Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

.ICymru yn y Senedd.---Mr.…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd.Mr. Ellis Jones Griffith, Mon. u R7T0N mam Cymru"—dyna yr enw a lVX roes hoffder y genedl o honi ar Ynys Mon, ac y mae ei phlant yn "■parhau i'w hanwylo o hyd. Nid ydym yn gwybod yn sicr paham y rhoed yr enw hwn arni gyntaf. Ni ryfeddem lawer pe dywedid wrthym ei bod wedi ei ennill mor fore a dyddiau y Derwyddon, oblegid mai yno yr oedd eu cartref hwy hyd nes i'r gelyn estronol eu difodi, a thorri i lawr y derw canghenog yr arferent addoli o dan eu cysgod. Gwyr pawb mai ym Mon y cafodd trydydd ddeffroad lien Cymru ei gryd, y deffroad a ddaeth i mewn gyda'r Morusiaid a Goronwy Owen. Mon a Bywyd Gwleidyddol Cymru. Ord y mae i Ynys Fon le pwysig yn hanes bywyd gwleidyddol Cymru hefyd. Onid yn Aberffraw yr oedd palas Llewelyn ein Llyw Olaf, ac onid oddiyno yr aeth allan i'r ym- gyrch a derfynodd er gwaethaf buddugoliaeth Moel y Dar, yn ei gwymp ef a chwymp go- beithion y genedl am Annibyniaeth yng Nghantref Buallt ? Ond er cwympo Llewelyn parhaodd ei ysbryd i gyffroi y Monwyson am rai degau o flynyddoedd. O'u plith hwy y cafodd Madog y nifer liosocaf o'i gydwrthryfel- wyr, a Gruffydd Llwyd o Dre'rgarnedd oedd yr olafo bendefigion Gwynedd i geisio taflu ymaith iau yr estron hyd nes y cododd Owen Glyndwr. Wrth edrych dros hanes Mon Mewn Cyfnod Diweddar yr ydym yn gweled ei bod wedi rhoddi ei chefn- ogaeth i'r Whigiaid am dymor hir. Bu y Buckeleys a'r Stanleys yn ei chynrychioli am lawer blwyddyn, ond cryfhai yr ysbryd Radi- calaidd, neu efallai y byddai yn fwy cywir dywedyd, deffroai yr hen ysbryd cenedlaethol yn Mam Cymru, a chwiliodd am rai yn hannu o werin y wlad i fod yn Seneddwyr. Gyrrodd y sir y diweddar Mr. Richard Davies, a'r bwr- deisdrefi y diweddar Mr. Morgan Lloyd i St. Stephan, y naill yn fab i fasnachwr o Langefni, a'r llall yn fab i ffarmwr o Drawsfyn- ydd ym Meirionydd. Gwnaeth Mesur Diwyg- ladol 1884 i ffwidd a'r aelod dros y bwrdeisdrefi, ac yn etholiad 1885 cafodd Mr. Richard Davies, oedd erbyn hynny yn Arglwydd Raglaw y sir, yn agos i fil o fwyafrif ar ei wrthwynebydd Ceidwadol. Ni fedrai Mr. Davies gefnogi Mesur Ymreolaeth Mr. Gladstone, ac ymneill- duodd yn 1886, pryd yr etholwyd y diweddar Mr. Thomas Palestina Lewis, yntau hefyd yn un o blant gweririol yr Ynys, i fod yn olynydd iddo. Ychydig dros dri chant oedd y mwyafrif a gafodd Mr. Lewis y pryd hwnnw, ond chwydd- odd yn ddirfawr yn yr etholiad nesaf yn 1892. forrodd ei iechyd i lawr yn fuan wedyn, a phan roes hysbysrwydd o'i fwriad i ymneillduo syrthiodd coelbren y Rhyddfrydwyr ar Mr. Ellis Jones Griffith, yr hwn sydd wedi cynrych. ioli yr ynys er 1895. Mab i Mr. T. Griffith,' Ty Coch, Brynsiencyn-ffermwr parchus, yn Ymnfeillduwr cadarn-yw yr aelod anrhydeddus. Ganwyd ef yn y flwyddyn .1860. Wedi cael manteision yr ysgolion o gylch ei gartref, anfon- wyd ef pan yn llencyn ieuanc i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a bu am ryw dymor yn gydefrydydd yno a'r diweddar Tom Ellis. Yr oedd Cymru yn deffro yn y dyddiau hynny, a meddianwyd nifer fawr o fyfyrwyr Aberystwyth gan ysbryd Cymru Newydd. Yn y deffroad hwnnw deffrowyd talentau a galluoedd y bachgen o'r Ty Coch, a phenderfynodd ymgyflwyno i wasanaethu ei Mr. ELLIS JONES GRIFFITH, A.S. genedl a'i wlad. 0 Aberystwyth aeth i Goleg Downing yng Nghaergrawnt, a gwnaeth yno enw iddo ei hunan, nid yn unig fel efrydydd ac ysgolhaig, ond hefyd fel gwleidyddwr a siaradwr hyawdl ar bynciau politicaidd. Cafodd ei ethol yn Gymrawd o'i Goleg, ac yn 1886 efe oedd Llywydd yr Undeb-y Gymdeithas Ddadleuol- ynglyn a'r Brifysgol sydd yn cael ei chario ymlaen ar ddull Ty y Cyffredin. Yn 1887 galwyd ef i'r Bar, ac ymunodd a chylchdaith gyfreithiol Gogledd Cymru, ac y mae erbyn heddyw yn un o'r gwyr blaenaf yn y gylchdaith" honno, a'i fedr fel dadleuydd yn cael ei gyd- nabod yn gyffredinol. Ei Yrfa Seneddol. Ond yr oedd ei dueddfryd o hyd at fywyd politicaidd, er nad agorodd y drws iddo lawn mor gynnar ag i eraill o'i gyfoed. Bu Rhydd- frydwyr Gorllewinbarth Dinbych yn son am dano tua'r adeg y gadawodd Gaergrawnt, ond nid oedd ef yn gweled ei ffordd yn glir i ymladd yn yr etholaeth honno. Yn etholiad 1892 ymladdodd am un o seddau dros Lerpwl. Prin y disgwyliai efe ei hun na neb arall iddo ei hennill gan mor gryf y gallu Ceidwadol yno. Ond dangosodd y fath fedr i frwydro, a'r fath allu areithyddol, fel na phetrusai neb o'r pryd hwnnw allan nad oedd iddo ddyfodol disglaer fel Seneddwr. Ac ymhen tair blynedd cafodd ei ethol dros ei sir enedigol gyda mwyafrif gor- threchol, er cryfed y llanw Ceidwadol yn yr etholiad hwnnw. Ni ddaeth neb i'w wnhwynebu yn 1900, ac er i'r gwr mwyaf poblogaidd ymysg ysweiniaid a thirfeddianwyr Mon anturio i'r maes ym mis lonawr diweddaf, dangosodu gwyr Mon eu bod yn gwbl deyrngar i'r bachgen o'r Ty Ccch, a rhoddasant iddo y mwyafrif mwyaf a gafodd neb erioed yn yr ynys. Yn ddiddadl saif Mr. Ellis J. Griffith yn rhestr flaenaf Seneddwyr y deyrnas, a synnodd llaweroedd na phenodasid ef i ryw swydd neu gilydd yn y Weinyddiaeth bresenol. Mae yn areithiwr o'r radd flaenaf, ac yn un o'r rhai mwyaf medrus mewn dadl. Efallai mai mewn gwawdiaith y mae gryfaf, y mae honno yn ddeifiol, a llawer gwaith y bu ei wrthwynebwyr yn gwelwi o dan ei fiflangell ysgorpionnog. Saif yn wrol dros hawliau Cymru, ac ar fwy nag un achlysur llwyddodd i argyhoeddi yr awdurdodau fod y modd yr ymddygant at ein cenedl yn anghyfiawn ac anheilwng. Er fod ei Ryddfrydiaeth yn gwbl iach, a'i deyrngarwch i arweinwyr ei blaid uwchlaw amheuaeth, eto Cymro ydyw yn gyntaf, a Chymru a'i chwynion sydd yn cael ei wasan- aeth pennaf. Bu ganddo ran fawr i dynnu allan ddadganiad swyddogol y Prifweinidog fod y Uywodraeth yn bwriadu cymeryd i fynu bwnc Dadgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru yn y dyfodol agos. Diau genym fod yr aelod dros Ynys Mon i lanw lie pwysig yn ngwleidyddiaeth Prydain yn y blynyddoedd sydd o'n blaen. Mewn cysylltiadau eraill nid oes neb mwy parod i wasanaethu ei genedl na Mr. Ellis J. Griffith. Efe yw llywydd Undeb Cymdeithasau Diwylliadol Llundain er's blynyddau, ac ni bu neb ffyddlonach ynghyflawniad dyledswyddau yr ymddiriedaeth honno. Cafodd Cymdeithas Cymru Fydd y ddinas ei wasanaeth fel llywydd hefyd am amser hir, ac nid efe. sy'n gyfrifol na byddai y Gymdeithas honno yn fwy o allu a dylanwad. Ar lwyfannau cymdeithasau, [fel y rhai a nodwyd, neu pan yn dadleu hawliau cymdeithasol ei gydwladwyr, neu pan yn am- ddiffyn Cymru yn wyneb ymosodiadau, y mae yn llawn mor hyawdl ag ydyw yn y Llys a'r Senedd. Ni byddai yn weddus gorphen hyn o fywgraffiad ohono heb grybwyll mai ei briod yw Miss Mary Owen, y gantores dalentog a phob- logaidd, ac y mae hithau mor awyddus a selog i wasanaethu ei gwlad a'i phobl ag yw ef ei hun.