiadau nat- uriol, yn awr dywedaf wrthych yehydig am fy nheimladau crefyddol. Gall- wn ddywedyd llawer wrthyeh, pe goddefai terfynau y llythyr hwn hyny. Ni buom erioed o'r blaen yn nghanol eymaint o demtasiynau mor gedyrn, a rhwydau mor ami. Yr wyf yn meddwl fy mod yn gweled mwy nag erioed o atgasrwydd pechod, drygioni fy nghalon fy hun, perygl temtasiynau, yr angen- rheidrwydd owyliadwriaeth a gweddi, a gwerthfawrogrwydd "gwaed Iesu Grist, ei Fab ef, yr hwn sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod." Yr wyf yn meddwl nad oes genyf ddim am "fy mywyd ond ei waed dwyfol ef; eadw-ed DuwS rhag twyllo fy Ifun yn y mater pwysig hwn. Yr wyf yn synu ae yn gofidio llawer wrth weled trigolion y brif ddinas morhynon mewn pechod, a rhyfygus mewn drygioni; a meddyliwyf yn fynych na wnaed erioed fwy o ffieidd-dra yn Sodom a Gomorra, nag a gyflawnir yn Nghaerludd. Teb- ygaf fy mod weithiau yn ocheneidio am anwiredd y ddinas; a dymunwn yn fawr ddwyn mwy o debygolrwydd i Lot gyfiawn, yr hwn oedd o ddydd i ddydd yn poeni ei enaid cyfiawn wrth edrych ar anwiredd yr anwiriaid. Rhyfeddaf yn fawr drugaredd anfeidrol, a hir amynedd y Jehofa yn eydymddwyn &'r fath greaduriaid gwrthryfelgar, ae yn oedi tywallt ei lid yn ddigymysg arnynt. Mae fy awyddfryd at wasanaeth y cysegr, ac i fod yn ddefnydtiiol yn fy nghen- edlaeth, i raddau, yn cynnyddu bob dydd. Teimlaf yn ddwys y golled a gef- ais am eich cyfeillach, yr hon a fu yn ddywenydd ac adeiladaeth fawr i mi amserau a aeth heibio; ond gan fod yn ymddangos mai ewyllys yr Arglwydd ydoedd ein gwahaniad, gobeithiaf y bydd hyny er budd i mi, a lleshad cref- ydd. Mawr ddymunaf gael rhyw addysgiadau buddiol oddiwrthych,, ac YTJ. neillduol y fraint anadroddadwy o fod o fewn cylch eich gwedd'iau.—Ydwyf, ROBERT ROBERTS. Yr oedd Robert Roberts yn un o'r myfyrwyr hyny yn Cheshunt College, a wrthwynebasant wneud arferiad o ddarllen gweddiau Eglwys Loegr yn yr addoliad a gynnelid gan bobl Lady Huntingdon. Ymresymai Robert gydag amryw o'i gydfyfyrwyr yn yr Athrofa am yr anmhriodoldeb o'r cyfryw arferiad; ac o'r diwedd ennillodd hwynt i'r un meddwl ag yntau. Yn ganlynol, cydunodd .yr holl fyfyrwyr i anfon eu deisyfiad am gael peidio darllen gweddiau Eglwys Loegr yn yr addoliad; ac mewn canlyniad i hyn, galwyd hwynt oil yn mlaen, a hysbyswyd iddynt, os nad ufuddhaent, y caent eu troi allan o'r Athrofa; a dywedwyd wrthynt am ystyried y mater gyda'u gilydd, a rhoddi eu hateb i'r rhai y perthynai iddynt. Ac wedi iddynt ail ystyried y mater, a dyfod oil i'r un penderfyniad, penodwyd ar R. Roberts i fod yn ddirprwywr dros y cwbl, a rhoddi yr ateb yn nacaol. Yna wedi i'r ymddiriedolwyr glywed yr ateb hwn, penderfynasant ofyn iddynt bob yn un. Gofynwyd i Robert Roberts yn gyntaf a wnai ef ? Yna yr atebodd yntau yn y modd mwyaf gwrol nas gwnai-nad oedd ef am wadu ei egwyddorion fel Ymneillduwr. Dygwyddodd fod pedwar ag oedd yn perthynu i bobl Lady Huntingdon yneistedd yn nesaf yn y rhes, a gofynwyd. iddynt yn olynol a wnaent hwy? Atebasant hwythau y gwnaent. Pan glywodd Robert hyn, aeth ei feddwl yn dra isel wrth weled eu hanwadalwch. Wedi hyn, gofynwyd i fab Mr. John Parry, o Gaer- lleon, a wnaief? Atebodd yntau yn y modd' cadarnaf yn yr un ochr a Robert Roberts; ac wedi hyn, atebodd y lleill oil yn yr un ochr, yr hyn a gadarnhaodd feddwl R.R., ac a barodd iddo lawen- ydd nid bychan. Mewn eanlyniad i hyn, caniatawyd i'r rhai oil a atebasantnasgwnaentddarllen ygweddiau eu rhyddid i fyned i bregethu i'r manau nad oeddid yn arfer y gweddiau, neu i'r manau hyny lie yr arferid y gweddiau pan y byddent wedi myned drosodd; a rhwymwyd y pedwar eraill i wasanaethu bob Sabbath yn eu tro yn y manau lie yr oeddid yn eu harfer, yr hyn oedd yn gosb drom arnynt am eu bod mor ddiegwyddor. Cafodd y lleill o honynt eu cyflawn ryddhau oddiwrth eu beichiau, ac hefyd fwynhau holl freintiau yr Athrofa fel arferol. Nid oes achos ofni niwed tra. byddom ar lwybr ein dyledswydd. # Yr oedd ein cyfaill, fel pregethwr, yn hynod o bwyllog, pwysig, a difrifol; a'i ddull mwyaf cyffredin ydoedd ymresymu Ali wrandaw- wyr. Yr oedd er yn ieuanc yn rhesymwr cadarn ar bob mater a. gymerai mewn llaw. Ymddangosodd fel dadleuwr amryw droion yn y "Dysgedydd" dan y ffugenw "Robin Meirion." Fel prawf o'i wroldeb a'i ddewrder, aeth unwaith (pan yn Cheshunt) gyda dau eraill o'i gyd-ysgolheigion i le a elwid "Rotunda" i wrando gwrth- gredwr (infidel). Dechreuodd hwn ei araeth ddieflig trwy ddywedyd ei fod wedi cael ei fagu gyda rhieni yn meddu ar gydwybodau tyner, ac iddynt gymeryd llawer o boen a gofal i'w ddwyn i fyny yn egwyddorion y grefydd Gristionogol. "Ond," meddai yr adyn, "yn lie gwneud lies i mi, amcanasant fy nystrywio; ac nid oedd eu gofal a'u diwydrwydd yn fy addysgu ddim amgen na chreulondeb o'r fath waethaf." Yna aeth rhagddo, gan haeru yn haerllug a. digywilydd, nad ydoedd y Beibl ddim ond hen chwedlau ffol a. disail o eiddo dynion cyfrwys-gall a thwyllodrus. Nad ydyw y grefydd Gristionogol ddim ond peth hollol ddisail ac ynfyd, a bod Paganiaeth yn mawr ragori arni, &c. Ac yn niwedd ei araeth, rhoddodd hfer, os oedd neb yn y gynnulleidfa yn ei anghredu ef, am iddo ddyfod i fyny i'r esgynglwyd, a'i wrthwynebu ef yn ei haeriadau. Yna gofynodd R. R. i un o'i gyd-ysgolheigion a ai efe i fyny. Atebodd yntau, nad ai. Gofynodd i'r llall a âiefe i fyny. Atebodd yntau yr un modd nad ai. "Yna," ebe y Cymro dewr- wych, jnyfi a af." Pan amcanodd fyned i fyny, dangosodd y dcirf gryn lawer o ddiystyrwch iddo, eramcanu ei rwystro. "Ond," ebe y gwrthgredwr, "gadewch iddo ddyfod i fyny; meddyliwn ar ei