Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. APWYNTIR is-athraw yng Ngholeg Trefecca yr wythnos hon. Y mae yr ymgeis-wyr wedi eu tynu i lawr i dri erbyn hyn, sef y Parcbn. David Williams, gweinidog Capel Heol Clifton, Caer- dydd J. Morgan Jones, Aberdar a Gwilym H. i Havard, Wilton Square, Llundain. Nm yw bywiogrwydd meddwl a pharodrwydd ymadrodd yr hen bregethwr enwog, Edward Matthews,- wedi ymadael o Ewenni eto. Gofyn- odd teithiwr i hogyn y pentre y dydd o'r blaen Tomi, dwed i mi lie mae'r Hotel Metropole yma." Yn y pen arall i'r pentre, syr," ebe Tomi yn y fan, y nesaf i'r Eglwys Gadeiriol." DYWEDIR fod blodeuydd adnabyddus wrthi yn parotoi i'r wasg lyfr gyda darluniau ar "Flodeueg Cwm Rhondda." YNG ngholofnau y South Wales Daily News dydd Sadwrn ceid rhestr o'r pynciau yr ymdrinir a hwy yng nghyfarfodydd Cymdeithas y Cym- rnrodorion "yn y tymhor nesaf." Ond wedi darllen y rhestr deallasom mai rhaglen y tymhor diweddaf ydoedd. Tybed fod un o'r golygwyr Wedi cael hun cwsg am ryw wyth neu naw mis ? MAE'R beirdd yn dechreu canu yn barod i gyfarfyddiad y ddau wron, Lloyd-George ac Evan Roberts. Dyma fel y ffrydiodd awen un o honynt Boed bendith ar y gwron Sydd heddyw'n dwyn y cledd, A'r gwron ieuanc arall Sy'n codi teml Hedd: Daw'r adeg pan y dodir Y cleddyf yn ei wain Ond gwaith y Deml erys, A gwynol fydd ei sain. YR oedd y Barnwr Gwilym Williams bron torri ei galon yn Mrawdlys Chwarterol Morganwg yr wythnos ddiweddaf oblegid amlder y trosedd- Z5 wyr ac ysgelerder rhai o'r troseddau. Dadganodd ei obaith mai nid brodorion o'r sir, ond "dynion dod oedd yr anfadwyr. Parodd y sylw i Mr. Abraham Thomas (Cyrdin) fwrw ei olwg dros y rhestr, ac ysgrifenu DYNION DOD. Baker, Barry, Bates, a Benson, Dynion dod Burton, Cartwright, Cousens, Cushion, Dynion dod Curtain, Erkson, Franklyn, Foley, Murphy, Rochfort, Taylor, Turley, A Tomaso gyda hyny, Dynion dod Bu prinder dwfr ym Mlaenau Ffestiniog am Qdeuddydd yr wythnos ddiweddaf. Gorfodwyd jlawer o'r chwarelwyr i fyned at eu gwaith un b°re heb ddyferyn o de i frecwast, a gwaeth na ynny heb ymolchi. MAE anghydfod blin rhwng y meistri a'r l^eithwyr mewn tair neu bedair o chwareli yn ^yffryn Nantlle, a'r dynion mewn canlyniad Wedi sefyll allan. Bu gweithwyr dwy chwarel arall hefyd ar streic am rai dyddiau, ond daeth- PWyd i gytundeb yn y rhai hynny yn fuan. Nid Yw sefyllfa y fasnach lechi yn foddhaol o lawer ers tro bellach. ———— CAFODD gwyr Caerdydd gyfle arbenig i ddangos teyrngarwch yr wythnos hon gan fod Tywysog yfttru wedi talu ymweliad a'r dref. Gosod sylfaen Coleg y Brifysgol oedd ei neges, a diau y ceir adeiladau rhagorol yno ar ol hyn. ^YSGU'R ffordd i ffraeo, gallem feddwl, yw, gWaIth ein colegau. Mae Aberystwyth wedi mv°gi ei huR am iaith anweddus ei chyngor °1> ac wele Gaerdydd eto mewn helbul 1Wng Prifathraw'r Coleg a'r Cofrestrydd. Caerdydd yn dechreu crynhoi arian yr J^idion a gaed ynglyn a'r Amgueddfa, a'r Weri ^on hysbysir fod y Mri. Thompson talu'r tair mil punnau oeddent hwy wedi NID yw Cwmni'r Great Western eto wedi prynu'r rheilffordd fechan, Manchester and Milford--sydd yn rhedeg trwy Geredigion- ond hysbysant eu bod wedi trefnu nifer o drens arbenig ar hyd y llinell yn ystod yr hat, fel ag i gyssylltu Aberystwyth a rhanau o'r Deheubarth. 0 dipyn i beth fe ddaw tref y Llyfrgell yn gyrhaeddadwy o bob parth o'n gwlad. MAE Mr. H. T. Parry ar ddychwelyd o Dde- heudir Affrica 1 dreulio diwedd ei oes yn Nghymru. Un o wyr mwyaf blaenllaw y Cym- deithasau Cymreig yn Affrica oedd Mr. Parry, ac yn fawr ei barch yn mysg ei gydgenedl yn y Penrhyn. Merch iddo yw Miss Winnie Parry, yr awdures boblogaidd o Portdinorwic. MYNED ar gynydd mae cadgyrch Lloyd- George yn mysg Ymneillduwyr Cymru, a'r wyth- nos hon bu Dr. Clifford gyda'r aelod tros Gaernarfon yn anerch cyfarfodydd mawrion yn Aberystwyth ac Aberteifi. Gobeithio er hyny nad oes angen am greu asgwrn cefn o'r newydd yn nisgynyddion gwroniaid '68, a'u bod oil yn iach dros eu hawliau cenedlaethol ar yr adeg hon eto.. t MAE Cymry Birmingham wedi llwyddo i gael gan Mr. Brynmor Jones i dderbyn llywyddiaeth Undeb y Brythoniaid am y flwyddyn ddy- fodol. Mae Brymnor yn eithaf Cymro yn mhob peth ond mewn iaith, a sicr y rhydd anrhydedd ar yr "Undeb" wrth eu hanerch yn ystod y tymhor.

THE LATE SIR R. A. CUNLIFFE.

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Y DYFODOL