Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
TREWIN & TRELEVEN, rFjA.IX.ORS, 1°7, Newington Causeway. SPECIAL SUITS FOR THE SPRINC FROM 50/- Before ordering elsewhere call and see our Cloth which we make up. UDIES' TAILOR-MADE COSTUMES FROM 3 CUINEAS. Perfect Fit Guaranteed. Welshmen are cordially invited to give us a trial.
[No title]
News
Cite
Share
Os oes arnoch eisieu esgidiau o unrhyw fath darllenwch tudalen 10.
ANGHYSONDEB YN ARFON.
News
Cite
Share
ANGHYSONDEB YN ARFON. FEL y canlyn yr ysgrifena golygydd y Genedl Gymreig o dan y penawd uchod :— y Gresyn nad amlygid teimlad Meirion yr un mor ddibetrus ym mhob sir yng Nghymru. Bu Pwyllgor Addysg Arfon yn eistedd dydd lau, ac y mae yn rhaid dweyd mai nid yr un lliw oedd ar y gwaith yno ag yn Nghynadledd y Bala. Os oes grym o gwbl yn y Cynllun Cenedlaethol fe ddylai'r awdurdodau addysg fod yn symud gyda'u gilydd, yn unol a phenderfynol yn erbyn camwri'r Ddeddf Addysg. Os oedd Cynhadledd y Bala yn gosod i lawr ddull newydd y gwrth- wynebu, yna fe ddylai bod Pwyllgor Arfon ddydd Iau yn dangos tueddfryd gweddol unol o'i blaid. Yn lie hynny, yr oedd y gweithred- iadau yn awgrymu'n hytrach mai nid lladd a llethu bwriad anghyfiawn cynllunwyr y Ddeddf ydyw amcan y Pwyllgor, eithr hyrwyddo rhoddi'r Ddeddf mewn gweithrediad esmwyth. Fe basiwyd yn y Bala i wrthod cydnabod unrhyw ysgol Eglwysig na fo mewn cyflwr addas, a hyny ar unwaith. Dyna ddull newydd y gwrthwynebu, ac fe allesid tybio y buasai Arfon yn mabwys- iadu'r un cynllun yn rhwydd. Eithr yn lie hynny dyma'r Pwyllgor yn cytuno i dderbyn cynygion y Pwyllgor Adeiladu i roddi tri mis yma, pedwar mis acw, a naw mis i'r ysgol arall, ac felly yn y blaen, a hynny ar ol estyn yr amser droion o'r blaen. Pan gynygiodd Mr. Ellis Davies, ac y cefnogodd yr Athro J. Morris Jones, fod y Pwyllgor yn gweithredu yn ol y Ddeddf, ac yn gwrthod cydnabod Ysgol Llannor, rheolwyr yr hon sydd heb wneyd dim tua chyflawni gofynion y Pwyllgor tuagat wneyd yr ysgol yn addas, prin y cafwyd mwyafrif o'u tu. Ac oddigerth gan y ddau foneddwr uchod a Mr. J. R. Pritchard ni chafwyd dim amlygiad o'r penderfyniad y mae etholwyr Arfon yn tybio sy'n llanw calonau aelodau'r Pwyllgor, i rwystro amcanion yr Eglwyswyr. Yn wir, son am yr anhawsderau ymarferol ddarfu Mr. J. T. Jones, Criccieth,- yn hollol wrth fodd y blaid fain, wrth reswm. Gwaeth na hyn oil, onibai am ofal y tri chedyrn uchod buasai cynygiad arall wedi ei dderbyn,- un rhyfedd iawn. Mae Ysgol y Cynghor yn Nghaernarfon yn myned yn rhy fechan, ac awgrymiad y Pwyllgor Adeiladu ydoedd fod nifer o'r bechgyn yn cael eu rhoddi yn yr Ysgol Eglwysig gerllaw! Dyma droi penderfyniad Meirion i dynu plant Anghydffurfwyr o'r Ysgolion Eglwysig a'i wyneb yn isaf! Beth y mae hyn oil yn ei olygu ? Un syniad sydd gan bobl Arfon, a Chymru oil o ran hynny, ar y Ddeddf Addysg, ac y mae gwaith Meirion yn dda iawn yn eu golwg. Mae ganddynt ymddiried yn eu har- weinwyr, eu bod hwythau yn egniol gyda'r un amcan. Eithr bydd yn anodd iddynt gysoni gwaith Pwyllgor Arfon gyda'r amcan hwn. A all aelodau'r Pwyllgor eu hunain ei gysoni ?
YSBYTAI I'R GWALLGOF.
News
Cite
Share
YSBYTAI I'R GWALLGOF. Yn 1845 yr oedd yn Mhrydain 23,000 o ber- sonau a diffyg yn eu synhwyrau. Heddyw y mae yma 120,000. Dyna gynydd go ddifrifol. Mae ysgrifenydd yn y Quarterly Review yn rhoi rhai ystyriaethau pur afaelgar gerbron y wlad ar y pwnc hwn. Mae'n trefniadau ynglyn a phobl o'u pwyll yn dra diffygiol, meddai. Sylfaenir hwynt ar yr hen gred mai wedi eu meddianu gan ysbrydion drwg yr oedd y trueiniaid hyn, ac mai lie nid i geisio eu gwella ond i'w cadw o'r golwg a ddylai y gwallgofdy fod. Yn awr fe wyddis wrth gwrs fod achosion yr un mor naturiol i anmhariad yr ymenydd ag sydd i anmhariad unrhyw ran arall o'r corph dynol, ac mai mewn ysbytai ag ynddynt feddygon profiadol gyda'r gangen hon y dylid rhoddi'r gwallgof, ac nid mewn carcharau a than ofal ceidwaid. Mae cystal gobaith am adferiad oddiwrth wallgofrwydd ag oddiwrth unrhyw anhwyldeb arall, ond dechreu mewn pryd. Yn llaw dirprwywyr y mae gofal y gangen hon o waith y wladwriaeth ar hyn o bryd, ac fe roddid un cam pwysig ymlaen, ebai'r Review, pe cymerid mwy o'r dirprwywyr o fysg meddygon.
Pobl a Phethau yng .Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl a Phethau yng Nghymru. MEWN llythyr yn y Standard, dywed Syr John Llewelyn mai tua dwy fil a haner o Gymry sydd eto yn aros ym Mhatagonia. Ymadawodd o bedwar i bum cant i Canada, ac apelia Syr John am i'r Llywodraeth roddi un o'r llongau rhyfel a symud y gweddill yn ddiymdroi. DYGIR allan bamphlet Saesneg yn cynwys hanes ymweliad Mr. E. Roberts a Liverpool wedi ei ysgrifenu gan Mr. Gwilym Hughes, gohebydd arbenig y South Wales Daily News. Disgwylir hefyd erthygl ar y Diwygiad a'r Diwygiwr gan Syr Edward Russell, golygydd y Liverpool Mercury and Post. Amcan yr adroddiad fydd cadw mewn ffurf bylaw hanes yr ymweliad a'r genhadaeth. Mae Mr. Gwilym Hughes, hefyd, yn ysgrifenu hanes ymweliad Mr. Evan Roberts yn Gymraeg i gyfrol o hanes Dechreuad y Diwygiad. n WRTH agor llyfrgell newydd Criccieth, dywedai Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon mai yr unig ffordd sicr i ddirwestwyr wneyd lies i feddwon ydyw drwy ddarparu ystafelloedd lie y bydd holl gysuron y dafarn heb ei melldith. Dyna wirionedd ag y mae eisieu ei ddysgu bob dydd. MAE Mr. -T. Gwynn-Jones yn parotoi i'r wasg Awdl Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, ac amryw ganiadau eraill. Ar- greffir a llythyren newydd, ar bapyr gwaith llaw Gymreig, a bydd yn y llyfr luniau wedi eu gwneyd yn arbenig at y gwaith gan Mr. J. Kelt-Edwards, Llundain. Fel hyn yr ysgrifena rhywun i'r Goleuad:— Ymwelodd dau ddyn ieuainc o'r Brif-ddinas a thref yn Sir Feirionydd y Pasg. Yr oedd un o honynt wedi ei fagu yn y lie. Yn y dosbarth yn yr Ysgol Sul rhoddasant fynegiant o'u credo, Pa un oedd yn Undodaidd eithafol, ac nid ydynt yn celu dim o honi. Gan fod y brodyr hyn yn aelodau o un o eglwysi mwyaf pwysig y Methodistiaid Calfinairid yn y Brif-ddinas, ac Un yn swyddog yn yr Ysgol Sabbothol yno, yr ydym yn credu fod yn hen bryd i eglwysi Cymreig Llundain deffro yn y cyfeiriad yma, gan y gall yr hadau gwenwynig hyn gael dyfnder r^ear, a difetha llawer o'n pobl ieuainc yno. Deallaf hefyd nad ydyw gweinidog yr eglwys hono yn ddieithr i'w syniadau. Ar ol eu nymweliad, clywir pobl ieuainc y lie yn cyfeirio atynt yn eu gweddiau, a chyda llaw gwelsom gylchlythyr yn un o bapyrau Llundain yr ^ythnos ddiweddaf gan ddiaconiaid yr eglwys resbyteraidd, yn galw cyfarfod ynghyd i ystyried y cwestiwn hwn, gan fod ein pobl leuainc yn cael eu hudo i goleddu syniadau "Iffyddol ac Undodaidd. Gobeithiaf y cymer gweinidogion Cymreig Llundain yr awgrym yn garedig." C LLE ag ynddo ryw gymysgedd rhyfedd yw aerdydd. Dywed y Western Mail fod aderyn y &wyn i'w weled yng Ngerddi Sophia bob ydd yn awr. Pwy feiddia ddweyd mwy nas gall du fod yn wyn ?
Pobl a Phethau yng .Nghymru.
News
Cite
Share
YN wahanol i'r rhan fwyaf o feirdd Cymreig, bu y diweddar Ddafydd Morganwg farw yn gymharol gyfoethog. Dywedir iddo adael tua saith mil o bunnau ar ei ol. Ac i orphen gwneyd pethau yn gwbl daclus pennododd fardd yn gymunweinyddwr—ei hen gyfaill, Dyfed. Dyna beth yw bod yn ffyddlon hyd angeu. YN y Mwythig y cyferfydd y Gymdeithas Hynafiaethol Gymreig eleni. Dyna y peth tebycaf i'r Eisteddfod Genedlaethol allai pobl y dref honno gael. Gwnaethant gynnyg am yr Eisteddfod, ond methasant. Lie pwyllgora yw hen dref Pengwern, ac y mae'n gyfleus iawn i hynny. ———— MAE gan y Tad Sydney Smith, y Jesuitiad adnabyddus, erthygl yn y Mis ar y Diwygiad yng Nghymru. Dyry air uchel iawn i un- plygrwydd a duwiolfrydedd a gwres Evan Roberts, er ei fod yn anghymeradwyo llawer o bethau yn ei ddull o gario ymlaen y cyfarfodydd. HYSBYSIR fod y llyfrbryf dyfal a diflin Myrddin Fardd, y gof o Chwilog, yn parotoi i'r wasg gyfrol o weithiau (nid gweithfeydd) hen feirdd Lleyn. Gwaith Gwilym Lleyn fydd ynddi yn benaf, yr hwn oedd yn ei flodau cydrhwng 1540 a 1587, ac yn cael ei ystyried ar y blaen i'r rhan fwyaf o'i gydoeswyr am arucheledd meddvl a gwres awenyddol. Myn rhai fod Edmund Prys wedi cael peth cymhorth gan Wilym Lleyn pan yn ysgrifenu ei fardd- oniaeth. — BVDD yn ofid gan laweroedd glywed fod iechyd y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, mewn sefyllfa anfoddhaol. Mae ei eglwys wedi caniatau iddo chwech wythnos o wyliau, a bwriada yntau eu treulio yng Nghapel Curig. YN ei drydedd gyfrol o Hanes Diweddar Lloegr," y mae gan Mr. Herbert Paul lawer i'w ddweyd am wleidyddwyr a feddent ryw gysylltiad a Chymru. Dyma ei eiriau am y diweddar Arglwydd Aberdare :—" Dygodd Mr. Bruce fesur rhagorol i mewn (Mesur Trwyddedau 1871), yr hwn, pe'i gwnaethid yn Ddeddf, a fuasai yn un o gyflawniadau deddfwrol mwyaf yr oes. Ond yr oedd Mr. Bruce yn rhy debyg i Mr. Walpole i fod yn Ysgrifenydd Cartrefol llwyddianus. Ni feddai y gallu hwnnw i fod yn gas sydd mor hanfodol yn y swydd honno." DYWEDIR mai saith ryfeddod Gogledd Cymru ydynt y Wyddfa, Pistyll Rhaiadr, Ffynnon Gwenffrewi, Mynwent Overton, Eglwys Gwrec- sam, Clychau Gresfford, a Phont Llangollen. MAE yn dechreu dod yn arferiad gan Gymry yn awr i roddi enwau Cymreig ar eu tai yn lie rhoi enwau Seisnig, fel yr arferent hyd yn bur ddiweddar. Ond yr anhawsder gan amlaf yw taro ar enw priodol a seinber, ac anfonodd un y rhestr ganlynol i ddewis ohoni Arosfa, Arsyllfa, Aeronfa, Brynllechau, Bryn Eirw, Brynrhyddid, Bryn-y-gog, Cerddawel, Cartrefle, Coedwigfa, Diddosfa, Glan-y-rhyd, Gwyddonfa, Gwawrolwg, Llwyn-yr-adar, Llwyn-y-ddol, Maes- awel, Maesheulog, Maesglas, Maes-y-gwlithyn, Nythwylfa, Pant-yr-hebog, Pant-y-ddrainen, Rhydfan, Rhedynfa, Rhosynfa, Rhyd-y-dderw, Twyn-y-wawr, Twyn-yr-onen, Twynheulog. NID llawer a wyddant fod y diweddar Gang- hellydd Silvan Evans (Hirlas), wedi cyhoeddi cyfrol fechan o farddoniaeth G)mreig mor ddiweddar a'r flwyddyn 1898. Ei theitl ydyw Telyn Dyfi," a theitl priodol iawn ydyw pan ystyrir fod y bardd athrylithgar wedi byw ar finion teg yr afon honno am 33ain o flynydd- oedd. Rhyw 46 o ddarnau byrion sydd yn y gyfrol, y rhan fwyaf ar destynau crefyddol. YM mhlith y cwmni cyntaf o Wrthwynebwyr Goddefol a wysiwyd yng Ngwrecsam y dydd o'r blaen, ceid un-ar-ddeg o bregethwyr, naw o Gynghorwyr, a phedwar o Ynadon Heddwch. Nid drwg, wir