Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Byd y Gan.

News
Cite
Share

Byd y Gan. [Gan IDRIS.] DEALLWN i Miss Gertrude Hughes gael der- byniad nodedig o wresog yr wythnos ddiweddaf yn yr Hen Wlad. Myned ar gynydd mewn poblogrwydd y mae Miss Hughes, ac ychwan- egodd nid ychydig at ei chlod blaenorol fel cantores o allu mewn oratorios yn y rhan a gymerodd yn yr Elijah" nos lau diweddaf. Y mae'r newyddiaduron yn canu ei chlod yn uchel, a phrinder gofod yn unig a'n lluddia i ddyfynu o honynt; ond dyfynwn yn y man. MAE trefniadau helaeth yn cael eu gwneyd gogyfer a chyngherdd Mr. Merlin Morgan, yr hwn a gynhelir ddiwedd y mis presennol. Yn absenoldeb Mr., Morgan o'r cyfarfod canu y noson o'r blaen, oherwydd anhwyldeb, cymer- wyd arweinyddiaeth y cor gan Mr. Griffiths (hen arweinydd y cor cymysg), a chafwyd canu rhagorol. Ym mysg y darnau a ganwyd yr oedd Hail, Bright Abode (Tannhauser); a chan fod y cor cymysg yn rhifo dros 150 o ieisiau, y mae'n debyg y ceir canu gwych ar hoff ddernyn Wagner yn y cyngherdd. CAFWYD cyngherdd o radd uchel yn y South Place Institute nos Iau yr wythnos ddiweddat, mewn cysylltiad ag Eglwys Gymreig yr East End, pryd y cymerwyd rhan gan y rhai can- lynol:—Miss Gertrude Hughes, Miss Margaret Lewys, Mr. Seth Hughes, Mr. Barry Lindon, Mr. Tom Morgan, a Miss Sallie Jenkins yn cyfeilio iddynt. Gwnaethant oil eu rhan yn dda. YMHLITH yr ymgeiswyr llwyddianus yn yr arholiad diweddaf ynglyn a'r London College of Music, da genym weled enw Mr. Arthur Owen (mab Mr. Owen, oriorydd, Junction Road. Holloway). Ennillodd 93 o farciau allan o 100. Da iawn, wir. Addysgwyd ef gan Mr. Gwilym Rolands, organydd capel Cymraeg Holloway. MAE y misolion cerddorol yn unfarn yn eu clod o'r Welsh boy pianist" (Mr. Percy Hughes), yr hwn a ymddangosodd yng nghyng- herdd y Royal College of Music a gynhaliwyd yn y Queen's Hall y dydd o'r blaen. Y mae'r bachgen ar hyn o bryd yn myned dan gwrs o efrydiaeth yn y coleg, ac ymddengys y caiff Cymru berdonegydd enwog ynddo. DEALLWN fod trefniadau yn cael eu gwneyd 1 gynnyrchu comic opera newydd gan Mr. Edward German, y libretto gan y Mri. Robert Courtneidge a A. M. Thompson, yn seiliedig ar nofel Fielding, "Tom Jones." Ymddiriedir yr adran delynegol i Mr. Charles A. Taylor. Diau y bydd lliaws yn bryderus i weled yr opera hon 0 waith ein cydwladwr galluog wedi ei gorphen. I'R rhai hynny o'n cydwladwyr a drigant yng nghyffiniau Wood Green feallai y bydd yn dda 2,anddynt ddeall y bydd gwyl gerddorol yn cael chynhal heno (nos Sadwrn) yn Alexandra Palace, gan Undeb Cerddorol Finsbury a Hackney, dan arweiniad Mr. Allen Gill. Rhifa'r Undeb dros 1,400 o Ieisiau, tra y mae y gerdd- Orfa yn cynwys dros 150 o offerynwyr. Mr. Andrew Black fydd yr unawdwr. SYMBYLWVD Mr. Joseph Bennett, gohebydd cerddorol y Daily Telegraph, i ysgrifenu ertnygl ^dyddorol i'r papyr hwnnw ddydd Mawrth dan y penawd, Canu Corawl." Wrth weled cyn- uihad gwael ac anheilwng yng nghyngherdd y nilharmonic Society yn y Queen's Hall yr, Wythnos ddiweddaf, pryd y perfformid gwaith enwog Dr. Elgar, Breuddwyd Gerontius," yr °edd yn gofidio yn arw, a dywedai, We have a len back from the point at which we stood p^s than half a century ago." Gwnaeth Mr. rangcon Davies wait-h da yn y cyngherdd hwn. Lloegr ydoedd gwlad yr oratorios yn ^ttiser a aeth heibio, a'r Cyfandir oedd wlad yr n^fua* bwyrach mai i'r gwrthwyneb y bydd nau yn y dyfodol agos. YR opera ydyw y prif atdyniad cerddorol yn Llundain ar hyn o bryd. Agorwyd y tymhor yn Covent Garden ar y iaf o Fai, pryd y caed perfformiad ardderchog o'r Ring," dan arwein- iad yr enwog Dr. Richter. Yr oedd yn arferiad un tro gan y gwyr mawr a fynychent yr opera i wisgo menyg gwynion a chario ffyn addurn- edig. Ond y mae hen arferion yn cilio hyd yn oed ynglyn a'r wych opera yn y lie hwn, ac ni welir neb gwr hefo'i faneg wen a'i ffon addurnedig yno y dyddiau hyn. FEALLAI fod cyfnod newydd yn dechreu gwawrio yn hanes Covent Garden. Hei Iwc Yn y gorphenol, tel y gwyddis, bu llawer o gwyno mai yr hardd wisgoedd a'r gemau a wisgid gan y bobl fawr yn y boxes (a hynny yn codi. oddiar oferedd) ydoedd prif atdyniad rhai dos- barthiadau, ac nid y gerddoriaeth ardderchog a gyflwynir oddiar y llwyfan hwn. Da oedd genym weled Hond yr oriel o'r dosbarth gweith- iol, yn wyneb y ffaith fod eu seddau yn costio hanner coron yr un iddynt. Diau y daethai y gweithiwr yn hoff o'r opera pe buasai y cyfleusderau yn fwy o fewn ei gyrhaedd. x Y MAE prif enwogion y llwyfan operataidd i ymddangos yn ystod y tymhor, a dylasai ein cantorion ieuainc wneyd ymdrech i glywed rhai o honynt. Cytunodd Madame Melba nos Lun i wneyd ei hymddangosiad cyntaf eleni ar yr 17 eg o'r mis hwn, yn "Traviata," a gwnaiff Signor Caruso ei ymddangosiad ar yr 2ofed yn Rigoletto." Yn y perfformiad o Lohengrin nos Lun, amlygwyd ymhellach alluoedd cerdd- orol un o efrydesau y Royal College of Music, Madame Kirkby Lunn. Ym mysg y cydganwyr a'r gerddorfa y mae amryw o'n cydwladwyr. B YDD tipyn o newydd-deb ynglyn a Gwyl Gerddorol Worcester eleni a gynhelir yn mis Medi, yn "A Hymn of Faith" gan Mr. Ivor Atkins, a detholion allan o Coll Gwynfa gan Mr Hubert Brewer. Ond y prif weithiau corawl ar y rhaglen fyddant: "The Dream of Geron- tius," "The Apostles," Messiah," "Requiem" Mozart, a "De Profundis" Syr Hubert Parry. Deallwn y bydd rhai o'n cydwladwyr yn gwas- anaethu ym mysg yr unawdwyr. NID mynych y gwelir neb a all ymffrostio mewn awdwriaeth miloedd o emynau. Ond fe ddywedir fod Mrs. Crosby, awdures "Safe in the arms of Jesus," yr hon emyn a wnaed yn boblogaidd yn Lloegr gan Mr. Sankey, wedi ys- grifenu dros wyth mil o honynt. Fel Dr. George Matheson, awdwr 0 love that wilt not let me go," y mae Mrs. Crosby wedi bod yn ddall o'i genedigaeth. Trigiana yn yr America ar hyn o bryd, ac er yn y 85am mlwydd o'i hoedran y mae yn mwynhau iechyd dymunol. Boed iddi nawnddydd hyfryd. AMLYGWVD gwaith cerddorol medrus yn y Royal Academy of Music yr wythnos ddiweddaf, o waith Mr. Paul Corder (un o gyfansoddwyr talentog y coleg), yn y ffordd o ddrama heb eiriau, yn dwyn y teitl Dross." Y mae'r stori, yr hon a ddyfeisiwyd gan Mr. Carlton Hill, yn ymwneyd a helbul y mae dau o frodorion Ffrainc ynddo, y rhai sydd ar fedr cael eu troi o'u tyddyn gan y tirfeddianwr am nas gallant dalu y rhent. Yng nghanol yr helbul blin try boneddiges gyfoethog yr olwg arni mewn i ymofyn lie i ymochel y storm a'r gwlaw. Y mae'r hen bobl yn ei chroesawu yn galonog, ac fel at-daliad am eu caredigrwydd y mae'r foneddiges yn cynnyg pwrs o arian iddynt, ond gyda balchder gwrthodir y cyfryw ganddynt. Y mae'r foneddiges yn canfod ei mham a'i thad vnddynt; ac wele'r tad yn ei hadnabod hithau fel ei ferch afradlon gan ei throi ymaith yn y fan. Ond dychwel hithau yn ddistaw drachefn gan ddodi ei jewels "a'i harian mewn drawer yn y bwrdd. Yn y boreu daethai y beili i'r ty gan ddarganfod y trysorau, a phan yn eu chwilio gan ymawyddu gwneuthur meddiant o honynt wele un o'i wyr yn ei drywanu yn y fan. Rhoddwn y stori uchod er mwyn rhoddi amcan i'r darllenwyr anghyfarwydd beth all cerddoriaeth wneyd heb gymhorth geiriau.

"CENWCH FAWL YN DDEALLUS."

Advertising