Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y GWYLIAU. — Er mai diweddar oedd gwyliau'r Pasc, caed tywydd tra nodweddiadol 0 ddechreu'r flwyddyn. Bu'r oerfel a'r cawod- ydd yn rhwystr i lawer fyned allan o'r ddinas fel y bwriedid. YN LLANDUDNO.—Aeth nifer o'r athrawon Cymreig am dro i Landudno yr wythnos hon, mwyn cynhal breichiau Tom John fel jlywydd blynyddol y N.U.T. Caed tywydd hafaidd yno, a chynulliadau boddhaol iawn. UNDEB YR ATHRAWON.—Mae'r Undeb hwn yn dod yn fwy nerthol o flwyddyn i flwyddyn, ac rnae'r athrawon Cymreig wedi bod yn gef- nogwyr parod iddo o'r cycluvyn, ac mae nifer o echgyn o'r Hen Wlad yn dal swyddi blaenllaw ar y Cyngor yn Llundain. MR. A. A. THOMAS.—Un o swyddogion °|aenllaw yr Undeb yw Mr. Thomas, y Cynghorwr Sirol dros ranbarth Islington. Y mae yn fargyfreithiwr hefyd, ac yn dal cysylltiad ag°s a'r papyr Schoolmaster. Da genym ddeall fod ar fin myned i'r ystad briodasol a merch 0 r ddinas yma. CYMANFA'R PASC.—Yr oedd dylanwad y uiwygiad i'w weled ar y cynulliadau a gaed eni ynglyn a'r Gymanfa hon yn Llundain, ac f ae gweled y fath dorfeydd yn tynu tua'r cyfar- y^d pregethu yn awgrym fod lies wedi dod s°es o'r adfywiad yn ein mysg. t- Parch. J. E. DAVIES, M.A.—Yn ardal Ffes- ^l0§ y bu'r Parch. J. E. Davies, Jewin, yn ja asanaethu adeg y Pasc, a chafodd gynull au mawrion i wrando arno. Da genym ddeall °d yn Uawer gwell o ran iechyd yn awr nag y bu ers talm.. Y PARCH. EVAN PHILLIPS.—Gwneir tysteb y dyddiau hyn i'r hen bererin Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn. Nid oes neb yn y cylchoedd Methodistaidd yn fwy adnabyddus nag ef i ni yn yr eglwysi Llundeinig, a chan ei fod ar fin dathlu ei 50 mlynedd o wasanaeth yn y Cyfundeb bwriedir rhoddi anrheg iddo fel teyrnged fechan o barch ei edmygwyr a'i gyd- wladwyr tuag eto. Ei EDMYGWYR LLUNDEINIG.-Bydd ei gare- digion yn Llundain yn llawen i ddeall fod y meddyg D. L. Thomas, o Gapel Jewin, wedi datgan ei barodrwydd i dderbyn a chydnabod unrhyw swm a anfonir iddo tuag at y dysteb. Un o blant Castellnewydd Emlyn yw Dr. Thomas, ac mae ganddo syniad uchel am ei hen weinidog Evan Phillips. Os oes rhywrai heb anfon eto, boed iddynt ohebu a Dr. D. L. Thomas, Medical Officer of Health, Stepney, E. BARDD BRENHINOL.—Os nad yw'r Sais yn foddlawn ei gydnabod yr ydym ni fel Cymry yn barod i osod Syr Lewis Morris yn y safle honno. Er wedi ymneillduo o Lundain i'w balas ger Caerfyrddin, parha ei awen yn fyw o hyd, a'r wythnos hon cyfansoddodd awdl i groesawu y Dywysoges Christian i'r ardaloedd hyny. Aeth y Dywysoges yno i osod carreg sylfaen i Iechydfa newydd a godir yn agos i Llanybydder. PRIODAS.—Yr wythnos ddiweddaf priodwyd Miss Katie Mary Idris a Mr. Hugh Miller Macfee yn Nghapel y Bedyddwyr, Highgate Road. Merch i'r Cynghorwr Sirol Mr. T. H. W. Idris oedd y briodferch, a hanai y mab ieuanc o deulu parchus yn Paisley, Alban. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parchn. G. Hawker a James Stevens, a rhoddwyd y ferch ieuanc ymaith gan ei thad, tra y gwasanaethwyd ar y gwr ifanc gan ei frawd fel gwas y briodas. Yr oedd cynulliad parchus wedi eu gwahodd i'r cyfarchiad priodasol, ac ar derfyn y wledd arferol aeth y par ieuainc ymaith i'r Cyfandir i dreulio eu gwyl fel. Y DIWYGIWR.—Roedd y Parch. J. E Davies, Jewin, i bregethu gyda'r Parch. John Williams, Liverpool, yn y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, ddydd Llun, ond daeth Evan Roberts, y Diwygiwr, yno gyda'r Parch. John Williams, a throwyd y cyfarfod yn gwrdd diwygiad," a bu yno olygfa hynod o gyffrous am ysbaid. Caed deg o ddychweledigion yn ystod yr oedfa. YR AELODAU.—Wedi gwasgaru i bedwar cwr y wlad mae'r A.S.-od yn ystod y gwyliau yma. Daw hanes fod Mr. Lloyd-George yn cymeryd taith ar y modur yn yr Iwerddon, Mr. Lloyd Morgan yn torri mawn ar Graig Twrch, Mr. William Jones, fel hen ysgolfeistr, yn dysgu'r meistri presenol yn Llandudno sut i godi'r to ieuanc i fod yn edmygwyr o Dante. Am y mwyafrif o'r gweddill, buont yn chwareu golf, gan ei fod yn beth ffasiynol. ODDIWRTH ein colofnau hysbysiadol, fe welir y bydd cyngherdd Mr. T. Vincent Davies yn cymeryd lie yn y Queen's Hall Mai 11 eg, pryd y cymerir rhan gan nifer o gantorion a cher- ddorion galluog, ac yn eu plith Mr. John Thomas (Pencerdd Gwalia). Bydd yn dda yn ddiau gan lawer i gael y cyfleusdra hwn o glywed prif wron y delyn a thelynor i'w Fawrhydi y Brenhin. CLAPHAM JUNCTION.—Cafwyd oedfaon ar- dderchog yma mewn cysylltiad a Chymanfa'r Pasg, a chafwyd pregethau grymus gan y gwa- hanol bregethwyr. Ym mhlith y rhai hynny oedd y Parchn. Dr. Phillips, Tylorstown, a John Davies, Pandy. Boreu Sul yr oedd pregeth Dr. Phillips yn fythgofiadwy, ac yn enwedig ei ddesgrifiad o'r Iesu yn cario ei groes i Galfaria. Yr oedd mor fyw a nerthol, ac hefyd mor dlws, fel nad allem ei hanghofio. Wedi'r bregeth rhoddwyd anogaeth i'r rhai nad oeddynt yn aelodau i roddi eu hunain i'r Arglwydd, gyda'r canlyniad i ddau frawd aros ar ol. Pregeth Saesneg gafwyd yn y prydnawn gan y Parch John Davies, ac yn yr hwyr Mr. Davies oedd eto yn gweinyddu. Arhosodd un chwaer ar ol yn yr hwyr, a therfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan chwaer arall. Nos Lun pregethwyd gan y Parchn. T. Davies, Treorci, a J. Howell Hughes, Bala.—L. EGLWYS ST. PADARN, HOLLOWAY.—Ar ddydd Llun y Pasc cynhaliwyd cyfarfod adloniadol mewn cysylltiad a'r eglwys uchod yn Ystafell Genhadol Emmanuel, Holloway. Daeth nifer liosog o bobl ynghyd, ac yr oedd y cyfarfod yn llwyddianus dros ben. Y rhan gyntaf o'r rhaglen oedd y te a'r danteithion, y rhai oedd ar y byrddau o 4 i 6 o'r gloch. Y cynorthwywyr oeddent Mrs. Davies, Mrs. Jones, Mrs. Wilson, a Miss Rose Davies. Ar ol hyn daeth y rhan olaf o'r rhaglen, sef y canu a'r adroddiadau. Y cadeirydd oedd Mr. Chas. T. Saer, yr hwn a lanwodd ei le yn dda. Canodd y rhai can- lynol :—Miss Jones, Bridport Plare, Miss Bottwood, a Mr. Chas. T. Saer. Cyfeiliwyd gan Miss Ada B. Davies a Miss Rachel Jones. Adroddwyd gan Miss Lucy B. Davies, Mrs. Wilson, Miss Rose Davies, a Mr. Jenkin Morgan. Daeth y cyfarfod i ben tua 10.30 o'r gloch, ac er fod nifer o gyfarfodydd ar yr un noson, yr oedd yr ystafell yn llawn. Ar ol canu "Hen Wlad fy Nhadau," gyda Miss Jones, Bridport Place, yn arwain, aeth pawb i'w cartrefi wedi eu llwyr foddloni. Rhoddwyd y danteithion gan y Wardeniaid, Mri. Roberts a Hughes, y Trysorydd, Mr. D. Davies, Mr. D. Jones, a Mr. Chas. T. Saer.-CYMRAES. ST. MAIR, CAMBERWELL.—Nos Fercher, y i8fed cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod yn ysgoldy yr eglwys uchod i anrhegu Mr. D. T. B. Morley ar ei ymadawiad am Deheubarth America. Bu ein cyfaill Morley yn aelod ffyddlon o'r eglwys uchod am bum mlynedd. Cymerai ddyddordeb neillduol yn mhob peth ynglyn a'r eglwys. Yr oedd yn ffyddlon yn y gwasanaethau, cyfar- fodydd diwyiliadol, a'r Ysgol Sul, ac nid oedd byth yn anghofio Sul y Cymmun. Yr oedd pawb yn hoff iawn o hono, a phan yr oedd y Parch. L. Roderick, Mr. John Jenkins, Mr. John Morris, Mr. Arthur Wynne, Miss Wynne, Mrs. Roderick, ac eraill yn siarad, yr oedd pawb yn teimlo yn dorcalonus a llawer yn tywallt dagrau. Rhoddodd Mr. D. Davies, ar ran yr eglwys, iddo writing case, ac hefyd letter case prydferth. Siaradodd Mr. Davies yn effeithiol, a dywedodd mor hyfryd oedd gweled bachgen ieuanc yn Llundain yn rhoddi ei holl fryd ar waith Eglwys Iesu Grist, a gobeithiai y byddai i'r bechgyn a'r merched ieuainc oedd yn bresenol wneyd yr un peth, fel pan byddent hwynt yn ymadael y byddai'r eglwys yn wylo ar eu hoi ac yn gweddio am i Dduw eu bendithio yn eu cylch newydd. Brawd o Dreforis yw Mr. Morley. Aeth nifer o gyfeillion o'r eglwys i roddi ffarwel iddo yn Waterloo Station boreu dydd Gwener y Groglith. DYDD Mercher nesaf, yn y Memorial Hall, cynhelir cyfarfod o Gynghor y Liberation Society, a disgwylir cyfarfod dyddorol, canys ymdrinir ynddo a'r anrhefn ynglyn ag Addysg Elfenol, hawliau yr Eglwys Sefydledig i hunan-lywodraeth heb roi i fyny ei gwaddoliadau cenedlaethol, a'r sefyllfa grefyddol yn Ysgotland. Cymerir y gadair gan Mr. Brynmor Jones, A.S., a dis- gwylir i anerch y cyfarfod y Parchn. J. Barr, B.D., Glasgow, Dr. Garvie, Chas. Williams, Thos. Law, Mr. Maddison, Dr. Massie, a'n cydwladwr enwog, Dr. Bevan, o Awstralia. Y BUDD GYNGHERDD.—Dymunwn yn ddiolchgar gydnabod derbyniad y symiau can- lynol tuag at dreuliau y cyngherdd :—Mr. William Jones, A.S., 10/6; Miss Hughes, Bryn- menai, Bangor, 10/ Mr. J. E. Harrison, io/ Mr. Philip Evans, 5/ Mr. Tom Jenkins, Batter- sea, 5/; Mr. F. W. Trollett, 5/ Mr. T. H. Hewson, 5/ Mrs. Jones, Menai Bridge, 4/ Mrs. Williams, Barnsley, 4/ Mr. A. E. Gibbs, 2/6; Mr. S. G. Thomas, Camden Town, 2/6; man danysgrifiadau, 12/

Notes of the Week.