Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

DYRCHAFIAD Y CYMRO.

News
Cite
Share

DYRCHAFIAD Y CYMRO. Y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, Llywydd Bwrdd Masnach. Plentyn y deffroad arwr gwerin gwlad Fagwyd yn y bwthyn gwyn ar lan y Hi; Mynwes pob gwladgarwr chwydda mewn boddhad- Aeth Cymru oil i fyny- i fyny gyda thi Gwr y tafod arian etifedd gloew ddawn Dehonglydd dyheuadau dyfnaf Cymru fad Yn ngoleu ei ddyrchafiad, proffwydoliaeth gawn, Fed Arthur wedi deffro-codi wna ein gwlad Cynar y cychwynodd ar ei enwog hynt, Iieb unrhyw gludydd arfau i uchel ganu ei glod Ffon dafl oedd ganddo yntau, 'r un fath a Dafydd gynt, A phump o gerrig llyfnion yr afon yn ei god Hogyn," ebai'r beirniaid—" ei ddewrder ymaith ffy, A rhyfyg ynddo feddwl am ennill uchel sedd'' Mae'r "hogyn hwnnw, heddyw, yn arwr brwydrau lu, A chewri trais a gormes yn ofni min ei gledd Yn nerth ei arg'oeddiadan, safodd yn ddigryn, Gwnaeth enw'n mysg y cedyrn yn Nhy'r Cyffredin draw, Cludodd faner Rhyddid i fyny llethrau'r bryn, Ac yn y nos a'r storom—cerddai yn ddi-iraw Fy anwyl hen Eifionydd mangre'r awen wir Llawen gan dy feirddion fuasai gweld yr awr- Awr dyrchafiad Cymro a fagwyd ar dy dir, I Gyfrin Lys deddfwriaeth teyrnas Prydain Fawr Ar riniog blwyddyn newydd, Cymru g\vyd ei phen Ac ynni newydd Wanwyn i'w delfrydau ddaw Os llechu mewn dinodedd y bu ein Gwalia wen, Mae llwybrau ei dyfodol yn gwynnu ar bob llaw Arwr y deffroad bendith glaer y nef, Fyddo yn ei wylio ar ei bwysig hynt; Fflachied ei hyawdledd croew fyddo'i lef Dros ryddid gwlad y bryniau, lei yn y dyddiau gynt Yn y Cyngor Cyfrin, ceir Cymr,) hyd y craidd, A mam ei bur wladgarwch losga nos a dydd Dros iawnder, moes, a rhyddid, ni phalla grym ei aidd- Dyn y bobol ydyw, a dyn y bobol fydd -ANTHROPOS, o'r Geninen am lonawr.

Home News.

Advertising

Football Chat.

Home News.