Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Pobl a Phethau yng Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl a Phethau yng Nghymru. MAE Arglwydd Kenyon wedi ysgrifennu llythyr cryf yn protestio oherwydd i rywrai ei enwi fel gwrthymgeisydd i Syr Isambard Owen am y swydd o Ganghellydd hynaf Prifysgol Cymru. Dywed i hynny gael ei wneud yn hollol groes i'w ewyllys, ac heb iddo gael ei hysbysu o'r bwriad o gwbl. DISGWYLIR yn hyderus am ffrwyth ymgyng- horiad y Pwyllgor a gyfarfu yn Llandrindod i ystyried cyfansoddiad y Cyngor Cenedl- aethol. Y farn gyffredin yw y llwyddir i ddod dros bob anhawsder yn foddhaol. Bydd yn rhaid i'r cyfansoddiad ddarpar i ddwyn y Cyngor o dan arolygiaeth Ty y Cyffredin ryw- fodd. Gall wneud hynny drwy i ysgrifenydd Seneddol dros Gymru gael ei benodi, neu drwy i gadeirydd y Cyngor fod yn aelod Seneddol ac yn gyfrifol i Dy y Cyffredin am ei holl weith- rediadau. MAE Mr. Samuel Moss, A.S., yn ei swydd o Ddirprwy-Farnwr Llys y Manddyledion yng Ngogledd Cymru, yn dangos mai nid gwr i gellwair ag ef ydyw. Dywedodd wrth un tyst, os na siaradai yn uwch y gosodai ef ymhen draw y neuadd, ac y byddai raid iddo godi ei lais o'r fan honno. Dywedodd wrth un arall na chredai yr un gair a ddywedid ganddo. RHODDODD Mrs. Vaughan, o Nannau, ddarn o dir a nifer o fythynod i Gyngorau Trefol a Gwledig Dolgellau i adeiladu ysbytty ar gyfer rhai yn dioddef oddiwrth afiechydon heintus. Yr oedd mawr angen yno am yspytty o'r fath, ond hyd yn hyn methai y Cynghorau a chael tir pwrpasol. UN o'r ymwelwyr yn y Gynhadledd Pan- Geltaidd a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ddwy flynedd yn ol oedd M. Alfons Parcsewski; a darllenodd bapyr ar Barthlen leithyddol o Ewrop." Y mae yn aelod o Senedd (Duma) Rwsia. Anfonodd lythyr o St. Petersburg yn dweyd ei fod, drwy wahoddiad, am ddyfod i Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Pan dderbyniodd y gwahoddiad, meddai ef, yr oedd yn brysur gyda'r symudiad cenedlaethol a gychwynwyd drwy gyhoeddiad y maniffesto yn mis Hydref. Ar ol bod am dymor yn ngharchar, bu yn ffoadur yn Awstria; ac yn ystod ei ab- senoldeb, dewiswyd ef yn aelod Seneddol dros Kalisz. Dywed fod ganddo barch mawr i'r symudiad cenedlaethol Cymreig. MAE rhai o destynau Eisteddfod Genedl- aethol Abertawe y flwyddyn nesaf wedi eu hysbysu. Cynwysant ganiadau gwladgarol mewn arddull neillduol: telynegau cymhwys i'w canu ar y testynau (I) "Plant yn chwareu," (2) Can y Coleg," (3) Cwmni Priodas," (4) Gorphwys amser cynhauaf," (5) "Ymwelwyr min y mor myfyrdraith, Pygmalion; traethawd beirniadol ar Gymraeg y tri chyfieithiad o'r Testament Newydd-cyfieithiad William Salesbury, cyf- ieithiad Dr. Morgan, a chyfieithiad Dr. Richard Davies"; traethawd, Prif ddiffygion llenydd- iaeth Gymreig y dyddiau presenol V traethawd, "Pechod yng ngoleuni dadblygiad traethawd, Perthynas y Wladwriaeth a bywyd masnachol y genedl." Rhoddir gwobrwyon hefyd am gasgliad o len gwerin Cwm Tawe a Chwm Nedd. PAN aeth George Borrow drwy Gaerphili yn 1854 ni chlywodd yno air o Saesneg, dim ond Cymraeg glan gloew gan bawb. Heddyw anaml y clywir gair o'r hen iaith o enau neb o bres- wylwyr prifddinas y caws. MAE Cymry yn d'od yn awdurdod ar liaws o bynciau ynglyn a gwyddoniaeth gymharol." Ymhlith y llyfrau a gyfrifir o werth mawr rhestrir eiddo y Proffeswr Lloyd Morgan ar Feddyleg l 11 Gymharol"; eiddo Mr. R. E. Hughes ar "Addysg Gymharol," ac eiddo y Proffeswr 0 E. O. Davies ar "Dduwinyddaeth Gymharol."
SANT BEUNO.
News
Cite
Share
SANT BEUNO. Yr oedd yr hen Sant Beuno yn ddyn nobl iawn yn ngolwg yr hen bobl yn yr hen amser gynt; ac yr oeddynt yn teimlo mor garedig ato ag yr ydym ninau yn teimlo at ei frodyr heddyw. Yr oeddynt yn barod i fyned o dan bob math o faich er mwyn ei gadw ef yn gefn- syth. Peth arall hefyd oedd yn ddymunol yn yr hen bobl druain yr oeddynt yn egwyddorol ac yn gydwybodol pan yn ymwneyd a'r sant galluog Beuno. Vr oeddynt yn gwneyd pob- peth allent i ufuddhau i'r awdurdodau goruchel, ac yn teimlo ysbrydoliaeth y frawddeg hono, A fyni di nad ofnech yr awTdurdodau ?" Nid oeddynt yn ddigon haerllug i ddweyd "mynwn," fel y dywedodd yr heretics yn y diwygiad Protestanaidd a'r diwygiadau eraill ar ol hyny" a'r un presenol. Yr oedd yr hen bobl yn rhy- onest i hyny; ac yn ddigon gonest i ddisgwyl i'r Arglwydd ymwneyd a hwy drwy sothach o'r fath. Mab Buwgi ab Glywir o Beren, ferch Llewddyn Lueddog, oedd Beuno ac yr oedd )n gweinidogaethu yn nechreu y seithfed ganrif, ac mae llawer o rinweddau a gwyrthiau ynglyn a'i hanes, fel y rhelyw o'r seintiau doniol y dyddiau hyny. Ganwyd ef yn unol a dymuniad a gweddi ei fam, yr hyn a gymerodd le ym, Mhowys. Ar ol iddo dyfu yn llanc rhoddwyd ef o dan ofal Tangwn yn Bangor Caer Went; ac yma yr aeth yn adnabyddus ag un o'r enw Ynyr Gwent, noddwr Bangor Dathan. Dylan- wadodd Beuno ar Ynyr i ymroi yn fwy llwyr i grefydd, a rhoddodd Ynyr lawer iawn o bresantau i Beuno yn arwydd eu bod yn leicio eu gilydd ac ymrodd Ynyr i fywyd sanctaidd,. hynny yw, yn ol y cyfieithiad diweddaraf-i beidio gweithio. Ym mhen ychydig o amser wed'yn symudodd Beuno i Wynedd; ac yma y cyflawnodd ei wyrth gyntaf. Yr oedd yn digwydd bod yn Nhreffynon, ac yr oedd Gwen- ffrewi, santes, yno hefyd. Yr oedd un o'r enw Caradog yn hoffi Gwen, ond nid oedd hi yn malio dim llawer am dano ef; ac am hyny torodd ben Gwen a'i gledd. Rowliodd hwnw i lawr yr allt; rhedodd Beuno ar ei ol, daliodd ef, ac a'i rhoddodd yn yr un man ag yr oedd o'r blaen, ac ail-anadlodd Gwen mor iach ag erioed. Tynodd y wyrth uchel sylw Cadfan,, brenin Gwynedd, ac aeth y ddau, y brenin a Beuno, yn gyfeillion. Ar ol marw Cadfan aeth Cadwallon i'r orsedd; a rhoddodd lain o dir yn Arfon i Beuno i adeiladu eglwys, a rhoddodd Beuno fwyell aur gwerth triugain buwch iddo yntau. Pan oedd y sant yn adeiladu yr eglwys daeth gwraig ato a phlentyn ar ei braich, yn crio ac yn wylo yn dorcalonus, a gofynodd i'r sant ei fedyddio a'i fendithio. Gofynodd Beuno i'r wraig paham yr oedd y plentyn yn crio mor dorcalonus ? Dywedodd hithau mai ei eiddo ef oedd y llain tir yna mae ef yn adeiladu arno. Syrthiodd gwynebpryd Beuno; ataliodd y .gwaith, ac aeth at y brenin i Caersaint. Ond ni wrandawai y brenin arno, ac ni roddai y fwyell aur yn ol iddo ychwaith. Digiodd Beuno wrtho, ac aeth i ffwrdd ar ol rhoddi y brenin yn rhwyd ei felldithion. Ond rhedodd Gwyneint, cefnder y brenin, ar eiol; daliodd ef yn eistedd ar fin afon Saint, ac erfyniodd hwnw ar i'r Sant ddadwneyd yr aflwydd, y cawsai yntau ranbarth Clynog fawr yn ddidreth dros byth. Cytunasant, ac ataliwyd y brenin rhag cancro yn fyw. Ym mhen ychydig ar ol hyn bu farw Beuno, a chladdwyd ef yn Enlli, medd rhai haneswyr. Ond nid hyn yw y cwbl. Ym mhen blynyddau ar ol marw y sant, dywedodd Mynachod Clynog wrth y bobl eu bod wedi symud llwch y sant o Enlli yno, a bod ei allu i fendithio yn aros yr un a gweithiodd y tric yn gampus hefyd. Adeiladwyd capel ar y bedd, a rhoddwyd maen mawr arno, a galwyd y cwbl yn Bedd Beuno." Yn ychwanegol at hyn gwnaethpwyd cafn, fel cafn mochyn. i'r credinwyr fwrw eu harian iddo, i gynal y mynachog diog a sanctaidd. Hefyd yr oedd Nod Beuno ar glustiau anifeiliaid y credinwyr, sef hollt "naturiol" ar y glust yn arwydd eu bod yn perthyn i'r sefydliad. A byddai y credinwyr yn myned a'r arian a dder- bynient oddiwrth yr anifeiliaid hyn a'u rhoddi yn y cafn i gynal y mynachod yn eu myfyrdodau duwiol.
CYMANFA GYFFREDINOL Y METHODISTIAID…
News
Cite
Share
yr achos yn Llundain. Cyflwynodd y Parch. J. E. Davies gais oddiwrth y Cyfarfod Misol am i'r grant o £ 200 tuagat at gynal yr achosion sydd, a thuagat gychwyn achosion newyddion, gael ei barhau am bum' mlynedd arall. Cyn- ygiwyd ac eiliwyd fod y cais yn cael ei ganiatau, ond gwrthwynebodd eraill ar y tir fod y Gymanfa wedi pasio mai am bum' mlynedd yn unig y rhoddid y grant. JJu cryn siarad ar y pwnc, a'r hyn a basiwyd yn y diwedd oedd rhoddi y swm o ^150 am un fhvyddyn. Pasiwyd penderfyniad cryf yn cefnogi y Mesur Addysg, yn llawenhau am ei fod yn darpar i gyfranu addysg Feiblaidd syml yn yr holl ysgol- ion, yn cymeradwyo sefydliad Cyngor Cenedl- aethol i Gymru, ond yn datgan gwrthwynebiad i Adran IV. am ei bod yn cloddio dan wraidd yr egwyddorion ar ba rai y gorphwysai y Mesur. Daeth cais oddiwrth yr Eglwys Gymreig Anenwadol, Cape Town, am gynorthwy arianol yn wyneb y cyfyngder masnachol yn Neheu- barth Affrica, a phasiwyd i roddi £26 y flwyddyn am bedair -blynedd. Nos Fercher traddodwyd Darlith Davies gan y Farch. J. Morgan Jones, Caerdydd. Dydd Iau bu pregethu mewn lie paratoedig ar y Maes. Dyma yr adroddiad ystadegol a gyflwynwyd i Gymanfa Gyffredinol Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd ym Mlaenau Ffestiniog yr wythnos ddiweddaf, ac y maent yn gyfryw ag a bar i galon pob un sy'n caru dyrchafiad ein cenedl lawen- ychu :-Capelau, 4, yn cynwys eisteddleoedd i 9,992; Ysgoldai, 15; Tai i Weinidogion, 13; eglwysi, 16; blaenoriaid, 59; Cymunwyr, 15,854; plant yn yr eglwysi, 2,538; cynydd yn y rhai a dderbyniwyd i Gymundeb o had yr eglwys 836, o'r byd 11,416, drwy docynau 1,195. Ceir, hefyd, gynydd o 10 yn rhif yr Ysgolion Sabbothol, 402 yn rhif swyddogion yr ysgol, 8,145 yn aelodau yr ysgol, a 6,760 yn y gwrandawyr. O'r ochr arall, ceir cynydd o 2,859 yn y rhai a gollwyd o Gymundeb drwy docynau, 620 yn rhif y diarddeliadau, a 2,483 yn y gwrthgiliadau. Ond wedi tynu allan y nifer yna, mae cynydd o 6,181 yn nghy- fanrif yr eglwysi. Dyma fel y dywed yr Ystadegwyr ar y pwynt hwn:—" Ni fu -genym er amser Diwygiad 1859 y fath gynydd i'w gofnodi yn nifer ein cymunwyr mewn un flwyddyn ag sydd genym yn ein hadroddiad eleni. Cawsom y pleser yn ein hadroddiad y llynedd o gofnodi ychwaneglad o dros wyth mil yn ein haelodau. ond y mae y cyfrifon o'r gwahanol Siroedd eleni yn adrodd am gynydd o 15,854, yn gwneyd cyf- answm ein haelodau yn 189,164. Y mae pob C.M. ac Henaduriaeth wedi cael rhan yn y llwyddiant hwn. Mae rhai cylchoedd wedi profi yn fwy helaeth nag eraill o'r adfywiad grasol aeth dros ein gwlad y flwyddyn ddiweddaf, ond y mae pob rhan wedi mwynhau dyferynau o'r gwlaw adfywiol. Fel yr ydym wedi crybwyll eisoes, mae colofnau y diarddeliadau a'r gwrthgiliadau yn galw yn uchel arnom i fod yn otalus am lawer o'r rhai sydd wedi eu dwyn i mewn i'n heglwysi, rhag idd)nt lithro ymaith a dychwelyd i'w hen ffyrdd a'u hen arferion. Hyn yw perygl llawer o honynt oddigerth iddynt gael eu meithrin a'u sefydlu yn y ffydd sydd yn Nghrist lesu." Wrth fanylu, gwelir fod y cynydd yn rhif yr aelodau yn cael ei ranu rhwng y gwahanol Gyfarfodydd Misol fel y canlyn :— Gogledd Aberteifi 128, De Aberteifi 169, Bry- cheiniog 496, Caerfyrddin 536, Arfon 1,476, Lleyn ac Eifionydd I, I I 9, Dyffryn Clwyd 490, Dyffryn Conwy 723, Fflint 890, Henaduriaeth Caer 312, Liverpool 259, Llundain 160, Man- chester 14, Dwyrain Meirionydd 327, Gorllewin Meirionydd 628, Mon 1,653, Dwyrain Mor- ganwg 1,217, Gorllewin eto 855, Saesneg eto 2)3°9, Mynwy 1,032, Penfro 170, Trefaldwyn Isaf 34j5 Tref. Uchaf 400, Henaduriaeth Tref. I So. Mae cynydd o 2,440 wedi cymeryd He yn aelodau yr eglwysi Saesneg, a 3,689 yn eu gwrandawyr. Ceir fod cynydd o ^14 ,975 irs. yn nghasgliad yr eglwysi at y weinidogaetb, ac y mae cynydd o .L:84, 74° 145. 6c. yn nyled y capelau Mae cyfartaledd v casgliad at y weinidogaeth ar gyfer pob aelod yn 12s. 91c.cynydd o 61 c. ar y llynedd. 2 2