Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Y Wers Ryngwladwriaethol.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y Wers Ryngwladwriaethol. AM AWST 21, 1904. 1. BREN. XVIII. 30 46. TESTYN EURAIDD: I BREN. XVIII, 21. Gan B. E. Wele Ahab ac Elias yn cydgyfarfod ar ol bod heb weled eu gilydd am dair blynedd a haner. Cyhudda Ahab Elias ci fod yn bla ar y genedl, ond try y proffwyd arno, gan ddywedvd mae efe, a thy Omri ei dad, sydd yn blino Israel, oherwydd eu heulunadd- oliaeth. Eithr nid cwestiwn i'w siarad yclyw hwn, rhaid ei ddwyn i'r prawf i gael gweled a'i Baal, ynte yr Arglwydd sydd Dduw. Ceir golwg ar gynllun Elias yn adnod 19—24. Cydsyniodd Ahab. Galwyd proffwydi Baal, 450 mewn nifer, a phroffwydi y llwyni, 400 yn nghyd a henuriaid y bobl i gyfar- fod Elias i fynydd Carmel. Ufuddha- odd y bobl, ac offeiriaid Baal, eithr nid oes son am broffwydi y llwyni. Dygwyd dau fustach, fel offrvmau, rhoddwyd y naill i broffwydi Baal, a'r llall i Elias. Caiff addolwyr Baal y cynyg cyntaf. Maent i godi all or, i osod y coed mewn trefn, eithr nid yd- ynt i osod tan oddi tano. Gwna Elias yr un fath ar hwn anfono dan i losgi yr Aberth sydd i fod yn Dduw. Mae y cynvg yn un tebygol ei fod yn anfon tan i'w allor yn barhaus. Ond er galw arno am tua chwech awr, gan dori eu hunain a chyllyll ncs i'r gwaea ffryd- io, nid oedd lef, na neb yn ateb, nac yn ystyried. Mae achos baal wedi methu. Wedi troi haner dydd. Wele Elias yn nesu i osod ei Arglwydd ef i'r prawf, a dyna'r wers am heddyw. Adnod 30: "Yr holl bobl." Sef yr henuriaid o holl Israel, y rhai alwyd yn nghyd gan Ahab. Awgryma y gair "cyweirio," fod yno allor ir Arglwydd, ond wedi ei gadael yn adfeilion. U bosibl fod yno allor i baal hefyd. Ys- tyrid Carmel yn un o'r uchelfeydd oedd yn gysegredig i grefydd. Mae ei drumion uchel, ei goedwigoedd mawr- ion, a'r olygfa eang oddi ar ei goryn, yn ei wneud yn lie cyfaddas ir fath beth. Adnod 31: "Deuddeg Carreg." Ni chydnabydda fod y genedl wedi ei rhwygo. I Elias mae yn ddeuddeg llwyth o hyd. "Israel" yr enw Cyfam- odol. Israel orchfygodd gyda I )uw. Awgryma Elias, ei fod yn hwriadu dilyn ei esiampl yn awr. Adnod 32: Adeilada yn enw yr Arglwydd. Gwna y trefniadau oddi ar yr egwyddorion uwchaf. "Cloddio ffos." Dengys rhagwelediad craff, fel na allent awgrymu fod tan yno yn guddiedig. Ceir hanes am offeiriaid paganaidd, yn gwneud lie oddi tan eu hallorau i berson fyned yno a than gan- ddo, ac yn dweud wrth y bobl mai tan oddi wrth yr eilun ydyw. Adnodau 33-35: Trefna y coed, darnia v bustach, gan osod v darnau ar coed, mor fawreddog yr ymddyga, ac mor fanwl. Gorchymyna i'r bobl ddwyn deuddeg celyrniaid o ddwfr, a'i daflu i'r ff oes, nes llwyr wlychu y coed a'r aberth. Yr oedd ffynon gref arall ar y bryn, o ba le y cawsant ddwfr, ac nid oes hanes ei bod wedi sychu erioed. Cafodd y bobl wneud hyn yn ngwydd proffwydi Baal. Yn hyn, gwna Elias osod rhwystrau megys ar ffordd Duw i roddi y tan. Ond dengys yr oil mor gryf ydoedd ei hyder yn ei Dduw. Nid amheua am un foment. Adnodau u6—37 Gweddi Elias. Offrymodd hi tua thri o'r gloch pryd- nawn. Mae y weddi yn nodedig ar lawer ystyr. Apelia at yr Arglwydd fel Duw y Tadau. Dengys mae amcan y cyfan yw, i bobl gael gwybod mae Efe sydd Dduw. ac Elias yn was iddo. Dy. muna am wrandawiad er mwyn argy- hoeddi y bobl mae yr Arglwydd sydd Dduw, a u dychwelyd oddi wrth eu heulunaddoliaeth ato Ef. Cymharir y weddi lion, a gweddiau ynfyd a ffol y phroffwydi baal, a cheir gweled v gwahaniaeth. Dyma ddyn greda yn ei Dduw a'i achos, ac mewn symledd di- frifol a thaer yn gofyn am wrandawiad. Adnodau 38-39: Yr ateb. Daeth ar unwaith, gyda nerth Dwyfol gan ysu hyd yn nod y ceryg a'r dwfr. Dyma achos y proffwyd, a chymeriad a gallu Jehofah, wedi eu llwyr sefydlu, mor ddofn yw yr argraph, ac mor gryf yw yr argyhoeddiad fel y gwaeddant allan drachefn, a thrachefn, "Yr Aiglwydd Efe sydd Dduw." Ad. 40: Ar gais Elias, ac yn ligwres y fath arddangosiad o allu Duw,. fe ddaliwvd proffwydi baal, ac fe'u lladd- wyd wrth Afon Cison, yr hon lifai gyda throed y mynydd. Hyn oedd gorchymyn yr Arglwydd gydag eilun- addolwyr. Gwel Deut. vxii, 2—7. Pe yn cael byw, buasent yn rhwystr i'r di- wygiad oedd wedi ei gychwyn; ac yn debyg o geisio enill y bobl yn ol at baal. Adnod 41: Cyngor Elias i Ahab. "Dos i fynu, bwyta ac yf." Anhawdd gwybod pa argraph gafodd hyn oil ar Ahab. Hwyrach pe gellicl ei gadw y tu allan i ddylanwad Jezebel, y gwnai ddiwvgio. Mae gwaith rhyfedd y dydd wedi agor ei lygaid yn fawr. Mae Elias am iddo gael ymborth i'w natur. "Daeth llawer o wlaw." Mae'r farn drosodd, a'r fendith ar ddisgyn. Adnod 42: Aeth Ahab i fwyta ac i yfed. Ac aeth Elias i '.veddio. Nis gallai weddio yn swn siarad y bobl ar lan yr afon. Ni ddaw y gwlaw heb weddio. Gosododd ei hun mewn agwedd ostyngedig, daer. Nid oes son iddo weddio am y farn, ond gweddia am y fendith. Gweddiodd "daer weddi y Cyfiawn." Adnod 43: Disgwylia am atebiad. Enfyn ei lane i olwg y mor i wylio a yw y gwlaw yn dod. Dyma ddyn yn gweddio yn unol ac ewyllys Duw. Mae yn sicr o lwydclo. Adnod 44: "Cwmwl bychan," ie, ond o'r mor y cyfyd. Mae'r storm ar dori. Proffwyd yw hwn yn dweud beth sydd i ganlyn. "Rhwym dy gerbyd," etc. Mae ffordd Ahab i Jezreel gyda glan afon Cison, ac ar adeg y gwlaw mae yn beryglus i'w theithio. Ar adeg felly y gorchfygodd byddin Diborah Sisera, ac y mae Deborah yn ei chan yn can- mol yr hen afon. Gwel Barn. V, 21. Adnod 45: "Yr enyd hono," yn syd- yn, wele y nefoedd yn ddu gan gymyl- au a gwynt, a bu gwlaw mawr." Dyma ateb eto i weddi ond trwy gyfrwng naturiol. Ar ol y marchogaeth, ych- wanega un ysgrif-lyfr i Ahab wylo. Nid rhyfedd os gwnaeth. Adnod 46: "Llaw yr Arglwydd. Awydd gref yn ei fynwes. Rhwymodd ei ddillad laes yn dyn, a rhedodd o fiaen cerbyd Ahab hyd Jezreel. Ei amcan oedd dangos ei barch i safle y brenin, ac i brofi mae ei unig awydd ydoedd ei gael ef a'r bobl i wasanaethu Duw. Braint fawr i'r Eglwys heddyw, fyddai meddu ffydd, a zei, a gwroldeb raoesol Elias i weithredu ar linellau bywyd yr Iesu.

»(& ♦ — SYMUD COF-GOLOFN.

[No title]

Advertising

TREWYDDEL.

1t.4. Y PARCH JACOB THOMAS,…

[No title]

CARMEL, CLYDACH.

Advertising

COLEG Y GOGLEDD, BANGOR

Advertising