Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. CYFARFODYDD MAL — Daw'r arweinwyr crefyddol o bob rhan o'r deyrnas i Lundain y dyddiau hyn er cymeryd rhan yn nghyfarfodydd r^ai, ac mae'r brwdfrydedd a welir yn y gwa- franol gynulliadau yn profi eu bod yn ami o dan ddylanwadau'r Diwygiad Cymreig. JIWBILI.—Ond yn y cylchoedd Cymreig rhaid addef mai'r newydd goreu ynglyn a'r ;apelau Llundeinig yw y ffaith fod Capel y Gohebydd" o'r diwedd wedi llwyddo i glirio y ddyled drom fu arno cyhyd. CYFNOD NEWYDD. — Oddiar symudiad yr eglwys Annibynol hon i'r adeilad coffadwriaethol Barrett's Grove, nid yw ei bywyd ond wedi °d yn fath o dymhorau cynhyrfus eto, o dan yr anfanteision i gyd, llwyddwyd i gadw yr b achos yn fyw, a hyderwn bellach y daw cyfnod eWydd yn ei hanes, ac y ceir gwir lwyddiant a chynydd ynglyn a hi rhagllaw. YMWELWYR.—Gan fod y fath nifer o bregeth- y yn tyrru i'r Brifddinas y dyddiau hyn, y ae n gyfleus iawn i gynhal y cyfarfodydd egethu blynyddol yn rhai o'n heglwysi, a ark • ce*r yn yst°d y Sul (yfory), gyrddau enig yn St. Benet, yn Gothic Hall, ac yn arrett's Grove. Ar y Sul dilynol ceir cyfarfod ynyddol eglwys fechan East Ham. e Y DIWYGIAD.—Mae'r Diwygwyr ieuainc o c yniru sydd ar ymweliad a Llundain yn cael fod hwyl gyda'r gwaith yn ein plith, a deallwn a tYrru mawr mewn rhai capelau i wrando rnynt. YN^FWELNWYR Y GENEDL.—Cyhoeddir cyfroi Cen ^an yn rhoddi hanes rhai o arweinwyr £ °lv J Cymry yn ystod y ganrif ddiweddaf. Y gy d fydd Mr. Vyrnwy Morgan, gwr a fu unwaith yn weinidog blaenllaw gyda'r Annibyn- wyr Seisnig yn York Road, Westminster, ond yn ddiweddarach o'r America, lie y cyfarfyddodd a rhai helyntion anffodus. Mae nifer o wyr blaenllaw wedi addaw cynorthwyo Mr. Morgan yn ei waith. CYMUNDEB HWYROL.—Nid yw'r Esgob Gore yn credu mewn gweinyddu yr ordinhad o Gymun Sanctaidd yn yr oedfaon hwyrol. Myn ef mai yn y boreu y penderfynwyd y sacrament yn ol y Tadau Apostolaidd, eto nis gwedy y ffaith mai ynglyn a swper ei sefydlwyd gan y Gwaredwr ei hunan. Er hyny i gyd, gwell gan yr Esgob gynghori ei offeiriaid i'w gynhal yn y boreu. Pe dygid yr un cynllun i fewn i eglwysi Ymneillduol Cymreig y ddinas, yna byddai rhif y cymunwyr yn fychan iawn. ARLUNWYR CYMREIG.—Cynrychiolir amryw o'r arlunwyr Cymreig yn y Royal Academy eleni fel arfer, ond y mae dau Gymro eraill mor feiddgar a rhoddi arddangosfa fechan eu hunain y dyddiau hyn. Dengys Mr. Lionel Edwards, A. R.C.A., nifer o'i ddarluniau yn y Graves Gallery, Pall Mall, ac yn yr un lie ceir amryw o weithiau Mr. Edward Hughes, yr hwn a adnabyddir yn lied gyffredin fel un o'r arlunwyr mwyaf addawol sydd genym. Ar ol hyn nis gellir dweyd fod Cymru yn esgeuluso y celfau cain. AELODAU YN GWEITHTO.—Nid yn ami y ceir hanes am rai o'n haelodau Seneddol yn gwneyd dim o'r tuallan i'w dyledswyddau pleidleisiol, ond yr wythnos hon daeth dau o'r gwyr distaw i'r amlwg ym mhersonau Mr. Lloyd Morgan a Mr. Vaughan Davies. Hwynthwy, feallai, o bawb sydd yn cynrychioli y rhanau mwyaf Cymreig o Gymru, eto gwyr tawelog ydynt fel rheol ar lawr y Ty. CINIAW'R LLYFRGELL.—Yr oedd yn mwriad y Cymry Llundeinig sydd yn ffafriol i gais Aberystwyth am leoliad y Llyfrfa i gynhal cinio mawreddog yr wythnos hon, ond gan fod y ceisiadau eisoes wedi eu gyrru i'r Cyfrin- gynghor penderfynwyd mai doethach fydd gohirio y wledd-hyd, feallai, yr adeg y gellir llongyfarch Aberystwyth ar ei llwyddiant. ZD YR UNDEBWYR CVMREIG.-Nid yw Ceidwad- aeth yn boblogaidd iawn gan Gymry'r ddinas, a chyda llawer o drafferth y llwyddir i gael cynulliad parchus ynghyd i ginio blynyddol ynglyn a'r blaid honno yn ein mysg. Ond caed un yr wythnos ddiweddaf o dan lywyddiaeth Arglwydd Kenyon, a'r prif fater a gaed gan ei Arglwyddiaeth oedd dyfarniad ffafriol i gais Aberystwyth am y Llyfrgell. Yr ydym yn cytuno a'r Undebwyr ar un pwnc am unwaith ynglyn a Chymru. RADNOR STREET.—Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod pregethu blynyddol nos Sadwrn, dydd Sul, a nos Lun diweddaf. Y gwahoddedigion o Gymru oeddynt y Parchn. W. James, Abertawe, a D. Stanley Jones, Caer- narfon. Yn y prydnawn dydd Sul traddodwyd pregeth Seisnig gan y Parch. T. Nicholson, Paddington Chapel. Yr oedd rhyw arddeliad ac eneiniad hyfryd ar y weinidogaeth, a gellid gweled ar wyneb y dyrfa liosog oedd yng nghyd ym mhob oedfa fod ) r efengyl wrth ei bodd. Mae y capel wedi ei adnewyddu a'i baentio oddiallan yn ddiweddar, ac edrycha yn dra phrydferth. Medd y bobl yn Radnor Street galon i weithio. WOOLWICH.—Nos Iau, Ebrill 27ain, cyn- haliwyd cyngherdd yn Nghapel Parson's Hill, pryd y cymerwyd y gadair gan Mr. Coles. Glas- lyn, a chafwyd cyfarfod hynod o lwyddianus. Cymerwyd rhan gan y cyfeillipn canlynol Miss Sophie Davies (soprano), Miss Jennie Hagger (contralto), Miss Myfanwy Wood (elocutionist), Mrs. Hopkins (accompanist), Mr. Harry Watkins (tenor), Mr. Evan R. Wood (baritone). Gwnaeth yr oil eu gwaith yn gampus, ac yr oedd y gymeradwyaeth gawsant yn profi yn ddiddadl fod pawb wedi mwynhau gwledd gerddorol. Terfynwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol — Hen Wlad ty Nbadau.Ap TREBOR. ST. PADARN'S WELSH CHURCH.—The last coffee supper of the season in connection with the above church was held on Thursday even- ing, May 5th. The chair was taken by Mr. Williams, Ifield Road, Fulham, and an interest- ing programme was gone through. Miss Emily Wheeler sang with great success "A Professor of High Degree and I love you, my love, I do," Miss Botwood effectively rendered "The Gift" and Paradise Square," Miss Gwladys Wheeler sang" Down the Vale," and Miss Jones Bwthyn yr Amddifaid." Llew Caron was well received in Gwlad y Delyn" and "Bugail Hafod y Cwm," and Mr. Tudor Evans gave Three for Jack and Milwr Clwyfedig." A humorous feature of the evening was the per- formance of "The Two Macs," and the recita- tions by Miss Thomas, Paddington, were highly appreciated. The accompanist was Mr. Theo. Davies, one of the most talented among the rising generation of Welsh pianists. The refresh- ments, which were provided by Mrs. Jones, Bridport Place, and Mrs. Jones, Princeton Street, were thoroughly enjoyed, and altogether a most pleasant evening was spent. Miss TEIFY DAVIES is engaged to be married to Mr. Walter Meyrowitz, a gifted young com- poser from Berlin. Mr. Meyrowitz is the recipient of many favours from the Royal houses of Germany, and has often conducted his own orchestral compositions in the German capital. His songs are also greatly sung there. WE wish to call the attention of our readers to the advertisement in another column of Mr. Henry Bown, the great South London photo- grapher. Mr. Bown's portraits cannot be excelled for quality and price. Special notice should be taken of his fine work in platinotype, bromide enlargements, and oil paintings, which he is now executing at a very nominal figure. Perhaps the secret of his success is that the business is entirely under his own personal supervision. Also in having such elegantly fitted studios and extensive printing works, not forgetting the fact that he employs the very best of artists for all departments.

MR. LLOVD = GEORGE AND THE…

Notes of the Week.