Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

"==-MAM A51 = = BABAN.

News
Cite
Share

"==- MAM A51 = = BABAN. Penod VIII. Mrs Bray yn derbyn sypyn yn eynwys dau cant o ddoleri. Druan o'r baban Mae yn rhaid i mi edrych ar ei ol yn well. Pinky yn cyfarfod a geneth ieuanc o'r wlad. Crl wylofus menyw. Lladrad. Pwy sydd yn gyfrifol ? Yr oedd rhywbeth yn mlas y sangaree nad oedd Flora yn ei hoffi-blas rhyw- beth nad oedd yn wia. Ond wrth gael ei hanog yn mlaen gan ei chwmnies, gwydr gwag pa un oedd yn rhoddi sicrwydd ac ymddiriedaeth ynddi, parha- odd i lymeitan ac i vied nes yr aeth y cyfan. Erbyn hyn yr oedd yn dechreu teimlo rhyw lawnder a dyrysweh yn ei phen, ac i deimlo yn feichus ac an- il ghysurus. Gadawodd ei harchwaeth hi yn sydyn, gosododd ei chyllell a Sore i lawr, a phwysodd ei phen ar ei Haw. Beth sydd yn bod,' gofynodd Pinky. Dim,' ydoedd atebiad yr eneth, ond fod rhyw deimlad dyeithr vn fy mhen. Feaiff i ffwrdd mewn eiliad neu ddwy. 1 Dichon mai o herwydd dyfod yn y ■cerbyd,' meddai Pihky, Yr wyf fi, bob amser, yn teimlo yn anhwylus ar ol cael fy aghludo yn y eerbydau; y maent rhywfodd fel pe buasent yn fy nghymysgu yn llwyr,' Eiateddodd Elora yn llonydd iawn wrth y bwrdd, gan barhau i bwyso ei phen ar ei dwylaw. Newidiodd Pinky a'r ferch, oedd wedi ymuno a hwynt, cdrychiadau o wybcdaeth a'u gilydd. Yr oedd Pinky wedi tynu ei gorchudd ych- ydig i ffwrdd, eto yr oedd yn cuddio gymaint ag oedd yn bosibl o'r cleisiau ar ei gwyneb. O'r anwyl! yr wyt wedi cael curfa dOlt,' meddai Miss peter mewn llais dystaw na chlywyd gan Flora Dim ond drwy guckiad ei gwyneb atebodd Pinky. Yna dywedodd wrth Flora mewn geiriau melfedaidd. 'Mae arnaf ofa dy fod yn sal. fy anwylyd. Pa fodd wyt ti yn teiuilo ? 'Nid wyf yn gwybod/ydoedd atebiad yr eaeth mewn llais oedd va bradychu pryder os nad dychryn. Daeth hyn dtoswyf ar unwaith, mae arnaf ofn fod y gwin yna yn rhy gryf; nid wyf wedi arfer cymeryd pethau o'r fath/ O'r anwyl. nac oedd nid dyna ydoedd. Cymerais i wydriad, ac nid wyf yn ei deimlo fwy na phe fauaswn wedi yfed gwydriad o ddwfr.' 'Gad i ni fyn'd,' me idai Flora gan godi i fyny.' Mae Mrs Bray yn sicr o fod wedi dyfod gartref erbyn hyn.' 4 O'r gpreu, og wyt yo teimlo yn ddigon CrTf, meddai Pinky fan godi wrth ddweyd hyny, O'r anwyl I dyna nofio mae fy mhcn,' meddai Flora gan osod ei dwy law wrth ei harleigiau. Safodd am ychydig mewn dull ansicr, ac yna estynodd ei dwylaw alIa. mewn fordd ymofyaiadol a dall. Aeth Pinky ati yn gyflym, a gosododd ei braich am ei chanol. Tyr'd meddai hi, mae yr awyr yma ya rhy drymaidd i ti, a chyda cynorthwy Miss Peters dygwyd Flora i waered i'r grisiau. 'Mae wedi cael ei meddygiaiaethu ychydig yn rhy uchel,' meddai Miss Peters mewn sibrwd gan osod ei genau yn agos at glust Pinky. Mae'r cwbl yn eithaf iawn.' sibrydodd Pinky yn ol; 4 maent yn gwybod pa fodd i'w waeud.' Wrth droed y grisiau dywedodd Pinky, 'Dwg hi allan trwy'r clos, tra yr af fi i dalu am y wystrvs. Byddaf gyda thi mewn eiliad.' 'Yr oedd Flora, druan, eisoes yn rhy ddyryslyd, trwy elaith y gwirod cyfferol a gymerwyd gaaddi, i wybod pa beth oedd- I ynt ya gwaeud a hi. Wcdi talu yn frysiog am y wystrys a'r gwirod, yr oedd Pinky wrth law yu mhen ychydig eiliadau. Cawsant fyuediad i gles bychan oddiwrth ddrws cefa y ty, ac fcethant allan a hwn trwy agoriad i lwybr I cul oedd wedi ei gau i fewn ar bob ochr gan argaeau uchel, Rhedai y llwybr hwa am gryn bellder, ac yr oedd nifer o agoriadau iddo o glosau, a bwtliynod ac adeiladau cefn o'r nawyaf budr a thruen- liS. Yr oedd yn terfyuu mewn heol fechan. Dygwyd Flora, yr hon oedd yn colli ei nherth a'i hymwybodolrwydd yn gyflym, ar hyd y llwybr hwn gan Pinky a Miss Peters. Pan ar haner y ffordd cawsant ymgynghoriad byr. Ni wna'r tro,' meddai Pinky, i fyn'd a hi trwy heol Mae wedi myn'd yn ormodol, daw'r heddgeidwad ar ein gwectihaf, a'i dwyn oddiarnom Mac rhyw. le gan Norah mewa acw,' ebai'r llall gan gyfeirio at hen adeilad coed oedd gerllaw. "Yr wyf weJi cwympo allan a Norah,' ydoedd atebiad Pinky; ac nid wyf yn golygu gwneud dim o honi mwyach.' Yn mha le y mae dy ystafell ? '0, gwna hono ddim o'r • tro. Oes dim o'i heisiau yno. Mae selerJPatJ Maley draw acw. Gallwn fyn'd i fewa o'r; llwybr hwn.' 'Mae Pat yn gythraul rhy wancus. N i fuasai dim o honi ar ol erbyn y buasai ef yn gorpheo. Na, na, Pinky; ni fynaf ddim i'w wneud a'r peth os ydyw i fyn'd i tder Pat Maley.' Oes dim ilawer o le i ddewis genym,' ydoedd atebiad Pink; Old ni wna y tro i ni i glebran yma. Yhe yn rhaid i ni fyn'd a hi i rywle.' Gwthiodd lidiart yn agored wrth ddy- weoyd hyn. Cadwodd swn mawr wrth agoryd a tharo yn erbyn yr aigae, a chawsant olwg ar glas oedd yn rhy an- nhrefnus a ffiaidd i geisio rhoi desgrifiad o hono. Yn un rhan o'r clos hwn yr oedd hen adeilad coed, heb ffenestri iddo, yr hwn oedd yn edrych yn fwy tebyg i dy ieir neu dwlc moch nag i le yr oedd bodau dynol yn byw ynddo. Yr oeddynt yn cael miynediad i'r llofift o'r tuallan trwy ddringo ysgol. Yr oedd y lie budr hwn yn cael ei ranu i ^an ystafelloedd a gwellt we li e wasgar ar hyd iddynt. Yr oedd oddeutu ugain o fan ystafelloedd ya perthyn i'r He Llettydau cent ydoedd, yr hwn se-d(i ys cael ei lanw bob nos. Pe buasai y twll neu'r twlc hwn-gelwch beth a fynoch arno -yn cael ei dynu i lawr, ni chawsid ddeg doler am dano fel coed tan. Eto i gyd, yr oedd ei berchenog yn foneddwr (?) ac yo byw mewn ty gwych yn y ddinas, ac yn de hyn dau cant a haner o ddoleri yn flynyddol It rent am dano. Wrth gael ei osod allan fel ag yr oedd yr oedd incwm o yn agos i saith cant o ddoleri y flwyddyn yn cael ei wneud. Adnabyddid ef wrth yr enw Nyth y Barcud,' ac ni fu nyth mwy ffiaidd gan un aderyn ysglytaethus erioed na'r lie hwn. Fel y tarawodd y llidiart yn erbyn yr argae, gwthiodd dyn garw, a chanddo edrychiad drygionus, yr hwn a wisgai gap bawlyd a chrys coch, ei ben i fyny o seler y ty oedd yn gwynebu ar yr heol. Beth sydd yn eisieu ? ydoedd ei ofyn- iad mewn llais taranllyd tra yr oedd ei wefus ochaf yn siglo ac yn troi i fyny ar un ochr gan ddwyn ei ddanedd l'r golwg. 'Mae eisieu cael y ferch hon i fewn am ychydig arnom.' meddai Pinky. 'Awn a hi oddiyma pan y daw yn well. Oes rhyw- un i fewn acw ? gofynai gan gyfeirio at yr hen adeilad coed, Ysgydwodd y dyn-ei ben mewn atebiad. Beth yw'r pris ? gofynodd Pinky. Deg cent yr un,' ydoedd ei atebiad, ac estynodd ei law allan i dderbyn y tal (I'w barhau),

Distawodd y Tant-Tom ..Stephens.

[No title]

j Llanilltyd Fardref.

At Olygydd y 'Tarian.'

[No title]

Advertising