Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig.—XXXI. Y…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.—XXXI. Y Parch. Llewelyn Bevan, D.D. I NID y Saeson ym Mhrydain yn unig sydd wedi gweled godidowgrwydd y ddawn Gymreig yn y pulpud ac wedi ei swyno ganddi i'r fath raddau nes mynny cymaint ag a fedrant o honni yn eiddo iddynt eu Nhunain. Mae Saeson cyfandiroedd eraill wedi gwneyd yr unrhyw ddarganfyddiad, ac yn dilyn esiampl eu brodyr gartref. Mewn dau gyfandir, America ac Awstralia, y mae enw Dr. Llewelyn Bevan yn enw teuluaidd mewn cylchoedd crefyddol, a phan ei fod yn awr ar ymweliad a'r wlad hon, ac 1 gymeryd rhan amlwg yng Nghyfarfodydd Mai eleni, diau y bydd yn dda gan liaws o'n darllen- ^yr weled ei ddarlun, a darllen byr-adroddiad o "rif ddigwyddiadau ei yrfa lafurus a disglaer. Brodor d Lanelli, Sir Caerfyrddin, -y sir a fagodd gynifer o feibion a roisant anrhydedd ar y genedl-ydyw y Cymro enwog hwn. Yn y dref honno y preswyliai ei rieni, ac yno y treuliodd yntau flynyddoedd mebyd. Ac fod cenhedlaeth wedi codi yn y dref erbyn jtyn na fedd nemawr ddim adnabyddiaeth be:sonol o honno, ymfalchia yn ddirfawr yn y jjaith mai Llanelliad ydyw Dr. Bevan. Ychydig soedd yn ol cyflwynodd cyfeillion ddarlun rnewn olew (oil painting) o honno i'r dref, a kynhaliwyd cyfarfod arbenig ar yr achlysur. Yr S^cid y cyfarfod hwnnw yn ddigon o brawf nad yw /anelli wedi anghofio y bachgen fu yn chwareu yn ei heolydd serch mai "ym mhello dir ei wlad" y lllae wedi treulio y rhan helaethaf o lawer o'i oes. Pobl eithriadol i'r cyffredin ydoedd ei rieni; nw ei dad oedd Mr. Hopkin Bevan, cyfrifydd ^ng ngwaith copr Cwmni Neville. Edrychid f^no un o'r rhifyddwyr mwyaf medrus. Efe yn brif offeryn i agor y Banc Cynilo cyntaf Yn y dref, a bu ganddo law amlwg yn sefydlu y Mechanics, Institute. Yr oedd ei briod yn ferch "arch. D. Davies, Rehoboth, a dywed y rhai ac c°fiant ei bod yn dywysoges o ymddangosiad 0 feddwl. Cyfranogodd y bachgen yn helaeth 0 Ragoriaethau ei Dad a'i Fam. Sfigosodd yn fore fod ganddo alluoedd e- Praddol. Gai mai efe ydoedd unig blentyn rieni, penderfynasant roddi iddo y cyfleus- fai^au goreu o fewn eu cyrhaedd. Credai ei rhvH §wo^r ^afur ydyw llwyddiant ac an- o/dedd, a gofalodd na ehai ei mhab dreulio ei a segur. Mynychai Ysgol Ramadegol fag^r ^an un ^r- Lovejoy. Cafodd hefyd Egl raet^ grefyddol dda, ar yr aelwyd ac yn a Ue ^arc' yr oedd ei rieni yn aelodau, lawe y tad yn ddiacon "gwasanaethgar am anfQf ^wyddyn. Pan nad oedd ond lied ieuanc SchonTyd ef Lundain i'r University College C0JI ° ^ymudwyd ef oddiyno i'r University bregpff' Rywbryd yr adeg honno dechreuodd Cy^ J1' ac aeth yn fyfyriwr i New College. We^i61 yn Uawn dwy ar hugain oed yr oedd cymeryd y graddau o B.A., a LL.B., ym Mhrifysgol LIundain, a hynny gydag anrhydedd y dosbarth blaenaf. Ar derfyn ei yrfa golegawl ordeiniwyd ef Yn Gynorthwywr i Dr. Binney yn hen gapel y Weigh House. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1865,—deugain mlynedd i eleni. Nid aeth llawer o amser heibio cyn iddo gael ei godi i safle cyd-weinidog. Yr oedd cynulleidia y Weigh House y pryd hwnnw yn un o'r rhai anrhydeddusaf yn y brifddinas. Cyrchai y mawrion yno yn eu cerbydau. Ac yr oedd Dr. Binney yn un o dywysogion y pulpud. Ond yr oedd ei iechyd yn dechreu pallu, ac yn ami Y PARCH. LLEWELYN BEVAN. D.D. iawn byddai yn rhaid i'r cydweinidog gymeryd yr oedfa a drefnasid iddo ef. Gorchwyl caled raid fod hynny i ddyn ieuanc pan y gwyddai mai wrth arall y disgwylid. Ond yr oedd y Cymro ieuanc yn meddu y fath adnoddau fel y daeth yn fuan yn gymaint o ffafr-ddyn y gynull- eidfa a'r tywysog-bregethwr ei hun. Oddeutu diwedd 1869 gwahoddwyd ef i gymeryd gofal yr eglwys gref a dylanwadol a ymgynullai yn Nhabernacl Whitefield, Tottenham Court Road. Bu yno am lawn chwe' blynedd, yn dra llwydd- ianus, ei boblogrwydd yn cynyddu yn barhaus, a'i glod drwy yr holl eglwysi. Clywodd yr Americaniaid am dano, a rhoed iddo Alwad i'r Brick Church, New York. Er gofid mawr i'w gyfeillion a'i edmygwyr, pen- derfynodd ymfudo yn mis Rhagfyr, 1876. Treuliodd yn agos i wyth mlynedd yn America, ac er fod Beecher a Talmage a W. M. Taylor yn yr un ddinas ag ef, ni fu raid i'r Cymro gywilyddio yn eu cwmni. Ond dywedir gan lawer nad oes gan neb na chlywodd Dr. Bevan cyn iddo fynd dros y Werydd syniad cywir am hyawdledd a nerth ei weinidogaeth. A chyda llaw, pa bregethwr a aeth erioed i'r America na ddywedid yr un peth am dano pan ddychwelai ? Yn 1882 anfonodd yr eglwys oedd newydd ei sefydlu yn Highbury Quadrant mewn capel wedi costio mwy na ^12,000 alwad iddo. Er mor llwyddianus ydoedd yn New York, pender- fynodd ei derbyn. Cyn iddo ffarwelio ag America, anrhydeddodd Prif Ysgol Yale ef a'r gradd o Ddoethawr mewn Duwinyddiaeth. Cafodd groesaw neillduol ar ei ymsefydliad yn Highbury, ac ni bu yn hir yn y lie cyn llanw yr addoldy a chynyddu yr eglwys yn ddirfawr. Meddyliai pawb y byddai iddo ddinas barhaus yn Llundain y tro hwn. Ond nid felly yr oedd i fod. Buasai y diweddar Thomas Jones, o Abertawe, am dair blynedd yn niwedd ei oes yn weinidog i'r eglwys yn Collins Street, Melbourne, Australia—un o'r eglwysi Ymneillduol cryfaf a chyfoethocaf yn y byd. Cafodd y bobl yno y fath flas ar y ddawn Gymreig yn Thomas Jones fel y mynasant Gymro drachefn, ac ar Dr. Bevan y syrthiodd y coelbren. Hudwyd yntau i wrando ar eu llais, ac yn 1886 Ymfudodd i Melbourne, He y mae wedi treulio bellach bedair blynedd ar bymtheg mewn parch a dylanwad neillduol. Efe mewn gwirionedd yw Esgob y Drefedigaeth, er mai arall a ddwg y teitl. Ni feddwn ofod i fanylu ar yr elfenau sy'n cyfrif am ei lwyddiant a'i boblogrwydd. Dengys ei ddarlun ei fod o ymddangosiad nodedig o urddasol. Mae ymddangosiad mor urddasol a gwyneb mor ddeallgar a rhadlon yn ffortiwn iddo. Medd feddwl bywiog ac amgyffrediad eang, a cheir ol diwylliant uchel ar ei holl gyflawniadau. Ac y mae toriad ei enau a gosodiad ei dafod o bwrpas i lefaru. Llifa ei eiriau yn ffrwd ddiatal heb yr ymdrech na'r egni lleiaf. A thu ol i'r cymhwysderau a nodwyd ceir calon fawr Gymreig, yn llawn o gariad llosgedig at Dduw ac Iesu Grist, ac at ei gyd-ddynion. Er mai ym mhlith Saeson y treuliodd Dr. Bevan ei fywyd cyhoeddus, y mae yn Gymro trwyadl o hyd. Yn ystod ei arosiad yn Llun- dain, y Cymry yn y Weinidogaeth oedd ei gyfeillion penaf, a mynych y gwelid torf o honynt yn ei dy. Daeth Brecwast Cymreig Dr. Bevan" yn un o sefydliadau crefyddol y ddinas. A phob tro y daw ar ymweliad a'r wlad dengys yn eglur nad yw yr anian Gymreig yn gwanychu yn ei ysbryd na'r tan Cymreig yn oeri yn ei galon.