Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Llythyr o'r Gogledd.

News
Cite
Share

Llythyr o'r Gogledd. Y mae Cyngor Sir Arfon newydd enill BUDDUGOLIAETH AR- DDERCHOG ar y blaid glerigol. Dichon y cofia y darllenydd i ni son yn y nodion hyn, am nifer o ysgolion elfenol, oeddynt i bob pwrpas yn ysgolion plwyfol pa rai y llwyddodd y clerigwyr i'w cael yn hollol dan eu rheolaeth eu hunain, o dan y ddeddf newydd. Ond cododd y Cyngor Sir wrthwynebiad i'r "draft final orders" newydd i gael eu tynu allan, ac yn ol y cyfrvw bydd cynrychiolwyr y cyhoedd yn y mwyafrif yn mysg rheolwyr agos yr oil o'r ysgolion. Yr ysgolion y gwnaed ymchwiliad i'w hachos yn barod, ydynt Bodfean, Bott- wnog, Llangwnadl, Clynog, Pantglas, a Llanddeiniolen. Dyma engraiffit o "foundation managers," yn ol y cynlJun newydd, Ysgol Clynog, (1) Offeriad y Plwyf; (2) Un wedi ei benodi gan yr offeiriad (3 a 4) Dau wedi eu penodi gan y Cyngor Plwyf, ac (os wvf yn deall yn iawn), (b a 6) dau wedi eu penodi gan y Cyngor Sir, neu ei bwyll- gor addysg. Dyna bedwar allan o chwech, yn cael eu dewis gan gynrych- iolwvr y cyhoedd. Rhywbeth yn debyg yw cyfansoddiad rheolwyr yr ysgolion eraill. Dylai hyn fod yn galondid ranau eraill o'r wlad, lie y mae ysgolion cy-- ffelyb wedi eu colli, i symud yn mlaen i fyny ymchwiliad llwvr i'r mater. Carwn gael troi o'r neilldu am fynud fer i roi blodeuyn ar fedd GWRAIG RINWEDDOL. sef y chwaer anwyl, Mrs. Jones, priod y Parch. E. Jones, Llanbedrog Hun- odd yn yr Iesu wedi cystudd blin a maith, ar ddydd Gwyl y Banciau yn 57 mlwydd oed, a hebryngwyd ei gwedd- illion, gan dyrfa o wvr a gwragedd bucheddol, i erw Duw gerllaw, y dvdd Gwener dilynol Hanai o deulu enwog am ei ffyddlon- deb i grefydd a'r enwad, yn nghymy- dogaeth Capel Mawr, Mon. Ceir cangenau o'r teulu yn Nghaergybi, Caernarfon, Lerpwl, a manau eraill. Chwaer symyl, ddirodres, garedig, oedd Mrs. Jones, a'i chymeriad fel y grisial. Meddai aalent arbenig i drin y byd yma, a bu yn dda iawn iddo wrth y dalent hono, ond meddai dalent lawn mor amlwg i ofalu am y "pethau ni welir." Ac yn nghanol trafferthion yr amgylchiadau, ni anghofiai byth mo'r "achos" yn ei bethau goreu. Gedy briod a thri o feibion i alaru ar ol un o'r gwragedd mwyaf gofalus, ac un o'r mamau mwyaf tyner a duwiolfrydig. Rhodded yr Arglwydd iddynt o'i ddi- ddanwch.

CAPEL ISAAC.

Liwyddiant Anibyniaeiii yn…

000 CYFARFOD CHWARTEROL MALDWYN.

Y Blwyddiadur Cynulieidfaol…

... Pontypridd.