Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Y LLOFFT FACH.-s®^

News
Cite
Share

Y LLOFFT YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. [Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD XXIV. Y Llofft Fach yn son am Doctor Puw. Y'nghesail y mynyddoedd, deg neu ddeuddeg milldir oddiyma, mae pentref bychan unig o'r enw Sarnole'. Mae mor bell o bobman fel nad oes fawr o son am dano, nac ond ychydig o'r to ieuengaf sy'n byw ffor' hyn yn gwybod ei fod i'w gael. Yr ydych fel pe baech yn cefnu ar y byd wrth fyn'd ato; ac wedi myn'd iddo, yr ydych wedi cael cymaint o drafferth i gael gafael arno nes lladd pob awydd am fyn'd yn ol i'r byd byth mwy. Gwell yw genych aros yno i ddiwedd y benod. 0 leia', dyna fel y teimlwch ar y pryd. Ond mae yma ddau dy cwrdd, ac ysgol, a dau dafarn, efel y go', ac eglwys; fel nad yw mor amddifad o gyfleus- derau i fyw yn dda ar y naill law, ac i bechu ar y llaw arall, ag y buasech yn eifeddwl. Gwneud clocsiau y byddai'r dynion canol oed, a'u gwerthu y'marchnad y dre' nesa' bob pyth- efnos; yr oedd hono bymtheg milldir y tu hwnt wed'yn oddiyma. Pan fyddai'r bobl ganol oed yn y dre', welech ch'i ddim ond hen bobl a phlant yn y pentre'. A phan fyddai'r plant yn yr ysgol, a'r hen bobl yn y ty wrth y tan, yr oedd mor ddistaw yno nes gwneud i'r estron a ddigwyddai dd'od heibio gredu fod pawb wedi marw. Dim ond swn y plant yn myn'd dros eu gwersi yn yr ysgol gerllaw, fel swn gwenyri yn y cwch—ac ambell i gi yn cysgu yn yr haul, ac yn cyfarth ar ei freuddwydion dyna i gyd. Ond y'mhentre' anghysbell a llonydd Sarnole', allan o dwrw'r byd a'i daro, y ganwyd ac y mag- wyd bachgen a ddaeth wed'yn yn ddoctor clyfar, ac a fu'n byw yn y parthau hyn am yn agos i saith mlynedd. A 'stori Ifan Puw fydd gen I yn y benod hon. Yn y ty acw ar ucha'r pentre' yr oedd tad a mam Ifan yn treulio eu cetyn; ac yno yr oeddynt wedi bod oddiar pan gychwynasant gyda'u gilydd ar daith bywyd. Clocsiwr oedd Abram Puw fel y lleill; ond yr oedd yn siwr o fod yn rhagori ar bawb yn y pentre', oblegid gofynai'r geiniog ucha' am ei waith yn y dre'. Ac fe'i cawsai. Y tro cyntaf y gwnaeth hyny, ar ol myn'd i gadw ei stal ei hun, ni werth- odd gymaint a phar o fore' hyd hwyr. Nid am na ddaeth ilawer ato i fargeinio ag ef, ond am ei fod yn gofyn dim ond un pris, a hwnw'n bris uwch nag a ofynid gan y lleill oedd yn gwerthu. Chwerthin am ei ben a wnai pawb ond nid oedd hyny'n gwneud un gwahaniaeth i Abram Puw. Ac ar ddiwedd y dydd, aeth a'i glocs i gyd gartre', heb fod bar yn llai nag oeddynt yn y bore'. Pan welodd y trefwyr hyny, gwnaethant eu meddyliau i fyny'n union fod y dyn all'sai wneud peth felly yn gwybod beth oedd o beitu; a byth wed'yn, ni cheisiodd neb dynu ei bris i lawr, na chaniatau iddo fyn'd yn ol i Sarnole' a phar o glocs heb ei werthu. Mae cymaint ag wyf wedi ei ddweyd yn ddigon i ddangos i chwi fod tad y bachgen Ifan yn ddyn hirben iawn. Cynyddodd ei gwsmeriaid a'i fasnach i'r fath raddau nes y bu gorfod iddo fyn'd i gadw gweithwyr, a phenderfynu dwyn ei fachgen i fyny yn yr un grefft. Yr oedd ganddo fachgen arall, a merch ond Ifan oedd yr hynaf. Bid fyno, yr oedd uchelgais Ifan yn uwch na hyny; ac wedi iddo dreio ei law ar haner dwsin o wadnau, bu'n brofedigaeth i'w dad dreio ei droed arno yntau, am ei fod wedi dyfetha mwy o goed nag a all'sai ei dad enill yn ol mewn diwrnod. Gyrwyd ef wed'yn i ysgol y dre', a dechreuodd gael bias yn gynar ar ddoctoriaeth. Y'mhen hir a hwyr, prentis- iwyd ef at ddyn oedd yn gwneud cyfferi; ac yn 'ystod yr amser y bu gyda hwnw, pasiodd amryw arholiadau. Aeth i rywle go bell wedi hyny a daeth adre' at ei dad a'i fam i Sarnole' o'r diwedd wedi pasio'n ddoctor, ac yn barod i gymeryd ei le fel doctor mewn unrhyw fan yn y byd. Ni fuasech byth yn ei 'nabod fel Ifan Puw, y llanc oedd i fyny a phob chware' yn y pentre', ac yn bygwth gyru ei dad i'r worcws wrth ddyfetha'r coed clocsiau f'asech ch'i byth yn ei 'nabod yn y dyn ifanc tal, trws- iadus acw sydd yn sefyll i siarad a gwr y Carw Coch o dan y pentis. Ond Ifan ydyw ac y mae'r hen bobl a'r pentrefwyr oil yn falch o hono. Gadewch i mi brysuro i ddweyd fod Abram Puw a Shiwan ei wraig yn bobl grefyddol y tu hwnt, ac yn aelodau blaenllaw y'nghapel Phila. Philadelphia oedd ei enw'n gyflawn, ond ei bod wedi myn'd yn arferiad er's blynyddoedd i'w dori'n gwtafel yna. Yr oedd y plant erbyn hyn yn aelodau yno hefyd a chafodd Ifan ei dder- byn cyn iddo fyn'd i ffwrdd i'r lie pell hwnw. Dyna sut y daeth yma pan y symudodd i fyw i'r pentre' isa' fel doctor y wlad a'r plwy'. Yr oedd yr hen wr yn ddiacon yn Phila; a bron nad oedd yr hen wraig yn ddiacones yno, gan y mawr sel a ddygent dros yr achos. Nid oedd Abram wedi rhoi busnes y clocsiau i fyny etc nid am nad allai, ond am na fynai. Mae'n wir fod Ifan wedi gwneud twll go fawr yn ei boced o'r amser yr anfonwyd ef i'r dre' gynta'; ond yr oedd ganddo boced arall rhyngddo a'r gwaetha'. Y fath yw grym arferiad wed'yn fel yr oedd yr hen Abram wedi myn'd i gredu fod cadw'r fusnes y'mlaen yn help i'w gadw yntau'n fyw. Ac felly yr oedd yn ddiame'. Pan brynodd ddoctoriaeth yr ardal yma i Ifan, ac y daeth yn bryd i Ifan symud, galwodd ef ato i waelod yr ardd ryw ddiwrnod, a rhoddodd gynghorion iddo a ddylasent fod wedi glynu yn ei esgyrn hyd ei fedd. A phe gwnaethent, ni thorasid ei fedd gynared. Yr oedd mab y Gwndwn Ganol yn dal ffarm yn ymyl y pentre', a digwyddai fod yn pasio drwy'r hewl gul oedd am y clawdd a'r ardd pan oedd y siars yn cael ei rhoi. Nid mab y Gwndwn Ganol a fuasai pe gallasai wrthsefyll y demtasiwn i sefyll a gwrando. Dyna sut y daeth y peth i glustiau'r Llofft Fach. We], Ifan" ebai ei dad, gan bwyso ar un o'r pyst oedd yn dal y lein ddillad, tra y safai'r crwt ar ei gyfer, mae'r amser wedi dwad i fyny iti fyn'd i enill dy fara 'chaws dy hun, a 'dydw I ddim am d'ollwng di heb roi gair o gyngor iti. 'Rwyt ti'n myn'd i le digon annuwiol, medda' nhw, mewn rhyw bethe, er taw yn y wlad y mae. Mae gair canolig 'i wala iddo mewn ffordd o yfed a meddwi; a mi glwes ar ol iti addo myn'd fod pedwar doctor wedi yfed 'u hunen i farwolaeth o fewn llai na phymtheg mlynedd. Pe b'aswn I'n gwybod hyny cyn iti addo, chawset ti ddim meddwl am y lie ond 'dydw I ddim am d'atal i fyn'd 'nawr. Ac y mae pethe fel yna yn g'neud dy fam a mine'n bryderus iawn am danat ti. 'N ei di addo dau neu dri o bethe i mi, Ifan, ar ol myn'd draw ? Mi fydd yn reit bawdd iti g'neud nhw. 'Dydw I ddim yn gofyn iti ddar- llen dy Feibil, a gweddio, a myn'd i'r cwrdd mor amal byth ag y medri: mi wn y gnei di hyny, achos 'rwyt ti'n 'u gneud nhw 'nawr. Ond mi leiciwn i ti ymgadw oddiwrth ryw bethe fydd yn help iti fyw yn dda a byw yn hir, ar ol iti fyn'd ar dy wadne dy hun. A dyma nhw: Yn gynta', "Paid a dechre' 'smocio. Hwyrach y bydd genti lawer o amser ar dy law ambell dro yn y ty, a thebyg iawn y byddi di'n myn'd yn dy drap am orie drwy'r wlad, ac y bydd yr amser yn hir ac yn drwm. Ond paid a chym'ryd dy demtio i 'smocio, dan yr esgus fod 'smocio yn help i ladd amser. Hen habit fochynaidd ydyw a wela' I fawr o neb yn 'smocio ond pobol a lot o ddiogi ynddyn' nhw. Yn ail, Paid tori dy 'dotal. 'Dydi 'smocio ac yfed ddim y'mhell oddiwrth eu gilydd byth. 0, paid a dechre' yfed pethe meddwol, Ifan, neu ti fyddi dithe'n myn'd ar ol y pedwar arall i fedd y meddwyn. Mae nhw'n deud i mi fod yna hen dyfarne-bach acw sy'n cael eu cadw gan bobol grefyddol, ac yn fwy o drapie'r diafol i ddynion na dim o dyfarne'r dre'. Meindia nhw, machgen I; ar dy fywyd meindia nhw. A phan fyddi di allan y nos, a phobol yn cynyg peth yfed iti dan yr esgus o dy gadw rhag ca'l anwyd dwed wrthyn' nhw'n streit dy fod ti'n 'dotal, a dwed bob tro y byddan' nhw'n cynyg. Mi flinan' nhw wed'yn. Wyddost ti, 'does gen neb barch i'r dyn sy'n mhel a phethe meddwol, ac yn dilyn tyfarne. Yn 3ydd, Paid myn'd i ddilyn cwn hela. Os dechreui di ffor' yna, wyddost ti yn y byd b'le cwpli di. Mae o'n beth sy'n enill ar ddynion, a ma'n rhaid i ti ga'l mwy o ffortiwn nag a 'nilli di byth i fyn'd i galyn byddigions ar ol cwn hela. Weli di'r pregethwr yna dda'th i fyw i Celynin ? Mi z;1 a'th drwy arian y wraig bob dime cyn pen tair blynedd wrth redeg ar ol ryw hobi gostus fel yna, ac ynta'n bregethwr. Mae'r demtasiwn yn fwy i ddoctor, a chofia di gyngor dy dad. Yn ola', rhag i ti flino, "Paid a cholli dy givrdd na d'enwad. Glyna wrth dy gapel hyd farw, a phaid byth a meddwl dy fod yn ormod o wr mawr i fyn'd i dy gwrdd. Mi fydda'n well gen I iti golli d'enwad na dy gwrdd, ond 'does dim isio iti golli 'run o honyn' nhw, os cym'ri di ofal. Cofia mai gyda'r Sentars wyt ti wedi ca'l dy fagu, a taw Sentars ydi dy dylwyth i gyd. A 'does neb tebyg iddyn' nhw ar ol yr holl siarad. "Dyna fi wedi deud y cwbl, a hwyrach y dyl'swn I ddeud rhagor. Llanw di'r bylche, machgen I; a chofia y bydd pobpeth fyddi di'n feddwl fydd yn plesio'r Brenin Mawr, yn plesio dy fam a fine." Dranoeth, cymerodd Ifan Puw ei le fel doctor yr ochr yma i'r wlad. A chymerodd ei le fel aelod gyda ni y cyfle cyntaf a gafodd. Yr oedd yn fachgen braf a fforddus, a gweithiodd ei ffordd i lewys y wlad cyn iddo'n brin dd'od i wybod lle'r oedd. Siaradai a phawb mewn Cymraeg glan gloew—cymerai fwyd, os byddai angen arno, lie bynag y cai gynyg ac os byddai ar ei gythlwng, gofynai am dano yn y cotty fel yn y ffarm. Gwnai hyny i'r bobl ei garu, ac nid oedd dyn poblogeiddiach na'r doctor yn y plwy' na'r plwyfi. Yr oedd yn od o lwyddianus hefyd yn ei waith am infflamesion, 'doedd neb a'i curai, ac yr oedd gan y gwragedd ifanc fwy o ffydd ynddo nag yn yr hen gonos profiadol arferai dd'od attynt o'r dre'. Dilynai'r cyrddau mor gyson ag y gallech ddisgwyl i ddoctor mewn gwlad fedru. Deuai'r hen bobl i edrych am dano yn awr ac yn y man, ac ni chaent un bai ynddo. Dyna fel y bu am ddwy flynedd. Pan gychwynodd ar ei drydedd, yr oedd Ifan Puw yn 'smocio, yn yfed, yn dilyn cwn hela, ac yn colli ei gwrdd yn amlach lawer nag oedd raid iddo. Yr unig beth ag yr oedd ganddo ryw gymaint o afael arno oedd ei enwad. Ceisiwyd ei ddenu i'r eglwys drwy bob dyfais yn y byd. Priododd a menyw nad oedd dim ganddi nac o'i chwmpas i beri iddo ffoli yn ei chylch; a mwy na'r cwbl yr oedd yn haner gwallgo' ar bwnc yr eglwys. Ond methodd ei holl ystrywiau a chael Ifan i adael ei gapel, er taw anaml, fel y d'wedais, yr oedd yn t'wllu ei ddrws o hyn allan. Yr oedd ei bibell rhwng ei ddanedd drwy'r dydd ac erbyn iddo gyrraedd ei burned flwyddyn, o'r braidd y cyfarfyddech ag ef heb ei fod o dan ddylanwad y pethau meddwol. Bu raid iddo gael cenel o gwn hela cyfartal i'r un yn y wlad, a rhagor o ystablau ar gyfer yr holl feirch porthiantus oedd ganddo. Pan ddaeth yma gyntaf, yr oedd y ceffyl broc a brynasai ei dad iddo yn gwneud y tro, er fod ei gymalau dipyn yn anystwyth erbyn hyn, yr oedd haner dwsin o bedigri diamheuol wedi cymeryd He broc, a hwnw wedi ei werthu am y nesa' i ddirn. Gwyddai'r hen bobl ei berygl yn burion, a gwel-