Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Y LLOFFT FACH;.

News
Cite
Share

Y LLOFFT FACH; YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. [Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD VIII. Y Llofft Fach" yn son am y Diwygiad. Os nad yw fy nghof yn fy nhwyllo-yr hyn a wna weithiau, fel Jacob ag Isaac gynt -dywedais i ddiwygiad dori allan yma ar ol dyfodiad yr hen Ddafydd Morus i'r seiat, os nad yn wir mewn canlyniad i hynny, a chymeryd golwg naturiol ar bethau. Mae'n rhaid addef taw yr Ysbryd Glan oedd a fynai yn uniongyrchol a'r symudiad, a taw ei ddy- lanwad Ef yn bendifadde oedd y dylanwad mawr eto i gyd, 'does dim dwywaith nad oedd gan "'rhen Jew" dipyn o law yny mater hefyd. Mae dau neu dri o bethau yn peri i mi lynu wrth y meddwl yna. Cyn y noson fythgof- iadwy hono y rhoddodd Dafydd Morus ei-hun i fyny fel drwgweithredwr i ddwylaw awdurdodau y Llofft Fach, ac yr aeth yn "Haleliwil" yno dan arweiniad SaWx Pantie, nid oedd graen ar ddim y tu fewn i'r lie. 'Doedd dim graen o werth son am dano ar y dynion-yr hen we'ydd oedd y gore' o'r lot; ac yr oedd adegau arno yntau, fel nad oedd dipendans yn y byd i'w roi arno. Dim graen ar y cyrddau-yr un rhai byth a hefyd yn bresenol, a'r un gweddiau, a'r un profiadau, fel yr un dillad, yn gwneud eu hym- ddangosiad yn gyson o gwrdd gweddi i seiat, ac o seiat i gwrdd gweddi, a phawb a phobpeth yr un fath a'r un faint ar y Sul, a'r Sul nesa' yn adlewyrchiad gonest o'r Sul o'i flaen, a hwnw drachefn o'i ragflaenydd yntau. Dim graen ar yr Ysgol—y dosbarthiadau fel pe byddent wedi pwdu wrth eu gilydd, un yma ac un acw, yn debyg i fel y gweles I'r cenin y'ngardd Dinah ryw flwyddyn a dim hanes am benod, na phwnc, na chan i hel y plant y'nghyd, ac i roi tipyn o 'spardun yn y bobl mewn oed. Y gwir am dani, cymaint o raen ag oedd ar yr achos yn y lie oedd graen gwywo; ac yr oedd yn ddigon amlwg i'r hen stoics-addefent hyny yn rhwydd o flaen yr orsedd-oni ddelai ym- wared o rywle y symudid y canwyllbren ymaith, ac y deuai yn fater o angenrheidrwydd buan i gloi'r drysau, a rhoi gwyliau i'r achos am dymor. Ond nid oedd cynddrwg a hyny chwaith, er mai graen gwywo, fel y dywedais, oedd ar y cwbl; oblegid er fod y saint yn myn'd i'r eithafion yna yn eu gweddiau, yr oedd eu profiadau yr ochr gyferbyniol, fel pendil cloc, a chwi allech feddwl wrth wrando arnynt yn cvsuro eu hunain ac yn cysuro eu gilydd yn y seiat, na fu yr achos mewn gwell C) flwr erioed, eu bod ar y telerau goreu a'r Ysbryd Glan, a phobpeth yn myn'd y'mlaen yn hwylus. Chware' triciau diniwed a'u gilydd yr oeddynt y naill a'r llall y prydiau hyny: pan ar eu gliniau yr oeddynt ar y gwir fynychaf. Ond mae'n siwr genyf fod y Brenin Mawr yn gwybod am danynt yn well na myfi, a bod yna ryw haen o onestrwydd yn gorwedd hyd yn nod o dan yr hen brofiadau ceinion. Ac y mae yr helyntion a ddilynasant yn dweyd i mi fod yna ryw addfedrwydd cuddiedig yn bodoli i gyfeiriad diwygiad, wedi'r cwbl i gyd. Mi glywais rai o'r plant yn dweyd adnod fel hyn o bryd i gilydd yn y gyfeillach—"Nafernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn." Na ato Duw i neb fod mor dyn ar ei 'piniwn fel ag i osod ei gledrffordd ei hun i lawr i gerbyd tan y diwygiad dd'od ar hyd-ddi; oblegid mi welais ddigon o gledrffyrdd heb yr un cerbyd yn y golwg, a mi welais y cerbydau yn d'od wedi i ddynion flino ar eu ffyrdd eu hunain, a chodi y rheiliau i fyny bob un. Pan y daeth diwedd ar bob perffeithrwydd dynol y gwelwyd fod gorch'mynion Duw yn dra eang. A d'wedwch a fynoch, mi dd'wedaf I eto fod gan Dafydd lVoi-its dipyn o law y'musnes yr adfywiad giymus yr wyf wedi bod yn son am dano, ac y soniaf am dano'n bresenol. Parha- odd y berw mawr am ddeufis heb liniaru dim- yr oedd llaw yr Arglwydd yn amlwg yn y lle- cynelid cyfarfodydd bob nos o'r bron, os nad un cyfarfod oedd y cwb], yn wir--yr oedd y pyrth yn agored ddydd a nos, ac un fintai yn cymeryd y mawl a'r weddi i fyny agos gyda bod y fintai flaenorol yn dybenu-ehedodd y gwreich- ion i eglwysi cym'dogaethol, ac yr oedd llwyn- ogod Samson yn gwneud distryw ofnadwy ar ydlanau'r Philistiaicl-rhifid y dychweledigion newydd wrth yr ugeiniau drwy'r ardaloedd i gyd, ac yr oedd hyny mewn gwlad deneu ei phoblogacth yn golygu llwyddiant anarferol. A Z, 'rhen Jew oedd blaenffrwyth yr holl gynhauaf! Pwy warafuna iddo ei ran yn yr adfywiad ? Yn nesaf at yr Ysbryd Glan yr wyf yn wastad yn cyplysu Tomos y Gwe'ydd a Dafydd Morus fel prif gyfryngau yr adfywiad mawr. Ond hwyrach fy mod yn methu. Tybiwn, y'nghanol y cynhyrfiadau diddeddf hyn, y buasai o fantais anghyffredin i'r frawdol- iaeth pe buasai yma weinidog i gadw rhyw lun o drefn ar bethau, ac i roi mwy o chware' teg i'r eglwys wrth dderbyn y newydd-ddyfodiaid, yn ogystal ac i wyntyllu y newydd ddyfodiaid eu hunain. Mae genyf syniad am weinidogion— cam neu gymwys, nis gwn-eu bod yn llwyddo'n rhyfedd i gadw eu penau yn weddol o glir ar adegau o'r fath; ac er fod eu calonau mor dwym' a chalonau neb, a'u teimladaumor danlli a theimladau neb, eto nad ydynt mor agored i ymollwng i'r medd'dod moethus a gymer fedd- iant o synwyrau eu brodyr cyffredin. Ond 'doedd yma 'run. A'r canlyniad oedd i lawer gael eu derbyn i fewn y'mysg y lliaws a brofas- ant yn ddiwerth cyn pen ychydig fisoedd, ac amryw a barasant chwerwder enaid i'r disgyblion yn ol llaw. Y lliaws cymysg oeddynt, fel y gynulleidfa hono gynt y clywais Daniel y gwaddotwr yn darllen am dani o'r lien Desta- ment ar ddechre' cwrdd. Yr oedd ceidwaid y drysau wedi yfed mor helaeth o'r gwin o seler Duw nes anghofio eu gwyliadwriaeth—yr oedd- ynt yn ddall bost i bawb a elent i fewn; ac yr oedd clywed rhywun yn gwaeddi- Pa belh a wnaf? Pa fodd y caf drugaredd ? yn ddigon i daflu'r drws led y pen iddo, a der- bynid ef i ganol y breintiau oil heb ddim ond y waedd yn wystl o'i edifeirwch. Os digwyddai i ambell un oerach na'i gilydd brotestio yn erbyn yr hawsder a pha uri y gollyngid pDb math i fewn, atebid ef yn union trwy ofyn pwy ceddynt hwv i fyii'd,i farnu "rhwng milyn a milyn, dygid yr Ysgrythyrau rhyfeddaf i'r wyneb. y dyddiau hyny—ac am iddo gofio be' wnaeth gras o DaJydd Morns, ac y gallai fod y gwaethaf o honynt yn adargraffiad o'r 'rhen Jew, am ddim a wyddent hwy i'r gwrthwyneb. Bid fyno, mewn ambell i gyfeillach lie y croesawid rhai o gymeriadau geirwon yr ardal ar eu dychweliad, llwyddai un neu ddau o'r dosbarth oer hwn i atal rhuthr y cenlli' trwy gateceisio'r ymgeisydd, a threio d'od o hyd i grac pechadur yn ei gyffes. Y parotaf i ymgymeryd a'r gorchwyl yma oedd Phil Llwyd, ac ni throai Phil yn ei ol er dim. Y brawd hynaf" y gelwid ef gan ffrindiau'r mab afradlon, ond go brin y teilyngai'r enw. Yr oedd yn ddyn o synwyr cyffredin cryf- diamond in the rough" ebe Dinah (bu hi yn Llundain, wyddoch); ac er fod yna gryn swmp o erwinder o'i gwmpas, yr oedd "y perl o uchel bris yn siwr o fod i fewn yn ei ganol yn rhywle. Mae Dinah a fine o'r un farn ar y cwestiwn yna fel ar bob cwestiwn arall. Yr wyf yn cofio'n dda i Robin Batkdd'od i'r gyfeillach ar frig y don ryw nos Iau. Er mwyn i chwi 'nabod Robin, mi dd'wedaf i chwi gymaint a hyn o'i hanes. Gwneuthurwr ysgubelli ydoedd wrth ei alwedigaeth, y rhai a werthai wed'yn i deuluoedd y wlad am filldiroedd yn rownd. Rhyngoch chwi a minau, 'doedd Robin ddim yn cael ei ystyried mor sownd yn. y earn a'i gym- 'dogion—rhyw ddiffyg ar ei grasiad, heb fod wedi bod cweit y'mhen draw'r ffwrn, ebe bech- gynos cellweirus; dipyn yn ddiniwed, dyna i gyd, ebe'r merched, gyda'r rhai yr oedd yn gryn ffafryn. Adwaenid ef gan bawb drwy'r fro, fel yr adwaenir gwr y dreth dlodi, neu ryw berson tebyg ag sydd iddo ei ymwel- iadau cyfnodol. Byw gyaa'i fam y byddai Robin, ac nid oedd gan ei fam nac yntau syniad clir am ddim ond am wneud 'sgubelli; ac yr oeddynt yn berffaith ddieuog o feddu unrhyw ddirnadaeth am bethau crefyddol. Adroddaf ddigwyddiad am dano fydd yn well na dim arall i ddangos i chwi sut un oedd. Yr oedd gan Robin ei gwsmeriaicl sefydlog, i'r rhai y gwerthai beth o'i 'stoc bob hyn-a-hyn. Un o'i gwsmeriaid goreu oedd gwraig Brynbras, i'r hon y sypleiai 'sgubelli er's blynyddau. Wedi i Robin fod ddiweddaf yn Brynbras, daeth ffit o falchder dros y' wraig, a mynodd gael drych mawr, uchel, a llydan o'r dre', yr hwn- a osod- wyd i sefyll ar y shilff-fantell yn y parlwr, gan oleddu ychydig yn ol y ffasiwn. Pan ddaeth tro Robin i dd'od rownd a'i ysgubell, aeth i fewn, ar ei union i'r ty, yn ol ei arfer, a digwyddai fod drws y parlwr yn agored reit ar ei gyfer. Safodd yn sydyn, gan edrych yn syth o'i flaen i'r ystafell barchus hono; ac ebai yn sydyn- Holo, beth w i wedi 'neud i bobol Brynbras, 'sgwn i ? Be' sy'n bod, Robin ? ebe'r wraig, yr hon oedd wrth ei sodlau, ac yn gwbl anwybodus o dramgwydd y 'sgubellwr. Pamsachi'n gweud fod gentochi un arall ? yn fwy sarug fyth, gan bwyntio i'r parlwr. Gyda hyny, gwelodd y wraig beth oedd wedi netlo Robin, taflodd ei hun ar y 'stol, ac ymollyngodd i'r pang creulonaf o chwerthin. Gynted y cafodd afael yn ei horgan siarad, ffrwydrodd allan- Wyti ddim yn 'i 'nabod o, Robin ? O—o—o Ail bang. Wrth glywed y mwstwr, dyma'r gwr, a'r gwas, a'r ferch, a'r forwyn, yn rhedeg i fewn y naill ar ol y llall, ac wedi deall rywsut beth oedd yn bod, aeth yn bedwarawd rhyngddynt yn y fan, a'r wraig yn arwain. Pwdodd Robin yn ddyehrynIlyd- Ho, mi wela' 'does dim o f'eisie I yma," meddai, a chydiodd yn ei 'sgubelli, tarawodd hwy ar ei ysgwydd, taflodd lon'd ei lygad o din i'r parlwr wrth basio, ac allan ag e' cyn i neb gael amser i'w oleuo. Wedi gwel'd ei lun yn y drych am y tro cyntaf yr oedd Robin, a chredu taw 'sgubellwr dyeithr ydoedd, yr hwn oedd wedi ei ddiorseddu y'nghwsmeriaeth Brynbras Credodd hyny hyd ei fedd, ac ni welodd na thy na chlos Brynbras mo Robin mwy Wel, i wneud 'stori fer o stori hir, cariwyd Robin i'r gyfeillach ar adenydd rhywbeth neu gilydd, oblegid ni ddaethai yno ar ei draed byth, hyny ydi, mewn gwaed oer. Yr oedd 'beitu deg neu bymtheg—nid wyf yn cofio'r nifer yn iawn-yn d'od i fewn y noson hono, yn fechgyn a merched, a Robin yn eu plith. Wedi i Short Rhobat ddarllen yr wythfedbenod o'r Diarheb- ion, lie mae doethineb yn gwaeddi a deall yn llefain "-penod a ddarllenai Shon Rhobat mor fynych nes gwneud i'r hen Abram Bifan ofyn yn ddisymwth un tro, Diar mi, Shon Rhobat, ydi hi'n dal i waeddi o hyd heb grygu, gwed- wch ? "—ac wedi i un o'r dychweledigion ieuainc a dderbyniwyd y mis o'r blaen fyn'd ar ei liniau, a dangos cryn eofndra ar enw y Person y siaradai ag ef, ac wedi canu eu hunain ma's o anadl, dyma'r hen we'ydd, a Siors Bonar, a Simon Pilars, a Hiws y scwl, a dau neu dri eraill yn codi ar eu traed, yn cyflwyno'r bechgyn