Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

[No title]

Y CYMRO YN GONCWERWR YN FULHAM.

News
Cite
Share

Y CYMRO YN GONCWERWR YN FULHAM. Mr. Timothy Davies (R.) 8,037 Mr. Hayes Fisher (C.) 7,407 Mwyafrif 630 Yr ydym yn teimlo yn bur sicr fod bron bawb o Gymry Llundain, gan nad i ba blaid bolitic- aidd y perthynant, yn llawenhau yn llwyddiant ein cydwladwr poblogaidd, Mr. Timothy Davies, yn y frwydr etholiadol dydd Mawrth. Pryd y bu Cymro nid yn unig o waed, ond hefyd 0 dafod, yn arfer addoli bob Sabboth mewn addoldy Cymraeg, yn cynrychioli unrhyw ran o Lundain o'r blaen ? Nid ydym yn cofio i'r un gael y cyfryw anrhydedd erioed. Yr hyn sydd yn gwneyd yr oruchafiaeth hon yn fwy gogoneddus yw y ffaith fod Fulham yn gadarnle Ceidwad- aeth. Bu Mr. Hayes Fisher yn cynrychioli y rhanbarth am dros ugain mlynedd, ac yr oedd ei fwyafrif yn yr etholiad diweddaf yn 2,294. Profa y ffigyrau hyn nid yn unig fod cyfnewidiad anhygoel hon wedi dyfod dros yr etholaeth, ond hefyd fod y Cymro yn boblogaidd dros ben lie yr adwaenir ef oreu, a'i fod yn ymladdwr campus. Llongyfarchwn Mr. Timothy Davies, A.S., yn y modd mwyaf cynes, a gobeithio y caiff yrfa seneddol hir i wasanaethu ei genedl a'i wlad enedigol yn ogystal a gwasanaethu ei etholaeth fabwysiedig.

Y CANLYNIADAU YNG NGHYMRU.

Notes of the Week.

Am Gymry Llundain.